Saturday, November 12, 2011

Pam na fydda i byth yn gwisgo pabi

Mi fydd newyddion fory yn llawn hanesion am seremoniau cofio ar hyd a lled Cymru - a thu hwnt.  Mi fydd pobl yn hel o gwmpas cof golofnau o Gaergybi i Gaerdydd i gofio meirw rhyfeloedd y ganrif ddiwethaf a'r ganrif bresennol.  Mae'r seromoniau fel rheol yn dennu cyn aelodau o'r lluoedd diogelwch, aelodau presennol o'r lluoedd hynny, pwysigion lleol a chenedlaethol a'r camerau teledu wrth gwrs.  'Dydw i ddim yn un o gefnogwyr y seremoniau, a fydda i byth yn gwisgo pabi - dyma pam.

Penblwydd diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n pennu dyddiad y cofio.  Fedra i ddim gweld unrhyw reswm pam y byddai neb eisiau coffau y Rhyfel Byd Cyntaf yn y ffordd yma - rhyfel rhwng ymerodraethau trachwantus lle bu miliynau farw er mwyn sefydlu'r amodau ar gyfer Comiwnyddiaeth a Natsiaeth a'r rhyfel gwaeth hyd yn oed a ymladdwyd ychydig ddegawdau yn ddiweddarach.  Rhyfel a laddodd blant a wyrion y sawl a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn eu miliynau.  Mi fyddwn wedi tybio mai'r wers briodol i'w chymryd o ryfel 1914 - 1918 ydi bod ymerodraethau jingoistaidd yn arwain at erchyllderau ysgeler.  Nid dyna'r wers y bydd seremoniau 'fory yn eu dysgu i'r sawl fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau, a'r sawl sydd yn eu gwylio ar y teledu - mi fyddan nhw'n cael yr argraff bod rhyw fath o bwrpas cadarnhaol i'r holl beth.  A 'doedd yna ddim - dim oll.

Mae'n gwbl briodol i bobl fod eisiau coffau aelodau o'u teuluoedd a chyfeillion sydd wedi eu lladd mewn rhyfeloedd wrth gwrs, ond y drwg efo'r pabi a'r seremoniau cofio mae'r symbol yn rhan ohonynt ydi eu bod yn gwneud mwy na chofio'r meirw, maent yn rhamateiddio marwolaethau oedd yn aml yn gwbl erchyll -a maent o ganlyniad yn bropoganda milwrol - a thrwy estyniad maent yn bropoganda ar gyfer y lluoedd milwrol presenol. 

Ac waeth i ni fod yn onest am y peth - at ei gilydd mae'r lluoedd arfog Prydeinig wedi bod yn broblem sylweddol i weddill y byd trwy gydol eu hanes.  Maent wedi cael eu defnyddio am ganrifoedd i ymosod ar wledydd eraill ar hyd a lled y Byd, yn aml am resymau sy'n hynod, hynod anodd i'w cyfiawnhau heddiw.  A fyddai yna unrhyw un mewn difri yn ceisio cyfiawnhau mynd i ryfeloedd sylweddol efo Tseina er mwyn gorfodi'r wlad anffodus honno i fewnforio opiwm er enghraifft?  Ac mae'r duedd Brydeinig o ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd wedi parhau trwy'r ganrif ddiwethaf, ac ymwthio i mewn i hon - mae'r ymerodraeth wedi mynd, ond mae seicoleg  ymerodraethol yn fyw ac yn iach, ac yn aml yn gyrru polisi tramor y DU.  'Dydi'r ffaith bod y DU wedi bod ar  ochr 'gywir' hanes ambell waith (RhB2 er enghraifft) ddim yn newid y gwirionedd sylfaenol yma.


Yn fy marn bach i, y coffad gorau i feirwon milwrol y DU fyddai symud oddi wrth y feddylfryd ei bod yn hanfodol i Brydain ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd.  Byddai hyn yn arwain at normaleiddio'r lluoedd arfog - hy eu gwneud yn llai a'u strwythuro i ateb gofynion amddiffynol - fel y gwneir yn y rhan fwyaf o wledydd eraill.

Os ydi pobl eisiau coffau'r meirw mae hynny'n angen cwbl briodol a dynol wrth gwrs - ond byddai'n llawer gwell gwneud hynny mewn modd sydd ddim yn cyfiawnhau traddodiad milwrol na ddylid ei gyfiawnhau.

9 comments:

Anonymous said...

Clywch Clywch - teimlo'n anghyffyrddus iawn yn Asda Pwllheli heddiw. Roedd y lle yn llawn milwyr a chadets yn pwshio pabis.

Mae'r ffaith fod y cofio am y miloedd a orfodwyd i ymladd ac a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei gyplysu gyda chefnogaeth i filwyr heddiw sy'n derbyn cyflog gan y llywodraeth i lofruddio pobl mewn gwledydd pell yn enw oêl a chynnal y facade o rym militaraidd Prydeinig yn warthus.

Nid "heroes" yw pobl sy'n fodlon lladd pobl eraill yn enw brenhines Lloegr. Mae mor drist gweld pobl ifanc Pen Llŷn a Chymru yn cael eu hudo gan hysbysebion gwarthus Army Job a'r iwnifforms crand sydd wastad ar parêd mewn gemau rygbi rhyngwlafol ac wrth y til yn Asda.

Anonymous said...

Diawl. On i ddim yn meddwl y byddai'n bosibl i rhywun fod mor hunan-gyfiawn mewn un erthygl yn unig.

Anonymous said...

anon 5.44. Yn anffodus mae na amryw o gwmpas. Hawl i bawb ei farn diolch ir fyddin.

Cai Larsen said...

Anon 5:54 Gan nad ydw i prin yn cyfeirio ataf fy hun yn y blogiad, hwyrach dy fod yn chwilio am derm arall yn hytach nag 'hunan gyfiawn' i'w disgrifio.

Anon 6:32 Mae record y lluoedd diogelwch o amddiffyn hawliau democrataidd yn gymysg - a bod yn garedig.

Anonymous said...

anon 6:32 Diddorol fod hysbysebion Army Jobs yn canolbwyntio ar yr adrenalin rush o yrru tanks yn hytrach na amddiffyn hawlia yn de?

Cai Larsen said...

Nid amddiffyn hawliau ydi pwrpas y lluoedd diogelwch, ond amddiffyn buddiannau'r wladwriaeth. Weithiau mae amddiffyn hawliau yn sgil effaith o hynny, ond yn aml dydi o ddim.

Ceir y ddeuoliaeth yma trwy gydol hanes y lluoedd arfog. Er enghraifft o fynd yn ol i ddyddiau cynnar milwra proffesiynol ym Mhrydain, mae'n bosibl dadlau bod y New Model Army yn amddiffyn hawliau rhai pobl pan roeddynt yn ymladd y rhyfel cartref. Ond hawliau pwy oeddynt yn eu hamddiffyn pan aethant ati i greu unbeniaeth milwrol? Oedden nhw yn amddiffyn hawliau sifiliaid Gwyddelig pan roeddynt yn eu lladd wrth y mil?

Amddiffyn buddiannau'r wladwriaeth oeddent bryd hynny - pan mai nhw oedd y wladwriaeth - a dyna maen nhw yn ei wneud heddiw.

Anonymous said...

Wrth gwrs mae rhyfeloedd yn erchyll ond mae'n well gen i fod Hitler wedi ei orchfygu . Tydi hi ddim yn fyd perffaith o bell ffordd ond hwyrach yn well na fasa hi wedi bod.

Cai Larsen said...

Hmm

Anonymous said...

abc