Wednesday, November 30, 2011

Cyflogau rhanbarthol - ras am y gwaelod

Mae Carwyn Jones yn gywir i nodi y byddai gweithredu cynlluniau llywodraeth y DU i gyflwyno trefn o dal rhanbarthol yn arwain at lai o gyflog i weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru.  Byddai pennu cyflog yn ol rhanbarth yn siwr o adlewyrchu cyflogau sector preifat lleol, ac mae cyflogau'r sector preifat yn isel yng Nghymru.

Ond yr hyn nad ydi Carwyn yn ei ddweud ydi y byddai'r newid hefyd yn effeithio ar weithwyr y sector preifat.  Mae camau diweddar  llywodraeth Cameron -rhewi cyflogau, cynyddu faint o bres sy'n rhaid i weithwyr ei roi at eu pensiwn, gwneud pensiynau yn llai atyniadol, yn ogystal a difa sicrwydd cyflogaeth eisoes wedi gwneud gweithio yn y sector cyhoeddus yn llai atyniadol.  Byddai lleihau cyflogau ymhellach yn arwain at wneud y sector yn llai atyniadol fyth yng Nghymru ac mewn rhannau tlawd eraill o'r DU.

Effaith hyn yn y pen draw fydd hel pobl o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat -a bydd hynny yn arwain at fwy o gystadleuaeth am swyddi yn y sector hwnnw.  Lle mae cystadleuaeth yn llym am swyddi  gyrrir cyflogau i lawr, a gwneir amodau gwaith yn llai ffafriol.  Iawn i'r cyflogwr, ond gwael i'r cyflogedig.

Os ydi llywodraeth y DU eisiau gwella amodau i gyflogwyr mewn rhanbarthau tlawd o'r DU, byddai caniatau gosod treth corfforaethol is yn yr ardaloedd hynny yn ffordd llawer mwy effeithiol o fynd ati.  Ond fydda i ddim yn dal fy ngwynt ynglyn a'r posibilrwydd yna - mi fyddai hynny yn niweidiol i'r rhannau hynny o'r DU sy'n cael eu cynrychioli'n bennaf gan ASau Toriaidd - y rhannau cyfoethog.  Mae'n llawer gwell o'u safbwynt nhw i gynnal ras am y gwaelod yn y rhanbarthau tlawd, a mynd ati i lleoli diwydiannau cyflog isel yn dwt ac yn ddel yn y rhanbarthau hynny.  

5 comments:

Anonymous said...

Pad a bwrw bai ar y llywodraeth yn Llundian. Lle Carwyn Jones yw hi i ymladd dros yr hawl i newid trethi corfforiaethol. Wedi'r cwbwl, ef yw Prif Weinidog Cymru sydd wedi addo i sefyll lan dros Gymru. Rwy'n aros.

Anonymous said...

"Effaith hyn yn y pen draw fydd hel pobl o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat -a bydd hynny yn arwain at fwy o gystadleuaeth am swyddi yn y sector hwnnw. Lle mae cystadleuaeth yn llym am swyddi gyrrir cyflogau i lawr, a gwneir amodau gwaith yn llai ffafriol."

Efallai y gwneith a wneud i rhai ohonynt fynd yn hunan-gyflogedig? Byddai hynny yn beth da.

menaiblog said...

Mae yna lawer o bobl yng Nghymru sy'n hunan gyflogedig eisoes - yn arbennig felly yn y Gymru wledig. 'Dydi hynny heb arwain at gyfoeth.

Anonymous said...

Mae nhw'n siwr o fod yn gwneud elw neu ni fyddent yn dal i fod mewn busnes. Mae eisiau mwy ohonynt. Ac yn wir, mwy o gwmnioedd canolig a mawr. Byddai rhai yn dod gyda gostyngiad mewn trethi cofforiaethol. Ond yn fwy nag un peth, rwy'n gwahaniaethu wrtho ti. Dwi o'r farn na ddaw Cymru byth yn 'gyfoethog' tra bod cymaint o'u phobl yn dibynnu ar bwrs y wlad. Beth yw'r hen ddywediad Saesneg...? "Necessity is the mother of invention".

ON Un o'r llefydd mwyaf llewyrchus wedi cwymp comiwnyddiath oedd Gwlad Czek. Nid oedd ganddi iaith oedd yn un rhyngwladol ac yn wahanol i'r ddwyrian yr Almaen, nid oedd ganddi wlad arall hy Gorllewin yr Almaen i'w helpu. Rhaid oedd arnofio neu siddo. Ac mi wnaeth nhw fynd o nerth i nerth. Tra bod Cymru yn yr un twll ers degawdau.....os nad canrifoedd.

Ifan Morgan Jones said...

Efallai petai y sector gyhoeddus yn talu llai fe fyddai yna bobol clyfar a thalentog yn gadael er mwyn sefydlu busnesau neu gyfrannu at fusnesau sy'n bodoli yn barod? Does dim cymhelliad dros wnewud hynny os yw'r sector gyhoeddus yn talu cyflogau llawer uwch.