Sunday, December 02, 2012

UKIP ac etholiadau Ewrop

Yr etholiadau traws DU nesaf fydd etholiadau Ewrop yn 2014.  Mae'n hawdd anghofio i UKIP ddod yn ail (y tu ol i'r Toriaid) yn etholiad Ewrop 2009.  Mi fydd y blaid adweithiol yma yn gwneud yn dda yn rheolaidd mewn etholiadau Ewropeaidd hyd yn oed os nad ydynt yn gwneud yn arbennig o dda yn y polau piniwn.  Mae sawl rheswm am hyn - yn eironig mae'r sawl sy'n gwrthwynebu'r Undeb Ewropiaidd yn fwy tueddol na neb arall yn yr etholiadau hyn ac mae cyfundrefn bleidleisio gyfrannol yn tueddu i wneud iawn am ddiffygion trefniadol UKIP ar lawr gwlad.

Rwan mae'r mis diwethaf wedi bod yn un arbennig o dda i UKIP, ac mae'r pol sydd wedi ei gyhoeddi heddiw yn yr Observer yn awgrymu bod cynnydd sylweddol yn eu cefnogaeth cyffredinol - maent bellach yn gyfforddus o flaen y Lib Dems.  Mae'n weddol sicr y bydd cefnogaeth UKIP yn uwch  o lawer nag un y Lib Dems yn etholiadau Ewrop 2014, a byddant yn cael mwy o seddi na'r 13 a gafwyd yn 2009.  Mi fydd y Lib Dems hefyd yn gweld eu deuddeg sedd yn haneru - os byddant yn lwcus.  Yn wir mae yna bosibilrwydd y byddant yn cael cymaint o seddi a'r Toriaid (mae'r rheiny ar 26 ar hyn o bryd).  Os digwydd hynny, bydd yn anodd i'r Toriaid fynd i etholiad cyffredinol 2015 heb addewid o refferendwm ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd yn eu maniffesto.

Mi fydd pethau yn ddiddorol yng Nghymru hefyd.  Yn 2008 cafodd y Blaid, UKIP, Llafur a'r Toriaid sedd yr un.  Roedd y Blaid, y Toriaid a Llafur yn yr amrediad 18.5% - 21.3% tra bod UKIP ar 12.8%.  Gallwn fod yn weddol siwr y bydd y cyfanswm Llafur yn uwch (y Toriaid ddaeth yn gyntaf y tro o'r blaen).  Y ddau gwestiwn ydi os bydd Llafur yn cael dwy, ac os bydd hynny'n digwydd, pwy fydd yn dioddef ?  Yn syml, y cwbl sydd rhaid i Lafur ei wneud i gael dwy ydi cael dwywaith cymaint o bleidleisiau a'r pedwerydd plaid.  Dylent gael mwy na 30% o dan amgylchiadau tebyg i'r rhai a geir ar hyn o bryd.  Bydwn yn dweud ei bod yn llawer mwy tebygol y bydd Llafur yn cael dwy nag un.

Pwy felly sy'n mynd i golli sedd?  Ar yr olwg gyntaf UKIP fydd ar eu colled, ond mae yn fwy na phosibl y bydd pleidlais UKIP yn uwch na 15%.  Mae hefyd yn debygol y bydd pleidlais y Toriaid gryn dipyn yn is nag oedd yn 2009 - maent i lawr tua saith pwynt yn y polau piniwn ac mae eu pleidlais yn syrthio fel carreg mewn is etholiadau.  Dydi'r dystiolaeth am lle mae pleidlais y Blaid ddim yn gryf oherwydd diffyg polio Cymreig, ond mae is etholiadau diweddar yn awgrymu ei bod o leiaf yn dal ei thir.

Felly mae'n bosibl - yn fwy na phosibl y bydd y Toriaid yn dod yn bedwerydd, ac yn cael llai na hanner pleidlais Llafur.  Mae amgylchiadau yn newid trwy'r amser wrth gwrs, ond gallai etholiadau 2014 yn hawdd arwain at sefyllfa lle nad oes yr un o'r pleidiau sy'n llywodraethu yn Llundain fod ag aelod o Senedd Ewrop pan maent yn ymladd etholiad cyffredinol 2015.

5 comments:

BoiCymraeg said...

Byddwn i ddim yn disgwyl gweld pleidlais UKIP yn ennill 26 sedd yn 2014. Ydy, mae UKIP yn gwneud llaawer yn well mewn etholiadau Ewrop nag yn etholiadau cyffredinol. Ond dyw hynny ddim yn golygu bod dyblu ei cefnogaeth mewn un yn golygu dyblu yn y llall.

Mi fetia i bod y mwyafrif helaeth o'r 6-7% ychwanegol sydd bellach yn dweud eu bod nhw'n bwriadu cefnogi UKIP mewn etholiad cyffredinol eisioes wedi pleidleisio drostynt mewn etholiadau Ewropeaidd.

Byddwn i'n disgyl gweld UKIP yn gwneud ychydig yn well yn 2014 ond nid llawer.

Cai Larsen said...

Dwinnau ddim yn disgwyl iddynt ddwblu eu seddi. Dweud oeddwn bod 26 gan y Toriaid ar hyn o bryd. Bydd ganddynt llawer llai ar ol 2004. Os ydynt gyda llai na 20 mae'n bosibl i UKIP eu dal.

BoiCymraeg said...

Mae un peth does neb wedi arsylwi arni eto, hyd a gwela i - os yw cefnogaeth UKIP yn parhau o flaen y Dems Rhydd erbyn 2016 maen nhw'n sicr o ennill seddi yn y cynulliad. Datblygiad diddorol fyddai hynny mae'n siwr.

Anonymous said...

Mae hi i weld yn ddigon rhesymol i gymryd yn ganiataol y bydd pleidlais Plaid Cymru rhywbeth yn debyg i'r hyn oedd hi yn 2009 am fod pleidlais y Blaid mewn etholiad ewropeadd yn tueddu deillo o'i phleidlais craidd.

Serch hynny dyw straeon fel yr un am Jill Evans yn siarad yn brin iawn yn y senedd, ac wedyn ddim yn siarad am Gymru, ddim yn debygol o gynorthwyo pethau.

Mae angen etholiad da ar Blaid Cymru ac fe all 2014 fod yn ganlyniad eithaf cyffredin. Mae blwyddyn ac ychydig i rhoi pethau mewn lle.

Anonymous said...

Aelod o Plaid Cymru ydi Jill Evans ?
Mi roeddwn i'n meddwl mai Hamas oedd hi'n gynrychioli. Ti'n siwr o dy ffeithiau ?