Wednesday, August 08, 2012

Llongyfarchiadau i'r BBC!

'Dydi teitl y blogiad yma ddim yn un yr ydych yn debygol iawn o'i weld yn aml ar Flogmenai. Serch hynny mae yna ambell i raglen ar y Bib (y fersiwn Brydeinig wrth reswm, nid yr un Gymreig) sy'n fodlon nofio yn erbyn y lli.

Dyna'n union wnaeth Newsnight neithiwr gydag eitem drylwyr oedd yn ystyried yn union pa mor gynhwysol ydi Gemau Olympaidd Llundain.

Gallwch weld y rhaglen yma. edrychwch arni os cewch chi'r amser.

4 comments:

maen_tramgwydd said...

D'oes gen i ddim amser i'r Bib. Nid yw'r gorfforaeth yn ffrind i Gymru nac i'r Alban.

Aparatws y wladwriaeth Brydeinig yw'r BBC.

Cai Larsen said...

O paid a cham ddeall - mi'r ydan ni'n cytuno yn y fan yna. Petaet yn creu cyngrhair o elynion Cymru mi fyddai'r Bib yn ddigon agos i'r brig.

Anonymous said...

Dwi wrth fy modd hefo'r gemau dwi wirioneddol yn. Er y bysa yn well gen i weld "Team Wales", dwi yn ddigon cyffyrddus yn cefnogi Team GB (yn union sut dwin cefnogi Team Ireland hefyd).

Ond wrth ddweud hynny dwi'n cytuno gyda sylwadau ynglyn ar Bib. Pan dwin rhoi y newyddion ymlaen dwi eisiau y newyddion a cael brec bach o'r gemau. Ond o na, nid ar BBC Wales. Danin cael newyddion y gemau am tua hanner y raglen ar y prif newyddion. Yna danin cael hyn ETO ar BBC Wales Today. Maen hynod o ddiflas.

Y gwir amdani dydy athletwyr Cymru ddim wedi neud yn dda iawn. Felly pam bod BBC Wales yn mynnu deud pa mor wych mae nhwn neud?. Ac i fod yn onesd ma BBC Wales yn troi fi off y gemau.

Anonymous said...

**Dwi hefyd ddim yn hoffi y ffaith pam bod GYMAINT o staff y BBC wedi mynd lawr i'r gemau. Dwin gallu cyfri 10 o BBC Cymru/Wales sydd wedi mynd lawr na - be di'r pwynt!?