Nid blog gwyliau ydi Blogmenai wrth gwrs, felly 'dydw i ddim yn cyhoeddi lluniau gwyliau yn aml iawn, ond gan mai i Gatalonia es i ar fy ngwyliau, a chan bod y dyddiau hyn yn rhai diddorol o ran gwleidyddiaeth Catalonia, mi wnawn ni eithriad bach.
Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod gwleidyddiaeth y wlad yn weledol iawn os ewch oddi wrth y Costa Brava a gweddill yr arfordir. Baneri Catalonia, a baneri annibyniaeth (y L'Estelada Vermella a'r Estelada Blava) yn cael eu crogi o falconi fflatiau ydi un o'r nodweddion gweledol hynny.
Ac mae annibyniaeth yn bwnc llosg yn y papurau newydd - polau piniwn a'r brif ddadl economaidd tros adael yr undeb - y gost i Catalonia o aros - sydd dan sylw yma.
Er nad ydi annibyniaeth yn bwnc llosg yng Nghymru fel ydyw yng Nghatalonia a'r Alban, mae'r ddadl ym Nghatalonia yn berthnasol i ni yma. Mae gwledydd tebyg yn tueddu i ddilyn yr un trywydd yn aml. Er enghraifft arweiniodd dymchweliad y Bloc Dwyreiniol yn negawdau olaf y ganrif ddiwethaf at greadigaeth bedair gwladwriaeth ar hugain newydd yn Nwyrain Ewrop.
Mae Cymru'n perthyn yn llawer nes at Gatalonia nag at wledydd Dwyrain Ewrop wrth gwrs - mae'r ddwy wlad yn endidau yng Ngorllewin Ewrop na ddaeth yn wladwriaethau yn y dyddiau hynny pan rannodd y cyfandir yn gyfres o wladwriaethau, ond a lwyddodd i gynnal hunaniaeth annibynnol serch hynny.
A dyna pam bod hynt a helynt gwleidyddol gwledydd di wladwriaeth eraill yn Ewrop o ddiddordeb i ni yma yng Nghymru. Os ydi datganoli yn arwain at annibyniaeth mewn gwledydd eraill yng Ngorllewin Ewrop, mae'n ddigon posibl y bydd yr un peth yn digwydd yma maes o law.

Nodwedd arall ydi'r graffiti gwleidyddol sy'n dew ar hyd llawer o ardaloedd trefol. Roedd graffiti felly yn gyffredin iawn yng nghefn gwlad Cymru ers talwm wrth gwrs - ond Byd arall llawer llai parchus, a mwy diddorol nag un heddiw oedd hynny.
Mae'r murlun gwleidyddol yn un o nodweddion gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon - 'does yna ddim cymaint ohonynt yng Nghatalonia, a 'dydyn nhw ddim mor grefftus na'r rhai Gwyddelig, ond maent i'w gweld yma ac acw.
Ac mae annibyniaeth yn bwnc llosg yn y papurau newydd - polau piniwn a'r brif ddadl economaidd tros adael yr undeb - y gost i Catalonia o aros - sydd dan sylw yma.
Er nad ydi annibyniaeth yn bwnc llosg yng Nghymru fel ydyw yng Nghatalonia a'r Alban, mae'r ddadl ym Nghatalonia yn berthnasol i ni yma. Mae gwledydd tebyg yn tueddu i ddilyn yr un trywydd yn aml. Er enghraifft arweiniodd dymchweliad y Bloc Dwyreiniol yn negawdau olaf y ganrif ddiwethaf at greadigaeth bedair gwladwriaeth ar hugain newydd yn Nwyrain Ewrop.
Mae Cymru'n perthyn yn llawer nes at Gatalonia nag at wledydd Dwyrain Ewrop wrth gwrs - mae'r ddwy wlad yn endidau yng Ngorllewin Ewrop na ddaeth yn wladwriaethau yn y dyddiau hynny pan rannodd y cyfandir yn gyfres o wladwriaethau, ond a lwyddodd i gynnal hunaniaeth annibynnol serch hynny.
A dyna pam bod hynt a helynt gwleidyddol gwledydd di wladwriaeth eraill yn Ewrop o ddiddordeb i ni yma yng Nghymru. Os ydi datganoli yn arwain at annibyniaeth mewn gwledydd eraill yng Ngorllewin Ewrop, mae'n ddigon posibl y bydd yr un peth yn digwydd yma maes o law.
5 comments:
"Er nad ydi annibyniaeth yn bwnc llosg yng Nghymru fel ydyw yng Nghatalonia a'r Alban, mae'r ddadl ym Mhatagonia yn berthnasol i ni yma."
Patagonia? Be sydd a'r wladfa i wneud a'r peth?
Shit - mae fy meddwl i mewn dau le ar yr un pryd! Mi newidia i fo.
Ar fy ffordd i Barca bore Mawrth...
Gobeithio bod gei di dywydd.
Diddorol iawn.
Es innau draw i Wlad y Basg ym mis Medi ac roeddwn wedi rhyfeddu ar gymaint o faneri oedd wedi eu clymu i falconiau a pholion lamp ac ati. Yr ymgyrch fawr yno adeg hynny oedd galw ar y Lywodraeth i ddychwelyd y carcharorion yn ôl i Wlad y Basg.
Roedd gwleidyddiaeth yn bwnc trafod naturiol ymysg pawb yno, yn y bar, y caffi, y farchnad. Roedd yn destun trafod oedd wedi ymafael yn niddordeb a sylw phawb, nid un carfan o'r gymdeithas.
Post a Comment