Thursday, March 01, 2012

Pol piniwn Gwyl Dewi y Bib

Gan fod y blog yma wedi dadlau yn gyson tros annibyniaeth, ac wedi dadlau hefyd y dylai cefnogaeth di amwys i'r cysyniad fod yn un o brif nodweddion arweinydd newydd y Blaid, mae'n debyg y dyliwn ymateb i bol y Bib heddiw. Un o ganfyddiadau'r pol oedd mai 7% yn unig sydd o blaid annibyniaeth ar hyn o bryd, tra y byddai 12% yn gefnogol petai'r Alban yn torri ei chwyd ei hun.  Mae'r pol hefyd yn dangos bod mwyafrif clir eisiau mwy o hunan lywodraeth i Gymru oddi mewn i'r DU.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi fy mod yn derbyn bod y ffigyrau yn weddol gywir yng nghyd destun holiadur sy'n gosod amrywiaeth o opsiynau.  Mae'n weddol glir mai lleiafrif cymharol fach sydd o blaid annibyniaeth ar hyn o bryd.

Ond mi fyddwn hefyd yn ychwanegu bod rheswm clir am y ffigyrau isel hynny - 'dydi'r ddadl tros annibyniaeth ddim yn cael ei chynnig ar lefel wleidyddol yng Nghymru.  Mae'n wir bod annibyniaeth yn amcan hir dymor i Blaid Cymru, ond 'dydi hynny ddim yn gyfystyr ag adeiladu achos tros annibyniaeth i Gymru.  Yn wir byddwn yn dadlau bod cael annibyniaeth fel amcan, ond ymatal rhag dadlau trosto, yn niweidiol i'r Blaid ac i'r ddelfryd o annibyniaeth fel ei gilydd. 

'Dydi'r rhan fwyaf o bobl ddim yn meddwl mewn ffordd ideolegol - 'dydyn nhw ddim yn tueddu i gefnogi syniadaethau er eu mwyn eu hunain.  Dyna pam nad ydi pobl yn tueddu i fod yn frwdfrydig tuag at gysyniadau sydd a'u henwau yn gorffen efo aeth - cyfalafiaeth neu sosialaeth er enghraifft.

Ond mae pobl yn ymateb i ddadleuon mwy diriaethol.  A dyna'r tir priodol i ddadleuon o blaid annibyniaeth - tir diriaethol.  Os ydi annibyniaeth yn cael ei hyrwyddo fel erfyn i fynd i'r afael a phroblemau sy'n effeithio ar ein bywydau diwrnod i ddiwrnod, mae'n haws o lawer cael y maen i'r wal.  Felly os ydi annibyniaeth yn cael ei bortreadu fel ffordd o ddelio a phroblemau megis diweithdra, cyflogau isel, diffyg buddsoddiad, rhyfeloedd di ddiwedd ac ati, bydd y gefnogaeth iddo yn tyfu. 

Ac mae'n sicr yn bosibl adeiladu dadleuon felly - trethi corfforaethol anghystadleuol o uchel sy'n atal buddsoddiad gan gwmniau tramor yma, mae perthynas efo'r Undeb Ewropiaidd sy'n niweidiol i ddiwydiannau cynhyrchu yn ddrwg i Gymru ond yn well i Loegr, polisiau tramor gorffwyll o fusneslyd ac ymysodol sy'n arwain at ymosodiadau terfysgol a marwolaethau cyson milwyr ifanc. Neu i roi pethau mewn ffordd arall, dylid dadlau y byddai cael yr hawl i reoli ein bywyd cenedlaethol yn rhoi'r gallu i ni fynd i'r afael efo'n problemau cenedlaethol - a thrwy hynny efo'n problemau unigol.

'Dwi erbyn hyn yn gwbl hyderus mai un o'r ddwy ddynes yn y ras fydd arweinydd nesaf y Blaid - ac mae'r ddwy wedi bod yn gyson a di amwys gefnogol i annibyniaeth.  Bydd y Blaid felly yn debygol o fagu proffeil sy'n fwy amlwg gefnogol i annibyniaeth.  Mae hynny'n dda - ond mae'n hanfodol bod y gefnogaeth honno yn cael ei mynegi yn nhermau datrysiadau ymarferol i broblemau materol, diriaethol. Os digwydd hynny bydd y ganran sy'n cefnogi annibyniaeth yn cynyddu.  Os bydd annibyniaeth yn cael ei fynegi fel delfryd nad oes iddi bwrpas ymarferol - fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, bydd yn faen melin o gwmpas gwddf yr arweinyddiaeth newydd.  

6 comments:

brwynen said...

Cytuno'n llwyr

Cai Larsen said...

Un peth y byddwn yn ei ychwanegu ydi hyn - petai'r pol yn gofyn - 'Ydych chi o blaid annibyniaeth i Gymru rhywbryd yn y dyfodol?' - 'dwi'n meddwl y byddai'r ganran 'Ydw' yn uwch.

BoiCymraeg said...

@menaiblog 7:37 - Rwy'n cytuno. Mae pobl hefyd yn debygol o ddewis ffordd ganol rhwng dwy begwn pan y'i cynnigir iddyn nhw - yn y pol roedd gan bobl 5 opsiwn gwahanol; pe bai hi wedi cynnig dim ond "Annibyniaeth rywbryd" neu "unodod am byth" mi fyddwn i'n disgwyl i mwy o bobl bleidleisio dros annibyniaeth; ond roedd 3 opsiwn arall yn y pol yma, ac mi bleidleisiodd bron hanner dros mwy o bwerau i'r cynulliad.

BoiCymraeg said...

Da hefyd yw gweld bod y canran o blaid annibyniaeth yn cynyddu'n sylweddol iawn pan fo'r Alban yn cael annibyniaeth. Os fydd yr Alban yn ennill annibyniaeth ac bod consensws bod y annibyniaeth hwnnw'n llwyddianus, mi fyddai'n anoddach i uniolaethwyr ddadlau y byddai annibyniaeth "jyst ddim yn gweithio".

David said...

'dydi'r ddadl tros annibyniaeth ddim yn cael ei chynnig ar lefel wleidyddol yng Nghymru'

Yn hollol.

Os na wnawn ni roi'r dewis i bobl ac esbonio'r peth yn iawn, all pobl ddim bod o'i blaid e.

Pan ddechreuwn ni esbonio sut beth yw annibyniath i Gymru, sut bydd Cymru annibynnol yn edrych, bydd y gefnogaeth yn codi.

Anonymous said...

menaiblog 7:37 a Welshguy 9:56
- Dau bwynt da iawn.

Ydych chi wedi gweld y post ar flog Syniadau sy'n awgrymu mai ar y chwith y mae'r rhan fwyaf o bleidleisiau pro-annibyniaeth i'w cael? Dwi ddim wedi edrych ar yr ystadegau sydd ganddo'n fanwl, ond o'r hyn ddeallaf i, mae'n dangos bod rhyw 7% o'r rhai sydd fel arfer yn pleidleisio Llafur yn dweud eu bod nhw o blaid annibyniaeth. Mae hyn yn nifer nid bychan o bleidleisiau! Dyma rai y dylai Plaid Cymru fod yn eu targedu, yn bendant, yn ogystal â phleidleiswyr eraill Llafur sydd eisiau gweld mwy o rym i'r Cynulliad.

Mae'n eitha rhyfedd meddwl am yr holl bobl pro-annibyniaeth yma yn pleidleisio i Lafur. Byddai'n dda gwneud ymchwil i weld pwy ydyn nhw, ble maen nhw, pam nad ydyn nhw'n pleidleisio i Blaid Cymru, ac ati.

Iwan Rhys