Friday, March 13, 2009

Golwg arall ar ddemograffeg Gogledd Iwerddon

Mae David H Jones yn gwneud y sylwadau canlynol ynglyn a fy mlog diwethaf, a chan bod ei bwyntiau yn rhai diddorol, a chan bod y blog gwreiddiol yn fyr iawn mi ymatebaf ar dudalen flaen y blog yn hytrach nag ar y dudalen sylwadau.

blog difyr - fel arfer. Mae hefyd yn wir fod y gyfradd geni yn uwch yn GI nawr nag mae hi wedi bod ers 1991
http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/7939546.stm
gan fod menwyod sydd wedi osgoi dechrau teulu yn eu 20au nawr yn eu 30au canol / hwyr. Y dybiaeth fell gan fod y Catholigion yn fwy niferus yn yr oedran 30 ac iau, fod y mwyafrif o'r plant yma am fod yn Gatholigion hefyd. Roedd rhyw gred efallai ymysg Unoliaethwyr y byddai'r cwymp yn y cyfradd geni yn yr 1990au yn lleihau twf yn y gymuned Gatholig. Dydy hynny ddim yn edrych mor wir nawr.

Fy unig gwestiwn Menai yw hyn. Gallaf ddeall fod Catholigion yn pleidleisio ar lefel 'gymunedol/sectyddol' syfrdannol o gyson ond oes tystiolaeth y byddant yr un mor driw mewn refferendwm ar uno gyda'r Weriniaeth?

Dwi'n meddwl hefyd y byddai'n anodd iawn i'r Gogledd ymuno a'r De yn unig ar sail pleidlais o dyweder 51% o blaid a 49% yn erbyn. Bydd angen mwyafrif llawer mwy a chymuned unoliaethol llawer gwanach/cyfforddus gyda'r syniad o Iwerddon unedig, i wireddu'r freuddwyd honno.


Mae'n wir bod y gyfradd geni wedi cynyddu'n ddiweddar, ac mae'n debyg mai Pabyddion sydd yn gyfrifol am hyn - ond fyddwn ni ddim yn siwr tan mae canlyniadau cyfrifiad 2011 yn cael ei gyhoeddi (neu tan mae'r babanod yn ddigon hen i fynd i'r ysgol). Mae'r gyfran o'r boblogaeth Babyddol sydd o oedran epilio wedi cynhyrchu mwy o blant na'r Protestaniaid ers cryn gyfnod bellach - er ei bod yn llai o ran maint na'r un Brotestanaidd. Bellach mae'n debyg bod y gyfran yma o'r boblogaeth yn fwy ymysg Pabyddion, ac mae felly'n dilyn bod cyfraddau geni'n codi.

Roedd rhywfaint o le i gredu ar ddiwedd y naw degau bod cyfradd geni Pabyddion yn syrthio yn gynt na'r un Brotestaniaid, ond nid yw'r rhagdybiaeth yma wedi ei wireddu. Gellir dangos hyn trwy gyfeirio at y graffiau hyn yr wyf wedi bod yn ddigon digywilydd i'w dwyn o'r blog arbennig o dda - Ulster's Doomed.







Mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn gwbl glir ynglyn a statws cyfansoddiadiol Gogledd Iwerddon. Pan mae'n ymddangos i'r Ysgrifennydd Gwladol Tros Ogledd Iwerddon bod mwyafrif yn ffafrio ail uno'r wlad, yna mae'n rheidrwydd arno i alw refferendwm. Mae 50% + 1 yn ddigon i wireddu'r penderfyniad. 'Does yna ddim opsiynau eraill megis ail leoli'r ffin, neu greu endid annibynnol.

'Rwan mae'r cwestiwn os y byddai mwy o Babyddion yn pleidleisio tros y status quo na sydd o Brotestaniaid yn pleidleisio tros Iwerddon unedig yn un da iawn. Mae polau piniwn yn tueddu i awgrymu bod lleiafrif sylweddol (efallai 25% neu fwy) o Babyddion o blaid y status quo - ond - ac mae'n ond mawr - dydi polau piniwn yng Ngogledd Iwerddon ddim yn ddibenadwy. Maent yn ddi eithriad yn gor gyfrifo nerth etholiadol y canol gwleidyddol, ac yn tan gyfrifo nerth yr eithafion.

Er enghraifft yr ymchwil mwyaf cyson ydi un y Northern Ireland Life & Times Survey. Mae'r ymchwil yma yn dangos bod lleiafrif sylweddol o Babyddion yng Ngogledd Iwerddon yn fodlon aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Ond - roedd yr ymchwil diweddaraf i gael ei gyhoeddi (2007) hefyd yn dangos mai 14% oedd cefnogaeth Sinn Fein. Cynhalwyd etholiadau Stormont y flwyddyn honno, ac roedd cefnogaeth SF tua dwywaith hynny. Mae hyn yn dan gyfrifo arwyddocaol iawn - llawer mwy felly na mewn unrhyw bol piniwn neu ymchwil Prydeinig neu Wyddelig arall. Mae'n rhesymol felly tybio bod gor gyfrifo sylweddol o Babyddion unoliaethol.

Mae yna fater arall y dylid ei ystyried hefyd - mae patrymau pleidleisio Gogledd Iwerddon yn cael eu gyrru gan ystyriaethau llwythol. Pan mae'r etholiad yn bwysig, mae'r pwysau llwythol i bleidleisio mewn ffordd arbennig yn cynyddu. Er enghraifft, roedd cred na allai'r ymprydiwr newyn, Bobby Sands ennill mewn is etholaeth yn etholaeth ymylol Fermanagh South Tyrone yn 1981 oherwydd na fyddai cyfran arwyddocaol o'r boblogaeth Babyddol yn fodlon pleidleisio i derfysgwr. Dyma'r canlyniad:

Bobby Sands (Anti-H-Block/Armagh Political Prisoner) 30,493 (51.2%)
Harry West (Ulster Unionist Party) 29,046 (49.8%)

Anti-H-Block/Armagh Political Prisoner majority: 1,446; electorate 72,283; spoilt votes: 3,280; votes cast: 86.9%

Mae cyfradd bleidleisio o 87% yn brin iawn ym Mhrydain, ac mae'r etholiad arbennig yma yn dysteb i rym y reddf lwythol mewn gwleidyddiaeth etholiadol yng Ngogledd Iwerddon.

3 comments:

Dewi Harries said...

Da iawn a diddorol.
Pa bynnag ganran o Babyddion sy o blaid aros yn y DU mae'r patrymau pleidiol yn gliriach ac mae bron yn sicr i arwain at arweinydd y cynulliad o'r traddodiad Babyddol o fewn dau ddegawd.
Fyng ngrêd i yw y bydde'n well gan yr Uniolaethwyr Iwerddon Unedig na phrif weinidog yn y gogledd o Sinn Féin...gewn ni weld - digwyddiadau echrydus yr wythnos hon sydd ddim yn helpu unrhyw achos.

david h jones said...

Diolch Menai.

Dwi'n cytuno 'da llawer o dy ddadansoddiad. Ond dwi'n rhyw amau y gallai pleidleisio mewn refferendwm fod yn wahanol. A fyddai achos i ragdybio y byddai pobl ar gwestiwn o Iwerddon Unedig i poliwr piniwn yn teimlo fel Catholic mae dweud eu bod o blaid Iwerddon Unedig fyddai'n 'peth iawn' i'w ddweud - h.y. ddim am 'fradychu'r ochr' - y fersiwn saff, dderbyniol dyweder, ond fod canran yn teimlo'n wahanol mewn blwch pleidleisio? Wn i ddim.

Dwi'n amau hefyd, efallai pan ddaw at Refferedwm, a gall ddo o fewn degawd o bosib (yn 2016?!) y bydd rhai Catholigion yn teimlo fod ganddynt mewn gwirionedd, fwy yn gyffredin gyda'u brodyr/gelynion Protestanaidd yn GI na gyda'r Catholigion yn y de - rhyw 'genedlaetholdeb GI' efallai.

T'beth, wedi i mi ymateb i dy flog darllennais yr erthygl yma gan Johann Hari yn The Independent (13 Mawrth 2009 - 'Peace in Ireland depends of ending the education divide').

Dywed fod 80% o Brotestaniaid am barhau'r undeb a Phrydain (beth am yr 20% arall - annibyniaeth i GI? - wn i ddim). Dywed fod 51% o Babyddion am uno a'r Weriniaeth.

Ar sail hyn, does dim garanti dros uno Iwerddon am 30 mlynedd hyd y gwela i.
http://www.independent.co.uk/
opinion/commentators/johann-hari/
johann-hari-peace-in-ireland-
depends-on-ending-the-
educational-divide-1643907.html

menaiblog said...

David - mae dy bwyntiau yn rhai diddorol - ond mi fyddwn yn ychwanegu sylw neu ddau i'r hyn rwyf eisoes wedi son amdano.

Mae yna reswm eithaf syml pam bod pob pol piniwn yn y Gogledd yn tan gyfrifo pleidlais SF. 'Dydi Pabyddion ddim yn fodlon dweud eu gwir farn gwleidyddol wrth ddieithriaid efo clip fyrddau - maen nhw'n ofn rhoi gwybodaeth a allai fod yn beryglus amdanyn nhw eu hunain i heddlu cudd, neu yn waeth parafilwriaid Protestanaidd.

'Does yna ddim gwleidyddion Unoliaethol Pabyddol, mae yna ambell i wleidydd Protestanaidd Cenedlaetholgar (gan gynnwys cynghorydd SF sy'n gyn aelod o'r RUC). Mi'r ydan ni'n clywed gan Unoliaethwyr yn aml bod Pabyddion Unoliaethol yn bodoli - ond 'dwi ddim yn siwr os oes yna un o gig a gwaed erioed wedi ymddangos.

Mae yna nifer o ffactorau eraill wrth gwrs - fydd yna ddim refferendwm am ddeg neu bymtheg mlynedd. Mi fydd cyflwr economaidd cymharol y De a'r Gogledd cyn bwysiced a'r cydbwysedd ethnig / grefyddol.