'Rwan peidiwch a fy ngham ddeall, 'dydi'r ffaith i Gwilym Owen gael tipyn o barti - neu rhyw ddigwyddiad arall a arweiniodd at werth £719.25 o fwyta ac yfed - cyn gadael y Bib yn poeni dim arna i. Dim, dim oll. Zilch.
'Dydi o ddim yn poeni rhyw lawer arnaf fy mod wedi cyfrannu'n anuniongyrchol at y digwyddiad gan i Keith Jones - pennaeth y Bib yng Nghymru ar y pryd - roi'r £719.25 ar ei ffurflen dreuliau.
Ond mi fyddwn, serch hynny yn hoffi tynnu sylw at y ffaith bod partion ymddeoliad yn digwydd yn weddol gyson ar hyd a lled Cymru, a'r drefn arferol ydi i'r sawl sy'n mynychu dalu am ei fwyd a'i ddiod ei hun, yn hytrach na disgwyl i bobl eraill dalu am y dywydedig fwyd a diod. Yr unig eithriad i hyn ydi bod y sawl sy'n mynychu yn talu rhyngddynt am fwyd a diod y sawl sy'n ymddeol fel arfer.
Mewn amserau caled efallai y gallai uchel swyddogion y Bib ystyried talu am eu bwyd a'u diod eu hunain - wedi'r cwbl nid bychan ydi eu cyflog - fel y gellir weld yma.

No comments:
Post a Comment