Saturday, August 07, 2010

Y rhagolygon i Lafur

Mi es i'r 'Steddfod yn y diwedd - a'r digwyddiad cyntaf i mi ei fynychu oedd yr un a 'hysbysebwyd' gan Vaughan ar ei flog y diwrnod o'r blaen oedd yn cael ei gynnal yng nghwmni Arwyn Jones, Daran Hill a Vaughan ei hun. Mi godwyd nifer o faterion. 'Dwi am aros efo dau, sydd fel mae'n digwydd wedi eu codi ar y blog hwn eisoes - y tebygrwydd neu'r anhebygrwydd y bydd Llafur yn ad ennill y tir sylweddol a gollwyd ganddynt yng Nghymru, a'r trallod etholiadol tybiedig sy'n aros y Lib Dems yng Nghymru. Mi edrychaf ar yr ail fory a'r cyntaf heddiw.

Roedd Vaughan yn cyfeirio at anghytundeb rhwng Rhodri Morgan a Dicw ynglyn a thynged y bleidlais Lafur yng Nghymru. Ymddengys bod Rhodri Morgan yn credu mai canlyniad anochel bod mewn grym yn San Steffan am gyfnod maith ydi'r cwymp yng nghefnogaeth Llafur, ac y bydd y blaid yn ad ennill y tir a gollwyd maes o law. Ar y llaw arall mae Dicw o'r farn ('dwi'n meddwl - chlywais i ddim ei sgwrs) bod y strwythurau cymdeithasegol sydd wedi cynnal yr hegemoni Llafur wedi crebachu bellach, a bod y cwymp yn un parhaol. Mae Vaughan yn dod i lawr rhywle yn y canol - mi fydd Llafur yn ad ennill tir ar lefel San Steffan, ond bydd pethau'n wahanol ar y lefelau etholiadol eraill.

'Dwi'n tueddu i fod braidd yn besimistaidd a dweud y gwir - yn y byr dymor o leiaf. Tra bod newidiadau cymdeithasegol diweddar wedi sicrhau bod y byddinoedd anferth o bobl fyddai'n pleidleisio Llafur ym mhob etholiad doed a ddel wedi diflannu, mae'r amgylchiadau gwleidyddol a geir ar hyn o bryd yn creu byddin arall o bleidleiswyr posibl i Lafur - pobl sy'n ddibynol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar wariant cyhoeddus. Maent yn wynebu bygythiad byr dymor sylweddol. Mae yna lawer iawn o bobl o pob dosbarth cymdeithasol yn y sefyllfa yma ym mhob rhan o Gymru - ac mae'r sefyllfa yn creu pwll sylweddol o bobl sydd a llawer i'w ennill ac ychydig i'w golli trwy obeithio am gynrychiolaeth Llafur.

Mae gan Vaughan bwynt pan mae'n nodi ei bod yn bosibl na fydd y grwp yma'n pleidleisio i Lafur ar pob lefel, ac mae yna beth lle i gredu bod etholwyr Cymru yn gymhol soffistigedig i'r graddau eu bod yn gwahaniaethu rhwng etholiadau wrth bleidleisio. Ond y broblem ydi hyn - mae un etholiad yn effeithio ar y llall, a dydi Llafur ddim yn gorfod dod yn agos at eu penllanw etholiadol i gael eu hunain mewn sefyllfa o reoli bron i pob dim. Mi fyddai 45% yn debygol o'u gweld yn rheoli'r Cynulliad, y rhan fwyaf o gynghorau Cymru ac yn cael dwy o'r bedair sedd Ewropiaidd yn ogystal nag efallai 32 neu 33 o'r 40 etholaethau fydd ar ol erbyn etholiad cyffredinol 2015 . Mae Llafur wedi cael mwy na 50% yng Nghymru mor ddiweddar a degawd yn ol.

'Dwi'n mawr obeithio fy mod yn anghywir - 'dydi bron i ganrif bellach o gefnogaeth i'r Blaid Lafur ddim wedi gwneud mymryn mwy i Gymru na'n rhoi mewn sefyllfa o dlodi cymharol a dibyniaeth economaidd ar Lundain, ond mae amgylchiadau presennol yn ei gwneud yn fwy tebygol yn hytrach na'n llai tebygol y bydd y gefnogaeth (ac o ganlyniad y ddibyniaeth a'r tlodi cymharol) yn parhau.

3 comments:

Anonymous said...

Dwi'n dueddol o gytuno â ti.

Mae'n amlwg i mi fod y Toriaid yn mynd ati yn fwriadu i ddatgymalu'r wladwriaeth Lafuraidd fricsen wrth fricsen fel y bydd seiliau y bleidlais Lafur yn cael ei gwanhau am byth. Yn hyn o beth dwi'n teimlo ein bod ni nawr ar drothwy newid anferthol o ran cymdeithas Prydain fel na welwyd ers 1945. Bydd rhaid i Lafur wrth gwrs yn derbyn y rhan fwyaf o newidiadau Tori yn etholiad 2015 beth bynnag ei jingoistiaeth dosbarth heddiw.

O ran y Blaid yna efallai un naratif/slogan gellid ei defnyddio yw rhywbeth ar hyd drywydd 'No One Party State' dwi'n meddwl fod carfarn o'r gymdeithas sy'n pryderi o weld rheolaeth dilyfethair Llafur. Dwi'n meddwl fod nifer o bobl yn hoff o'r syniad o glymbleidio bellach. Bydd modd efallai i'r Blaid gynheuafu peth pleidleisiau Ceidwadol, RhyddDem a Llafur (ar yr ail bleidlais) fel hyn.

Fel arall, os yw IWJ am gadw ei job neu fod yn PW yna mae wir angen iddo ddechrau ymddwyn fel arweinydd ac nid fel gwas sifil cydwybodol. Mae angen iddo fod yn ddewr. Mae angen i Blaid Cymru hefyd gwneud y mwyaf o Ron Davies.

Mae'n ymddangos i mi fod gormod o egos yn y Blaid a dim arweinyddiaeth gref gan Ieuan.


Macsen

menaiblog said...

Problem y Blaid ydi (wel un broblem beth bynnag) ydi bod gennym fwy o wleidyddion o safon uchel nag oes yna swyddi etholedig ar eu cyfer. Hwyrach bod hyn yn achosi tensiynnau nad ydi pleidiau (megis Llafur neu'r Lib Dems)sydd a llawer mwy o swyddi etholedig nag sydd ganddynt aelodau i'w llenwi.

menaiblog said...

Ynysoedd ydi Prydain (y wladwriaeth), ac mae'r hen derm cenedlaetholgar yn cyfeirio at ffurf ar genedlaetholdeb Prydeinig o fyd a chyfnod sydd wedi hen farw bellach.