Tuesday, March 24, 2009

Cyngor Sir Gaerfyrddin ac ysgolion y Gwendraeth


Ymddengys bod y glymblaid Annibynnol / Llafur sy'n rheoli yn Sir Gaerfyrddin yn bwriadu cychwyn ar eu rhaglen ail strwythuro addysg uwchradd yn y Sir trwy uno dwy ysgol uwchradd Cwm Gwendraeth - Ysgol Maes yr Yrfa sy'n ysgol Gymraeg, ac Ysgol y Gwendraeth sy'n addysgu trwy gyfrwng y Saesneg. O'i weithredu byddai'n drychineb ieithyddol.

I'r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd a'r sefyllfa, Cwm Gwendraeth mae'n debyg ydi'r rhan Cymreiciaf (o ran iaith beth bynnag) o Gymru sy'n weddill y tu allan i'r Gogledd Orllewin. Mae tua dwywaith cymaint o blant yn mynd i'r ysgol Gymraeg nag i'r un Saesneg, er mai ychydig tros hanner plant Maes yr Yrfa sy'n siarad Cymraeg adref. Os byddai'r ddwy ysgol yn cael eu huno, byddai'r ganran sy'n siarad Cymraeg yn naturiol yn yr ysgol yn gostwng i ymhell o dan hanner. Mae'r ganran o blant sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf mewn ysgol yn bwysig, fel y cefais weld yn ddiweddar.

'Dwi wedi mynychu cyfres o gyfarfodydd yn ddiweddar mewn ysgol uwchradd yng Ngwynedd. 'Doedd wnelo'r cyfarfodydd ddim oll a'r ysgol - roedd hi'n digwydd bod yn lle cyfleus i drefnu cyfarfodydd.

Cyn cyrraedd yr ystafell gyfarfod roedd yn rhaid i ni groesi'r cowt yn ystod amser chwarae - ac felly gerdded trwy'r plant. Digwyddodd un o'r bobl oedd yn y cyfarfod diweddaraf son ei fod wedi aros mewn siop sglodion ar y ffordd i'r ysgol a'i chael yn llawn o blant ysgol, ond nad oedd yr un ohonynt yn cyfathrebu efo'i gilydd yn y Gymraeg - a'i fod wedi sylwi ar yr un peth wrth groesi'r cowt. Erbyn meddwl, prin yr oeddwn i wedi clywed gair o Gymraeg o gwbl yn ystod y pedwar neu bump tro yr oeddwn innau wedi croesi'r cowt - roedd profiad pawb arall yn ddigon tebyg.

Digwyddodd fy ngwraig ddal bws oedd yn mynd heibio'r ysgol ychydig ddiwrnodiau wedi'r cyfarfod hwnnw - a daeth nifer fawr o blant ar y bws wrth yr ysgol. Roedd ei phrofiad hithau'n ddigon tebyg un y gweddill ohonom.

Mae hyn yn estron i mi - 'dwi'n digwydd byw yn nhref Gymreiciaf Cymru, ac mae gen i bump o blant sydd naill ai yn yr ysgol uwchradd leol, neu sydd wedi mynychu'r ysgol yn y gorffennol cymharol agos a'r Gymraeg (a'r Gymraeg yn unig) oeddynt yn ei ddefnyddio gyda'u cyfeillion ysgol.

Rwan - mae tua hanner plant yr ysgol yr oeddwn yn son amdani yn dod o gartrefi Cymraeg. 'Roedd y bws a ddaliodd fy ngwraig yn mynd i bentref sy'n digwydd bod y tu allan i'r dalgylch swyddogol. Yn ol cyfrifiad 2001 roedd 77% o bobl y ward honno yn siarad y Gymraeg - y 38fed ward Gymreiciaf yng Nghymru (allan o 886). Canrannau'r wardiau eraill sy'n bwydo'r ysgol oedd 84%, 70%, 69%, 65%, 65% a 77%.

'Dydi'r canrannau hyn ddim yn arbennig o uchel wrth safonau Gwynedd - ond mae'n nhw'n uchel iawn wrth safonau gweddill Cymru. Dydyn nhw ddim ymysg yr isaf yng Ngwynedd chwaith o ran hynny. Nid y broblem ydi na all y plant gyfathrebu yn y Gymraeg efo'i gilydd - mae bron i pob plentyn yn yr ysgol yn siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf, mae'r mwyafrif ohonynt yn astudio trwy'r Gymraeg, ac mae safonau'r Gymraeg yn yr ysgol ymysg yr uchaf yng Nghymru. Y broblem yw eu bod yn dewis cyfathrebu efo'i gilydd trwy gyfrwng y Saesneg.

'Dwi'n brysio i nodi nad ydwyf yn beio'r ysgol am y sefyllfa ar y cowt - ychydig y gall ysgol - ac yn arbennig ysgol uwchradd ei wneud i reoli pa iaith mae plant yn ei siarad pan nad ydynt mewn ystafell ddosbarth - ac mae safon yr addysg Gymraeg yno'n rhagorol.

Mae cysylltiad agos rhwng y ganran sy'n ei chael yn haws i siarad Cymraeg oherwydd mai dyna eu hiaith gyntaf a iaith buarth mewn ysgol. Mae plant yn eu harddegau yn hoff iawn o unffurfiaeth - a'r tuedd yma sy'n rhannol gyfrifol am Seisnigrwydd plant yr ysgol 'dwi newydd fod yn son amdani.

'Dydi'r union ganran lle mae iaith buarth yn troi o un iaith i'r llall ddim yn union yr un peth ym mhob man, ond gallwn fod yn weddol sicr y byddai iaith buarth Maes yr Yrfa yn Seisnig iawn petai canran ei siaradwyr Cymraeg naturiol yn cwympo i tua thraean (fel y byddai'n digwydd efo'r cynllun hwn).

A fyddai hyn yn golygu colli'r iaith fel iaith gymunedol yng Nghwm Gwendraeth? Ddim o anghenrhaid - dydi'r iaith mae pobl yn ei ddefnyddio amlaf yn eu harddegau ddim o anghenrhaid yn aros am byth. Fel mae pobl yn mynd yn hyn mae dylanwadau ehangach na chyfoedion ysgol yn dod yn fwy pwysig - y man gwaith, colegau, teuluoedd ac ati. Ond yn sicr byddai'r iaith mewn sefyllfa wanach na phetai'r Cymry Cymraeg cynhenid ddim yn cael eu boddi mewn Seisnigrwydd.

2 comments:

Anonymous said...

dim i wneud a'r postiad yma, ond mae dy flog yn cael ei thrafod ar flog Ulster's Doomed. Mae'n rhan o'r ymatebion ac yn trafod y drafodaeth sydd wedi bod gennyt ar ddemograffeg a Gogledd Iwerddon.

menaiblog said...

Diolch - mae'r drafodaeth yn ddigon diddorol - ond nid oes yna unrhyw beth newydd mewn gwirionedd.

Fydda i ddim yn trafod demograffeg Gogledd Iwerddon eto yma hyd nes bydd data newydd i law.

Serch hynny, 'dwi'n gobeithio 'sgwennu ychydig am etholiadau Ewrop yn y DU ac Iwerddon fis nesaf, a 'dwi'n siwr o edrych ar yr etholiadau hynny yng Ngogledd Iwerddon. Gallant fod yn fwy diddorol nag arfer.