Saturday, November 26, 2011

Pam bod agwedd y DUP tuag at Babyddion wedi newid

Mae'n debyg gen i mai croeso fydd araith ddiweddar Gweinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon. Peter Robinson yn ei chael, gyda'r pwyslais ar gyd weithio rhwng cymunedau Gogledd Iwerddon, parch at bawb, cynhwysiad ac ati.



Mae'n anodd credu weithiau bod plaid fel y DUP, a adeiladwyd ar y canfyddiad mai endid Protestanaidd oedd y dalaith ac mai brad oedd cyfaddawdu gydag elfennau nad oedd yn credu hynny, wedi teithio mor bell.

Ond mae'n hawdd iawn deall pam - fel mae'r ffigyrau cyfrifiad isod o grefydd plant yn ysgolion Gogledd Iwerddon yn ei ddangos, lleiafrif plant y dalaith sydd yn Brotestaniaid, ac mae hynny wedi bod yn wir ers  naw degau y ganrif ddiwethaf.  Lleiafrif fydd pobl o gefndir Protestanaidd yn y dalaith yn y dyfodol, ac oni bai bod y pleidiau unoliaethol yn llwyddo i ennyn cefnogaeth Pabyddion, mae'n bosibl hyd yn oed na fydd y dalaith yn dathlu ei phenblwydd yn gant oed yn 1921.   


Pupils at schools in 2010/11 by religion
Northern Ireland Totals






 Protestant   Catholic   Other religions/No Religion/Not Recorded   TOTAL 
Voluntary and Private Pre-school Education Centres1         2,194            3,609                1,796             7,599





Nursery Schools 
Full-time  N/A   N/A   N/A              4,033
Part-time  N/A   N/A   N/A              1,873
TOTAL NURSERY SCHOOLS         2,231            2,703                   972             5,906





Primary Schools 
TOTAL NURSERY AND RECEPTION PUPILS4         2,648            4,555                1,796             8,999
Primary schools (year 1 - 7)4        55,689           78,003               18,641         152,333
Gramar school prep Depts.(year 1 - 7)          1,110                221                    788             2,119
TOTAL YEAR 1 - 7 PUPILS       56,799         78,224              19,429         154,452





TOTAL PRIMARY PUPILS       59,447         82,779              21,225         163,451





Post Primary Schools
Secondary (non grammar) schools        32,012           46,614                 7,143           85,769
Grammar Schools         25,006           29,735                 7,392           62,133
TOTAL POST PRIMARY PUPILS       57,018         76,349              14,535         147,902





Special Schools TOTAL         1,719            1,862                   877             4,458
Hospital Schools  TOTAL  N/A   N/A   N/A                  200
Independent Schools  2 TOTAL  N/A   N/A   N/A   N/A 





ALL SCHOOLS GRAND TOTAL  N/A   N/A   N/A          321,917





TOTAL SCHOOLS AND PRE-SCHOOL EDUCATION CENTRES 4  N/A   N/A   N/A          329,516
Source: NI school census.




4 comments:

Dewi Harries said...

Mae'n sialens i'r ddwy ochr - braf yw gweld SF yn gwahodd Uniolaethwyr i'w cynhadleddau. O Peter Robinson hwn sy'n rhyfedd:
"We will support sensible reform of the Prison Service but let me make it clear, we will ensure that the Crown and the Royal title are preserved. A decade ago we were powerless to prevent the implementation of the Patten Report, but we’re not powerless now."
Yr un hen rwtsh.

Anonymous said...

Mae hwn yn ymddangos yn gam craff gan y DUP. A dweud y gwir, roeddwn wedi darllen bod mwyafrif plant ysgolion GI yn Gatholigion ers bron i genhedlaeth ar blog y diweddar 'Horseman'.

Ond o edrych ar y ffigurau eto, OK, mae mwy o Gatholigion na Phrotestaniaid ond beth yw'r 'other'? Faswn i'n credu fod yr 'other' yn fwy tebygol o fod yn rhyw fath o agnostig/seciwlar/digrefydd ... ond nid Catholig. O gofio hynny, yna, mae tua 50% a 50% hyd y gwela i (neu ydw i wedi cam-ddarllen).

Dwi'n gwybod mai bychan yw'r Catholigion sy'n pleidleisio i'r DUP neu'r UUP neu'r Alliance ... ond oes garanti y bydde Catholigion yn pleidleisio dros uno â'r de?

Mewn ffordd, ond rhyw 10% o bleidlais y Catholigion sydd angen i'r pleidiau unoliaethol neu o leiaf pleidlais ar y ffin sydd angen ennill am genhedlaeth dda neu fwy.

Mae SF ffein wedi colli tric fan hyn ac wedi rhoi'r agenda i'r DUP. Wrth hafalu'r DUP gyda'r system wladol, seciwlar, SF a'r catholigion sy'n edrych yn 'gul' am fynny aros yn eu hysgolion eu hun a pharhau â'r 'apartheid' crefyddol (rhoi geiriau yng nghegau pobl ydw i fan hyn).

1 - 0 i'r Brits ddweda' i.


M.

Cai Larsen said...

Mae'n gyffredin i Robbo siarad allan o ddwy ochr ei geg, fel mae i wlewidyddion eraill GI - mae'n siarad efo dwy gynulleidfa wahanol.

Mae'r Other yn gymysgedd o bobl - rhai o grefyddau anghristnogol, ond y rhan fwyaf yn bobl sydd ddim eisiau diffinio eu hunain mewn modd crefyddol.

Nid crefydd pobl sy'n rhoi eu barn wleidyddol wrth gwrs - ond os ydynt o gefndir arbennig maent yn tueddu i fod a daliadau crefyddol tebyg a daliadau gwleidyddol tebyg.

Yn 2001 rhannodd ystadegwyr swydda'r cyfrifiad y categori Other i ratio 7:4 o blaid cefndir unoliaethol. Dydw i ddim yn gwybod pa mor gywir oedd yr ymarferiad.

Dydi'r berthynas rhwng SF a'r Eglwys Babyddol erioed wedi bod yn arbennig o dda, ac mae'r blaid honno wedi cefnogi agor ysgolion intergreiddiedig. Serch hynny does yna ddim llawer o alw gan rieni am ysgolion felly.

Anonymous said...

Beth bynnag sydd tu ol i be wedodd PR - dwi'n croesawu o. Dwi'n siwr petai chi yn tynnu label "United Ireland" a "Unionism" o bleidiau G.I fysa llawer or DUP yn pledleisio dros SF a rhai o SF eisiau pleidlesio dros y DUP.

Yn fy marn i OS wneith G.I uno gyda'r gweriniaeth- neith o ddigwydd mewn ffordd organig, naturol. Felly yn fy marn i, petai SF yn curo rhan fwyaf or seddi yn Stormont- fydd na ddim rhuthro mawr fel sydd yna yn yr Alban.

Ac yn fy marn i (eto) dwin meddwl mai Cymru ar Alban neith uno yr Iwerddon. Oherwydd dwin meddwl wneith annibyniaeth ddod i ni yn gyntaf, na i bobol G.I bleidliesio dros fod yn rhan or Iwerddon (hyd yn oed os ydy nifer y catholigion yn cynyddu yn syfrdanol).

Dwim yn meddwl bod neb llawer eisiau newid yn GI- dwi nawr yn gallu dweud fy mod i yn mynd i Belfast i siopau a sbio o gwmpas ambell o weithiau ac yn mwynhau oherwydd man ddinas 'laid back' a golygus- rhywbeth na fyswn i yn gallu i ddeud 20mlynedd yn ol.