Monday, April 02, 2012

Effaith wleidyddol y gyllideb

Ymddiheuriadau o flaen llaw am flogio ysgafn tros y dyddiau nesaf - dwi unwaith eto ymhell oddi cartref yn cadw golwg ar bethau i ddarllenwyr Blogmenai.

Beth bynnag, cyllideb llywodraeth San Steffan yr wythnos diwethaf ydi'r pwnc dan sylw heddiw. Mae'n bosibl - er nad ydi hyn yn sicr yn absenoldeb tystiolaeth polio cynhwysfawr - y bydd yr un digwyddiad yma'n newid y ffordd mae pobl yn canfod y llywodraeth yn llwyr.

Tra ei bod yn gyffredin i lywodraethau golli eu poblogrwydd, mae'n anarferol i un digwyddiad wneud hynny. Er enghraifft cyfres o sgandalau yn y 90au oedd yn gyfrifol am ddifa poblogrwydd llywodraeth Major, tra mai cyfres o streiciau wnaeth hynny i lywodraeth Callahagan yng ngaeaf 78-79. O bosibl roedd y poll tax ynddo ei hun yn ddigon i roi'r cei bosh ar boblogrwydd Thatcher, ond mi gymrodd ryfeloedd a chanfyddiad tros amser o ddiffyg gonestrwydd i newid y ffordd roedd pobl yn edrych ar lywodraeth Blair. Cyfuniad o'r argyfwng economaidd a sgiliau cyfathrebu difrifol o wael oedd yn gyfrifol am droi llywodraeth Brown o un boblogaidd i un hynod o amhoblogaidd.

Efallai bod yna resymeg economaidd y tu cefn i gyllideb yr wythnos diwethaf, ond o safbwynt gwleidyddol roedd yn tour de force mewn diffyg crebwyll - addasu'r cyfraddau treth er budd yr 1% cyfoethocaf, tra'n codi trethi ar bastai a phensiynwyr, gostwng lwfans plant ac ati. Byddai'r gyllideb ynddi ei hun yn ddigon gwael o safbwynt gwleidyddol, ond mae ei chyflwyno pan mae tros i hanner y cabinet yn filywnyddion yn cadarnhau canfyddiad oedd eisoes yn dechrau ffurfio - mai edrych ar ol y cyfoethog ydi prif genhadaeth y llywodraeth. Roedd y ffars wythnos diwethaf o idiotiaid a'u cefndir yn Eton yn rwdlan am garejes a jeri cans yn wyneb yr 'argyfwng' petrol yn atgyfnerthu'r syniad ymhellach, fel roedd y newyddion y gellir dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth am 250k.

Tybed os bydd un araith yn ystod un prynhawn wedi bod yn ddigon i newid y tirwedd gwleidyddol yn llwyr? Cawn weld tros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

No comments: