Wednesday, December 26, 2012

Pytiau brenhinol - rhan 1

Mae'n debyg y dyliwn i ddiolch i Golwg360 am adael i ni i gyd wybod beth oedd gan Charles Windsor i'w ddweud yn ei sgwrs radio y bore ma.  Petawn i wirioneddol eisiau gwybod mi fyddwn wedi gwrando fy hun, ond dyna fo - diolch i Golwg360 am sefyll yn y bwlch.



Ta waeth, cyn bod yna gymaint o sylw wedi bod yn y cyfryngau cyfrwng Cymraeg i faterion brenhinol, a chyn y bydd yna gymaint mwy tros y misoedd nesaf, efallai y byddai'n syniad i Flogmenai gymryd rhan yn yr hwyl a'r sbri - felly dyma ddechrau ar gyfres fach o flogiadau brenhinol eu naws - gyda'r bwriad o helpu defnyddwyr Blogmenai ddod i 'nabod y teulu hynod yma yn well.  Dyma'r gyntaf.

Pan oedd Charles Windsor yn dair oed, aeth ei fam i deithio gwledydd tramor am chwe mis a'i adael yn Lloegr.  Wedi iddi ddod adref bu wrthi am bedwar diwrnod yn dal i fyny efo'r gwaith papur ac am ddiwrnod yn y rasus ceffylau cyn rhoi cyfle i'w mab bach ei gweld.  Pan gytunodd i'w weld yn y diwedd bu'n rhaid iddo aros mewn ciw o bobl eraill yn disgwyl i gael cyfarfod a hi.  Pan ddaeth ei gyfle cafodd ysgwyd llaw efo'i fam.  

3 comments:

Anonymous said...

Mae nhw'n graduriaid rhyfedd, rhaid cyfaddef.
Ar drywydd arall, nid wyf yn gweld GOLWG 360 wedi datblygu o gwbl. Mae'r newyddiaduraeth yn sal ac yn chwerthinllyd o ddiog ac anghywir ar brydiau(Mae'n ddrwg gennyf ddweud fod y BBC yn llawer gwell) ,safon yr iaith yn wallus, a dim hiwmor na thriniaeth amgen.
Mae'n anodd gweld beth yw ei ddiben bellach. Mae gennyf biti mawr dros Ned Thomas ar brydiau.

NICK said...

Ie, BlogMenai. Beth am agor trafodaeth ar GOLWG360 - llawer mwy adeiladol na phalu hen hen hen storiau an y Royal Family

Anonymous said...

Howdy! Do you know if they make any plugins to protect against hackеrs?
I'm kinda paranoid about losing everything I've worκeԁ harԁ on.

Any suggestions?
My website - kokchapress.net