Mi fydda i o bryd i'w gilydd yn cael cip ar y sefyllfa wleidyddol mewn gwledydd eraill, yn arbennig rhai cyfagos - ac yn arbennig pan mae gennyf ychydig amser ar fy nwylo. Mi gawn ni gip ar wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon heddiw.
Y peth cyntaf i'w ddeall am y wleidyddiaeth yma ydi ei bod yn unigryw o llwythol - yng nghyd destun Ewrop o leiaf. 'Rydym yn gwybod bod peth perthynas yng Nghymru rhwng cefndir ieithyddol a phatrymau pleidleisio. Mae'r berthynas rhwng cefndir crefyddol a thueddiadau pleidleisio yn gryfach o lawer yng Ngogledd Iwerddon. Mae mwyafrif llethol pobl o gefndir Pabyddol yn pleidleisio i'r SDPL neu Sinn Fein, tra bod mwyafrif llethol pobl o gefndir Protestanaidd yn pleidleisio i'r DUP, yr UUP, y PUP a'r blaid newydd - y TUV (mwy am hyn wedyn).
Mae yna batrwm dosbarth llai amlwg hefyd. Yn gwahanol i weddill Prydain mae pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn fwy tebygol o bleidleisio na rhai dosbarth canol, ac mae llawer mwy o'u gwleidyddion o gefndiroedd felly. Ar ben hynny mae tueddiad gan bobl dosbarth gweithiol Pabyddol i bleidleisio i SF tra bod y rhai dosbarth canol yn pleidleisio i'r SDLP. Ar yr ochr arall tuedda pobl dosbarth canol i bleidleisio i'r UUP, tra bod rhai dosbarth gweithiol yn cefnogi'r dair plaid arall.
Gellir dod o hyd i hanes etholiadol y dalaith yng ngwefan penigamp Nicholas Whyte - Northern Ireland Elections.
Yn fras mae'r patrwm tros yr ugain mlynedd diwethaf fel a ganlyn:
Ar yr ochr Unoliaethol yr UUP oedd yn ennill pob etholiad (ag eithrio rhai Ewrop) tan i'r broses heddwch ddod i fodolaeth. Roedd yr UUP yn cael ei hystyried yn fwy cymhedrol na'r DUP wrth gwrs. Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar ochr arall y rhaniad gwleidyddol gyda phlaid gymhedrol yr SDLP yn gyfforddus o flaen SF.
Pan ddaeth y broses heddwch dechreuodd pethau newid gyda phleidleisiau'n symud ar un llaw tuag at y DUP, ac ar y llall tuag at SF. Mae'n debyg bod tros i hanner yr Unoliaethwyr wedi pleidleisio yn erbyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 1998 - ac roedd yn ddigon naturiol i'r rheiny droi at y DUP - plaid oedd bryd hynny yn erbyn y Cytundeb.
Ar y llaw arall roedd derbyn y Cytundeb wedi symud SF tua'r canol (ac oddi wrth drais yr IRA), ac roedd hefyd yn naturiol i'r gyfadran weddol fawr o bleidleiswyr yr SDLP oedd yn genedlaetholwyr di gyfaddawd ym mhob ystyr ond eu cefnogaeth i drais, ddechrau troi tuag at SF.
Erbyn blynyddoedd cynnar y ddegawd yma (2001 yn achos SF a 2003 yn achos y DUP) roedd y pleidiau 'eithafol' ar y blaen. Erbyn 2007 cyrhaeddodd y broses yma ei phenllanw gyda'r DUP yn cael dwywaith cymaint o bleidleisiau na'r UUP, a SF yn gwneud bron cystal mewn cymhariaeth a'r SDLP yn yr etholiaau Cynulliad.
Wedi etholiadau 2007 roedd y DUP yn teimlo'n ddigon hyderus i allu rhannu grym efo SF - ac i bob pwrpad i dderbyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith. Arweiniodd hyn at ffurfio plaid newydd - y TUV - plaid sydd yn ffyrnig yn ei gwrthwynebiad i rannu grym gyda SF. Arweinydd y blaid yma ydi Jim Allister - Aelod Ewrop y DUP tan eleni. Maent wedi sefyll yn erbyn y DUP ddwywaith - mewn is etholiad cyngor (yn Dromore) ac yn etholiad Ewrop. Er iddynt fethu ag ennill sedd ar y ddau achlysur, gwnaethant niwed etholiadol arwyddocaol i'r DUP. Collwyd y sedd DUP yn Dromore a methodd y blaid a dod ar ben y pol yn ol eu harfer yn yr eholiad Ewrop.
Ar ochr arall y frwydr etholiadol methodd SF a chynyddu eu canran o'r bleidlais, ac yn wir cafwyd cwymp bach. Roedd cwymp mwy o lawer yn y nifer a bleidleisiodd iddynt. Mae'n debyg mai'r rheswm am hyn oedd iddynt dderbyn y gwasanaeth heddlu newydd y PSNI yn 2008. Nid yw'n dderbyniol gan nifer helaeth o bleidleiswyr y blaid hon i gael eu plismona gan heddlu 'tramor'.
'Roedd SF yn gallu arwain eu dilynwyr allan o ryfel, i mewn i strwythurau gwleidyddol 'tramor', i mewn i rym efo'u harch elynion, y DUP - ond maent yn cael mwy o drafferth o lawer i werthu'r egwyddor y dylai cymdogaethau Gweriniaethol gael eu plismona gan heddlu cyffredin.
Serch hynny nid oedd llawer o niwed etholiadol i SF, tra bod niwed sylweddol ac arwyddocaol i'r DUP. Mae hyn yn broblem - ac yn yr hir dymor mae'n fwy o broblem i'r traddodiad Unoliaethol nag yw i'r un Cenedlaetholgar. Y rheswm am hyn ydi bod llwyddiant y TUV yn ei gwneud yn anhebygol y gall y DUP (a'r UUP o ran hynny) symud oddi wrth eu safbwyntiau a'u hethos traddodiadol.
Mae eu problem yn sylfaenol yn un ddemograffig. Mae'r ganran sydd wedi bod yn pleidleisio i'r pleidiau Cenedlaetholgar wedi bod yn cynyddu'n raddol am ddegawdau, tra bod y bleidlais Unoliaethol wedi bod yn cwympo. Mae'r rheswm am hyn yn syml - mae Payddion Gwyddelig yn cael mwy o blant na Phrotestaniaid Gwyddelig. Gellir amcangyfrif y bydd y nifer o bleidleiswyr Cenedlaetholgar yn goddiweddyd y nifer Unoliaethol mewn tua naw mlynedd - erbyn 2018 - dwy flynedd ar ol canmlwyddiant Gwrthryfel 1916.
'Rwan os ydi'r mwyafrif Unoliaethol i barhau, mae'n rhaid iddynt ddechrau apelio at bobl o gefndir Pabyddol. Nid yw'n bosibl iddynt wneud hynny heb symud i dir gwleidyddol llai jingoistaidd, llai secteraidd, llai Protestanaidd a mwy cynhwysol. Mae presenoldeb Jim Allister a'i blaid newydd yn gwneud hyn yn llawer mwy anodd iddynt. Mae unrhyw symudiad at y canol yn colli pleidleisiau.
Felly ar un olwg mae Mr Allister yn cymaint o fygythiad i ddyfodol yr Undeb ag ydi Mr McGuinness, oherwydd bod ei bresenoldeb yn ei gwneud yn anos o lawer i'r traddodiad Unoliaetholapelio at Babyddion - y grwp crefyddol fydd yn y mwyafrif ymysg pleidleiswyr o fewn degawd. Byd bach rhyfedd iawn ydi byd gwleidyddol Gogledd Iwerddon.
14 comments:
Ga i dy annog i ddarllen 'Good Friday: The Death of Irish Republicanism' gan Anthony McIntyre, a 'Stakeknife: Britain's Secret Agents in Ireland' gan Martin Ingram a Greg Harkin os wyt am gipolwg llawnach o realiti'r sefyllfa wleidyddol yn y dalaith. Naifrwydd fyddai derbyn unrhyw beth arall.
Difyr iawn. Lot o bethe ddylwn i fod yn eu gwbod nhw'n barod. Diolch!
'Dwi wedi darllen Stakeknife. 'Dwi heb ddarllen llyfr McIntyre - ond 'dwi ddim yn derbyn dadansoddiad pobl fel fo o'r broses heddwch. Y syniad bod y rhyfel yn enilladwy (o ran y naill ochr neu'r llall) oedd y naifrwydd go iawn.
Ta waeth - edrych ar broblemau'r ochr Unoliaethol oeddwn i yma - a'u prif broblem ydi diffyg hyblygrwydd elfennau sylweddol o'u traddodiad eu hunain.
difyr, fydd rhaid i mi gael cip ar y llyfre yma. Wedi bod yn darllen 50 Dead Men Walking - hanes 'bradwr'/informer IRA - diddorol iawn. Bywyd a gweithredoedd yr IRA ddim yn arbennig o arwrol pan fod thugs yn cael rhwydd hynt i ladd a phoenydio pobl yn enw 'achos'.
Yn gyd-ddigwyddiad llwyr mae Slugger O'Toole yn trafod trafferthion Unioniaetholdeb ... neu ai'r un person yw Menai a Slugger ...!?
http://sluggerotoole.com/index.php/weblog/comments/orange-struggles-with-modernity-whilst-nationalism-struggles-with-a-new-sup/
Dydi blogmenai ddim ffit i ddatod esgidiau Slugger O'Toole!
Attractive element of content. I simply stumbled upon your blog and in
accession capital to assert that I get actually enjoyed account
your weblog posts. Anyway I will be subscribing for your feeds and even I fulfillment you access consistently rapidly.
Feel free to surf to my blog post payday loan consolidation
Woah! I'm really digging the template/theme of this website. It's simple,
yet effective. A lot of times it's very hard to get that "perfect balance" between user friendliness and appearance. I must say you've
done a excellent job with this. In addition, the
blog loads super fast for me on Opera. Outstanding Blog!
Feel free to visit my web blog; toe nail fungus treatments
I read this article fully concerning the difference of latest and earlier technologies,
it's amazing article.
refinishing hardwood floors
Stop by my web-site :: engineered hardwood flooring
I read this article fully concerning the difference of latest and earlier technologies,
it's amazing article.
refinishing hardwood floors
my web-site :: engineered hardwood flooring
My site > engineered hardwood flooring
hello!,I really like your writing very a lot!
proportion we keep in touch extra approximately your article on AOL?
I require an expert in this area to unravel my problem. Maybe that's you! Taking a look forward to peer you.
my homepage - zetaclear side effects
hello!,I really like your writing very a lot! proportion we keep in touch extra approximately your article on AOL?
I require an expert in this area to unravel my problem.
Maybe that's you! Taking a look forward to peer you.
Feel free to surf to my page: zetaclear side effects
my web page: zetaclear side effects
I am sure this article has touched all the internet visitors, its really really nice
post on building up new weblog.
Also visit my web blog :: house cleaning phoenix
I have learn some excellent stuff here. Certainly value bookmarking for revisiting.
I wonder how much effort you put to make this type of wonderful informative web site.
My website ... house cleaning phoenix
Hi there, after reading this remarkable article i am also
happy to share my knowledge here with mates.
Here is my web site; www.ainifinity.com
Post a Comment