Mae gen i ofn fy mod yn anghytuno efo sylwadau Bob Parry ynglyn a'r newidiadau sydd ar y gweill i Gyngor Mon.
Dau o'r prif newidiadau arfaethiedig ydi lleihau'r nifer o gynghorwyr o 40 i 30, a chreu wardiau aml aelod ar draws yr ynys. 'Dydi 30 o aelodau ddim yn 'rhy ychydig' a fyddai ganddyn nhw ddim gormod o waith - chwe deg o aelodau Cynulliad sydd yng Nghymru, ac mae eu hetholaethau nhw'n llawer iawn mwy poblog na wardiau Ynys Mon.
Yn bwysicach bydd wardiau mwy yn ei gwneud yn fwy anodd i ymgeiswyr annibynnol sefydlu teyrnasau bach lleol trwy ddod i 'nabod pawb yn eu wardiau lleol a gwneud rhywbeth neu'i gilydd i'w plesio nhw i gyd. Yn wir bydd y drefn newydd yn debygol o gryfhau'r pleidiau gwleidyddol ar yr ynys - a dyna'n union sydd ei angen ar wleidyddiaeth lleol yn Ynys Mon.
'Dydi'r traddodiad annibynnol ddim wedi methu ym mhob man yng Nghymru, ond mae'r fersiwn o'r traddodiad hwnnw a arferir yn Ynys Mon wedi troi'r cyngor yn destun gwawd a sbort yng ngweddill Cymru. Mae'r newidiadau am ei gwneud yn haws o lawer i bobl Mon ysgwyd llwch y gorffennol oddi ar eu traed - a gorau po gyntaf y cant eu gweithredu.

3 comments:
Cyngor y Bradwyr, mae amser i'r hen grwyn mynd ona a gadael pobol ifanc ac honest rhedeg y lle.
Yn hollol gytun. Os bys gen y cynghorwyr presennol unrhyw fath o barch tuag atom, bysa nhw i gyd yn sefyll i lawr a dweud 'tyda ni heb gyrraedd unrhyw safon, sori.'
Ond, yn ol i realiti...
Unrhywbeth i adael gwaed newydd i fewn- dwi'n cytuno.
Ond dwi'n HYNOD o bryderus bod yr etholiad wedi cael ei ohirio.... gan gofio, nad oes corff etholedig yn rhedeg y cyngor.
A tydy y Comisiynwyr ddim wedi bod yn gret- wedi anghofio talu bil trydan, a felly wedi costio y cyngor £300k, heb dod a toriadau i fewn, fel oedd y cyngor wedi yn wreiddiol.
Post a Comment