Friday, March 30, 2012

Gethin Williams i sefyll tros y Blaid yn y Bermo

Byddwch yn cofio i'r blog yma redeg stori ar ymddiswyddiad Gethin Williams o Lais Gwynedd yn ddiweddar. 'Dwi'n meddwl mai'r blog yma oedd yr unig gyfrwng i adrodd ar y stori.

Beth bynnag 'dwi'n deall bod y stori wedi datblygu. Bwriad gwreiddiol Gethin oedd peidio a sefyll eto. Ymddengys ei fod bellach wedi newid ei feddwl am hynny a bydd yn sefyll yn enw Plaid Cymru yn ward Abermaw, sy'n cyfochri a'i ward bresenol yn Mrithdir / Llanfachreth.

8 comments:

Alwyn ap Huw said...

Yn ol Facebook mae Mici Plwm am herio Gwynys yng Nghlynnog

Cai Larsen said...

Mae hynny'n hollol wir.

Anonymous said...

Nyw Bom neu Mici Plwm? Lle mae Harry Hill pan dach chi angen o...

Anonymous said...

Dim ond un ffordd i ffeindio allan ........ !

Anonymous said...

pwy sy'n sefyll yn erbyn gweddill criw llais g?

gwylliaid said...

pa hanes yn llanwnda

Anonymous said...

Gyda system gabinet am 5 mlynedd i ddod, gwell i gael ceffyl trojan cyn aelodau LlG o fewn PC efallai?
Haws i addasu polisiau ac agweddau o'r tu mewn.

By'n rhaid negydu polisiau o fewn y blaid yn gyntaf rwan felly. Bydd trafodaethau mewnol yn lleihau'r angen i'r Blaid fod yn ben galed a sticio i bolisiau hurt dim ond mwyn cadw wyneb.

Anonymous said...

Bermo yn dalcen caled i'r Blaid, ydy Trefor yn sefyll dros Lafur?