Wednesday, November 30, 2011

Gweld y botel hanner llawn

Mae'n debyg bod y duedd o weld potel hanner llawn yn hytrach nag un hanner gwag yn un digon clodwiw - ac iach o safbwynt seicolegol.

Ond, iach neu beidio, mae gen i ofn bod Golwg360 wedi mynd a'r duedd honno braidd yn rhy bell ddoe trwy osod stori efo'r pennawd Osborne:£216m  ychwanegol i Gymru. ar dop eu gwefan am lwmp go lew o'r dydd.

Ag ystyried bod datganiad Osborne yn debygol o arwain at newidiadau hynod niweidiol i'r sector cyhoeddus, a bod Cymru mor ddibynnol ar swyddi yn y sector hwnnw a gwariant cyhoeddus ehangach, piso dryw yn y mor - neu er mwyn cynnal trosiad - diferyn neu ddau o win yng ngwaelod potel wag ydi £216m o arian cyfalaf tros dair blynedd.

3 comments:

Anonymous said...

Nid wyf yn gweithio yn y sector gyhoeddus ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn gofidio am y bwriad i gyfwyno tal rhanbarthol. Nid yw hyn yn gwneud synwyr yn fy marn i.

Anonymous said...

mae tal rhanbarthol er hynny yn un ffordd o hwyluso trosglwyddiad pwer dros yr hyn sy'n gyrru streiciau heddiw i'w gwir gartref, sef Cynulliad Cymru. Hyn, er hynny, ydy'r unig beth positif am y syniad!

Anonymous said...

Ond yn anffodus....oherwydd hyn, mi fydd twpsod Cymru yn heidio fel lemmings i'r gorlan 'Welsh Labour'. Ac ni fydd fawr o ddim yn digwydd dan y rhai hynny! :-( Catch 22