tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post1491423415195572177..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Y Toriaid yng Nghymru a'u harweinyddCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger4125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-54885550159757342522012-07-13T10:37:10.138+01:002012-07-13T10:37:10.138+01:00Roedd manylion y pôl piniwn yna'n amwys dros b...Roedd manylion y pôl piniwn yna'n amwys dros ben. Llafur i gynyddu eu pleidleisiau uniongyrchol ond colli ar y rhestr, Plaid Cymru i wneud y gwrthwyneb, Toriaid i ddiflannu a UKIP i ennill 5 sedd - oll yn anhebyg iawn.

Mae'n debyg taw sampl fach iawn oedd yn y pol ac felly dyw hi'n gwneud llawer o synnwyr ei gymryd yn ddifrifol iawn o gwbwl. Mae'n amlwg bod cefnogaeth i'r toriaid yn diflannu a bod UKIP yn gwneud yn dda, ond os chawn nhw'r un nifer o seddi a'u gilydd yn yr etholiad nesa fe wna i fwyta'n het.BoiCymraegnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-72622130370370763152012-07-09T01:53:10.469+01:002012-07-09T01:53:10.469+01:00O gael ymgyrch dda a sicrhau bod ei phleidlais cra...O gael ymgyrch dda a sicrhau bod ei phleidlais craidd yn troi allan, mae'r pôl yn awgrymu posibilrwydd tenau iawn o gael dau ASE Llafur a dau o Blaid Cymru.

Amser i'r Blaid dechrau gweithio’n galed ar ei hymgyrch Etholiad Ewrop RWAN? Tybiwn i!Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-52310467656221287072012-07-08T13:01:18.822+01:002012-07-08T13:01:18.822+01:00Yr hyn sydd rhaid i Lafur ei wneud i gael dwy ydi ...Yr hyn sydd rhaid i Lafur ei wneud i gael dwy ydi cael mwy na dwbl pleidlais y pedwerydd plaid. Mae hynny yn hynod debygol.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-9697378391105155812012-07-08T12:52:49.099+01:002012-07-08T12:52:49.099+01:00Dwi'n cytuno fysa cael un neu ddau aelod UKIP ...Dwi'n cytuno fysa cael un neu ddau aelod UKIP yn y Cynulliad yn peth da. Mae'r consensws sydd yn y Cynulliad yn gallu bod yn ddigon diflas a fyswn i yn croesawu rhywun i graffu waith y Llywodraeth yn fwy. Er wrth ddweud hynny, tydy UKIP ddim neud swydd da iawn o hyn yn Senedd Ewrop (dim ond ryw un neu ddau o headlines speeches da nin gael ganddyn).

O be dwi'n weld beth sydd yn bwysig yn etholiad Ewrop yw "Y Blaid". Ac y mesur gorau da ni hefo i hyn yw polau opiniwn y rhanbarthau.

Y gwir amdani mae YouGov yn gorddweud mymyryn ar cefnogaeth Llafur. Yn ol un 2011 nhw yn Ebrill dylsa Llafur wedi cael 33/32 or seddi = 30 gafodd nhw.

Felly yn lle cymharu YouGov 2012 gyda canlyniadau go iawn y Cynulliad dwi yn cymharu YouGov 2012 hefo un 2011. Oherwydd hwn yw'r un gorau i gymharu (mae nhwn defnyddio'r UNION ryn mesurau).

Os danin cymharu rhain mae cefnogaeth i Llafur wedi disgyn o 51% yn Ebrill 2011 i 43%.

Mae hyn yn fy nychryn i yn enwedig os danin cymharu yr rhai etholaeth (sydd wedi mynd fyny 1%).

Oherwydd hyn, efallai na fydd Llafur yn gallu cael yr ail sedd yn Ewrop?.

Gyda'r Toris, chwarae teg dwi dal yn meddwl bod canlyniadau 2011 nhw yn hollol fantastic. Sgin y nhw bron neb ar llawr gwlad. Roedd DC yn hynod o anpoblogaidd ond er hynny fe nath nhw ddod yn 2ail plaid yng Nghymru!.

Ydy hyn yn dangos pa mor effeithiol yw'r Toris yng Nghymru yntau dangos mai methiant Plaid Cymru oedd stori yr ethloliad dwytha?.

Os danin colli y sedd yn Ewrop fydd na gwestiynau mawr os mai LW yw'r arweinydd cywir i ni.

Ond ie, swnin feddwl fydd y seddi yr un peth 1-Llaf, 1- Plaid, 1- UKIP ag 1- Ceid. Yr unig newid fydd bod UKIP yn mynd yn drydydd plaid poblogaidd yng Nghymru os nad 2ail.Anonymousnoreply@blogger.com