Friday, August 10, 2012

Blogiadau o'r gorffennol - rhif 4

Fel llywodraeth Tony Blair (yn ol Alistair Campell) dydi Blogmenai ddim yn 'gneud' crefydd fel arfer, ond cafwyd ambell i eithriad prin. Daw'r blogiad isod sy'n cymharu dirywiad crefydd yng Nghymru efo nerth ymddangosiadol Islam yn Nhwrci o fis Ebrill 2008.



Mae gen i flog arall ar gyfer ysgrifennu nodiadau am deithiau, ond wedi ‘sgwennu hwn a’i ddarllen, ‘dwi’n rhyw feddwl mai blogmenai ydi’r lle mwyaf addas ar ei gyfer rhywsut.

Newydd dreulio deg diwrnod yn Istanbul – cyn brif ddinas yr ymerodraeth Ottoman, un o brif ganolfanau masnach y byd am filoedd o flynyddoedd, ac un o ddinasoedd mwyaf poblog y byd (poblogaeth swyddogol o 9 miliwn – gwir boblogaeth unrhyw beth hyd at 18m). Er bod Twrci yn wladwriaeth seciwlar o ran cyfansoddiad, ac er bod yr elit cymdeithasegol a’r fyddin (sefydliad hynod bwerus yn Nhwrci) yn driw iawn i werthoedd y cyfansoddiad hwnnw, Mwslemiaid pybyr ydi’r mwyafrif llethol o drigolion y wlad.

Nid yw’r ffaith yma’n gwbl amlwg ym mhrif ganolfanau twristaidd canol y ddinas. Lleiafrif o’r merched ar y strydoedd hyn sy’n gwisgo yn null traddodiadol merched Islamaidd Twrci – ffrogiau llaes at eu traed a sgarff i guddio eu gwalltiau. Mae’r actorion yn yr operau sebon a darllenwyr y newyddion ar deledu’r gwesty yn ymddangosiadol gwbl Orllewinol. Mae siopau, bariau a thai bwyta sy’n gwerthu alcohol yn gyffredin iawn.

Gwir bod tyrau mosgiau i’w gweld i bob cyfeiriad, a gwir bod y llafarganu sy’n cymell pobl i weddio yn atseinio tros y ddinas bum gwaith pob dydd – yn unol a gorchymyn y Koran. Serch hynny y prif ymdeimlad a geir yn y lleoedd hyn yw o ddinas brysur, fywiog, gosmopolitaidd, seciwlar ei natur.

Ond nid oes rhaid i ddyn grwydro ymhell o’r prif strydoedd masnachol i weld darlun arall cwbl wahanol. Mae Istanbul wedi ei lleoli ar gyfres o fryniau sydd wedi eu hamgylchu a moroedd a sianeli dwr mor sylweddol – Y Corn Aur, Y Bosfforus a Mor Marmara. Tuedda’r canolfannau sy’n boblogaidd gyda thwristiaid fod ar ben rhai o’r bryniau hyn. Ar y llethrau sy’n arwain i lawr at y moroedd ceir clytwaith enfawr o gymdogaethau tlawd – rhai ohonynt yn ymddangosiadol dlawd iawn. Mae’n fyd cwbl, cwbl wahanol.

Daw’r Trydydd Byd a’r Byd Cyntaf at ei gilydd ar y bryniau yma. Tra bod is strwythur modern effeithiol ar bennau’r bryniau, is strwythur treuenus o wael sydd ar y llethrau – y palmentydd yn dadfeilio mewn aml i le, a’r ffyrdd mewn cyflwr sal. Dim trafnidiaeth cyhoeddus, goleuadau ffordd anigonnol a chyflenwad trydanol na ellir dibynu arno. Mae’r trigolion yn byw mewn adeiladau sy’n ganoedd o flynyddoedd o ran oed, a phrin bod llawer ohonynt mewn cyflwr digonol i gadw’r glaw a’r oerni allan. Ceir ambell i dan yn llosgi ar y palmentydd ac mae’r pentyrau o sbwriel sydd ar ochr y lon yma ac acw yn awgrymu nad ydi’r gwasanaeth hel sbwriel yn effeithiol iawn chwaith.

Mae ethos Islamaidd y cymdogaethau hyn yn gwbl amlwg. Ychydig iawn o fariau neu gaffis sy’n gwerthu alcohol. Ceir mosg ar bron i bob bloc, a phan fydd yr uchel seinyddion sydd ar eu tyrau yn galw pobl i weddio, mae’r swn sy’n syrthio o bob cyfeiriad ar yr un pryd yn fyddarol ac yn ymylu ar fod yn ormesol. Mae’r merched bron yn unffurf o ran dillad yn eu parchusrwydd Moslemaidd.

Ac eto – wedi dweud hyn oll, dydi’r cymdogaethau hyn ddim yn llefydd anymunol i fod ynddynt. Mae dyn yn teimlo’n gwbl ddiogel yno (diogel oddi wrth y trigolion o leiaf – mae’r tyllau yn y ffyrdd a’r dreifio lloerig yn faterion cwbl wahanol). Ni ellir dweud hyn am lawer o gymdogaethau tlawd, a rhai sydd ddim mor dlawd, yn ninasoedd mawr Lloegr. Mae nifer o gymunedau felly gyda pheryglon i’w thrigolion ei hun, heb son am i bobl sy’n gwbl amlwg yn dramorwyr. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl o’r diwylliant cyffuriau sy’n creithio cymaint o gymdogaethau tlawd yn y DU.

Maent yn gymdogaethau distaw a chymdeithasegol drefnus yr olwg. Yr unig yfed cyhoeddus sydd i’w weld ydi dynion (a dynion yn unig) yn yfed yn y tai te. Bydd ychydig o laslanciau yn chwarae peldroed ar y ffordd yma ac acw. Byddant yn llusgo plant man i’w canlyn, neu’n cario babis yn eu breichiau (dydi’r palmentydd ddim digon da i ddefnyddio coets). Ceir ychydig o fusnesau yma ac acw – siop cebab, becws neu siop llysiau a ffrwythau – ac yma ceir y dynion (neu’r rhai nad ydynt yn yfed te o leiaf). Anaml iawn, iawn y gwelir dynes yn gweithio.

Wrth gerdded trwy’r strydoedd hyn roedd yn anodd peidio a meddwl am fy nyddiau Sul yn ystod y deg blynedd a dreuliais i yn byw mewn cymuned lle’r oedd crefydd yn rhan o’i gwead. Deg blynedd cyntaf fy mywyd ym Mhenisarwaun, Arfon rhwng 1960 ac 1970 oedd y rhain.

Mae’n debyg gen i nad ydi Cristnogaeth yng Nghymru wedi treiddio i bob agwedd ar fywyd pob dydd pobl yn y ffordd mae Islam yn gwneud hynny ers yr Oesoedd Canol. Serch hynny roedd crefydd yn y Gymru Anghydffurfiol yn rhan o wead naturiol bywyd – yn arbennig felly ar y Sul, a pharhaodd pethau i fod felly nes iddi farw yn ddisymwth oddeuty 1970 – pan oeddwn i’n ddeg oed. Mae’n debyg gen i mai fy nghenhedlaeth i fydd yr un olaf i gofio’r Gymru, Gymraeg Anghydffurfiol.

Roedd dyddiau Sul ym Mhenisarwaun y 60au yn ddigon tebyg i ddyddiau Sul Oes Fictoria. Ar un ystyr goroesodd Oes Fictoria ar hyd llawer o’r Gymru Gymraeg ymhell i mewn i ail hanner y ganrif ddiwethaf.

Teulu Pabyddol oeddym ni – o leiaf i’r graddau bod fy nhad yn Babydd, ac roeddem ninnau yn bedwar o blant wedi ein magu yn y ffydd honno. Roedd hi’n orfodol o dan gyfreithiau’r Eglwys i blant o briodasau cymysg gael eu magu’n Babyddion bryd hynny. Bedyddwraig ydi mam, er ei bod yn un o ddisgynyddion John Elias – un o gymeriadau allweddol Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Un teulu, neu yn hytrach un unigolyn Pabyddol arall oedd yn byw ym Mhenisarwaun tan tua 1967. Symudodd teulu Pabyddol o Lerpwl i’r pentref tua’r adeg honno – rhagflaenwyr cynnar y tonnau mawr o fewnfudo a dorrodd tros rannau mawr o’r Gymru Gymraeg tros y degawdau dilynol. A dyna ni, tri theulu Pabyddol mewn cymuned o ddau neu dri chant o deuluoedd Protestanaidd – Anghydffurfwyr gan fwyaf. Oherwydd ein bod mewn lleiafrif mor fychan, roedd ein gwerthoedd cymunedol yn cydymffurfio yn agos a rhai’r gymuned yr oeddym yn byw ynddi – a chymuned Brotestanaidd oedd honno.

Roedd ein cymdogion yn addoli’n lleol – yn yr Eglwys Anglicanaidd leol, neu yn un o’r pedwar capel Anghydffurfiol lleol. Roeddem ni’n addoli y tu allan i’r pentref – mam yn Neiniolen am nad oes capel Bedyddwyr ym Mhenisarwaun a ninnau yn yr eglwys Babyddol yng Nghaernarfon gan amlaf. Weithiau byddem yn mynd i Fangor pan oedd Offeren Gymraeg yno.

Ond ym mhob ffordd arall roedd ein Suliau ni yn union fel rhai ein cymdogion. Nid oeddym yn mynd allan i chwarae – roedd clo ar giat cae swings pob dydd Sul ac nid oeddym yn cael chwarae yn yr ardd ffrynt chwaith. Ar ddiwrnodiau braf yn yr haf byddwn yn cael chwarae yn yr ardd gefn, ar yr amod ein bod yn gwneud hynny’n ddistaw bach. ‘Dydi Pabyddion ddim yn poeni rhyw lawer am hamddena ar y Sul, ond roeddym ni yn plygu i ddisgwyliadau’r gymuned ehangach. Yn yr un modd byddem yn gwisgo dillad dydd Sul – yn union fel ein cymdogion, er bod Pabyddion mewn gwledydd Pabyddol yn aml yn gwisgo’n ddigon anffurfiol mewn gwasanaethau cyffredin.

‘Doedd yna ddim tafarn ym Mhenisarwaun bryd hynny, er bod nifer wedi bod yn y cylch yn y gorffennol. Cafwyd cais i agor clwb yn y pentref gan Sais o’r enw Jack Nix yn y blynyddoedd hyn, gyda’r bwriad o gymryd mantais o’r ffaith bod tafarnau pentrefi cyfagos i gyd ar gau ar y Sul yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd fy rhieni ynghanol ymgyrch chwyrn i atal y datblygiad – ac roedd yr ymgyrch yn un chwyrn, cafodd yr adeilad ei fomio ar un adeg. Unwaith eto roedd hyn yn agwedd ryfedd i Babyddion – ‘dydi yfed alcohol ar ddydd Sul nac ar unrhyw ddiwrnod arall ddim yn bechod i Babyddion. Roedd Crist yn yfed alcohol wedi’r cwbl. Pechu o ganlyniad i yfed fyddai’r broblem yn hytrach na’r weithred ei hun.

O ran diddordeb, llwyddo wnaeth y cais am drwydded clwb yn y pen draw, a bu canolfan yfed digon llwyddianus ym Mhenisarwaun am flynyddoedd. Yn eironig ddigon canlyniad y refferendwm ar agor tafarnau ar y Sul yn y saithdegau a laddodd y lle yn y pen draw. Y digwyddiad hwn oedd cloch cnul y Gymru Anghydffurfiol yn Arfon – er bod y Gymru honno wedi marw erbyn hynny mewn gwirionedd. Roedd y sefydliad yn ddibynol iawn ar yfywyr dydd Sul o Ddeiniolen, Llanrug a Llanberis. Gydag agoriad y Bull, Pen Bont a’r Victoria ar y Sul, collodd y clwb ei farchnad. Cartref hen bobl sylweddol iawn o ran maint sydd ar y safle erbyn heddiw.

Ar y pryd roedd pethau yn edrych yn ddigyfnewid ac yn barhaol. Ar un wedd mae’n rhyfeddol i’r Gymru honno farw mor ddi symwth a mor ymddangosiadol ddi rybudd. O edrych yn ol, fodd bynnag, mae’n weddol hawdd arenwi’r grymoedd hynny oedd ar waith yn tanseilio’r seiliau.

Roedd gwrthdaro mewnol yn rhan o’r fframwaith deallusol oedd yn cadw’r holl sioe Anghydffurfiol ar ei thraed. Wedi’r cwbl cyfaddawd efo seciwlariaeth ydi Protestaniaeth yn ei hanfod – gwahoddiad agored i ddyn ddod o hyd i Dduw ar ei ben ei hun. Pan roedd y dylanwadau diwylliannol oedd yn effeithio ar bobl yn gyfyng, a phan roedd y traddodiad crefyddol Cymreig yn bwysicach na’r un o’r dylanwadau hynny, roedd canfyddiad pobl o Dduw yn weddol unffurf.

Ond pan gynyddodd yr amrediad o ddylanwadau diwylliannol y tu hwnt i bob disgwyliad yn ail hanner y ganrif ddiwethaf (yn rhannol yn sgil twf enfawr rhai o’r cyfryngau torfol), newidiodd y canfyddiad o Dduw hefyd – ac wrth gwrs mae’r traddodiad Protestanaidd yn gwahodd pobl i ddiffinio eu Duw eu hunain. Pan mae’r byd yn gymhleth, mae’r diffiniad o Dduw hefyd yn gymhleth – a ‘dydi Duw cymhleth ddim o unrhyw werth i neb. ‘Dydi Duw o’r fath ddim gwerth credu ynddo, ac yn bwysicach na hynny ni all Duw o’r fath gynnal gwerthoedd cymunedol cytunedig.

Roedd yn afresymol credu y gallai cestyll cyfundrefn grefyddol oroesi yn yr hir dymor ar fryniau tywod seciwlar – ac felly cyfnewidiol. Roedd y cestyll yn sicr o gael eu sgubo i’r mor gan donnau seciwlariaeth yn hwyr neu’n hwyrach.

‘Dydi Islam ddim yn wynebu’r problemau hyn wrth gwrs. Yn gwahanol i is strwythur diriaethol strydoedd Istanbul, mae’r is strwythur diwynyddol a deallusol yn gadarn. ‘Does yna ddim cyfaddawd efo systemau rhesymu seciwlar – mae’r canfyddiad o Dduw yn cael ei ddiffinio’n allanol – a Duw syml iawn ydi hwnnw.

‘Dydi’r gwledydd Mwslemaidd ddim wedi bod trwy chwyldro Ffrengig chwaith – yn gwahanol i dir mawr Ewrop. O ganlyniad nid oes fframwaith ideolegol seciwlar i gystadlu efo’r un grefyddol. Mae’r cestyll Islamaidd yn gwbl ddiogel ar hyn o bryd – nid ydynt wedi eu seilio ar dywod fel Anghydffurfiaeth Cymreig, ac nid oes cystadleuaeth o du ideolegau seciwlar megis y Chwyldro Ffrengig.

Capeli Penisarwaun - Jehofa Jeira - Wesleiaid - wedi ei droi'n dy.



Bosra - Annibynwyr - yma o hyd.



Glasgoed, Hen Gorff - wedi ei droi'n dy.



Mae Ysgoldy - Hen Gorff wedi ei ddymchwel.

A pherfedd y Mosg Glas yn Istanbul.

4 comments:

HC said...

Agwedd arall ar hynny fuasai yr hollt ieithyddol crefyddol a ddigwyddai ym Mangor, ac o bosibl trefi eraill a oedd yn 50-50 ar y pryd. Dwi'n cofio, pan yn hogyn, y gallai rhwyun ddweud fod rhywun a siaradai Gymraeg yn mynd i'r capel ( yn ddieithriad, bron). Os oedd rhywun yn mynd i'r eglwys, Saeson (h.y. o dras Seisnig) oeddent. Yr oedd eglwys St Pedr dros ffordd i'n capel ni ym Mhenrhosgarnedd, ond nid oeddwn yn nabod neb oedd yn mynd yna. Prin oedd y cof sydd gennyf am Pabyddion - mi roedd yna ysgol breifat Pabyddol yn y dref, a hynny'n lliwio crebwyll rhywun rhywsut. Yn sicr, ni wyddwn am Babyddion oedd yn siarad Cymraeg.
Mi gefais sioc pan yn fy arddegau cynnarwrth fynd gyda modryb i eglwys Llandinorwig, a gweld addoliad Cymraeg yno- nid oeddwn wedi ystyried fod y ffasiwn beth yn bod a Chymraeg mewn eglwys.
Mi rydw innau'n cofio'r Sul anghydffurfiol ar ei wely angau yn y 60au 'Ga i ...... ? ' 'Na - dim ar ddydd Sul '. Ergyd fwyaf yr hen gorff oedd cynnal y gymanfa ar yr un diwrnod a'r 'Welsh cup final'
Yr oedd rhaid mynd i'r gymanfa yn y dref, serch y ffaith fod Bangor yn chwarae Wrecsam chwarter milltir i ffwrdd.
Mi roedd fy h-daid yn flaenor yn Glasgoed, ac yna roedd fy nhaid a'i frodyr yn mynd, ond i Bosrah oedd fy h-nain a'r merched yn mynd !

Cai Larsen said...

Difir iawn HC - ydan ni wedi cwrdd?

HC said...

Dim yn y capel nac yn yr eglwys .
Yn y car, tua 400 o weithiau, ac yn Dinorwig tua mis yn ol, wrth i ti ymarfer ar gyfer y gemau Olympaidd !

Cai Larsen said...

Ah - Huw