Sunday, March 15, 2009

Y Blaid wrth Plaid Cymru

Mae yna stori o gwmpas i un o ymgeiswyr Llais Gwynedd ddisgrifio ei gwleidyddiaeth fel Dim Plaid Cymru wedi i un o'i darpar etholwyr ofyn iddi tros beth roedd yn sefyll.

'Dwi ddim yn gwybod os ydi'r stori yn wir, ond os ydi hi neu beidio mae'n ddisgrifiad da o'r hyn ydi Llais Gwynedd - plaid / grwp sy'n denu pob math o bobl o pob math o gefndiroedd, sydd a dim oll yn gyffredin rhyngddynt ag eithrio casineb afresymegol tuag at Blaid Cymru. Mae'r blog hwn wedi dadlau hynny'n gyson.

Mae'n debyg gen i mai'r dystiolaeth orau tros hyn ar y We ydi blog un o gynghorwyr Llais Gwynedd, Mr Gwilym Euros Roberts.

Mae blog Gwilym yn un digon eclectic - mae'n cynnwys gwybodaeth digon diddorol am fywyd pob dydd Gwilym, ei ddiddordebau ac ati. Mae hefyd yn flog rhannol wleidyddol, ac mae'r rhannau hynny yn rhoi cip diddorol ar ddehongliad Gwilym, a Llais Gwynedd am wn i o wleidyddiaeth Gwynedd.

Cyn edrych ar y dehongliad hwnnw, efallai y dyliwn betruso am ennyd i edrych ar y drefn yng Ngwynedd go iawn. Ceir pump grwp gwleidyddol ar Gyngor Gwynedd - Plaid Cymru, Llais Gwynedd, Annibynwyr, Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur. Yn gwahanol i'r mwyafrif llethol o gynghorau Cymru mae'r cyngor yn cael ei reoli gan Fwrdd aml bleidiol - fe rennir y grym rhwng pawb - ac i'r graddau hynny mae pob grwp yn rheoli'r cyngor. Hyd y gwn i dim ond Powys sydd a threfn debyg.

Yn y rhan fwyaf o gynghorau mae'r grwp mwyaf, neu'r cyfuniad mwyaf yn hawlio'r grym i gyd trwy ddull Cabinet. Felly, yng Ngheredigion er enghraifft nid oes gan Blaid Cymru unrhyw rym o gwbl er mai nhw ydi'r grwp mwyaf o ddigon. Gan bod y Lib Dems a'r Annibynwyr gyda mymryn mwy o aelodau na sydd gan y Blaid maent mewn sefyllfa i reoli'r Cabinet, ac felly'r Cyngor yn ei gyfanrwydd.

Yn y tirwedd gwleidyddol a bortreadir ym mlog Gwilym fodd bynnag mae'n fyd cwbl gwahanol. Ceir dau grwp - Plaid Cymru, a Llais Gwynedd. Mae aelodau Plaid Cymru yn bobl anhygoel o ddrwg sy'n treulio pob awr yn cynllwynio sut i wneud gwahanol ddrygioni. Maent hefyd yn taflu cathod bach ar y tan, yn dwyn pres o blat y casgliad pan maent yn y Capel ac yn gwisgo mygydau anghynes er mwyn dychryn plant bach. Mae aelodau'r grwp arall, Llais Gwynedd ar y llaw arall yn saint modern - pobl sy'n ffeind efo plant ac anifeiliaid, sy'n mynd i gryn drafferth i helpu'r henoed groesi'r ffordd, pobl sy'n treulio eu holl amser yn meddwl am ffyrdd o hyrwyddo daioni. Mae yna drydydd grwp - ond plant Annwn ydi'r rheiny - yn union fel Plaid Cymru. Fe'u gelwir yn Swyddogion.

Y drwg efo'r tirwedd yma ydi ei fod yn bodoli yn nychymyg aelodau Llais Gwynedd yn hytrach nag yn y byd go iawn. Dyna pam mae blogiau fel hwn ar ad drefnu ysgolion cynradd yng Ngwynedd mor ofnadwy o rhyfedd. Nodaf isod ddwy fersiwn o'r sefyllfa parthed ad drefnu - un blog Gwilym Euros - a'r un sy'n digwydd yn y Byd go iawn.

Fersiwn Gwilym: Mae'r swyddogion anhygoel o ddrwg a'r Pleidwyr anhygoel o ddrwg yn cynllwynio i gau 25 ysgol oherwydd eu bod nhw'n bobl anhygoel o ddrwg. Mae Llais Gwynedd yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gadw'r 25 ysgol yn agored oherwydd eu bod nhw'n bobl anhygoel o dda. Mae pawb arall yn rhyfeddu yn geg agored at ddrygioni'r Pleidwyr a'r swyddogion ac yn dotio at ddaioni Gwilym a Llais Gwynedd. Maent hefyd yn ymgynghori gyda Gwilym, ac yn dweud wrtho mor ddigalon mae'r holl ddrygioni a ddaw o gyfeiriad Plaid Cymru yn gwneud iddynt deimlo.

Fersiwn go iawn: Mae adroddiad wedi ei gynhyrchu gan grwp sy'n cynnwys pob un o'r grwpiau ar Gyngor Gwynedd - Plaid Cymru, Annibynwyr, Llafur, Lib Dems a Llais Gwynedd. Ymateb ydi'r adroddiad i bwysau sy'n cael ei roi ar y Cyngor i ad drefnu gan ESTYN, y Comisiwn Archwilio a'r Cynulliad. Mae'r un pwysau yn cael ei roi ar gynghorau ar hyd a lled Prydain. Mae yna nifer o bethau yn yr adroddiad sy'n dderbyniol i bron i bawb, ac mae yna bethau sy'n debygol o fod yn gynhenus, gan gynnwys rhai pethau sy'n achosi gofid i mi.

Beth bynnag, cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo yn unfrydol gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc Gwynedd - pleidleisiodd y tri aelod Llais Gwynedd o blaid cymeradwyo'r adroddiad. Pan ddaeth y mater ger bron y Bwrdd pleidleisiodd pedwar o'r pump grwp o blaid cymeradwyo'r adroddiad, ond pleidleisiodd y ddau aelod LlG (gan gynnwys Gwilym) yn erbyn cymeradwyo'r adroddiad oherwydd eu bod yn ofni y gallai arwain at gau rhai ysgolion.

Felly y gwir sefyllfa ydi bod pob grwp ag eithrio Llais Gwynedd wedi cymeradwyo'r adroddiad, tra bod Llais Gwynedd yn ymddangos yn rhanedig ar y mater. Mae hyn ymhell, bell o'r stori fach syml o ddrygioni a daioni a bortreadir ym mlog Gwilym.

Mae gan Gwilym flog diweddar arall sydd mewn gwirionedd yn gopi o lythyr a anfonwyd ganddo ef ei hun yn ateb llythyrau a anfonwyd i'r wasg gan gyn gynghorydd Plaid Cymru o'r enw Maldwyn Lewis. Mae sylwadau Gwilym yn gwneud rhyw fath o synwyr i mi, gan fy mod wedi gweld llythyrau gwreiddiol Maldwyn Lewis - ond i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr ei flog sydd yn ol pob tebyg ddim yn darllen Golwg na'r Caernarfon & Denbigh, mae'n rhaid ei fod yn anodd i'w ddeall. Efallai y byddai wedi bod yn ddoethach i Gwilym gopio llythyrau Maldwyn Lewis hefyd, er mwyn rhoi rhyw fath o gyd destun i'w gyfraniad ei hun.

Ta waeth, yr hyn aeth a fy sylw oedd y sylwadau hyn gan Gwilym:

Ganol Rhagfyr, mi adroddodd Golwg am aelod o Blaid Cymru yn fy ngalw i yn “f***ing idiot” wrth i mi gyflwyno cynnig arbedodd £1.4m i'r Cyngor wrth ail-strwythuro'r uwch reolaeth y Cyngor. Nid oes unrhyw aelod o Lais Gwynedd wedi siarad mewn modd mor ffiaidd a gwenwynig gyda swyddog na chyd aelod o'r Cyngor ac fyddwn i yn fawr obeithio na fyddai neb o fewn y grwp byth gwneud chwaith!

Cyfeirio mae Gwilym at stori a ymddangosodd yn Golwg. Mae Gwilym eisoes wedi ymateb i'r erthygl ar ei flog, ac wedi ei disgrifio fel un o'r erthyglau gwaethaf iddo erioed ei darllen. Mae hi hefyd yn un o'r erthyglau gwaethaf yr ydw i erioed wedi ei darllen. Ynghanol pob math o lol anealladwy, mae awdur yr erthygl yn honni i'r Cynghorydd Eddie Dogan o Fangor ddisgrifio Gwilym fel fucking idiot.

A bod yn deg efo Gwilym, yn ei gyfeiriad gwreiddiol mae'n cymryd yr honiad gyda phinsiad go dda o halen. Roedd hynny'n beth doeth i'w wneud gan na chlywodd Eddie ei hun yn gwneud y sylw, na Gwilym, na neb oedd yn eistedd yn agos at Eddie, na neb o'r grwpiau eraill, na'r un o'r swyddogion, na neb oedd yn yr oriel ag eithrio gohebydd Golwg. 'Does yna ddim arwydd o'r sylw ar y tap a wnaed o'r cyfarfod chwaith. Hynny yw, gallwn fod yn 99% sicr mai ffrwyth dychymyg gohebydd Golwg oedd y peth i gyd. Deallaf bod Golwg wedi ymddiheuro am yr honiad i Eddie.

Y rheswm mae Gwilym yn atgyfodi'r stori ydi nid am ei fod yn ei chredu, ond oherwydd ei bod yn gweddu i'r naratif presenol sydd ganddo fo a Llais Gwynedd o ddrygioni di ben draw Plaid Cymru a swyddogion Cyngor Gwynedd, a daioni anhygoel Llais Gwynedd.

Daw hyn a ni'n ol at drefn rheoli Cyngor Gwynedd. Fel y dywedais, mae'n drefn sy'n rhannu grym - ac i'r graddau yna mae'n drefn anarferol. 'Dydw i erioed wedi hoffi'r drefn hon - ond gallaf weld dadleuon o'i phlaid lle mae lled gonsensws i gyd weithio oddi mewn i'r cyngor.

'Does yna ddim cyd destun felly ar hyn o bryd. Mae un o'r grwpiau yn cymryd cymaint o rym ag y gallent ei gael, ond yn gwrthod cymryd y gyfriflodeb sy'n mynd gyda hynny. Maent yn gweld busnes y Cyngor mewn termau plentynaidd o simplistaidd, ac yn tanseilio'r cyngor ar sail y naratif simplistaidd sy'n mynd gydag hynny. Maent yn piso allan o'r babell, ac yn piso i mewn i'r babell ar yr un pryd (ag addasu sylwadau enwog John Major).

'Dydi'r drefn o reoli'r Cyngor trwy Fwrdd Rheoli ddim yn ffit i bwrpas. Mae'n hen bryd symud i drefn Gabinet.

13 comments:

flatstomach99 said...

etholiad cyffredinol Mehefin 2009;)

Cai Larsen said...

Hmm - ti'n siwr Tecs?

Anonymous said...

Mae Gwilym Euros yn joc sal bellach - yn ymfalchio fod treth cyngor ddim ond yn codi 3.9% yng Ngwynedd, heb sylwi fod hyn yn bosib dim ond trwy ddirwyn gwasanaethau fell Bryn Llywelyn i ben. Ym myd bach 'Gwil' mae 2+2=53

Rwan mae o'n cyhuddo'r Blaid o ragrith oherwydd safbwynt cynghorwyn y Sir Gâr. Am un peth, mae'r gwawdio yn anwybyddu'r ffaith fod grwpiau lleol yn dilyn polisi sydd wedi ei lunio i'w ardal nhw.

Yn ail, addysg uwchradd ac nid cynradd yw eu trafodaeth nhw - a mae'r drafodaeth yn un ieithyddol a strrwythurol, nid dadleuon hurt Llais Gwynedd.

Yn olaf, mae cynllun cyngor Sir Gâr yn anwybyddu cyfeiriadau Llywodraeth y Cynulliad. Mae cynllun ad-drefnu addysg Cyngor Gwynedd yn derbyn cyngor gan Estyn, y Comisiwn Archwilio, a Llywodraeth y Cynulliad.

Wyt ti'n deall Gwilym?

Anonymous said...

Eddi Dogan yn rhegi. Mae'n cysgu rhan fwyaf o'i amser mewn cyfarfodydd

Anonymous said...

Wedi ystyried dy sylw olaf, a rhaid i mi anghytuno. Mae trefn Gwynedd yn un cynhwysol iawn - yr esiampl gorau o ddemocratiaeth lleol yng Nghymru, gan fod pawb a bob plaid yn chwarae rhan.

Mae Llais Gwynedd yn gweithio yn erbyn y cyd-destun gynhwysol yma. Ond ni fedrir gwadu fod nifer dda wedi eu ethol i allu wneud hyn - mewn protest dros ysgolion bach. Rhaid parchu hawl y bobl yma i bleidleisio fel y maent yn mynnu, a chael dweud eu dweud mewn llywodraeth leol. Fel y mae pob plaid arall yng Ngwynedd.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Haleliwia!!..Rhydian Fon...da ni yn cytuno ar rhywbeth o'r diwedd.
Ni gwamalu ydw i chwaith, mae'r pwynt wyt ti'n ei wneud yn holl bwysig ac yn greiddiol i'r holl drefn ddemocrataidd mae pob plaid yn Wynedd wedi ei dderbyn.
Fedr Cai na neb wrthwynebu hynny siawns jyst am nad yw pawb yn cytuno ar bopeth ac am nad yw Plaid Cymru yn cael ffordd ei hunain pob tro?

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Gyda llaw Rhydian...dwi'n gwybod dy fo ti'n ddiawl o foi efo ffigyrau so unrhyw adeg ti am gynnig gwersi i mi, byddwn i'n falch iawn o'u cael ..."byd bach Gwil 2+2= 53"...da iawn rwan ;-)

Cai Larsen said...

hem - 'dwi'n meddwl bod camddealltwriaeth yma.

Fyddwn i byth yn awgrymu am funud nad oes gan Lais Gwynedd hawl i'w cynrychiolaeth. Os ydi pobl yn cael eu hethol fel cynrychiolwyr cyhoeddus, wedyn mae ganddyn nhw hawl i gynrychioli. Mae'r etholwyr pob amser yn gywir - syml.

Yr hyn rydwyf yn ei amau ydi priodoldeb y drefn reoli hynod o anarferol sydd gan Gwynedd mewn sefyllfa lle mae un o'r grwpiau sy'n rheoli yn gweld y cyngor ei hun fel y 'gelyn'.

Yr unig beth 'dwi'n awgrymu ydi bod Gwynedd yn symud at y drefn arferol - yr un a ddefnyddir yng Ngheredigion, Mon Conwy ac ati.

Fedar trefn sydd wedi ei llunio i reoli trwy gonsensws ond llwyddol lle mae consensws.

Anonymous said...

blogmenai, dwi wedi deall dy bwynt, ond rhaid i fi anghytuno'n dal i fod. Mae trefn Môn a Chonwy yn llai democrataidd - dyna'r gwir syml.

A dwi'n credu nad yw'n gyd-ddigwyddiad fod Powys a Gwynedd - y dau sir mwyaf yng Nghymru - wedi mabwysiadu trefn gynhwysol iawn. Hyn gan fod cymaint o ardaloedd gwahanol, a safbwyntiau lleol o lefydd 100 milltir ar wahan. Hynny yw, rhaid clywed lleisiau o bob man pan yn llywodraethu ardal mor fawr.

Ar ddiwedd y dydd, dwi o blaid cyn gymaint o ddemocratiaeth a sy'n bosib. Er nad wyf yn cytuno gyda barn Gwilym Euros, rwyf yn parchu ei hawl i'w ddweud o, ac i'w ddweud ar lwyfan grym hefyd. Os oes gan y Blaid ddadl well ar y llwyfan yma, mi wnawn ni ennill. Os nad, rhaid parchu barn etholwyr.

Rhaid sicrhau fod gweddill cynghorau Cymru yn magu trefn Gwynedd, nid ein bod ni yn cydymffurfio a'r gweddill.

Diolch Gwilym - gyda llaw, 2+2=4

Dwi ddim yn credu fod Cai yn cynnig trefn Cabinet oherwydd nad yw'r Blaid yn cael ei ffordd. Beth dwi'n credu mae Cai yn dweud yw fod trefn gynhwysol yn gweithio ar ei orau pan mae pob plaid yn barod i gydweithio.

Anonymous said...

Gyda llaw Cai, efallai fod fy esboniad yn darllen fel delfrydiaeth, ond idealist ydw i felly... Yn anffodus, nid oes llawer o le i rheini ar lywodraeth leol!

Cai Larsen said...

Gellir ar un wedd ddadlau bod trefn sy'n sicrhau bod pob plaid yn rhannu grym, hyd yn oed pan mae plaid wedi methu wrth lywodraethu yn wrth ddemocrataidd ynddi ei hun.

Pwy fyddai wedi hoffi gweld y Toriaid yn dal eu gafael mewn grym wedi 97?

Pam mor iach fyddai hi petai etholiad Cynulliad 07 wedi arwain at fan newidiadau yng nghyfansoddiad y cabinet Cymreig a dim arall?

ON - dwi'n ymfalchio'n fawr yn y gamp anhygoel o fod wedi rhoi Rhydian a Gwilym yn yr un gorlan.

Anonymous said...

haha! dwi yn gweld dy bwynt blogmenai. Fy nadl i yw fod gan bawb rhyw werth mewn llywodraeth leol. Weithiau mae angen lleisiau sydd yn dadlau y ffordd arall mewn llywodraeth. Ti yn son am y Toriaid yn 97. Mae llywodraeth genedlaethol yn wahanol gan fod nifer o'r penderfyniadau a'r lefel cenedlaethol, neu rhanbarthol. Mae gwaith unrhyw Gyngor yn ymwneud a wardiau ac ardaloedd penodol.

Fel esiampl, yn Nwyfor roedd y bleidlais yn agos iawn gyda'r Blaid yn ennill mwy na Llais Gwynedd o dri neu pedwar canran. Yr unig ffordd i sicrhau fod barn y bobl yna yn cael cynrychiolaeth yw sicrhau fod gan Llais Gwynedd ran mewn llywodraethu, ac nid craffu yn unig.

Cai Larsen said...

Craffu ydi rol gwrthblaid fel rheol.

'Dydi'r ffaith bod pethau yn agos mewn rhan arbennig o'r sir ddim yma nag acw mewn gwirionedd.

Addasrwydd dull rheoli i gyd destun gwleidyddol ydi'r issue creiddiol.