Thursday, August 05, 2010

T James Jones a'r syndrom S4C




Ymddengys bod yr Archdderwydd - dyn o'r enw T James Jones dwi'n deall - yn meddwl ei bod yn warth bod rhai Cymry Cymraeg wedi cadw draw o'r Eisteddfod oherwydd ei bod yn yn cael ei chynnal yn yr hen Sir Fynwy eleni - Rwy’n credu ei bod yn warth bod pobol yn dewis pa Eisteddfod i’w chefnogi oherwydd ardal. Mae’n bwysig dod i weld ardal newydd a dysgu amdani.

'Rwan mae'n debyg fy mod i'n un o'r bobl mae Mr Jones yn eu lambastio, er fy mod wedi dreifio un o'r genod acw i'r maes pebyll, a 'dwi'n bwriadu ymweld a'r maes 'fory. Serch hynny mi hoffwn nodi un neu ddau o bethau sy'n weddol amlwg i'r rhan fwyaf ohonom, hyd yn oed os nad ydynt yn bethau mae Mr Jones o anghenrhaid yn eu sylweddoli.


Yn gyntaf 'dydi'r Eisteddfod ddim yn rhan greiddiol o hunaniaeth y mwyafrif llethol o Gymry Cymraeg naturiol. Mae yna deip o Gymro a Chymraes sy'n gweld y jambori fawr flynyddol fel rhyw ganolbwynt i'w cenedligrwydd - ond lleiafrif cymharol fach ydi'r rheiny, a lleiafrif nad ydynt yn aml mor amlwg eu hunaniaeth am hanner cant ac un wythnos arall y flwyddyn. I'r rhan fwyaf ohonom rydym yn mynd pan y gallwn, ond mae gennym bethau eraill i wneud efo'n hamser megis gweithio, mynd am beint, palu'r ardd, darllen llyfr, gwneud beth bynnag mae pobl yn ei wneud efo ipads, crwydro'r mynyddoedd, mynychu gig neu ddrama a mynd ar wyliau er enghraifft.

Nid dweud ydw i na ddylai pobl wneud ymdrech i gefnogi'r Eisteddfod - mi fyddaf i'n ceisio gwneud hynny pob blwyddyn i ryw raddau neu'i gilydd, er nad ydi trampio trwy'r mwd, bysnesu mewn gwahanol stondinau a sgwrsio efo pobl nad ydwyf wedi eu gweld ers oes yr arth a'r blaidd at fy nant mewn gwirionedd. Dweud nad ydi hunaniaeth pobl, ac felly eu hagwedd tuag at faterion eisteddfodol, mor syml a mae Mr Jones yn awgrymu ydw i. Rhywbeth ategol i'n hymdeimlad o fod yn Gymry ydi'r Eisteddfod i'r rhan fwyaf ohonom - nid calon yr ymdeimlad hwnnw. O ganlyniad mae lleoliad yr Eisteddfod yn rhwym o effeithio ar faint o bobl sy'n ymweld a hi.

Os ydi'r lleoliad yn y Gogledd yna mae yna ddegau o filoedd o Gymry Cymraeg yn byw o fewn pellter rhesymol ati, ac mi fydd llawer yn ymweld - hyd yn oed os nad yr Eisteddfod ydi eu prif ddileit mewn bywyd. Mae hynny'n benderfyniad rhesymol a rhesymegol i rhywun sydd eisiau cefnogi'r sefydliad, hwyrach nad ydi treulio rhai oriau yn profi pleserau'r A470 mor resymol na rhesymegol i Eisteddfodwr llugoer.

O leoli'r digwyddiad yng Nghaerdydd, er enghraifft mi fydd mwy o bobl yn mynd oherwydd bod pob math o bethau aneisteddfodol i'w gwneud hefyd - a gellir cael wythnos o wyliau gyda'r Eisteddfod yn rhan o'r profiad. Mae Glyn Ebwy, a Blaenau Gwent yn gyffredinol yn ddiddorol i'r sawl yn ein plith sy'n ymddiddori mewn hanes - ond gyda phob parch nid dyma'r lle gorau yng Nghymru i fynd ar wyliau iddo. Mae hefyd ymhell o'r Gymru Gymraeg. Mae felly'n dilyn y bydd yna llai yn mynychu - yn arbennig os ydi pawb lleol wedi cael mynd i mewn am ddim ar gychwyn yr wythnos. 'Dydi hyn ddim yn golygu na ddylid cynnal yr wyl mewn llefydd fel Blaenau Gwent wrth gwrs - i'r gwrthwyneb, mae'n dda gweld y Gymru Gymraeg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w ffiniau naturiol am ychydig ddyddiau. Ond mae'n golygu y dylai awdurdodau'r Eisteddfod fod yn realistig ynglyn a'r hyn y gellir ei ddisgwyl o ran y niferoedd sy'n mynychu. Golyga hefyd ymatal rhag harthio ar bobl i ymddwyn mewn ffordd arbennig ar y sail eu bod nhw yn Gymry Cymraeg a dim arall.

Daw hyn a ni at S4C. Un o wendidau diweddar y sianel ydi canfyddiad ar ran yr awdurdodau sy'n ei rhedeg bod y Gymru Gymraeg yn ddiwylliannol fonolithig, ac mai priod le y sianel ydi darparu rhaglenni Cymraeg, ac mai priod ddyletswydd Cymry Cymraeg ydi ymgynnull o gwmpas y teledu liw nos - yn union fel y byddai teuluoedd yn ei wneud yn saith degau'r ganrif ddiwethaf pan fyddai Z Cars, Dixon of Dock Green, Alf Garnett a Steptoe a'i fab druan yn ymwthio i mewn i'w hystafelloedd byw trwy sgrin fach ddu a gwyn.



Mae'r byd hwnnw wedi hen farw wrth gwrs - mae yna gystadleuaeth gan lu o sianeli eraill a chan gyfryngau eraill bellach. Mae'r Gymru Gymraeg yn yr ystyr bod llawer ohonom yn anabl neu'n anghyfforddus yn defnyddio'r Saesneg wedi marw hefyd. Wnawn ni byth weld rhyw bedwaredd ganrif ar bymtheg arall lle'r oedd degau, os nad canoedd o filoedd ohonom yn darllen papurau newydd Cymraeg am na allem ddarllen yr un iaith arall. Mi'r ydym i gyd bron yn rhannol Seisnig bellach - mi fedrwn ni gael mynediad i, a mwynhad o'r oll sydd gan y cyfryngau Seisnig i'w cynnig. Yn y cyd destun yma, mae cymryd bod dyletswydd ar bobl i flasu pob llwyaid o uwd llwyd, di flas S4C yn gamgymeriad. Mae gosod disgwyliad i bobl ymddwyn mewn ffordd sylfaenol afresymegol yn ystod eu horiau hamdden - fel mae T James Jones yn ei wneud, hefyd yn gamgymeriad.

Dydi hyn oll ddim yn golygu nad ydi'r ffaith bod cynnyrch S4C yn Gymraeg o ran iaith ac yn Gymreig o ran cynnwys a pherspectif yn ychwanegu at apel y sianel i lawer ohonom. Ond mae angen mwy na hynny - mae angen cystadlu o ran ansawdd ac yn wir difyrwch a gwreiddioldeb.

Mae bod yn Gymro neu'n Gymraes Gymraeg ei iaith / hiaith yn yr oes sydd ohoni yn gallu bod yn feichus - baich a ddylai fod yn fater o falchder i ni gael y cyfle - y fraint - o'i hysgwyddo, ond baich serch hynny. 'Dydi cael dyn mewn oed mawr yn ein dwrdio am ymddwyn mewn ffordd digon rhesymegol, ac yn rhoi hynny yng nghyd destun rhyw hen hollt rhwng Cymru a Sir Fynwy nad oes fawr neb ohonom (hyd yn oed fi) yn ddigon hen i'w gofio ddim yn rhywbeth sy'n ychwanegu at yr ymdeimlad bod ein baich torfol yn un sy'n werth ei chario. Dydi diwylliant sy'n mynnu bod arnom ddyletswydd i edrych ar raglen deledu, gwrando ar rhywbeth ar y radio neu ddarllen cofnodolyn neu lyfr oherwydd ei fod yn y Gymraeg ddim yn ychwanegu at yr ymdeimlad yna chwaith. Yn waeth - mae creu disgwyliad i bobl ymddwyn mewn ffordd sylfaenol afresymegol oherwydd eu bod nhw'n Gymry Cymraeg yn y pen draw yn niweidiol i'r iaith oherwydd bod ymddygiad felly yn ein troi ni'n stereoteip yn hytrach na grwp diwylliannol - ac mae'n anodd meddwl am unrhyw beth mwy niweidiol i'r iaith.

9 comments:

Vaughan said...

Pwyntiau digon teg ac fel un na fuodd yn y Bala pwy yw fi i gwyno?

Ar y llaw arall mae Maes Glyn Ebwy yn ofnadwy o ddiddorol ac mae'n debyg y byddai nifer o bethau sydd wedi eu gwneud i sicrhau diwrnod difyr i bobol leol (y robotiaid, tren ager, y traeth, y sinema ayb) hefyd yn plesio Cymry Cymraeg sy'n Eistedddfodwyr llugoer.

A dweud y gwir oni ddylid cynnwys atyniadau felly hyd yn oed pan mae'r Eisteddfod mewn ardal Gymraeg?

Cai Larsen said...

Wrth gwrs.

Efo'r Eisteddfod y mwyaf o atyniadau gwahanol ti'n eu cynnwys, gorau oll. 'Dwi'n byw yng Nghaernarfon - 'dwi ddim yn amau am ennyd bod mwy o bobl y dref honno yn ymddiddori mewn cerdd dant , canu penillion yn ogystal a'r amrywiol stondinau, cymdeithasau ac ati na sydd o drigolion Glynebwy. Ond mwyafrif ohonynt? - go brin.

Dwi'n amau dim y byddai tren ager a robot neu ddau yn apelio yn y Gogledd.

Hywel said...

Wela i mo'r synnwyr yn "Mae felly'n dilyn y bydd yna llai yn mynychu - yn arbennig os ydi pawb lleol wedi cael mynd i mewn am ddim ar gychwyn yr wythnos." Yn swnio fel pe baech yn pwdu.

Onid cyfeirio at Eisteddfodwyr pybyr y mae Jim yn y bôn - ond rhai nad ydynt yn ddigon pybyr i fynd i Flaenau Gwent? Wedi dweud hynny, cytunaf â chi'n gyffredinol am yr Eisteddfod.

Cai Larsen said...

Twt, twt Hywel 'dwi'n ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa lle nad ydi'r gost o fynd i mewn i'r maes yn fater o fawr o bwys i mi.

'Dwi'n croesawu'r syniad o adael pobl leol fynd i mewn am ddim mewn ardal Seisnig - ond mae'n naif i feddwl na wnaiff gwneud hynny effeithio ar werthiant tocynnau.

Anonymous said...

"ardal Seisnig"

Mae Glyn Ebwy dal yn ardal hynod o Gymreig, er bod trigolion y fro yn siarad Saesneg ;)

Cai Larsen said...

Ydi, 'dwi'n gwybod Anhysb 12:18 - o ran ble mae pobl wedi eu geni a hunaniaeth cenedlaethol mae'n debyg bod Blaenau Gwent yn llawer mwy 'Cymreig' na Meirion erenghraifft.

Mae'n anodd gwybod pa derm i'w ddefnyddio am ardal sy'n siarad Saesneg - efallai bod 'Saesneg' yn fwy cywir na 'Seisnig' - ond i'r glust Ogleddol o leiaf mae'n derm dilornus.

Ifan Morgan Jones said...

"(y robotiaid, tren ager, y traeth, y sinema ayb)"

Fe es i i'r Eisteddfod dydd Llun a wnes i fethu bob un o'r rhain! Efallai bod angen mwy o arwyddbyst ar y maes.

Y peth mwyaf diddorol oedd y Lle Celf anhygoel ond roedd hwnnw mewn cornel fach o'r maes a bu bron i fi ei fethu.

Anonymous said...

Cytuno hefo popeth y rwyt yn ei ddweud am yr eisteddfod. Mae wedi mynd yn rhy elitaidd yn ddiweddar--'run hen wynebau ar y teledu o flwyddyn i flwyddyn--crachach Cymraeg.Nid yw'n atyniadol bellach i'r werin Gymraeg go iawn !!

Anonymous said...

Mae £15 am fynediad i gae (hyd yn oed efo'r atyniadau sydd na) yn lot o bres os oes na deulu o 4 ohonoch. Wedi prynu bwyd a diod ac ambell i beth bach, does na'm lot o newid o £100. Dydi hynny ddim o fewn cyrraedd i'r helyw o bobl.