Roedd yr hen gyfaill Gwilym Owen (sydd wedi dewis byw ym Mangor) wedi dotio - yn ei golofn Golwg - bod Aled Jones Williams (sy'n byw yng Nghriccieth) wedi ailadrodd un o'i ddamcaniaethau bach ystrydebol - sef bod y Gymraeg yn iaith ddosbarth canol. Ymddengys hefyd bod Gwilym yn credu bod cytuno efo Gwilym yn beth eofn iawn i'w wneud.
Ta waeth, mi gawsom olwg ar ddosbarthiad cymdeithasegol y wardiau mwyaf Cymreig yn dilyn honiad Gwilym y llynedd. Dydi'r data ddim yn cefnogi damcaniaethau colofnwyr Golwg - oni bai bod newid mawr - ac anhebygol iawn - wedi digwydd tros y ddegawd diwethaf.
Mynd i rhyw feddwl wnes i ar ol darllen am ymddeoliad Gwilym Owen yn Golwg y diwrnod o'r blaen os oedd yna rhywbeth yn ei osodiad bod y Gymraeg yn mynd yn iaith i'r dosbarth canol yn unig. Mae'r canfyddiad hwnnw yn groes i fy argraff i, ond wedyn dwi'n byw mewn tre Gymreig iawn sydd hefyd yn ddosbarth gweithiol at ei gilydd.
Felly mi es i ati i geisio gweld os oes yna sail ystadegol i'r sylwadau. Ymgais ydi'r isod i brofi os ydi gosodiad Gwilym yn gywir neu beidio. Rwyf wedi gosod y wardiau oedd yn ol y cyfrifiad diwethaf gyda 75%+ yn siarad Cymraeg ynddynt yn eu trefn ac wedi nodi eu safle a'u sgor ar Indecs Amddifadedd Cymru. Fel mae'r enw yn rhyw awgrymu ffordd o fesur amddifadedd ydi'r indecs ac mae'n gwneud hynny ar lefel ward etholiadol. Mesurir amddifadedd 1,792 o gymunedau i gyd.
Felly mae safle isel a sgor uchel yn awgrymu lefel uchel o amddifadedd, tra bod sgor isel a safle uchel yn awgrymu'r gwrthwyneb. Dwi ymhellach wedi gosod y cymunedau Cymraeg yn eu chwarteli cenedlaethol - mae lefel uchel o amddifadedd mewn cymunedau yn chwartel 4, a lefel isel o amddifadedd mewn rhai yn chwartel 1. Ceir tair ward yn y chwartel isaf, tair yn y chwartel uchaf, 18 yn y trydydd chwartel a 17 yn yr ail chwartel.
Rwan does yna ddim diffiniad mae pawb yn ei dderbyn o'r hyn sy'n gwneud pobl yn ddosbarth canol - y diffiniad sy'n cael ei ddefnyddio amlaf ydi pobl sy'n syrthio i gategoriau ABC1. Mae tua hanner poblogaeth Cymru yn syrthio i'r categoriau hynny, tra bod yr hanner arall yng nghategoriau C2DE. A chymryd hynny mae'r tabl yn awgrymu bod cymunedau Cymraeg eu hiaith wedi eu rhannu yn weddol gyfartal rhwng rhai sydd yn ddosbarth gweithiol a dosbarth canol, ond bod llai ohonynt yn perthyn i'r pegynnau na sy'n wir am Gymru gyfan.
Un neu ddau o bwyntiau bach technegol cyn gorffen - 'dwi'n derbyn nad ydi cyfrifo amddifadedd yr un peth a chyfrifo dosbarthiad cymdeithasol - ond mae'r naill yn rhoi syniad o'r llall. Dwi hefyd yn derbyn nad ydi'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn byw mewn cymunedau 75% + - ond mae proffeil cymunedau Cymreig yn rhoi syniad i ni am broffeil siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol. Mae hefyd yn wir bod y ffigyrau cyfrifiad yn ddeg oed bellach. Mae unedau cyfrifo'r indecs hefyd mymryn yn wahanol i unedau'r cyfrifiad, ac mae yna ychydig fanylion ar goll o'r indecs.
No comments:
Post a Comment