Sunday, March 01, 2009

Cyngor Gwynedd, toriadau a gwleidydda cyfrifol

Mae Hen Rech Flin yn cwyno nad oedd fy nghyfraniad diwethaf i'r blog yn amddiffyniad da o benderfyniad Cyngor Gwynedd i gau cartref henoed Bryn Llywelyn yn Llan Ffestiniog. Mae hynny'n ddigon gwir - beirniadaeth ar ymgais HRF i gysylltu'r penderfyniad a brad cenedlaethol oedd. Serch hynny, gan fod HRF yn codi'r peth, mi wnaf ychydig o sylwadau ynglyn a'r toriadau yn gyffredinol.

Wna i ddim trafod sefyllfa Bryn Llywelyn yn benodol - dydw i ddim yn gwybod digon am fanylion trafodaethau'r Cyngor Sir. Serch hynny 'dwi'n copio'r sylwadau a adawodd Dyfrig Jones ar flog Hen Rech Flin (heb ofyn ei ganiatad gyda llaw - 'dwi'n gwybod y bydd yn maddau i mi - mae wedi maddau llawer gwaeth yn y gorffennol.

Gyda phob parch, Alwyn, dwi ddim yn credu dy fod yn ymdrin a'r drafodaeth yma yn deg. Does neb yn awgrymu nad yw'r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig ar y funud ym Mryn Llewelyn yn wasanaeth da iawn. Ond rhaid ystyried addasrwydd yr adeilad, a'r math o ddarpariaeth fydd ei angen yn y dyfodol. Y gwir yw bod 'na 13 o w'lau yn Bryn Llewelyn, ac fe fydd y ddarpariaeth yna yn diflannu gyda chau'r cartref. Ond mae'r Cyngor yn adeiladu estyniad modern i gartref Bryn Blodau - sydd filltir i fyny'r ffordd - a fydd yn golygu ychwanegu 10 gwely at y ddarpariaeth bresennol. Ac fe fydd y 10 ystafell yma yn ystafelloedd wedi eu hadeiladu yn arbennig ar gyfer anghenion trigolion cartref henoed, yn hytrach na bod yn ystafelloedd mewn heb blasdy, wedi ei addasu ar gyfer defnydd gan yr henoed. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Cyngor yn codi 40 o dai gofal ychwanegol yn Blaenau, fydd - yn y dyfodol - yn cynnig cyfle i'r henoed dderbyn gofal proffesiynnol, ond o fewn cyd-destun lle maent yn dal eu gafael ar eu hannibynniaeth. Ac mae pob arolwg yn dangos mai dyna'r math o ofal y bydd pobl yn gofyn amdano yn y dyfodol.
O ran y staff, mae'r Cyngor wedi ei gwneud hi'n glir na fydd yr un aelod o staff yn cael ei ddi-swyddo, ac y bydd pob un yn cael cynnig swyddi gofal newydd. Felly fe fydd yr ymarfer da sydd i'w ganfod yn Bryn Llewelyn yn aros o fewn Gwynedd - a gobeithio yn aros ym Mlaenau, gan gyfrannu at y ddarpariaeth newydd sydd yn cael ei sefydlu.
Dwi'n gwybod y bydd y broses o symyd o Bryn Llewelyn yn un anodd i nifer o'r trigolion, a bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn gwneud popeth sydd yn bosib i leihau'r anghyfleustra. Ond erys y ffaith bod 'na broblemau sylfaenol gyda adeilad Bryn Llewelyn. Petai'r Cyngor wedi mabwysiadu gwelliant Linda Jones ddoe - a oedd yn galw am newid defnydd y cartref - fe fyddai gwaith sylweddol wedi gorfod cael ei wneud ar yr adeilad, ac yn ol pob tebyg, fe fyddai'r trigolion wedi gorfod gadael Bryn Llewelyn dros dro, beth bynnag.
Wrth gwrs, fyddai dim modd i ti wybod hyn oll o wrando ar y cyfryngau, gan mai dim ond ochr negyddol y stori sydd yn cael ei hadrodd. Ond y gwir yw bod Cyngor Gwynedd yn gwella y ddarpariaeth i'r henoed yn ardal Ffestiniog, ac yn sicrhau bod gan y fro arbennig honno ddarpariaeth sydd yn addas ar gyfer anghenion yr 21ain ganrif.


Wna i ddim ychwanegu at sylwadau Dyfrig - ag eithrio i nodi eu bod yn hynod gyflawn a thrylwyr. Mi ddyliwn i ychwanegu, er mwyn tegwch, bod Gwilym wedi tynnu fy sylw at ymateb ganddo ar flog arall i rhai o'r pwyntiau mae Dyfrig yn eu gwneud. Wna i ddim dyfynnu'r sylwadau yn llawn - mae'n ddigon cael Dyfrig yn dominyddu fy mlog, heb gael Gwilym yn gwneud hynny hefyd!

Eto, heb fynd i drafod sefyllfaoedd penodol, mi hoffwn wneud sylw neu ddau ynglyn a sefyllfa ariannol y Cyngor. Mae'r sefyllfa yn ymylu at fod yn argyfyngys - mae disgwyl i Gyngor Gwynedd dorri ar wariant eleni, y flwyddyn nesaf ac ym mhob blwyddyn y gallwn eu rhagweld. Nid yw hyn yn cael ei yrru gan benderfyniadau'r Cyngor ei hun - fe'i gyrrir gan y ffaith bod setliad ariannol y Cynulliad yn waeth nag oedd yn y gorffennol. Gyrrir hynny yn ei dro gan y ffaith bod yr adnoddau mae'r Cynulliad yn eu derbyn gan San Steffan yn eu tro yn cael eu lleihau. 'Dydi Cyngor Gwynedd ddim ar ei ben ei hun yn gorfod gwneud rhywbeth o'r picil yma - mae'r rhan fwyaf o gynghorau Cymru mewn sefyllfa digon tebyg.


'Rwan, os ydi'r adnoddau sydd ar gael i gyngor yn cael eu tocio o flwyddyn i flwyddyn, nid yw'n bosibl cadw'r ddarpariaeth fel ag y mae, nag yn wir ei gynyddu. Petai cyngor yn dilyn trywydd felly byddai dau beth yn digwydd:

(1) Byddai ansawdd gwasanaethau yn dirywio'n fisol - ni fyddai yna adnoddau ar gael i'w cynnal ar yr un lefel a maent yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.

(2) O fewn cyfnod o rai blynyddoedd byddai'n rhaid torri'n sylweddol ar wasanaethau - a byddai'r toriadau hynny'n digwydd mewn modd na ellid ei reoli'n hawdd - toriadau brys fyddent a fyddai'n cael eu gorfodi ar y Cyngor. O leiaf mae rheolaeth ar y toriadau presenol.

'Dydw i ddim yn dadlau bod pob toriad mewn gwasanaethau yn briodol wrth gwrs. Mae'n ddigon posibl bod rhai o'r dewisiadau yn rhai gwael o gymharu a thoriadau eraill posibl. Ond, nid yw'n bosibl dadlau - yn gyfrifol ac yn gall - na ddylid gwneud toriadau o gwbl.

Dyma'r cyd destun sy'n gwneud toriadau o rhyw fath yn anorfod. Mae Gwilym Euros yn ei flog yn gweld cyd destun arall pwysicach - cyd destun o ddiffygion moesol a phersonol ymysg y sawl sy'n pleidleisio tros y toriadau - maent yn griw o unigolion anghynes, diegwyddor, diasgwrn cefn a dan din. O - ac mae Dyfrig Jones yn goc oen hefyd. Mae testun cudd i hyn wrth gwrs - pan rydym yn dweud bod ein gwrthwynebwyr yn anfoesol, rydym hefyd yn awgrymu ein bod ni ein hunain yn foesol - felly mae Gwilym yn awgrymu ei fod o ei hun yn fynwesol, yn egwyddorol, yn ddewr ac yn onest. Digon posibl ei fod, 'dydw i ddim yn ei adnabod yn dda yn bersonol - ond 'dydi hynny ddim yn golygu nad oes pobl ar ochr arall y ddadl wleidyddol sydd a mymryn o hygrededd a moesoldeb yn perthyn iddynt hefyd.

'Rwan, y peth mwyaf caredig y gallaf ei ddweud am y math yma o beth ydi nad yw yn ffordd arbennig o soffistigedig o resymu'n wleidyddol. Mae dehongli gweithredoedd gwleidyddol gwrthwynebwyr yn nhermau eu hanfoesoldeb nhw yn nodwedd o wleidydda'r Dde eithafol. Er enghraifft, mae'r BNP yn hel pob sgandal ym mywydau personol eu gwrthwynebwyr ac yn eu cyhoeddi. Ceir ymysodiadau ar gymhellion personol tybiedig gwleidyddion yn hytrach na'u cymhellion gwleidyddol.

Dangoswyd y tueddiad hwn hefyd yn anffodus gan un neu ddau o ymgeiswyr Llais Gwynedd yn yr ymgyrch ar gyfer etholiadau lleol 2008, lle'r oedd rhai o'u gwrthwynebwyr yn cael eu diafoli.

'Dydw i ddim am eiliad yn awgrymu bod Gwilym na neb arall yn Llais Gwynedd yn rhannu gwleidyddiaeth y Dde eithafol wrth gwrs - i'r gwrthwyneb, 'dwi'n gwybod nad ydynt. Ond mae'r arfer o symleiddio gwleidyddiaeth i anterliwt lle ceir gornest rhwng daioni a drygioni yn nodwedd o wleidyddiaeth populist ('dwi ddim yn siwr o'r Gair Cymraeg yma mae gen i ofn).

Mae meddylfryd y traddodiad gwleidyddol yma yn dyladwadu ar Lais Gwynedd, mudiadau asgell Dde yn Ewrop a Phrydain, a rhai mudiadau y gellid eu disgrifio fel rhai adain Chwith yn Ne America. Yn wir roedd rhai elfennau ohono yn ymgyrchoedd John McCain a Barak Obama. Mae'r traddodiad yn ei hanfod yn un afresymegol, ac mae'n creu anhrefn gwleidyddol yn ei sgil.

'Rwan, mae'r blynyddoedd nesaf am fod yn rhai anodd i lywodraeth leol yng Ngwynedd, ac yng ngweddill Cymru - ac mae penderfyniadau anodd am orfod cael eu gwneud gan rhywun neu'i gilydd. Mae gwleidydda trwy honni bod cynrychiolwyr cyhoeddus cyfrifol, ymroddedig a chydwybodol yn cymryd penderfyniadau anodd oherwydd eu bod yn gywion Uffern yn llusgo gwleidyddiaeth Gwynedd i'r gwter - unwaith eto.

22 comments:

Alwyn ap Huw said...

Diolch am yr ymddiheuriad Cai!

Er mwyn eglurhad rhaid nodi mae tydi, nid myfi, cododd y sgerbwd canol oesol. Meddwl am wylofain trigolion a theuluoedd Bryn Llywelyn oeddwn i wrth roi teitl i'r post!

Cai Larsen said...

Ti'n gwneud yn dda os ti'n gweld ymddiheuriad yn y fan yna!

Dyfrig said...

Neges ddiddorol iawn, sydd yn gwneud nifer o bwyntiau difyr a phwysig. Dwi wedi teimlo rhwystredigaeth dros y dyddiau diwethaf gyda'r ffaith bod y drafodaeth ar y blogosffer Cymraeg wedi dewis anwybyddu'r ffeithiau er mwyn canolbwyntio ar gymeriad a moesoldeb.
Dwi'n credu ei bod yn bwysig ychwanegu un peth arall. Yn ogystal a bod o dan bwysau ariannol sylweddol, mae Cyngor Gwynedd wedi cael ei beirniadu yn hallt gan y Cynulliad am y modd y mae'n rhedeg ei Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r Cynulliad wedi ein rhybuddio y gallem golli rheolaeth dros y gwasanaethau hyn, os nad ydyn ni'n gwneud newidiadau. Un feirniadaeth sydd yn cael ei hail-adrodd dro ar ol tro yn adroddiad y Cynulliad yw bod Cynghorwyr Gwynedd yn gwrthod gwneud penderfyniadau gwleidyddol anodd - megis cai cartrefi'r henoed. Petai'r Cyngor wedi pleidleisio yn erbyn cau Bryn Llewelyn ddydd iau, fe fyddai Gwynedd gam yn nes at golli rheolaeth dros wasanaethau cymdeithasol. I mi, dyma'r rheswm penaf pam bod rhaid cefnogi'r cau.

Dyfrig said...
This comment has been removed by the author.
Anonymous said...

Gwir iawn Dyfrig - mae rhaid gwneud polisi o fewn llythyren deddf, o fewn cyllideb, a phwyso a mesur diben y polisiau. Dyma beth yr oeddwn yn ceisio esbonio i Gwilym Euros cyn iddo gael hisi ffit gan nad oedd yn hoffi fy nadl.

Anonymous said...

Beth am y 25%o 'r gyllideb sydd gan Gyngor Gwynedd wrth gefn ?

Cai Larsen said...

Anyhysbys Beth am y 25%o 'r gyllideb sydd gan Gyngor Gwynedd wrth gefn ?

Cwestiwn da - mae'r ateb yn ddibynol ar yr hyn mae'r cyngor yn bwriadu ei wneud efo'r balans mi dybiwn.

Dyfrig said...

Dyma engrhaifft wych o newyddiaduraeth gwbl anghyfrifol ar waith. Dwi'n amau yn gryf fod y stori ynglyn a balansau Cyngorhau Cymru wedi dod yn uniongyrchol o siambr Cyngor Gwynedd. Codwyd y mater gan y Cyng. Brian Jones yng nghyfarfod dydd iau diwethaf, pan oedd nifer o aelodau o'r wasg yn aros i gael clywed y penderfyniad ar Bryn Llewelyn. Rhoddwyd ateb cwbl eglur i Brian Jones - sef bod yr arian sydd yn y cyfrifon yn arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, a bod cynnal balansau wrth gefn yn rhan bwysig o redeg strategaeth ariannol ddarbodus. Petai'r Cyngor yn dechrau gwario'r balansau hynny rwan, fe fyddai'n golygu bod cynlluniau'r dyfodol yn dioddef.
Ond fy nhyb i oedd bod 'na newyddiadurwyr yn bresennol a oedd yn amharod i adael i'r ffeithiau ddinistrio stori dda. Fe aethon nhw o'r Cyngor, cysylltu a cynghorau Cymru, tynnu ffigwr cenedlaethol at ei gilydd, a'i gyhoeddi fel stori newyddion - sydd yn cael ei defnyddio i godi amheuon ynglyn a strategaeth ariannol Cyngor Gwynedd yn y fan hon.
Does dim byd yn bod ar adrodd y newyddion ynglyn a balansau cynghorau Cymru, wrth reswm. Ond os ydw i'n iawn, onid oes cyfrifoldeb ar newyddiadurwr y BBC i gyflwyno dwy ochr yr hyn a glywodd yn siambr Cyngor Gwynedd dydd iau - y cwestiwn, a'r ateb?

Anonymous said...

O be' dwi'n deall, mae tua £36m o'r arian 'wrth gefn' wedi ei neilltuo i'w wario yn barod - felly dydi o ddim yn wir wrth gefn, dim on aros i gael ei symud pan daw'r amser.

Mae bron i £12m arall, sydd yn arian wrth gefn go iawn - hynny yw, heb gael ei neilltuo ar gyfer prosiectau penodol. Mae cael £12m wrth gefn yn beth reit call i wneud mewn dirwasgiad, rhag ofn i'r cyngor redeg allan o arian.

Hefyd, bydd cyllideb y Cynulliad o dan wasgfa gan San Steffan cyn hir, felly bydd llai o arian i gynghorau.

Efallai bod Dyfrig yn gwybod mwy am hyn?

Anonymous said...

Pa gynlluniau sydd yna ar y gweill felly Rhydian ar gyfer gwario y £36 miliwn o falansau?

Be ddigwyddodd i £4miliwn Gwlad Yr Ia? Ydi hwnnw yn y 24% o ganran wrth gefn, 'ta ydi hynny yn ychwanegol eto?

Alwyn ap Huw said...

Mae'r ddadl yma a'r ddadl ar fy mhost gwreiddiol yn fy atgoffa o ddadl debyg cafwyd ar Flog Menai parthed rheolau cynllunio. Mae'n ddadl am bethau sychion megis y gyfraith, rheolau cyllid a rheolau'r sector gyhoeddus - pethau diflas nad oes yr un bleidlais i'w cael ohonynt.

Hwyrach bod Y Blaid yng Ngwynedd yn ymddwyn yn "gyfrifol" yn ôl y rheolau, ond lle mae'r cydymdeimlad? Lle mae'r ennill eneidiau i'r achos? Lle mae'r troelli? Lle mae'r gwleidydda?

Anonymous said...

Gwleidydda yn angenrheidiol Alwyn, ond dim wrth anwybyddu'r rheolau. Dim otsfaint mor wirion mae'n edrych, cyfraith yw cyfraith. Byddai ei anwybyddu yn golygu achos llys a'r gwasanaeth yn cael ei reoli o Gaerdydd. Does dim dewis ond gweithio o fewn y rheoleiddiau, a ceisio eu dehongli mewn ffordd sydd o fudd i bobl lleol.

Anhysbys, does gen i ddim gwybodaeth llawn gan nad wyf yn gynghorydd. Ond o be' dwi'n ddeall, mae amryw o brosiectau adfywio'r economi ar y gweill, yn enwedig ym maes twristiaeth - megis yn Bala. Mae o fel archebu eitem o siop, ond peidio a gorfod talu nes ei fod wedi ei ddosbarthu.

Dros y £4m yng Ngwlad yr Ia, mi wnes i ofyn cwestiynau caled ar y pryd, gan fy mod yn gandryll a ffolineb y Cyngor yn y mater. Ond erbyn hyn mae'n glir mae problem systemig oedd, ac nid bai unigolion.

Yn wir, roedd banc Heritable yn gofrestredig yn y DG, er ei fod yn is-gwmni o Landsbanki. Y Trysorlys a'i canllawiau buddsoddi oedd yr unig rai ar fai, er bydd rhaid i swyddogion Gwynedd dysgu anwybyddu cyngor Alistair Darling yn y dyfodol!

Dyfrig said...

Dwi ddim yn credu i mi erioed o'r blaen glywed aelod o'r cyhoedd yn galw ar i blaid wleidyddol wneud rhagor o "droelli". Ddrwg gen i dy siomi, Alwyn, ond does gen i ddim rhyw lawer o ddiddordeb yn y math yma o "wleidydda". Dwi'n cymeryd fy nghyfrifoldeb fel Cynghorydd - cyfrifoldeb sydd yn ymestyn i holl drigolion Gwynedd, yn hytrach na dim ond y rhai sydd yn byw yn fy ward - o ddifri.

Anonymous said...

Dyfrig, dwi yn credu bod lle i wleidydda, a bod angen i'r Blaid yng Ngwynedd foderneiddio ei dulliau ymgyrchu. Ond fel ti'n dweud, y math o wleidydda sy'n bwysig.

Mae llywodraeth da yn golygu gwneud penderfyniadau amhoblogaidd weithiau, er mwyn lles tymor-hir i'r mwyafrif. Gwleidydda popiwlist fyddai peidio, a byddai'n lywodraeth aneffeithlon i beidio a gwneud dim sydd yn corddi unrhyw unigolyn.

Yn fwy difrifol, mae agwedd popiwlist - cymeryd ochr 'y bobl' yn erbyn rhyw elyn - yn gallu arwain at ffasgiaeth yr asgell chwith a dde. Yn achos y Naziaid, yr Iddewon oedd y gelyn yma. Yn llai difrifol, gall agwedd bopiwlist arwain at gilio methianau llywodraeth.

Ceir esiampl cyfredol yn Sir Fred Goodwin a'i bensiwn. Mae Goodwin yn greadigaeth o Thatcher-Blair, a wedi gwneud yn dda iddo'i hun trwy fanteisio ar y rheoleiddiau llac ar y pryd er i'w fusnes fod yn gyfreithlon, ac wedi ei anrhydeddu felly. Wedi i'r economi fynd yn ddrwg, mae barn wedi newid. Mae'n wir y dylai'r llywodraeth geisio hawlio ei bensiwn, ond mae'r achos popiwlist yn tynnu sylw o fethianau'r system.

Bydd Goodwin yn haeddu beth geith o, ond mae nifer eraill wedi gwneud yr un peth. Economi neo-ryddfrydig oedd ar fai, a creadigaeth Thatcher oedd hwn. Doedd y 'fat cats' ddim ond yn adlewyrchu gwerthoedd yr amser. Gyda gwleidydda popiwlist mae Llafur wedi symud y bai.

Alwyn ap Huw said...

Does dim byd oll yn bod a throelli, cyn belled a bod y troelli wedi ei selio ar sylwedd (drwg Cambell a Blair oedd troelli heb sylwedd). Os oes gan blaid wleidyddol y polisïau gorau yn y byd a'r ymgeiswyr puraf a mwyaf cydwybodol maent yn dda i ddim oni bai eu bod yn cael eu marchnata'n effeithiol a'u gwerthu i'r etholwyr.

Y darlun rwy'n cael o gynghorwyr y Blaid yng Ngwynedd, yn y wasg a gan eu cefnogwyr ar y we, yw criw o bobl sych a diflas sydd a'u pryd ar gadw at lythyren y ddeddf ac at grafu ceiniogau. Pobl sydd yn rhoi'r ddeddf a'r geiniog o flaen anghenion pobl. O adnabod rhai o gynghorwyr y Blaid yng Ngwynedd rwy'n gwybod bod hon yn argraff annheg, ond dyma'r argraff 'da chi'n ei greu trwy fethu a gwerthu eich polisïau mewn ffordd well.

Edrychwch ar y cyfraniadau uchod gan gefnogwyr y Blaid parthed cau Bryn Llywelyn. Ble mae'r cydymdeimlad i'r 13 o drigolion y cartref? Yn gwbl absennol. Ble mae'r ddealltwriaeth o'r loes bydd y cau yn achosi i'r bobl hyn a'u hanwyliaid? Ar goll yn llwyr. Yr hyn sydd yn yr ymatebion yw dadleuon "officious" am fan reolau a chyllid, a gwawd i'r rhai sydd yn ystyried y bobl.

I ail adrodd mae'r Blaid yn haeddu gwell ac mae trigolion Bryn Llywelyn yn haeddu llawer gwell

Anonymous said...

Alwyn, wnai ddim anghytuno - dwi wedi dadlau ers hir iawn a reolaeth newyddion gwell gan y Blaid.

Ond rhaid cofio mai anaml iawn mae pob etholwr eisiau yr un peth. Rhaid bod yn ddi-duedd tuag at unigolion mewn llywodraeth, a mae hynny'n golygu na allem ganiatau i emosiwn reoli ein syniadaeth. Efallai fod Nain yn gorfod symud 20 munnud o Fryn Llywelyn, a gallem i gyd deimlo'n ddrwg dros ei thorcalon, ond os y byddem wedi dewis cadw Bryn Llywelyn, efallai y byddai 10 nain neu taid arall wedi cael eu amddifadu o wasanaeth da yn y dyfodol agos. Er mwyn ehangu un gwasanaeth, yn aml mae rhaid moderneiddio a datgymalu hen wasanaeth - ac er fod yr ehangiad o fudd i nifer mawr, mae'n anochel bod rhai yn colli allan. Ond heb fod yn ddewr i wneud penderfyniadau amhoblogaidd - a dwi'n sicr fod cau Bryn Llywelyn yn amhoblogaidd iawn - ni fydd dim yn newid, a fydd dim gwasanaeth yn cael ei wella.

Ydi, mae gwleidyddiaeth yn beth emosiynol a dwi'n frwd iawn dros ddadlau am ymgyrchu a gwleidydda gwell, ond rhaid i polisi fod yn ddi-emosiwn. Mae ceisio cyrraedd rhyw gydbwysedd yn beth anodd i'w wneud - er dwi yn credu dy fod yn gywir i ddweud nad ydi'r Blaid yng Ngwynedd yno eto.

Wrth gwrs fy mod i yn cydymdeimlo. Mae gen i daid a fyddai'n gallu bod mewn cartref yn fuan. Dwi'n gwybod pa mor bwysig yw'r ffaith ei fod yn agos, i'r ddau ohonom. Ond ni allaf gynnig i Dyfrig y dylai bleidleisio yr un ffordd neu'r lla gan ei fod yn gallu effeithio ar un person. Mae democratiaeth yn broses o ddewis llywodraeth i bawb - un sydd yn canolbwyntio ar fuddianau'r boblogaeth, ac nid un person.

Cai Larsen said...

Yn anarferol braidd mae gan blogmenai dir cyffredin gyda HRF.

Mae yna adegau lle gallai'r Blaid fod yn fwy gwrth sefydliadol nag ydi hi yng Ngwynedd - ac mae'r blog yma wedi dadlau y dylid gwneud hynny ym meysydd cynllunio ac addysg.

Serch hynny, pan mae'n dod yn fater o doriadau cyllidol gorfodol, nid cymryd camau poblogaidd ydi'r flaenoriaeth. Mae'n bwysig cymryd y rhai 'cywir' - hy rhai sy'n effeithiol, a rhai sy'n osgoi anhrefn yn y dyfodol.

Mae'r cysyniad bod y Blaid yn haeddu gwell na'i haelodaeth yn un sy'n ymylu ar wneud i mi ystyried dyfarnu gwobr HRF eto.

Dyfrig said...

Bosib eich bod chi'n iawn, mewn un ystyr. Os yw plaid am lwyddo, mae angen gwneud yr holl bethau y mae Alwyn yn eu nodi. Y drafferth dwi'n ei gael - yn gwbl bersonol - yw fy mod i'n casau'r elfen hon o wleidyddiaeth. Mae gen i gred, gwbl afresymol o naif, mae gwaith gwleidydd yw llywodraethu yn dda, a dim arall. Demogogiaeth yw'r holl fusnes yma o apelio at y dorf, a gwleidydda o'r galon. Dwi'n llawn sylweddoli bod y ffordd yma o feddwl wedi mynd yn hen fasiwn ers cyn cwymp y weriniaeth Rufeinig. Ond dwn i ddim os oes modd tynnu cast o'r hen geffyl arbennig yma.

Alwyn ap Huw said...

Mae'r cysyniad bod y Blaid yn haeddu gwell na'i haelodaeth yn un sy'n ymylu ar wneud i mi ystyried dyfarnu gwobr HRF eto.

Mae'n gwbl amlwg o'r cyd destyn bod fy sylwadau am y Blaid yn haeddu gwell yn cyfeirio at y sylwadau uchod, yn hytrach na chyfeirio at holl aelodau'r Blaid.

Mae dy ymateb yn profi fy mhwynt.

Rwy'n son am y loes mae cau Bryn Llywelyn am ei achosi i'r trigolion a'u teuluoedd. Rwy'n dyfaru nad yw cefnogwyr y Blaid yn cydnabod, nac yn ymateb i, effeithiau eu penderfyniad ar bobl go iawn. Yr wyt ti yn ymateb trwy gynnig gwawd Gwobr Hen Rech Flin eto!

Sawl pleidlais yn Ffestiniog yr wyt yn credu caiff eu hennill trwy i ti dyfarnu dwy wobr HRF i mi am nodi pryderon y trigolion a'u teuluoedd?

Wyt, wir yr, yn credu mai'r ffordd gorau iti amddiffyn penderfyniadau "anodd" dy Blaid yw trwy dynnu'r "piss" allan o'r rhai sydd yn cwestiynu'r fath benderfyniadau?

Cai Larsen said...

Pa beth yw Plaid ond ei haelodau Alwyn?

Mae'n afresymegol i ddadlau bod endid yn haeddu gwell na fo'i hun.

'Dwi'n ddigon parod i gydymdeimlo'n gyhoeddus a thrigolion Bryn Llywelyn - oherwydd fy mod i - mae'r unig gyfranwr i'r ddadl yma oedd a rhan yn y penderfyniad wedi mynegi ei ddiflastod yn ei flog.

Wedi dweud hynny, fe fyddwn yn ychwanegu nad ydw i wedi cyfiawnhau cau'r cartref yn benodol - wedi gosod y penderfyniad mewn cyd destun gwleidyddol ehangach ydw i. Gosod digwyddiadau mewn cyn destun ehangach ydi un o brif fwriadau'r blog yma.

'Rwan, 'dwi'n gwybod bod hynny yn gyfiawnhau anuniongyrchol - ond mae llawer o'r materion 'dwi'n eu trafod yn cael rhyw effaith negyddol ar rhywun - a 'dwi ddim yn siwr pam mor llesol fyddai i oslef y blog i gydymdeimlo gyda phawb sy'n profi effeithiadau negyddol o ganlyniad i benderfyniad gwleidyddol. M

Mi fyddai'n gas gen i swnio fel un o'r merched hynny sy cadw colofnau sy'n ymateb i broblemau personol pobl eraill mewn cylchgronau merched.

Anonymous said...

Alwyn:
Mae penderfyniadau anodd yn rhan o lywodraethu. Llywodraeth lwfr fyddai'n cilio o wneud y penderfyniadau tymor hir gan eu bod yn ofni am bleidleisiau. Mae grym yn beth i'w barchu - wedi i blaid wleidyddol ei ennill, mae dyletswydd i lywodraethu'n dda, a peidio ac edrych am bleidleisiau gyda pob penderfyniad.

Anonymous said...

Cytuno efo Alwyn, Mae Plaid Cymru wedi gadael ei gwreiddiau ac yn Blaid dosbarth canolig yn union fel mae Llafur wedi mynd yn Lafur newydd ac wedi anghofio eu cefndir sosialaidd. Am wn I na fydd Blaenau eto yn pleidleisio i Blaid Cymru a gyda poblogaeth yno yn fwy na Porthmadog gall rhoi y gwahaniaeth i Elfyn ac Elis Thomas o fod yn gynrychiolwyr yn San Steffan/Caerdydd neu beidio.