Monday, December 24, 2012

Rhywbeth i'w ddarllen tros y gwyliau

Dewis anarferol, ond diddorol i'r sawl sydd efo stumog go gryf fyddai Cruel Britannia gan Ian Cobain..  Edrych ar hanes y defnydd o artaith gan asiantaethau cudd wybodaeth y DU ers yr Ail Ryfel Byd hyd flynyddoedd diweddar mae'r llyfr, ac mae'n ddigon a chodi gwallt eich pen.

Geiriau Jack Straw wrth Bwyllgor Dethol Materion Tramor Ty'r Cyffredin yn 2005 ydi'r canlynol - mewn ymateb i honiadau bod Prydain a'r UDA yn gwneud defnydd o dechnegau arteithio:

Unless we all start to believe in conspiracy theories and that the officials are lying, that I am lying ... that Secretary [of State Condoleezza] Rice is lying, there simply is no truth in the claims that the United Kingdom has been involved in rendition, full stop, because we have not been.

Mae'n amlwg bellach bod yr honiadau o artaith gan asiantaethau cudd wybodaeth y DU yn ystod Rhyfel Irac yn wir a bod Jack Straw yn dweud celwydd.  Mae hefyd yn amlwg bod yr artaith hwnnw yn digwydd mewn cyd destun ehangach a bod hanes maith iddo..


1 comment:

Anonymous said...

Mae hyn yn amlwg a hysbys ers blynyddoedd - fe wnaeth Tony Blair a'i blaid raffu celwyddau a thorri deddfau ryngwladol. Eto, fe ailetholwyd y llywodraeth yno yn ddidrafferth. Mae'r blaid yno yn parhau i gael pleidleisiau fesul tunnell yn Ne Cymru.
A allwn gasglu felly fod cyfiawnder a thecwch rhjyngwladol yn non-issue llwyr i bobl De Cymru, ac i'r dosbarth gweithiol yn gyffredinol ? Credaf y gallwn.