Mi fydd hi'n hynod ddiddorol gweld os bydd newidiadau arfaethiedig y Toriaid i ffiniau etholiadol y DU yn mynd rhagddynt. Mae'r argymhellion y Comisiwn Ffiniau eisoes wedi eu cyhoeddi yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond bydd rhaid disgwyl tan fis Ionawr i gael gweld beth sydd ar y gweill yng Nghymru.
Mae'n anodd dod o hyd i ddadl resymegol yn erbyn lleihau'r nifer o aelodau seneddol, nag yn erbyn gwneud maint y gwahanol etholaethau yn fwy tebyg i'w gilydd. Wrth safonau rhyngwladol mae gan Dy'r Cyffredin lawer iawn, iawn o aelodau, ac mae'n weddol boncyrs bod rhai aelodau seneddol yn cynrychioli ddwy waith cymaint o etholwyr nag aelodau seneddol eraill.
Mae hefyd yn gwneud synnwyr o ran y Blaid Geidwadol - y nhw fyddai'n elwa o'r newidiadau ar lefel Brydeinig (er - fel dwi wedi dadlau yn y gorffennol - nhw fydd yn colli yng nghyd destun Cymru) - ond bydd y newidiadau yn ei gwneud yn hynod anghyfforddus i lawer o aelodau seneddol unigol Toriaidd. Yn aml iawn mae ystyriaethau hunanol yn bwysicach nag unrhyw ystyriaethau eraill - ac mae'r sgandal dreuliau wedi dangos i ni pa mor effeithiol ydi llawer o Doriaid (ac eraill wrth gwrs) am bluo eu nythod eu hunain.
Bydd y gwrth bleidiau yn pleidleisio yn erbyn yr argymhellion mewn dwy flynedd. Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf na fyddant ar eu pennau eu hunain - ac o ganlyniad bydd etholiad cyffredinol 2015 yn cael ei ymladd ar yr un ffiniau ag etholiad cyffredinol 2010.
No comments:
Post a Comment