Sunday, November 20, 2011

Caerdydd, Caerdydd

Dwi’n digwydd bod yng Nghaerdydd ar hyn o bryd – ac efallai ei bod werth ‘sgwennu pwt bach am y newid sydd wedi bod yma tros y blynyddoedd diweddar.




Yn 1978 y cefais fy hun yn y ddinas am y tro cyntaf – roeddwn newydd ddechrau canlyn y Mrs, ac mae hithau’n un o Dreganna. I rywun oedd wedi ei eni a’i fagu ochrau Caernarfon roedd y lle yn ymddangos yn rhyfeddol o Seisnig. Eithriad prin fyddai clywed rhywun yn siarad Cymraeg heb fynd i dafarn ‘benodedig Gymraeg’ – roedd y Conway a’r Half Way yn dennu Cymry Cymraeg Gorllewin Caerdydd (a'r tu hwnt) bryd hynny.

Ar y pryd roeddwn yn rhedeg mewn rasus ffordd, a byddwn yn aml yn ymarfer trwy redeg ar hyd strydoedd Gorllewin Caerdydd, ac i dorri ar yr undonedd byddwn yn chwarae gem fach – cyfri erials teledu ar ben y tai. Roedd dwy ffordd o dderbyn rhaglenni teledu yng Nghaerdydd ar y pryd – trwy gyfeirio eich erial at fast teledu’r Mendips, neu trwy ei gyfeirio at fast y Wenfo. Byddai anelu’r erial at y Mendips yn eich galluogi i osgoi rhaglenni Cymraeg, ond byddai hefyd yn eich gorfodi i dderbyn rhaglenni newyddion lleol fyddai’n son am injan dan yn achub cath oddi ar goeden yn Keynsham (‘dwi ddim yn tynnu coes) ac am hynt a helynt clwbiau rygbi Bryste a Gloucester.

Byddai rhwng 90% a 95% o’r erials wedi eu gosod fel eu bod yn cyfeirio tua’r Mendips. Roedd y rhan fwyaf o’r gweddill gyda dau erial un i'rMendips a'r llalli'r Wenfo. Roedd yna ambell un wedi ei gyfeirio at y Wenfo yn unig. Am rhyw reswm ‘dwi’n dal i gofio lleoliad nifer o’r rheiny – roedd y lle prydau parod Tseiniaidd sydd wrth ymyl y Clive Arms yn eu plith.

Roeddwn i’n meddwl am y dyddiau hynny y bore ‘ma wrth gerdded trwy John Lewis a chlywed pedwar neu bump grwp gwahanol yn siarad Cymraeg a'igilydd. Ac mi fydda i’n meddwl am y dyddiau hynny hefyd pan fyddaf yn galw mewn tafarn yn Nhreganna neu Bontcanna – mae bellach bron yn eithriad i beidio a chlywed y Gymraeg gyda’r nos ar benwythnos.

Rwan ‘dwi’n gwybod bod yna gwestiynau ynglyn a pha mor barhaol ydi’r adfywiad yng Nghaerdydd, a ‘dwi’n gwybod bod mewnfudo i’r ddinas o’r broydd Cymraeg yn rhan o’r rheswm am y newid. Ond siawns ei fod yn rhywbeth i’w ddathlu serch hynny. Mae’n bwysig i ddyfodol ieithoedd lleiafrifol nad ieithoedd sydd wedi eu cysylltu ag ardaloedd gwledig ac anghysbell ydynt. Gan fod mwyafrif llethol poblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd trefol neu ddinesig, ‘dydi proffeil gwledig ddim yn un da i’r iaith ei magu. Mae yna nifer o drefi yng Nghymru lle ceir defnydd sylweddol o’r iaith, ac mae yna ddefnydd sylweddol o’r Gymraeg yng Nghaerdydd y dyddiau hyn hefyd. Mae’r datblygiad yn un hynod gadarnhaol.

12 comments:

Anonymous said...

Wnes ti anghofio ddweud am gyfeiriad yr aerieli erbyn hyn?

Cai Larsen said...

Naddo - fedri di ddim dweud erbyn hyn - mae pobl yn defnyddio cebl a ballu.

Anonymous said...

Y darganfyddiad mwyaf trawiadol oedd dy fod yn arfer rhedeg!!

Cai Larsen said...

Dwi'n dali redeg - ond ddim yn gystadleuol.

Anonymous said...

Mae'r newid yn gadarnhaol, ond dylid cofio mai pobl o'r fro Gymraeg y clywir yn nhafarndai Canton a crachach y ddinas yn John Lewis ac M&S Croes Cwrlwys. Saesneg yw'r iaith a siaradir o ddydd i ddydd gan 95% o ddisgyblion a chyn-ddisgyblion ysgolion Cymraeg y ddinas.

Cai Larsen said...

'Mae'r newid yn gadarnhaol, ond dylid cofio mai pobl o'r fro Gymraeg y clywir yn nhafarndai Canton'

Ond mae mwy iddi na hynny siawns - 'dwi'n siarad Cymraeg efo nifer go dda o bobl o Gaerdydd - y wraig yn eu plith - sydd wedi eu magu yn y ddinas.

Anonymous said...

Mae'r adfywiad dim ond yn adlewerchi dirywiad yn y Broydd Cymraeg lle mae Saesneg yn cael ei siarad mwy a mwy.

Anonymous said...

Dwi o blaid rhyw fath o sin/bywyd Cymraeg bywiog, difyr, deallus, goleuedig yng Nghaerdydd.
Ond (ac mae yna wastad ond), pencadlys S4C yng Nghaerdydd-camgymeriad o'r cychwyn cyntaf.
Prif swyddfa BYIG-Caerdydd? Camsyniad.
Pob lwc i e.e. Monwysyn sy'n symud i Gaerdydd. Ond dwi yn erbyn Cynulliad Cymru yn creu gormod o swyddi yng Nghaerdydd- rhai ble mae'r Gymraeg yn hanfodol. Yn ddelfrydol, byddai pencadlys S4C wedi cael ei leoli ym Machynlleth, Aberystwyth...byddai hyd yn oed Y Drenewydd yn gwneud mwy o synnwyr. Mwy o degwch daearyddol.
Dwi ddim eisiau bod yn rhy biwis, ond mae'r syniad o Gymry Cymraeg yn symud i fyw yno a jesd cymdeithasu hefo pobl eraill yn wreiddiol o'r fro (ond sydd ddim yn wir pob tro, wrth reswm) braidd yn wel...
Profiad cosmopolitan ac agoriad llygaid dwi yn chwilio amdano mewn dinas fawr. At ei gilydd, dwi'n eitha hoff o'r lle. Ond dim byd gwirioneddol sbeshal...

Anonymous said...

Mae'r gymraeg wedi bod yn iaith fyw a niferus yng Nghaerdydd erioed
Dwi'n enghraifft o bedwaredd cenhedlaeth sy'n siarad cymraeg yn y ddinas.
Foddbynnag mae'r newid ers y saithdegau yn syfrdanol, ac yn yng nghylch cydnabod i mae hanner y bobol yn Gymru cymraeg cynhenid o gaerdydd (ail genhedlaeth neu fwy) neu'n Kerdiffians sydd wedi dysgu cymraeg (gan gynnwys fy ngwraig)
Yn bwysicach fyth
1. Mae teulu di gymraeg fy ngwraig yn ymhyfrydu yn y ffaith fod y plant yn siarad cymraeg
2. Mae canran uchel o'r plant yn siarad cymraeg a'u gilydd

Anonymous said...

Os y bydda i yn clywed am y Cynulliad yn creu gormod o swyddi yng Nghaerdydd (rhai ble mae'r Gymraeg yn gwbl ganolog/hanfodol)yn lle eu lleoli mewn rhannau eraill o Gymru yna bydd yna uffar o le.

Anonymous said...

"Yn ddelfrydol, byddai pencadlys S4C wedi cael ei leoli ym Machynlleth, Aberystwyth...byddai hyd yn oed Y Drenewydd yn gwneud mwy o synnwyr."

Pam? Mae 'na lawer mwy o Gymry Gymraeg yng Nghaerdydd a'r Cymoedd na'r llefydd uchod.

Anonymous said...

Persbectif brodor o Ddyffryn Clwyd: dwi hefyd o blaid sin difyr a phrysur Cymraeg yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, yn y bon, craidd y ddadl, pwnc llosg ydi: tydi lleoli gormod o jobsus o ansawdd Cymraeg (y rhai sy'n bwysig i sicrhau dyfodol i'r bywyd Cymraeg) yng Nghaerdydd jesd ddim yn deg i weddill Cymru.
Bydd Caerdydd yn parhau i fod yn rhyw fath o feca, magned i rai heidio yno.

Ond mae'r trend wedi bod yn rhy gryf yn ystod y degawdau diwethaf. A ellir gwella'r balans?
Prifddinas cyfredol y Gymraeg- Caernarfon. Nid Caerdydd. Ac yn anffodus, tydi'r un o'r ddau ddim yn y canolbarth-tegwch daearyddol. Tydw i ddim yn adnabod unrhyw Gymro/Cymraeg call a synhwyrol sy'n hynod wrth-Caerdydd ac sy'n teimlo fod popeth yn mynd i Gaerdydd. Ond dywedaf hyn yn blaen a chlir- rhaid i'r balans wella. Bydoedd Cymraeg llai Caerdydd-centric.
Pencadlys S4C yn e.e. Abertawe, Caernarfon, Wrecsam, Aberystwyth- NID CAERDYDD.