Mae yna rhywbeth bron yn ddigri yng nghanfyddiad pol y Guardian bod y Gemau Olympaidd yn fwy poblogaidd yng Nghymru nag yn Llundain. Yn wir yn ol y pol roedd y jambori yn fwy poblogaidd yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Byddwch yn cofio i'r blog yma groniclo ( hyd at syrffed efallai) nad oes gan Gymru dim yn y gemau, i ni gael nesaf peth i ddim o'r contractau a ddaeth yn sgil y gemau, na chawsom y nesaf peth i ddim o'r cystadleuthau, ac mai ychydig o lwyddiant a gafwyd.
Rwan, dwi'n gwybod am y rhybuddion arferol am is setiau bach o ddata ac ati, ond mae'n rhaid cyfaddef bod hyn yn gryn dro ar fyd - ychydig wythnosau yn ol roedd tri chwarter poblogaeth Cymru o'r farn na fyddai'r Gemau o unrhyw fudd o gwbl i'r wlad.
Mae'n debyg y dylid llongyfarch ein cyfryngau lleol, ac yn arbennig felly BBC Cymru/ Wales am y 'llwyddiant' rhyfeddol yma i newid agweddau pobl. Maent wedi gwerthu'r gemau yn llawer mwy effeithiol na neb arall. Gobeithio y byddant yn cael mwy na'u siar o OBEs, MBEs ac ati am wasanaethau i'r Cwin a'r Neshyn. Duw a wyr maen nhw'n ei haeddu am lyfu a llempian ymhell, bell y tu hwnt i alwadau dyletswydd.
9 comments:
Rhywbeth mawr yn bod ar y linc.
Dylit hefyd ddiolch Plaid Cymru am beidio rhoi gwrth ddadl o blaid tîm cenedlaethol Gymreig.
Mae yn dangos gymaint o wast o amser a strategaeth wan yw swnian am y gost fel wnaeth y Blaid. Y ddadl oedd angen ei chodi er mwyn herio cenedlaetholdeb banal Brydeinig y BBC a'r Olympics oedd yngyrchu o blaid tîm i Gymru. Wnaeth P C gymryd penderfyniad bwriadol i beidio gwneud hyn. Maent yn gobeithio gwneith y don Brydeinig jyst basio. Mae nhw yn ffyliaid i feddwl hyn ac maent wedi rhoi gôl am ddim i'r Brits. Bydd yn anoddach nawr magu hyder, dadleuon o blaid cenedlaetholdeb. Mae'r wladwriaeth Brydeinig wedi cael troed mawr i fewn drwy drws hunaniaeth Gymreig a dydy nhw ddim am ei hildio.
Gymerodd hi 50 mlynedd o ymgyrchu dewr a herio gan Gwynfor a'r mudiad cenedlaethol i danseilio normalrwydd yr Unio Jack a Phrydeindod. Mae ACau Plaid Cymru wedi colli hynny i gyd mewn dau fis heb hyd yn oed ffeit.
Cachgwn llwfr sy yn meddwl eu bod yn glyfar. Mae'r Brits wedi ennill. 'Mond y dechrau yw hyn.
Edrycha ar y bobl sy'n ddylanwadol ym Mhlaid Cymru. A ydynt yn edrych fel y math o bobl sydd gyda unrhyw grebwyll am chwaraeon ? . Yn anffodus, dyna lle mae'r Blaid Lafur gyda mantais mawr. Yr oedd Rhodri Morgan , a Carwyn Jones i raddau llai, yn gallu swnian , yn eithaf didwyll, fel 'rugby boy' . Yr unig wleidyd o genedlaetholwr a fu gyda unrhyw wybodaeth o chwaraeon oedd Dafydd Wigley - peldroediwr ardderchog (ni allaf ei ddychmygu'n gwneud unrhywbeth yn wael)
Anon 5.44 - Sgen hyn ddim oll i wneud â chwaraeon a phopeth i'w wneud â politics. Mae yn newyddion drwg i Cymru a'r Gymraeg.
Digon gwir - ond mae gwleidydd sy'n gallu siarad gydag argyhoeddiad a hygrededd ar destun yn gaffaeliad.
Efallai fod yna ateb symlach - sef bod nifer yng Nghymru wedi cymryd yn ganiataol mai Llundain oedd yn talu am y peth! Werth bob ceiniog felly.
Roedd Dafydd Wigley o blaid "Team GB" pel-droed.
Sampl Cymreig o beth? 100? Allwn ni ddweud DIM ar sail hynny.
Wel mae margin for error 100 yn 10%.
Post a Comment