Monday, October 31, 2011

Ffigyrau'r mis

Y ffigyrau isaf ers Awst 2010.  Mae'n rhaid i mi 'sgwennu'n amlach - neu'n fwy diddorol - neu'n fwy ymysodol - neu rhywbeth!


2 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Efallai fod y blog yn dioddef am nad oes yna ddim etholiad/refferendwm ar y gorwel/newydd ddigwydd?

Hefyd roedd yna sawl blogiad yn ystod mis Hydref yn canolwyntio ar wleidyddiaeth rhyngwladol (Iwerddon gan amlaf). Efallai nad oes gan darllenwyr y blog yr un diddordeb yn y materion rheini?

Rho gynnig ar ddechrau ffrae gyda Llais Gwynedd, bydd hynny'n siwr o ddenu'r darllenwyr! :P

Cai Larsen said...

Wel, fyddai creu ffrae efo LlG er mwyn cael darllenwyr byth yn croesi fy meddwl wrth gwrs - ond mae'n beth rhyfedd bod yna lawer iawn yn darllen blogiadau sy'n feirniadol o LlG - er mai mater plwyfol iawn ydyw yn y bon, ac er bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog (o ddigon) yn byw y tu allan i Wynedd.