Wednesday, October 19, 2011

David Davies yn amddiffyn hawliau pobl fawr i ymosod ar rai llai

Mae'n ddiddorol nodi bod yr ymaflwr codwm enwog, David Davies yn sefyll yn y bwlch er mwyn amddiffyn hawl pobl i ymosod ar eu plant.



Er nad ydi David yn ymaflwr codwm da iawn, mae ganddo ddiddordeb afiach braidd mewn trais o bob math.  Yn wir yn ol y Daily Mail mae eisiau diddymu'r Ddeddf  Hawliau dynol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gael eu harteithio:

Active members of Al Qaeda and the Taliban are living in this country and not being deported because of concerns about their human rights if something horrible happens to them if they are sent home,' Mr Davies said.
'Personally I would have thought that would be a bonus rather than a reason for not sending them back.

Ond a bod yn deg efo David mae yna rhai mathau o drais nad yw yn eu hoffi - yn arbennig felly trais sydd 'wedi ei fewnforio' gan dramorwyr:

There do seem to be some people in some communities who don't respect women's rights at all, and who... without necessarily saying that this is the case on this occasion, who have imported into this country barbaric and medieval views about women.

12 comments:

Anonymous said...

"David Davies yn amddiffyn hawliau pobl fawr i ymosod ar rai llai"

Mae hwnna'n deitl hurt.

Cai Larsen said...

Pam?

Anonymous said...

Achos taw nid dyna mae e'n ei wneud.

Anonymous said...

Does dim llawer â hynny o flynyddoedd 'di mynd heibio ers ei bod yn gymdeithasol dderbyniol i ddynion daro eu gwragedd. Ac mae'r un dadleuon tila yn cael eu defnyddio nawr i warchod yr hawl i daro plant ag oedd bryd hynny i warchod yr hawl i daro menywod.

Mae barn cymdeithas yn gallu newid, ac wrthi'n newid ar hyn o bryd, a dyma ddangos, unwaith yn rhagor, bod y Ceidwadwyr genhedlaeth ar ei hol hi, (fel yn achos 'Section 28' dro'n ôl).

Iwan Rhys

Dylan said...
This comment has been removed by the author.
Dylan said...

Mae'n deitl da a chywir

dw i wedi defnyddio geiriau tebyg fy hun fel mae'n digwydd, wrth drafod y sgandal am gamdrin plant mewn rhai madrasau Mwslemaidd

Cai Larsen said...

Anhysb 9.27 - "Achos taw nid dyna mae e'n ei wneud".

Beth mae o'n ei wneud 'ta?

Anonymous said...

Mae dy deitl yn awgrymu ei fod yn amddiffyn hawliau i ymosod ar rai oherwydd eu bod yn llai. Os byddech wedi gwrando ar raglenni radio ddoe....roedd y rhan fwyaf o bobl yn wrtwynebus i gyflwyno deddf fel hon.

Cai Larsen said...

Mae o'n erbyn atal pobl rhag taro eu plant ac mae'n erbyn gadael i'r Cynulliad ddeddfu ar y mater.

Anonymous said...

Roedd gennyf hanner meddwl y byddai hyn yn digwydd; Cynulliad heb lawer iawn on bwer ond digon i ddeddfu ar fanion bethau ac amharu ar fywydau pobl Cymru heb syniad sut i wneud eu bywydau'n well e.e. economi cryfach. Mae nhw'n gwireddu fy amheuon ac o bosib....mae hyn yn siwtio Llafur yn fwy na neb.

Anonymous said...

Wedi fy siomi fod tri o Aelodau Cynulliad mwyaf blaenllaw y Blaid wedi pleilisio yn erbyn y cynnig i wahardd hawl rhieni i ymosod ar eu plant

Anonymous said...

Yn le gallaf weld sut mae'r AC wedi pleidleisio ar gyfer y cynnig twp yma?