Tuesday, August 03, 2010

Addysg Gymraeg eto

Un gair bach arall am addysg Gymraeg. Mae'r sylwadau a wnes yma ynglyn a llwyddiant neu aflwyddiant addysg Gymraeg i gynhyrchu siaradwyr Cymraeg wedi esgor ar drafodaeth digon diddorol. Pwynt pwysig mae MH - o flog Syniadau - yn ei wneud ydi bod y ffigyrau sydd gennym ynglyn a chanrannau'r plant 'rhugl' yn ddiffygiol oherwydd mai asesiad rhieni ydynt. Mae hyn yn sylw synhwyrol - mae'r syniad o ddibynnu ar asesiad o ruglder plant gan rieni sydd yn aml heb air o Gymraeg eu hunain yn dipyn o joc mae'n debyg. Gall rhai o fy mhlant i gyfathrebu yn ymddangosiadol effeithiol mewn Ffrangeg - ond gan nad oes gen i air o Ffrangeg mae hyd a lled fy asesiad i o'u rhuglder yn amlwg yn sobor o gyfyng o ran ei gywirdeb.

Cyn 2002 / 2003 prifathrawon oedd yn asesu rhuglder plant. Mae gen i ofn nad ydi'r ffigyrau hyn yn ddibynadwy chwaith, yn arbennig mewn perthynas a faint sy'n siarad Cymraeg adref. Derbynir plant i'r ysgol yn dair oed yn aml, ac o ganlyniad nid yw sgiliau llafaredd plant yn aml wedi datblygu llawer iawn pan mae'r ysgol yn dod i gysylltiad a nhw yn gyntaf. Mae sefyllfa ieithyddol cartrefi yn aml yn gymhleth yn yr oes sydd ohoni - bydd plant yn siarad un iaith efo un rhiant a iaith arall efo'r llall - neu iaith wahanol efo taid a nain nag ydynt yn siarad efo mam a dad. Ymhellach, gall hyn newid. Bydd plentyn weithiau yn dechrau siarad iaith efo un rhiant ar ol ei dysgu yn yr ysgol - bydd rhieni weithiau yn dysgu'r Gymraeg ac yn dechrau siarad yr iaith efo'u plant (er mwyn ymarfer weithiaf). Mi ddigwyddodd hyn i fy nain i ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf. Mae yna hefyd gymhelliad i brifathrawon - yn arbennig mewn ysgolion swyddogol (yn hytrach na naturiol) Gymraeg i roi atebion gwahanol ar gyfer plant unigol yn dibynnu ar eu hoedran. Mae pwysau ar yr ysgol i ddangos eu bod yn llwyddo.

Efallai mai'r ffigyrau mwyaf dibynadwy mewn gwirionedd(fel mae MH yn awgrymu) ydi rhai sy'n ymwneud ag asesiadau athrawon. Mae yna gymhelliad i ysgolion beidio a chynnwys plant nad ydynt yn rhugl eu Cymraeg mewn asesiadau iaith gyntaf - yn y gyfundrefn sydd ohoni mae'n well peidio asesu plant yn y Gymraeg na'u hasesu a'u methu.

Mae'r tablau isod yn dangos y ganran o'r blant a asesir fel plant Cymraeg iaith gyntaf, a sut mae'r patrwm hwnnw wedi newid tros ychydig mwy na degawd. O gymryd bod y nifer a asesir fel plant iaith gyntaf yn rhoi syniad go lew o'r nifer sy'n rhugl, mae'n amlwg bod cynnydd graddol mewn rhuglder - ond graddol iawn ydyw. Ag ystyried ei bod yn weddol sicr bod y galw am addysg Gymraeg yn uwch o lawer na'r ganran sy'n derbyn addysg Gymraeg mae arafwch y cynnydd yn wastraffus ar y gorau, ac yn fethiant i gymryd mantais o gyfle hanesyddol i newid natur y wlad er gwell ar y gwaethaf.

Ffigyrau i gyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:

CA1 (7 oed)
CA 2 (11 oed)

CA 3(11 oed)
Blwyddyn Canran
Blwyddyn Canran
Blwyddyn Canran
1998 18.1
1998 17.5
1998 12.4
1999 18.2
1999 17.6
1999 12.8
2000 18.1
2000 17.5
2000 13
2001 19.0
2001 17.5
2001 13.8
2002 18.9
2002 17.6
2002 13.9
2003 19.1
2003 18.3
2003 14.4
2004 19.5
2004 18.1
2004 14.7
2005 19.6
2005 19
2005 14.4
2006 20.0
2006 19.3
2006 15.7
2007 20.3
2007 19.5
2007 15.3
2008 21.0
2008 19.8
2008 16
2009 21.0
2009 19.1
2009 15.9

17 comments:

Anonymous said...

Dydi'r ffigyrau yma chwaith am wn i yn dangos darlun llawn chwaith. Tybiaf bod athrawon yn amlach na dim yn categoreiddio'r plant fel dosbarth cyfan.
hy. asesir dosbarth cyfan yn y gymraeg fel iaith gyntaf neu ddim yn y mwyafrif o achosion.
Mae'r tabl yma felly yn dangos y cynydd yn y plant sydd mewn dosbarthiadau i'w hasesu yn gymraeg yn hytrach na rhai rhugl yn y gymraeg?

menaiblog said...

Mi fyddai'n ddifyr gwybod os mai dyna'r arfer - tuedda pethau fel hyn i amrywio o un lle i'r llall yng Nghymru.

Yn sicr mae'r ffaith bod yna cymaint o fuddsoddiad mewn addysg Gymraeg yn awgrymu y dylid cael llinyn mesur dibynadwy i asesu llwyddiant.

MH said...
This comment has been removed by the author.
MH said...

Wy'n cytuno, wrth gwrs. Fel mae'n digwydd, mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi gosod y targedau canlynol (tt 21 a 23):

Canran y dysgwyr Blwyddyn 2 (CA1) sy’n cael eu hasesu yn y Gymraeg iaith gyntaf:
2015 ... 25%
2020 ... 30%

Canran y dysgwyr Blwyddyn 9 (CA3) sy’n cael eu hasesu yn y Gymraeg iaith gyntaf:
2015 ... 19%
2020 ... 23%


Yn fy marn i, dydy'r targedau ddim yn uchelgeisiol iawn, ond maen nhw'n welliant.

Ioan said...

Tabl ddigon diddorol yn: http://www.statswales.wales.gov.uk/TableViewer/tableView.aspx?ReportId=10419
(Sef asesiad athrawon: [003298] Key Stage 2 results by LEA (subject, year, gender, level) NS).
Os ti'n edrych ar y nifer sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig (L4+) yn y Gymraeg, efo'r nifer o ddigyblion sy'n cael assesiad o'r pwnc Saesneg drost ddeg mlynedd, ti'n gallu gweld lle mae'r cynnydd mwyaf wedi bod (gwneud 'linear regression' ar y data).

Ddim be o'n ni'n ddisgwyl:
Cynnydd / blwyddyn
1.95% Gwynedd
1.28% Isle of Anglesey
0.97% Ceredigion
0.71% Carmarthenshire
0.45% Denbighshire
0.45% Cardiff
0.45% Torfaen
0.41% Wales
0.41% Conwy
0.39% Rhondda Cynon Taf
0.39% Swansea
0.28% Bridgend
0.28% Caerphilly
0.28% Pembrokeshire
0.21% Vale of Glamorgan
0.20% Merthyr Tydfil
0.20% Monmouthshire
0.19% Blaenau Gwent
0.18% Wrexham
0.15% Neath Port Talbot
0.10% Powys
0.08% Newport
0.07% Flintshire

menaiblog said...

Ioan - 'dwi ddim cweit yn deall y data, a fyddet cystal a rhoi mymryn mwy o eglurhad?

Hogyn o Rachub said...

Un peth mae'r ffigurau hyn (a'r lleill nodaist) yn ei awgrymu'n gryf iawn ydi rhywbeth trist iawn sef nad ydi addysg Gymraeg mor llwyddiannus ag y mae rhai yn haeru ei fod.

Pan o'n i am gyfnod byr mewn un ysgol Gymraeg adnabyddus yn Ne Cymru galla i roi fy llaw ar fy nghalon a dweud bod llawer iawn o blant nad oeddent yn rhugl yn y Gymraeg, a dyma blant sydd wedi dilyn addysg Gymraeg drwy gydol eu bywydau.

Mae 'na rywbeth ddim cweit yn iawn yn y system, dwi'n meddwl, ond dwnim a ydi pobol yn fodlon cyfaddef hynny.

Ioan said...

Engraifft:
Os ti'n edrych ar Ynys Mon, mae'r ganran sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig (o'r rhai sy'n cael eu assesu) wedi codi o 57% yn 1999 i 76% yn 2009. Ond mesur gwell ydi cymharu'r nifer sy'n cyrraedd y lefel efo'r nifer o holl blant. Ffordd o amcangyfri hyn ydi edrych faint o blant syn cael assesiad o'eu gallu saesneg.
Felly o holl blant Ynys Mon oedd yn cael eu assesu yn 1999, y ganran sy'n cyrraedd y lefel L4+ (yn y Gymraeg) oedd 692*57%/(897*100)=44%

Gwneud hynnu ar gyfer pob blwyddyn:
1999 44%
2000 49%
2001 47%
2002 49%
2003 54%
2004 55%
2005 57%
2006 56%
2007 54%
2008 60%
2009 56%
'Rwan gwneud 'curve fit' gan ddefnyddio 'linear regression' ( http://en.wikipedia.org/wiki/Linear_regression ), yn rhoi cynydd/blwyddyn o 1.28%. Yn digwydd bod yn Ynys Mon mi fysa cymeryd ffigwr 1999 (44%) a 2009 (56%) yn rhoi ated eitha cywir (56-44)/11 = 1.1% / blwyddyn, ond ffliwc ystagegol ydi hunna!

menaiblog said...

Reit - felly y mwyaf Cymraeg o ran iaith ydi ardal, yna'r mwyaf llwyddiannus ydi'r system addysg yno am ychwanegu at y canrannau sy'n rhugl, a'r lleiaf Cymraeg ydi ardal yna'r lleiaf llwyddiannus ydi'r system?

Ioan said...

Angen gwneud Chi test i brofi (neu gwrthbrofi) hunna!

Ioan said...

Mi faswn ni'n dweud:
1) System addysg yr ardaloedd mwyaf Cymraeg o ran iaith sydd wedi bod fwyaf llwyddiannus yn ychwanegu at y canrannau sy'n rhugl drost y ddeg mlynedd dwetha.
2) Dwi ddim yn meddwl gelli di ddweud fawr ddim am yr ardaloedd lleiaf Cymraeg! Cymhara Torfaen a Chaerdydd efo Powys a Nedd-Port Talbot er engraifft.

Anonymous said...

Ioan - Mae hyn i gyd yn dibynnu os na cyrraedd lefel 4 ydi 'rhugl' - sydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr.

Mae plant 3 oed yn gallu sairad yn rhugl ond heb gyrraedd lefel 1 eto.
Mae plant 11oed sydd 'ond' yn lefel 2 neu 3 hefyd yn gallu bod yn 'rhugl'.

Y cwbl mae ffigyrau ioan yn ei ddangos yw y cynnydd yn y canran sy'n cyrraedd lefel 4 yn 11 oed, gall hyn fod am amryw o resymau:
- gallu'r plant
- addysgu gwell
- asesu 'gwell'
- asesu 'caredigach' (!)
- hicyn is
- asesu athro yn lle prawf
- pwysau gan AALl i godi lefelau er mwyn iddynt godi yn y tablau cenedlaethol - sgerlsi bilif! ;-)
- pwysau cenedlaethol i safonnau godi

menaiblog said...

'Dwi'n meddwl mai'r hyn sydd ganddo fo ydi'r gymhariaeth efo'r Saesneg fel arwydd o gynnydd yn hytrach na rhifau abserliwt. Fel ti mae gen i amheuon, ond 'dwi'n ceisio cael fy mhen rownd y peth a bod yn onest.

Ioan said...

Anon: Derbyn dy bwynt di'n llwyr. Tan y post dwetha mi ro'n ni'n defnyddio'r term trwsgwl "cyrraedd y lefel ddisgwyliedig". Mi ro'n i ond yn trio addasu post cynt menaiblog i fod chydig bach yn fwy cywir! Sori - dwi'n addo peidio defnyddio term mor an-fathamategol byth eto...!

Menaiblog: Yr amheuon mwya sy gen i ydi 'grade inflation'. Edrycha ar yr un wybodaeth am Saesneg: 67% yn 1999, 81% yn 2009. Dim ond Gwynedd sydd efo'r math yna o gynydd yn y Gymraeg.

Ioan said...

I gymlethu petha:
Cyfartaledd y cynnydd (bob blwyddyn) yn y nifer o ddisgyblion sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig (L4+) yn y Gymraeg (1999 i 2009):
17.5 Gwynedd
13.8 Cardiff
10.0 Carmarthenshire
8.9 Swansea
5.7 Rhondda Cynon Taff
4.8 Torfaen
4.4 Caerphilly
4.2 Denbighshire
3.8 Bridgend
3.0 Conwy
2.8 Vale of Glamorgan
2.6 Pembrokeshire
1.8 Monmouthshire
1.5 Wrexham
1.4 Ceredigion
1.4 Flintshire
1.2 Newport
1.0 Blaenau Gwent
0.7 Powys
0.4 Neath Port Talbot
0.3 Isle of Anglesey
-0.2 Merthyr Tydfil

Anonymous said...

Ioan - "Cyfartaledd y cynnydd (bob blwyddyn)...."

Beth am bynciau eraill, beth ddigwyddodd i Saesneg, Mathemateg neu Wyddoniaeth?
Os ydi'r cynnydd yn debyg o sir i sir, dydi o ddim i'w wneud efo rhuglder yn y Gymraeg, os na, mae gen ti bwynt.

Ioan said...

Anon: Croeso i ti edrych ar a data! http://www.statswales.wales.gov.uk/TableViewer/tableView.aspx?ReportId=10419

Dyma be dwi'n gael wrth edrych ar y Saesneg:

Cyfartaledd y cynnydd (bob blwyddyn) yn y nifer o ddisgyblion sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig (L4+) yn y Saesneg (1999 i 2009):
22.5 Newport
16 Carmarthenshire
15.3 Cardiff
14.5 Gwynedd
14.1 Caerphilly
11.5 Denbighshire
9.9 Torfaen
9.6 Wrexham
7.4 Vale of Glamorgan
7 Bridgend
6.1 Neath Port Talbot
5.1 Conwy
3.9 Powys
3.3 Flintshire
1.5 Swansea
0.5 Pembrokeshire
0.2 Monmouthshire
-0.7 Ceredigion
-1.7 Blaenau Gwent
-1.8 Rhondda Cynon Taf
-2.2 Isle of Anglesey
-5.1 Merthyr Tydfil

A 'rwan cymharu'r Cymraeg yn erbyn a Saesneg:

+7.5 Rhondda Cynon Taf
+7.4 Swansea
+4.9 Merthyr Tydfil
+3.0 Gwynedd
+2.7 Blaenau Gwent
+2.5 Isle of Anglesey
+2.1 Ceredigion
+2.1 Pembrokeshire
+1.6 Monmouthshire
-1.5 Cardiff
-1.9 Flintshire
-2.1 Conwy
-3.2 Bridgend
-3.2 Powys
-4.6 Vale of Glamorgan
-5.1 Torfaen
-5.7 Neath Port Talbot
-6.0 Carmarthenshire
-7.3 Denbighshire
-8.1 Wrexham
-9.7 Caerphilly
-21.3 Newport

Dwi'm yn siwr be i wneud o hwna! Mae pob tabl yn galonogol i Wynedd (prifathrawon gret??!), ac yn eitha calonogol i Ynys Mon, Ceredigion, RCT ac Abertawe. Hollol onest, dwi'n meddwl mae y tabl cynta (10:51) ydi'r un cliria.