tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post4487598470394074130..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: T James Jones a'r syndrom S4CCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger9125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-13751050141919512352010-08-07T12:48:17.850+01:002010-08-07T12:48:17.850+01:00Mae £15 am fynediad i gae (hyd yn oed efo'r at...Mae £15 am fynediad i gae (hyd yn oed efo'r atyniadau sydd na) yn lot o bres os oes na deulu o 4 ohonoch. Wedi prynu bwyd a diod ac ambell i beth bach, does na'm lot o newid o £100. Dydi hynny ddim o fewn cyrraedd i'r helyw o bobl.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-64144500718449203692010-08-06T15:53:04.957+01:002010-08-06T15:53:04.957+01:00Cytuno hefo popeth y rwyt yn ei ddweud am ...Cytuno hefo popeth y rwyt yn ei ddweud am yr eisteddfod. Mae wedi mynd yn rhy elitaidd yn ddiweddar--'run hen wynebau ar y teledu o flwyddyn i flwyddyn--crachach Cymraeg.Nid yw'n atyniadol bellach i'r werin Gymraeg go iawn !!Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-49831373894940731932010-08-06T09:17:57.473+01:002010-08-06T09:17:57.473+01:00"(y robotiaid, tren ager, y traeth, y sinema ..."(y robotiaid, tren ager, y traeth, y sinema ayb)"

Fe es i i'r Eisteddfod dydd Llun a wnes i fethu bob un o'r rhain! Efallai bod angen mwy o arwyddbyst ar y maes.

Y peth mwyaf diddorol oedd y Lle Celf anhygoel ond roedd hwnnw mewn cornel fach o'r maes a bu bron i fi ei fethu.Ifan Morgan Joneshttps://www.blogger.com/profile/05653247945202734077noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-50831547459849805932010-08-06T08:54:56.454+01:002010-08-06T08:54:56.454+01:00Ydi, 'dwi'n gwybod Anhysb 12:18 - o ran bl...Ydi, 'dwi'n gwybod Anhysb 12:18 - o ran ble mae pobl wedi eu geni a hunaniaeth cenedlaethol mae'n debyg bod Blaenau Gwent yn llawer mwy 'Cymreig' na Meirion erenghraifft.

Mae'n anodd gwybod pa derm i'w ddefnyddio am ardal sy'n siarad Saesneg - efallai bod 'Saesneg' yn fwy cywir na 'Seisnig' - ond i'r glust Ogleddol o leiaf mae'n derm dilornus.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-85641096360582493822010-08-06T00:18:26.738+01:002010-08-06T00:18:26.738+01:00"ardal Seisnig"
Mae Glyn Ebwy dal yn ar..."ardal Seisnig"

Mae Glyn Ebwy dal yn ardal hynod o Gymreig, er bod trigolion y fro yn siarad Saesneg ;)Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-3326122692959663672010-08-05T22:40:12.136+01:002010-08-05T22:40:12.136+01:00Twt, twt Hywel 'dwi'n ddigon ffodus i fod ...Twt, twt Hywel 'dwi'n ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa lle nad ydi'r gost o fynd i mewn i'r maes yn fater o fawr o bwys i mi.

'Dwi'n croesawu'r syniad o adael pobl leol fynd i mewn am ddim mewn ardal Seisnig - ond mae'n naif i feddwl na wnaiff gwneud hynny effeithio ar werthiant tocynnau.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-26988180901663750662010-08-05T22:09:10.041+01:002010-08-05T22:09:10.041+01:00Wela i mo'r synnwyr yn "Mae felly'n d...Wela i mo'r synnwyr yn "Mae felly'n dilyn y bydd yna llai yn mynychu - yn arbennig os ydi pawb lleol wedi cael mynd i mewn am ddim ar gychwyn yr wythnos." Yn swnio fel pe baech yn pwdu.

Onid cyfeirio at Eisteddfodwyr pybyr y mae Jim yn y bôn - ond rhai nad ydynt yn ddigon pybyr i fynd i Flaenau Gwent? Wedi dweud hynny, cytunaf â chi'n gyffredinol am yr Eisteddfod.Hywelhttps://www.blogger.com/profile/03784606152848601156noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-2181351907802930762010-08-05T20:58:32.261+01:002010-08-05T20:58:32.261+01:00Wrth gwrs.
Efo'r Eisteddfod y mwyaf o atyniad...Wrth gwrs.

Efo'r Eisteddfod y mwyaf o atyniadau gwahanol ti'n eu cynnwys, gorau oll. 'Dwi'n byw yng Nghaernarfon - 'dwi ddim yn amau am ennyd bod mwy o bobl y dref honno yn ymddiddori mewn cerdd dant , canu penillion yn ogystal a'r amrywiol stondinau, cymdeithasau ac ati na sydd o drigolion Glynebwy. Ond mwyafrif ohonynt? - go brin.

Dwi'n amau dim y byddai tren ager a robot neu ddau yn apelio yn y Gogledd.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-61112876199108615982010-08-05T20:29:48.644+01:002010-08-05T20:29:48.644+01:00Pwyntiau digon teg ac fel un na fuodd yn y Bala pw...Pwyntiau digon teg ac fel un na fuodd yn y Bala pwy yw fi i gwyno?

Ar y llaw arall mae Maes Glyn Ebwy yn ofnadwy o ddiddorol ac mae'n debyg y byddai nifer o bethau sydd wedi eu gwneud i sicrhau diwrnod difyr i bobol leol (y robotiaid, tren ager, y traeth, y sinema ayb) hefyd yn plesio Cymry Cymraeg sy'n Eistedddfodwyr llugoer.

A dweud y gwir oni ddylid cynnwys atyniadau felly hyd yn oed pan mae'r Eisteddfod mewn ardal Gymraeg?Vaughannoreply@blogger.com