Friday, July 03, 2009

Llafur Arfon

Mae gan Dyfrig stori ddiddorol ar ei flog answyddogol - nad oes neb eisiau sefyll tros Lafur yn Arfon.

Os ydi hyn yn wir, mae'n eithaf rhyfeddol. Mae'n weddol anarferol i neb addas roi ei enw ymlaen i Lafur ar gyfer etholiad San Steffan - hyd yn oed mewn etholaeth anobeithiol. Etholaethau anobeithiol ydi'r camau cyntaf ar y grisiau i yrfa wleidyddol lewyrchus.

Ond 'dydi Arfon ddim yn etholaeth anobeithiol i Lafur, neu o leiaf ni ddylai fod. 'Doedd yr etholaeth ddim yn bodoli yn ystod etholiadau San Steffan 2005, ond yn ol y bobl sy'n deall y pethau 'ma, Llafur fyddai wedi ennill petai'n bodoli. Y canlyniad damcaniaethol fyddai:

Llafur: 8165 (35.5%)
Plaid Cymru: 8072 (35.1%)
Toriaid: 3431 (14.9%)
Lib Dems: 2599 (11.3%)
Eraill: 748 (3.2%)
Mwyfrif: 93 (0.4%)

Felly, 'dydi Llafur methu cael neb cael neb i sefyll am sedd maent yn ei dal - yn dechnegol o leiaf. Pam?

Mae'r ateb yn eithaf syml - ers i'r etholaeth newydd ddod i fodolaeth mae Llafur wedi cael eu llabuddio yno dair gwaith. Dyma oedd canlyniad etholiad Cynulliad 2007:

Plaid Cymru 10,260 (52.4%)
Llafur 5,242 (26.8%)
Toriaid 1,858 (9.5%)
Lib Dems 1,424 (7.3%)
UKIP 789 (4%)
Mwyafrif 5,018 (25.6%)

Aeth pethau'n waeth iddynt wedi hynny, gyda'r stadau tai mawr yng Nghaernarfon a Bangor yn pleidleisio'n drwm iawn yn eu herbyn yn etholiadau lleol 2007 - yn rhyfeddol o drwm. Aeth pethau o ddrwg i waeth yn etholiadau Ewrop eleni.

'Rwan mae hyn oll yn digwydd mewn cyd destun o gwymp ym mhleidlais Llafur trwy'r DU, a chwymp gwaeth yng Ngogledd Cymru - ac un gwaeth byth yn y Gymru Gymraeg.

Felly bydd y Blaid Lafur yn ganolog yn cael eu gorfodi i ddewis ymgeisydd ar gyfer Arfon - ac mae'n debygol y bydd y person hwnnw / honno yn dod yn drydydd. Roedd Llafur yn uchel eu cloch y gallant ennill yn Arfon yn 2007.

Trist iawn, very sad.

5 comments:

Anonymous said...

Wel am sioc ond petai Llais Gwynedd yn sefyll, tebygrwydd fuasent yn dwyn canran o bleidleisiau y Blaid ac eraill bleidleisio yn davtegol er mwyn cael Hywel bant.

Cai Larsen said...

'Dydi Arfon ddim yn dir etholiadol addawol i Lais Gwynedd - mae'n etholaeth drefol, ac mae 80% o'r boblogaeth yn byw yng Nghaernarfon, Bangor, Dyffryn Nantlle a Dyffryn Ogwen. Prin iawn ydi'r gefnogaeth i Lais Gwynedd yn y lleoedd hyn.

Un o brif ddadleuon LlG ydi bod gormod o fuddsoddiad yng Nglannau'r Fenai - hy Arfon.

rhydian fôn said...

Anhysbys: Y pwynt arall yw nad oes gan Llais Gwynedd yr arfau polisi i sefyll yn Arfon, nag unrhywle arall chwaith. Mae Llais Gwynedd yn glymblaid rhyfedd o genedlaetholwyr, Prydeinwyr, a'r pur annealladwy.

Mae'n rhaid i blaid sydd yn sefyll mewn etholiad cenedlaethol gael rhyw syniad o gyfeiriad am bolisi cenelaethol. Mae Llais Gwynedd wedi llwyddo gosod rhyw fath o bolisi lleol ar y bwrdd, er ei fod braidd yn anghyson a'n reit wan. Nid yw Llais yn gallu crwydro y tu hwnt i bolisi lleol gan ei fod yn glymblaid mor eang.

Fel esiampl, a fydd Llais Gwynedd yn cystadlu ar genedlaetholdeb Cymreig, cenedlaetholdeb Prydeingig, neu rhywbeth yn y cannol? Mi fydd hi'n annodd cael Now Gwynys, Seimon Glyn, Louise Hughes ac Anita Kirk yn darllen o'r un dudalen yn y fath sefyllfa.

Anonymous said...

Fi gweld, ond faint syd yna dal fase yn rhoi pleidlais i'r Blaid ac faint tybed fuasai yn rhoi y bleidlais i rhywyn arall fel protest ?

Cai Larsen said...

Protestio yn erbyn Llafur fydd pobl yn 2010.