_ _ _ ar fod yn gyntaf (hyd y gwn i) i ddefnyddio TeamGB i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Cynghorydd Llafur o'r Bari ydi Rob Curtis, ac mae'n ymddangos nad yw'n rhy hapus bod ei blaid wedi cael cweir gan Plaid Cymru mewn is etholiad yn y dref yrwythnosdiwethaf.
Mewn llythyr bach chwerw i'r Echo mae Rob yn mynd i'n rhybuddio o beryglon annibyniaeth:
Every Plaid councillor elected will become a cheer leader for petty short sighted nationalism and an advocate of destroying our unique & mostly successful partnership with the rest of the United Kingdom _ _ _ that means an end to team GB.
A gadael o'r neilltu'r ffaith bod Rob yn ystyried trefniant sydd wedi dod a thlodi, tlodi a mwy o dlodii Gymru yn successful partnership, mae'r llythyr yn adrodd cyfrolau wrthym am sut mae'r sefydliad Cymreig yn gweithio.
Rydym yn cael un colofn sefydliadol Gymreig (BBC Cymru / Wales) yn treulio misoedd lawer yn clodfori ac yn heipio'r jambori mawr Llundeinig yn gyffredinol a TeamGB yn benodol, tra bod colofn arall (y Blaid Lafur Gymreig) yn portreadu llwyddiant i blaid arall mewn is etholiad cyngor fel bygythiad i'r hyn sydd wedi ei heipio cymaint gan ei chyd golofn sefydliadol.
Mae pwt o lythyr Rob yn adrodd cyfrolau am wleidyddiaeth Cymru.
6 comments:
Mae llwyth o undebwyr wedi defnyddio llwyddiant TimGB i ymosod ar Alex Salmond a'r SNP, ond mae'n bosib mai Rob Curtis yw'r un cyntaf yng Nghymru.
Dyw'r ffaith y byddai Cymru a'r Alban yn ennill medalau heb fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig ddim yn berthnasol i'r ddadl, wrth gwrs.
Pwy yw Greg, gyda llaw?
Sut mae cenedlaetholwyr yr Alban yn ymateb i Brydeindod pencampwyr fel Chris Hoy ac Andy Murray ?
A bod yn onest, nid wyf y siwr y buasai athletwyr Cymru'n ennill unrhywbeth heb fod yn rhan o dim 'GB'. Nid oes gennym, ar hyn o bryd, strwythyr annibynnol i Loegr, felly mae ein athletwyr yn gorfod hyfforddi ayb yn Lloegr gyda hyfforddwyr o Saeson. Mae gormod o arian a sylw yng Nghymru'n cael ei roi i rygbi, gyda popeth arall yn gymharol dlawd.
Rhag y cywilydd ar rheini sy'n honni fod gwleidyddion y pleidiau Prydeining a'r BBC wedi defnyddio'r gemau fel arf propaganda yn erbyn yr ymdeimlad cynnyddol o genedlaetholdeb yn yr Alban a Chymru a Chernyw! Celwydd llwyr!
'Typo' ydi Greg druan.
Ond mae e'n iawn. Byddai Plaid Cymru am weld tim annibynol i Gymru yn yr Olympics. Beth sydd o'i le a chytuno a hynny - mae'r Blaid wedi colli cyfle i ddathlu a rhoi ger bron pobl Cymru y freuddwyd o weld tim Gymreig yn yr Olympics. Cachgwn.
Ydy Llafur felly yn erbyn tim Olympics i Gymru?
Wel ydyn mae'n debyg.
Post a Comment