Diolch i Mabon ap Gwynfor am dynnu fy sylw at yr erthygl yma yn newsnetscotland.com.
Pwynt yr erthygl ydi bod cryn dystiolaeth polio bod yr SNP yn gwneud yn dda ar lefel San Steffan yn ogystal ag ar lefel Senedd yr Alban, er mai ychydig iawn o bolio penodol Albanaidd sydd wedi ei wneud yn ddiweddar. Daw'r dystiolaeth honno o is setiau polio Prydeinig YouGov. Gan amlaf 'dydi hi ddim yn syniad da i gymryd llawer o sylw o is setiau data polio oherwydd nad ydi'r niferoedd ynddynt ddigon uchel i fod yn ystadegol ddibynadwy.
'Dydi hyn ddim yn atal pobl rhag gwneud hynny fodd bynnag. Mi fydd rhai ohonoch yn cofio bod Paul Williams yn ei flog The Druid yn gwneud defnydd mynych o is setiau i wneud rhyw bwynt gwleidyddol neu'i gilydd.
Ta waeth, mae'r erthygl yn gywir i awgrymu bod tystiolaeth cyffelyb gan is set ar ol is set o ddata yn ddibynadwy. Mae'n anhebygol iawn y byddai patrwm yn cael ei amlygu dro ar ol tro - oni bai bod sylwedd i'r patrwm hwnnw - hyd yn oed lle mae'r data yn gymharol fach.
Serch hynny mae'r stori yn codi pwyntiau digon diddorol ynglyn a pholio fodd bynnag. Er enghraifft mae'r rhan fwyaf o ddigon o bolau yn cymryd sampl o tua 1,000 - hyd yn oed os ydyw'n ceisio darganfod barn pobl mewn gwlad enfawr fel yr UDA. Mae yna reswm am hyn - mae'r margin of error (y posibilrwydd o gamgymeriad) gyda sampl o 1.000 yn + / -3%. Byddai sampl o 500 efo margin of error o 4%, tra byddai'n rhaid cael hyd at 6,000 i ddod a'r moe i lawr i 1%. Mae sampl o 1,000 felly yn cynnig cywirdeb rhesymol heb i'r cwmni polio orfod mynd i'r gost enfawr o bolio 6,000 o bobl i gael canlyniadau ychydig yn gywirach.
Y broblem efo hyn ydi bod defnyddio is setiau i gael canlyniadau Cymreig neu Albanaidd yn ffordd hynod wallus I ddod i gasgliadau ynglyn a barn pobl yn y gwledydd hynny.. Tua 50 o bobl a geir mewn is set Cymreig (5% o'r boblogaeth), ac 80 mewn is set Albanaidd. Mae'r moe ar y ffigyrau hyn yn 14% a 11%, sy'n llawer, llawer rhy uchel i fod o ddefnydd ymarferol i neb.
A dyna ydi'r broblem efo polio Prydeinig yng nghyd destun Cymru a'r Alban - 'does yna ddim digon o bobl yn cael eu polio i wneud y ffigyrau yn ystyrlon - oni bai bod yr un patrwm yn cael ei ddangos dro ar ol tro ar ol tro. Felly mae polio Prydeinig yn rhoi darlun gweddol gywir o'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, ond mae'n rhoi darlun llai cywir o lawer o'r hyn sy'n digwydd yn systemau pedair plaid y ddwy wlad Geltaidd.
Yr ateb fyddai cael polio rheolaidd penodol i Gymru a'r Alban - ond 'does yna neb eisiau talu am bolau felly a ninnau ymhell o unrhyw etholiadau pwysig. Felly yn achos Cymru o leiaf rydym fwy neu lai yn y tywyllwch ynglyn a barn pobl y wlad ynglyn a'r pleidiau gwleidyddol Cymreig - yr unig beth sydd gennym i roi awgrym o hynny i ni ydi'r ychydig is etholiadau cyngor sy'n cael eu cynnal pob hyn a hyn.

10 comments:
Pwnca arall.....yn ddrwg gennyf.
Ti wedi gweld hwn?
http://www.newsnetscotland.com/index.php/arts-and-culture/3442-bbc-alba-freeview-huge-increase-in-gaelic-tv-viewing-numbers.html
Sut mae hyn yn bod ac S4C yn colli gwylwyr?
Ia diddorol - hwyrach bod y darn werth blogiad ynddo'i hun.
Petai 80% o Gymry Cymraeg (neu rhywbeth tebyg i hynny) yn gwylio S4C fyddai ganddi hi ddim problemau arwyddocaol.
Mae rhan o'r ateb i gwestiwn anhysbys yn yr erthygl ei hun. Mae llawer mwy o bobl yn gallu gwylio'r sianel ers iddi ddod ar gael ar freeview ychydig fisoedd yn ôl. Bydd nifer o'r gynulleidfa newydd yn bobl sydd wedi pigo fewn i fusnesa ar wasanaeth sydd yn newydd iddynt hwy; gellir disgwyl i'r niferoedd gwastadau ar lefel ychydig yn is cyn bo hir.
Er bod niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn llawer uwch na niferoedd siaradwyr yr Aeleg mae yna lawr llawer mwy o Albanwyr ddi-aeleg na sydd o Gymru ddi-gymraeg, ac mae llawer mwy o ddilyn pethau fel pêl droed Cynghreiriau’r Alban na sydd i Gynghrair Cymru.
Peth peryg yw dibynu ar is-etholiadau lleol fel mesur o'r farn gyhoeddus. Cyn etholiad Cynulliad 2003 "cunning plan" y Dem. Rhydd. oedd arllwys adnoddau mewn i'r rheiny er mwyn 'creu naratif'. Fe wnaethon nhw'n dda yn yr etholiadau hynny gyda Mike German yn mynnuu eu bod nhw'n profi bod etholiad y Cynulliad yn "two horse race"! Ac wedi elwch tawelwch fu!
Dwi'n deall hynny Vaughan.
Trwy gyd ddigwyddiad mae llawer o is etholiadau diweddar Cymru wedi bod yng Ngwynedd - ac mae gwleidyddiaeth Gwynedd i raddau yn wahanol i wleidyddiaeth gweddill Cymru.
Byddai'n hawdd creu naratif o lwyddiant ysgubol i Blaid cymru ar sail y rheiny - ond byddai'n naratif gwallus.
Wedi dweud hynny mae'n bosibl dysgu o is etholiadau hefyd. Er enghraifft mae'r Lib Dems wedi bod yn gwneud yn dda mewn wardiau ceidwadol (c fach) yn Ne Lloegr yn ddiweddar, ond wedi bod yn cael eu llabuddio gan Lafur mewn rhai diwydiannol ac ol ddiwydiannol yng Ngogledd Lloegr. Mae'r stori yna yn un sy'n adlewyrchu ffeithiau cyffredinol ond gwir am y tirwedd etholiadol yn Lloegr heddiw.
Roedd "plan" Mike yn un gwbl gywir. Hyd yn oed o golli'n warthus mae sefyll ymgeisydd yn rhan o'r neges bod "y blaid" (neu Y Blaid) yn bodoli yma. A phob tro ceir un neu ddau i gefnogi achos y blaid / Y Blaid, dyna un neu ddau arall i gefnogi'r ymgeisydd Seneddol neu'r ymgeisydd Cynulliad neu'r ymgeisydd Cyngor Sir.
Os cofiaf yn iawn, methodd Plaid Cymru sicrhau mwyafrif yn etholiadau Cyngor Sir Gwynedd 2005 gan fod tri neu bedwar o ymgeiswyr Llais Gwynedd a nifer o gynghorwyr eraill wedi cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad! Mae'n gwbl bathetig bod Plaid Cymru yn methu sefyll ymgeisydd ar gyfer pob sedd yng Ngwynedd.
Mewn ambell i Sir cafwyd mwy o ymgeiswyr y BNP nac ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholiadau Cyngor Sir ddiwethaf. Os am lwyddo dros yr achos cenedlaethol dylai'r Blaid sicrhau bod o leiaf un ymgeisydd ym mhob ward trwy Gymru benbaladr mis Mai nesaf.
Un o'r pethau sydd yn rhwystro'r Blaid rhag cael pob cenedlaetholwr sy'n fodlon sefyll etholiad ar ei ran yw'r ymrwymiad i Sosialaeth. Byddwyf yn sefyll etholiad fy nghyngor plwyf mis Mai nesaf fel annibynnwr eto.
Byddwn yn fodlon sefyll ar gyfer y plwyf a'r Sir yn enw'r Blaid oni bai am ymrwymiad Plaid Cymru i gefnogi sosialaeth. Mae sosialaeth yn wrthun imi ac i nifer o genedlaetholwyr eraill.
Pam ddiawl bod y Blaid yn mynnu rhwystro cenedlaetholwyr rhag sefyll yn ei henw oherwydd y fath gredo dyddiedig?
Sylwadau hynod o ryfedd Alwyn.
Un ymgeisydd Llais Gwynedd aeth i mewn yn ddi wrthwynebiad yn 2007 (nid 2005), sef Seimon Glyn. Roedd nifer o Annibynwyr yn ddi wrthwynebiad, ond roedd mwy o lawer o ymgeiswyr y Blaid yn ddi wrthwynebiad.
Efallai ei bod yn 'gwbl bathetig' na lwyddodd y Blaid i gael ymgeisydd ar gyfer pob sedd, ond daeth o hyd i fwy o ymgeiswyr na'r un plaid neu grwp arall.
Dydi hyd yn oed y Blaid Lafur ddim yn dod o hyd i ymgeisydd ar gyfer pob sedd yn y cymoedd.
Dydi hi ddim yn bosibl dod o hyd i ymgeisydd ar gyfer pob ward yng Nghymru - byddai unrhyw un sydd wedi ymhel ag etholiadau o unrhyw fath yn gwybod bod hynny yn ddelfryd chwerthinllyd.
Chlywais i erioed o neb yn gwrthod sefyll tros y Blaid oherwydd sosialaeth, ond mae'n weddol gyffredin i bobl beidio a gwneud hynny mewn llefydd lle mae cefnogaeth y Blaid yn wann rhag 'colli fots'.
Efallai bod hynny yn egluro'r paradocs rhyfedd o ymgeisydd annibynnol yn cwyno nad oes yna fwy o bobl yn sefyll yn enw'r blaid.
Y cwestiwn i Alwyn yn dilyn hyn yw beth sydd bwysicaf iddo: Rhyddid a chyfiawnder i Gymru neu Sosialaeth Plaid Cymru?
Roedd Guto Bebb a'i debyg yn amlwg yn credu fod cael Llwyodraeth Geidwadol Brydeinig yn bwysicach na chael Rhyddid i Gymru.
Ydy penderfyniad Alwyn yn dangos pa un sydd flaenaf ganddo?
Anhysbys, nid fy mhenderfyniad i yw peidio a bod yn aelod o Blaid Cymru ond penderfyniad y Blaid - Y Blaid sydd wedi creu'r rheol mae dim ond y rhai sydd yn coleddu athroniaeth ffiaidd sosialaeth sydd yn cael ymuno a hi. Tra fo'r rheol honno'n aros does dim modd i genedlaetholwyr sydd yn gweld sosialaeth fel peth wrthyn i ymuno a hi.
Cai, mae'r ddau ohonom wedi pwyso'r botwm anghywir parthed dyddiad yr etholiadau cyngor sir ddiwethaf. Yn 2008 oeddynt nid 2005 na 2007. Hwyrach bod cael ymgeisydd ym mhob sedd yn ddelfryd uchelgeisiol ac anodd ei gyrraedd ond prin ei fod yn chwerthinllyd. O’r miloedd o aelodau sydd gan Plaid Cymru yng Ngwynedd ydi’n wir chwerthinllyd disgwyl y gellid canfod dim ond 75 ohonynt i sefyll etholiad lleol? Ydy o'n chwerthinllyd disgwyl i blaid sydd am ehangu ei apêl yn y cymoedd canfod mwy o ymgeiswyr yn Nhorfaen na'r BNP?
Ydi Alwyn - mae hi'n amhosibl i rywun fel fi sefyll - dwi'n gweithio yn ystod y dydd a dwi ar rol cyflog Cyngor Gwynedd.
Mae'r Blaid yn gwneud yn llawer, llawer gwell yng Ngwynedd nag ydi unrhyw blaid arall o ran cael ymgeiswyr i sefyll. Felly hefyd yn Ynys Mon, Ceredigion a Chaerfyrddin.
Faint mae'r Lib Dems yn gael i sefyll trostynt ym Mhowys?
Faint mae'r Toriaid yn gael i sefyll trostynt ym Mhenfro - er eu bod yn dal y ddwy sedd Cynulliad a'r ddwy sedd San Steffan?
Post a Comment