Wnes i erioed feddwl y byddwn yn 'sgwennu'r frawddeg uchod mewn perthynas a'r Bonwr Paul Murphy, hyd i mi weld hyn ar flog Vaughan Roderick.
Ymddengys bod Paul Starling yn sefyll i'r People's Voice yn erbyn Paul Murphy yn Nhorfaen. Starling oedd yn arwain ymgyrch warthus y Welsh Mirror (RIP) yn erbyn Seimon Glyn yn benodol, ac yn erbyn cenedlaetholwyr a hyd yn oed siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol.
Roedd sbwriel ymfflamychol, anghyfrifol a sinicaidd y Welsh Mirror yn ystod y cyfnod pan roedd Llafur yn ceisio ad ennill y tir yr oeddynt wedi ei golli i'r Blaid yn 1998 yn bydew na welwyd mo'i debyg cynt na wedyn, yn hanes newyddiaduriaeth Gymreig.
Duw yn unig a wyr beth mae'r People's Voice yn ei weld yn y creadur yma.
2 comments:
Cytuno'n llwyr - gwell Murphy na Starling unrhyw ddydd. Ond tybed beth mae'n ei ddweud am Lais y Bobl os maen nhw'n fodlon dewis ymgeisydd efo'r fath hanes.
gobeithio dagith Starling ar ei chwd ei hun.
Post a Comment