Thursday, October 09, 2008

Croeso Hywel





Mae blogs (neu flogiau neu beth bynnag) gwleidyddol uniaith Gymraeg yn bethau sobor o brin.

Felly mae'n dda nodi bod AS etholaeth Caernarfon, Hywel Williams newydd ddechrau ar flog felly.

Wednesday, October 08, 2008

A allai'r argyfwng ariannol gostio Glenrothes i'r SNP?

Fel y gwyddoch mae'n debyg cynhelir is etholiad Glenrothes yn yr Alban ar Dachwedd 6 - dau ddiwrnod ar ol etholiad arlywyddol America.

Y canfyddiad cyffredinol hyd yma oedd y byddai'r SNP yn cymryd y sedd oddi wrth Lafur heb fawr o drafferth gan eu bod wedi ennill yn Glasgow East ym mis Gorffennaf - talcen anoddach o lawer.

Serch hynny mae pethau yn edrych ychydig yn well i Lafur erbyn hyn. Mae'r ddau bol piniwn diweddaraf - un Populus ac YouGov yn dangos bod y Toriaid a Llafur wedi cynyddu eu pleidlais ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol. (Populus: Tori 45% Llaf 30% Rh D 15%, You Gov: Tori 45%, Llaf 31%, Rh D 15%). Roedd Llafur yn y dauddegau canol i hwyr hyd yn ddiweddar.

Polau 'cenedlaethol' (hy rhai tros y Deyrnas Unedig) ydi'r rhain felly mae'n anodd dod i gasgliadau ynglyn a'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru a'r Alban, ond mae ambell i awgrym ar gael.

O graffu ar fanylion y pol YouGov mae'n awgrymu bod Llafur yn perfformio yn llawer gwell yn yr Alban nag oeddent rai misoedd yn ol - a'u bod wedi symud o 28% yn Ebrill i 43% yn nyddiau cyntaf y mis hwn. Ar y llaw arall mae 'others' (hy SNP yn bennaf) wedi cwympo o 38% i 29%.

Mae'n rhaid pwysleisio y dylid cymryd gofal efo ymarferiad tebyg i hwn - is set o ddata a geir - is set o lai na 200 o bobl - cyfanswm sy'n llawer rhy isel i fod yn ystadegol ddibynadwy. Ond, mae'n awgrymu bod symudiad ar droed, a bydd yn ddiddorol gweld perfeddion y polau eraill tros yr wythnosau nesaf.

Mae'n hawdd egluro hyn wrth gwrs - cynhadledd anisgwyl o lwyddiannus Llafur fyddai un rheswm - ond nid yr un pwysicaf, sefyllfa'r economi ydi hwnnw.

Mae llywodraeth yr Alban yn gwbl ddiymadferth yn wyneb y grymoedd economaidd anferth sydd ar waith ar hyn o bryd. Nid eu bai nhw ydi hynny wrth gwrs - nid oes ganddynt y pwerau i wneud unrhyw beth.

Yn sgil hynny mae'r sylw i gyd wedi ei hoelio ar Brown a Darling yn Llundain - maent yn ymddangos fel petaent yn gwneud eu gorau, ac maent yn cael cefnogaeth Ty'r Cyffredin yn ei gyfanrwydd bron a bod.

Mae'r ffocws gwleidyddol ymhell, bell oddi wrth llywodraeth Salmond yn Hollyrood, ac am y tro cyntaf ers cael ei ethol mae rhywbeth bron yn ymylol am Salmond. Petae is etholiad fory yn hytrach na mewn mis byddai'r SNP yn colli yn fy marn i. Ond mae mis yn gyfnod maith mewn gwleidyddiaeth, ac mae'r cyfnod yn un cythryblys. Gallai pethau newid yn llwyr erbyn Tachwedd 6.

Tuesday, October 07, 2008

Esgob Bangor


Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ystyried pwy fydd yr Esgob Bangor nesaf.

Ymddengys bod rhai'n poeni y gallai dewis Jeffrey John, Deon St Albans fod yn broblem sylweddol i'r Eglwys Anglicanaidd yn ei chyfanrwydd oherwydd ei fod yn hoyw. Gallai yn wir arwain at hollt yn yr Eglwys honno.

'Dwi ddim am gynnig cyngor ar y mater i'r Eglwys yng Nghymru - dydw i ddim yn aelod, a fydda i byth.

Serch hynny efallai y dyliwn dynnu sylw at y ffaith bod rhestr yr Eglwys o ymgeisyddion yn un gweddol hir (yn ol y son) - ac mai nid Jeffrey John ydi'r unig ymgeisydd hoyw (lled agored) sydd arni.

Monday, October 06, 2008

Iwerddon 1948 - pam y gall bod mewn grym ynddo'i hyn fod yn hanfodol i lwyddiant etholiadol?



John A Costello - Prif Weinidog Fine Gael o 1948 i 1951.


Mae Cymru'n Un yn un oed. 'Dwi'n falch bod y cytundeb yn bodoli, ac mae wedi siomi nifer ohonom ar yr ochr orau.

Cyn parhau 'dwi'n rhyw ymddiheuro am obsesiwn y blog hwn gyda gwleidyddiaeth Gwyddelig, ond mae'r penblwydd cyntaf hwn yn fy atgoffa o etholiad a ddigwyddodd chwe deg o flynyddoedd yn ol yr Iwerddon - yr etholiad a achubodd ail blaid fwyaf y wlad Fine Gael.

Erbyn 1945 roedd Fine Gael wedi suddo i waelod y gasgen. Nhw, neu o leiaf eu rhagflaenwyr Cumann na nGaedhel oedd wedi rheoli'r wladwriaeth rydd am ddeg blynedd cyntaf y wladwriaeth honno cyn cael eu sgubo i un ochr gan blaid llawer mwy awchus am rym - Fianna Fail Eamonn De Valera. Ers y dyddiau hynny roedd Fine Gael wedi bod yn raddol lithro tuag at fedd gwleidyddol. 1945 oedd yr isafbwynt.

Cynhalwyd 5 is etholiad ar un diwrnod ym mis Rhagfyr 1945 - dim ond mewn un oedd gan Fine Gael - y brif wrthblaid ymgeisydd - Mayo. Er mai nhw oedd yn amddiffyn y sedd cafodd Fianna Fail dair gwaith cymaint o bleidleisiau na nhw. Roedd hyn oll mewn cyd destun o etholiad cyffredinol ar ol etholiad cyffredinol o golli pleidleisiau a cholli seddi. Etholiad cyffredinol gwaethaf yn hanes y blaid oedd un 1944.

Wrth ddynesu at etholiad cyffredinol 1948 roedd pethau yn edrych yn wirioneddol ddu ar Fine Gael - nid oedd ganddi arian na threfniadaeth cenedlaethol na hyd yn oed digon o ymgeiswyr i allu ennill grym ar ei phen ei hun. Roedd ei gwleidyddiaeth gwrth genedlaetholgar ond lled bleidiol i'r Gymadwlad wedi dyddio ac yn wrthyn i elfennau sylweddol o'r etholwyr. 'Roedd cymhlethdod arall hefyd - roedd plaid newydd - Clann na Poblachta - plaid Wereniaethol radicalaidd gwahanol iawn i Fine Gael wedi ymddangos, ac roedd yn fygythiad gwirioneddol i Fianna Fail ymysg y dosbarth gweithiol gweriniaethol.

Pan ddaeth etholiad 1948, roedd yn wir yn un sal i Fine Gael, er iddynt ennill tair sedd newydd a chodi eu cyfanswm i 31. Ni wnaeth Clann_na_Poblachta cystal a'r disgwyl, gan ennill deg sedd yn unig. Yn eironig ddigon y ffaith bod Fianna Fail wedi addasu'r ffiniau etholiadol er mwyn tanseilio Clann na Poblachta oedd yn gyfrifol am y seddi ychwanegol i Fine Gael.

Enillodd Fianna Fail fwy na neb arall o seddi yn hawdd iawn. Ond ni lwyddwyd i gael mwyafrif llwyr, a daeth pawb arall at ei gilydd i'w diorseddu - Fine Gael, Clann na Poblachta, Clann na Talhmad (plaid y ffermwyr), dwy fersiwn oedd yn casau ei gilydd o'r Blaid Lafur, a nifer o aelodau annibynnol. Roedd hyn ar un olwg yn anhygoel - roedd Fine Gael a Clann na Poblachta cyn belled oddi wrth ei gilydd na fyddai'n bosibl iddynt fod. Roedd rhaid i Fine Gael gael gwared o'i harweinydd, Richard Mulcahy oherwydd ei gysylltiadau efo'r Rhyfel Cartref.

Yn fwyaf sydyn roedd Fine Gael nid yn unig mewn llywodraeth, ond roeddynt yn arwain y llywodraeth hwnnw. Tair blynedd yn unig oedd bywyd Dail 1948, ond roedd ymysg y llywodraethau mwyaf radicalaidd a diddorol y Weriniaeth. Dail 48 oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Weriniaeth (yn hytrach na'r Wladwriaeth Rydd) yn ogystal ag am fesurau arloesol ym maes tegwch cymdeithasol megis y Mother and Baby Scheme

Roedd Fianna Fail yn ol mewn llywodraeth erbyn 1951, ond roedd rhagolygon Fine Gael wedi eu trawsnewid yn llwyr, enillwyd naw sedd ychwanegol, ac ym 1954 roedd gan Fine Gael 50 sedd (15 y tu ol i FF) a 32% o'r bleidlais. Maent wedi bod yn ail blaid y Weriniaeth yn hawdd ers hynny.

Nid oedd yr un ffawd oedd yn aros Clann na Poblachta cystal. Collwyd pob un namyn dwy o'u seddi yn 51 ac erbyn diwedd y 50au roedd y blaid yn farw i bob pwrpas.

'Rwan 'dwi'n sylweddoli fy mod yn gwthio cymhariaethau rhwng Iwerddon a Chymru yn rhy aml, ond 'dwi'n meddwl ei bod yn werth ystyried y rhesymau oedd wrth gefn ffawd gwahanol y ddwy blaid wrth ystyried Cymru'n Un.

Problemau sylfaenol Fine Gael cyn 1948 oedd eu bod yn amherthnasol a bod eu lleoliad gwleidyddol (political positioning) ymhell o ganol gwleidyddiaeth y pryd. Roedd trwch yr etholwyr yn fwy cenedlaetholgar na nhw, a chyda mwy o ddiddordeb mewn tegwch cymdeithasol.

Roedd llywodraeth 48 yn ateb y ddwy broblem - mae plaid sydd mewn llywodraeth yn amlwg yn berthnasol, ac roedd polisiau ei phartneriaid yn tynnu'r blaid tua'r canol - roedd ei lleoliad gwleidyddol bellach yn fwy blaengar yn gymdeithasol ac yn fwy cenedlaetholgar.

Ar y llaw arall roedd symud i'r canol yn farwol i Clann na Poblachta - roedd plaid genedlaetholgar arall Fianna Fail i gymryd ei hetholwyr gweriniaethol. Plaid niche oedd hi, nid plaid y canol.

Daw hyn a ni at Blaid Cymru yn 2008. Beth sy'n debygol i ddigwydd iddi hi yn sgil Cymru'n Un?

Yn gyntaf, prif broblem y Blaid yn draddodiadol ydi'r ffaith ei bod yn amherthnasol tros rannau sylweddol o Gymru. Mae Cymru'n Un wedi datrys hynny. Mae plaid sydd mewn llywodraeth yn berthnasol - hyd yn oed yn Wrecsam neu Dorfaen.

Yn ail mae'r cytundeb wedi tynnu'r Blaid tua'r canol mewn ffordd ychydig yn gwahanol i'r hyn a ddigwyddodd i Fine Gael. Mae gwleidyddiaeth y Blaid wedi bod yn agos at y canol Cymreig mewn termau cymdeithasol ers y saithdegau, ond oherwydd bod y Blaid yn gymharol amherthnasol, nid yw hyn wedi bod yn amlwg tros llawer o'r wlad. Mae hynny wedi newid bellach - a hyn (ynghyd a gwendid Llafur) sydd wedi bod yn gyfrifol am lwyddiant y Blaid yn etholiadau lleol 08 mewn llefydd hynod anhebygol.

Ac mae rhywbeth arall wrth gwrs - yn gwahanol i Clann na Poblachta mae'n bosibl i'r Blaid newid ac addasu rhyw gymaint. 'Does yna ddim bwystfil cenedlaetholgar arall megis Fianna Fail yn aros yn y cefndir i lyncu ei phleidleisiau pob tro mae'n mentro oddi ei thir traddodiadol.

Sunday, October 05, 2008

Gweinidog newydd i'r Swyddfa Gymreig




Yn yr oes wleidyddol ddatganoledig sydd ohoni, mae pawb am wn i yn cydnabod mai'r Swyddfa Gymreig ydi'r adran mwyaf di bwrpas, di rym a chwerthinllyd o ddiwerth o holl adranau llywodraeth San Steffan. Mae'n debyg y bydd yr adran yn parhau tan yr etholiad cyffredinol nesaf, ac yn dod i ddiwedd di alar yn fuan ar ol hynny.

Ag ystyried statws isel yr adran does yna neb mwy addas na Wayne David i gael ei benodi'n weinidog yno. Fe gofiwch i'r athrylith gwleidyddol yma lwyddo i gyflawni'r amhosibl yn ol yn 1998 a cholli'r Rhondda i Lafur.

Saturday, October 04, 2008

Hwre - Peter yn ei ol



Daeth newyddion gwych i law ddoe - Peter Mandelson - fy hoff wleidydd Llafur yn ei ol yng nghabinet Brown.

Mae'n debyg bod Brown eisiau gwneud defnydd o'i ahem, sgiliau propoganda yn y misoedd sy'n arwain at etholiad cyffredinol. Efallai ei fod hefyd eisiau plesio adain Dde, Blaraidd ei blaid - gall anghofio'r Chwith - does ganddyn nhw ddim ymgeisydd credadwy i herio Brown beth bynnag. Pa fantais arall sydd yna? - dangos bod Brown yn gallu gwneud rhywbeth anisgwyl efallai.


Ond, Arglwydd mawr ydi hynny werth y drafferth sy'n sicr o ganlyn Mandelson? Mae'r dyn fel bacteria gwenwynig sy'n suro ac yn llygru pob peth a phob dim o'i gwmpas. 'Does yna'r un gwleidydd diweddar gyda'r ddawn ryfeddol yma.

Thursday, October 02, 2008

Hen Rech Flin a Chenhadon Casineb

Newydd sylwi ar sylwadau Hen Rech Flin ar y ffrae bach 'dwi wedi ei chael gyda rhai o aelodau Llais Gwynedd yn ddiweddar.

Cyn dweud dim arall, 'dwi'n hoff iawn o ddau flog Alwyn, ac yn fy marn i Hen Rech Flin ydi'r blog gwleidyddol gorau yn yr iaith Gymraeg - mae'n gyson, yn ddeallusol ac yn dreiddgar. Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn cytuno efo Alwyn ar fawr ddim - ag eithrio'r gred greiddiol sydd wrth wraidd fy mlog i a'i un yntau - sef y dylai Cymru fod yn annibynnol fel pob gwlad arall gwerth ei halen.

'Dwi'n derbyn mai siom yn y Blaid sydd wedi gyrru rhai pobl i freichiau Llais Gwynedd - 'does yna neb wedi bod yn fwy beirniadol na fi o'r Blaid ar fater ysgolion.

Yr hyn sydd yn fy mlino ydi bod nifer o bobl sydd yn casau'r Blaid wedi cymryd mantais o gamgymeriadau strategol ar ran arweinyddiaeth y Blaid diweddaryng Ngwynedd i greu plaid sydd yn ei hanfod yn wrth genedlaetholgar.

Hanfod Llais Gwynedd ydi pledio tros fantais i un rhan o Gymru ar draul y gweddill. Gwendid gwleidyddol Cymru yn hanesyddol ydi'r ffaith ein bod yn gymdeithas ranedig. Mae'r rhaniadau hyn wedi bod yn fel ar fysedd ymgyrchwyr gwrth Gymreig yn y ddau refferendwm datganoli yn 79 a 97. Prif dacteg gwleidyddol y gwrth ddatganolwyr oedd chwarae ar hen holltau - y rhai rhwng y De a'r Gogledd, y siaradwyr Cymraeg a'r di Gymraeg, y sawl sydd wedi eu geni yn Lloegr a'r sawl sydd wedi eu geni yng Nghymru ac ati.

Mae Llais Gwynedd yn creu un rhaniad arall - mae'n un diferyn arall o fel ar fysedd y sawl nad ydynt yn credu bod Cymru'n genedl.

Adroddiad yr Arglwydd Roberts


Yn ol Ordovicius bydd adroddiad hir ddisgwyliedig yr Arglwydd Roberts ar ddatganoli yng Nghymru yn dod i'r casgliad na ddylid newid y setliad presenol. Chwi gofiwch mai adroddiad wedi ei chomisiynu gan David Cameron ydi hon fel rhan o adolygiad honedig y Blaid Geidwadol o'i pholisi tuag at ddatganoli yng Nghymru.

Os ydi Ordovicius yn gywir, ni ddylai hyn beri syndod i neb. Daeth yr Arglwydd Roberts yn weddol agos at ddarogan mai 'dim newid' fyddai pen draw yr ymarferiad yn ei gyfweliad cyntaf a'r wasg wedi iddo dderbyn y swydd o gadeirio'r pwyllgor sydd wedi llunio'r adroddiad. Rydym hefyd yn gwybod bod yr Arglwydd Roberts wedi pleidleisio 'Na' yn 1979 ac yn 1997 a'i fod wedi gwasanaethu mewn llywodraeth oedd o'r farn na ddylai pobl Cymru na'r Alban gael mynegi barn ar y mater trwy refferendwm.

Felly hefyd y Blaid Geidwadol ei hun - mae wedi gwrthwynebu'n gyson pob ymgais i greu gwahaniaeth cyfansoddiadol rhwng Cymru a Lloegr - roedd yn erbyn dadgysylltu'r Eglwys yng Nghymru, yn erbyn sefydlu'r Swyddfa Gymreig, ac roedd hefyd yn erbyn datganoli wrth gwrs. Mae hyn yn batrwm cyson sydd wedi goroesi tros amser.

Mae ei hagwedd tuag at y gwledydd Celtaidd eraill wedi bod yn debyg. Er enghraifft, roeddynt yn erbyn y gyfres o gamau i roi hawliau cyfartal i Babyddion yn Iwerddon ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a chychwyn y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Syrthiodd yr 'Home Rule Bill' cyntaf yn 1886 oherwydd gwrthwynebiad gan Unoliaethwyr, Toriaid ac adain Unoliaethol y Blaid Ryddfrydol. Syrthiodd yr ail yn 1893 oherwydd ymyraeth Ty'r Arglwyddi a'i fwyafrif o Doriaid. Ni ystyrwyd y mater am ugain mlynedd arall gan mai'r Toriaid oedd yn tra arglwyddiaethu yn ystod y cyfnod hwnnw. Daeth yn fater gwleidyddol pwysig unwaith eto yn y cyfnod 1912 i 1914. Daeth y Rhyfel Mawr a'r mater i ben yn San Steffan, ond ffrwydrodd yn ol i'r wyneb as 'strydoedd Dulyn ym 1916 ar ffurf newydd a mwy radicalaidd. Oni bai am uniongrededd di ildio'r Blaid Geidwadol byddai annibyniaeth Gwyddelig wedi esblygu'n raddol a byddai'r berthynas rhwng y ddwy wlad wedi bod yn hapusach a byddai llawer o dywallt gwaed wedi ei osgoi.

A dyma'r broblem yn y pen draw i elfennau mwy Cymreig y Blaid Geidwadol yng Nghymru megis David Melding, Guto Bebb a Glyn Davies - ac a bod yn deg Alun Cairns a Nick Bourne. Ceidwadiaeth cyfansoddiadol ydi balast y Blaid Geidwadol Brydeinig - dyna sy'n gwneud y Blaid Geidwadol yr hyn yw. Dyna hefyd sydd yn ei gwneud yn atyniadol i'w chefnogaeth greiddiol yng Nghymru - mae'n apelio at elfennau mwy Seisnig y gymdeithas Gymreig - ac oherwydd hynny mae pen draw i pam mor Gymreig y gall fod.

Doeddwn i (fel rhywun sydd wedi bod yn hynod o amheus o allu'r Blaid Geidwadol Gymreig i ail greu ei hun) hyd yn oed yn meddwl bod y pen draw hwnnw mor agos at leoliad traddodiadol y Blaid Geidwadol.

Wednesday, October 01, 2008

Croeso Nic Parry




'Dwi'n rhyw ddeall bod y cyfreithiwr blaenllaw, a'r sylwebydd peldroed hyd yn oed mwy blaenllaw bellach yn un o ddarllenwyr rheolaidd y blog hwn, ac ymhellach 'dwi'n deall ei fod hyd yn oed yn argraffu'r blog yn rheolaidd. Mae hyn yn gryn fraint.

Mae'n ddegawdau ers i mi weld Nic - dyddiau coleg erbyn meddwl, ond roedd yn wr bonheddig bryd hynny, a 'dwi'n siwr ei fod yn wr bonheddig hyd heddiw.

Serch hynny 'dwi'n poeni braidd am y busnes argraffu 'ma. Yn yr oes amgylcheddol gywir sydd ohoni byddwn yn casau meddwl bod y blog hwn yn cyfranu at gynhesu byd eang neu rhyw ffurf arall ar lygredd. Felly 'dwi'n fwy na pharod i e bostio pob cyfraniad i Nic os ydi'n ddigon caredig i adael ei gyfeiriad e bost yma.

Tuesday, September 30, 2008

Blog Martin Eaglestone - gwell na phol piniwn?

Dechreuodd Martin flogio eto. Croeso'n ol Martin.

Waeth i mi gyfaddef bod fy nheimladau am y blog arbennig hwn ychydig yn gymysg. Blog ymgyrchu ydyw - hynny blog sy'n hyrwyddo ymdrechion Martin i gael ei ethol i'r Cynulliad neu i San Steffan. Does yna ddim byd o'i le yn hynny wrth gwrs - mae i pob blog ei bwrpas ei hun. Bydd hefyd yn cynnwys lluniau mae Martin wedi eu tynnu o bryd i'w gilydd, hynt a helynt ei dim peldroed West Brom ac adroddiadau ar ddigwyddiadau lleol megis Gwyl y Felinheli.

Nid dyma'r lle i ddod am ddehongli gwleidyddol treiddgar o gyfeiriad Llafur megis Normalmouth neu'r Ministry for Truth (sydd ar ei orau'n flog arbennig iawn). Nid dyma'r lle i ddod am berspectif cyson chwith / radicalaidd megis un Paul Flynn. Ond, fel y dywedais 'does yna ddim o'i le ar hynny - blog ymgyrchu ydi o.

Yr unig gwynion gwirioneddol sydd gennyf ynglyn a'r blog ydi bod ambell i achlysur pan mae gwybodaeth ffeithiol anghywir yn cael ei gyflwyno (tua amser etholiadau gan amlaf) ac mae Martin yn gwrthod caniatau sylwadau ffeithiol sy'n cywiro'r camgymeriadau. Mae hyn yn anarferol iawn i flog gwleidyddol. Mae yna hefyd ambell i achos lle mae Martin yn ceisio creu sgandal o ddim, neu o nesaf peth i ddim - a la Llais Gwynedd.

Beth bynnag, un o gryfderau'r blog tros y blynyddoedd ydi'r ffaith ei fod yn doreithiog ac yn gyson - hyd yn ddiweddar o leiaf. Ar wahan i fis Mehefin, digon distaw ydi pethau wedi bod am sbel.

Mae'n hawdd gweld pam - mae'n cymryd ynni i flogio'n gyson, ac os nad ydi'r blog yn ymddangos fel petai'n cyflawni ei bwrpas mae'n anodd mynd ati i gynhyrchu stwff newydd yn gyson. Gyda hynt Llafur mewn etholiadau ac yn y polau tros y misoedd diwethaf roedd rhagolygon Martin yn Arfon yn edrych yn ddu iawn, iawn - felly collwyd yr awydd i flogio.

Tros y dyddiau diwethaf mae hynt Llafur yn y polau wedi gwella rhyw ychydig yn y polau, ac mae awydd Martin i flogio wedi dychwelyd. Byddai'n ymarferiad ecsentrig ond diddorol i anorac o ystadegydd geisio dod o hyd i berthynas rhwng amlder blogio Martin a hynt Llafur yn y polau piniwn. 'Dwi'n siwr y byddai'n berthynas glos.

Ta waeth - 'dwi'n meddwl y byddaf yn defnyddio amlder blogio Martin i farnu pam mor dda mae'r Blaid Lafur yn meddwl maent yn ei wneud yn Arfon o hyn allan. Pan mae'n blogio'n aml mae eu cynffon i fyny, pan mae ei flogio'n sychu i ddim mae'r dywydedig gynffon yn llipa rhwng coesau y Blaid Lafur yn Arfon.



Martin o flaen rhywbeth sy'n cael ei adeiladu - mae yna lawer o luniau o Martin yn sefyll yn agos at adeiladau anorffenedig ar ei flog.

Enllib Llais Gwynedd - parhad

Wele sylwadau Dyfrig Jones ar ei flog ac ymateb Gwilym Euros iddynt.

'Dwi ddim yn siwr os ydi Gwilym yn dweud ei fod yn derbyn yr eglurhad cwbl resymol ai peidio - ond y naill ffordd neu'r llall mae'r hedyn wedi ei hau.

Sunday, September 28, 2008

Pwt o eglurhad

Mi fyddaf yn derbyn cwynion ynglyn a chynnwys y blog hwn o bryd i'w gilydd - ac mi gefais un heno - gan Gwilym Euros. Roedd Gwilym yn ffeindiach na rhai o'r cwynwyr sydd wedi cysylltu yn y gorffennol, ond ymddengys nad yw'n hoff o oslef y cyfraniad diweddaraf.

Nid bwriad y blog yma, fel llawer o rai eraill, ydi plesio - ond dwi ddim yn bod yn ffeithiol anheg chwaith.

Dau bwynt a wneir:

(1) Nad ydi gwneud honiad ar ffurf cwestiwn ynddo'i hun yn sicrhau nad ydyw'n enllib.

(2) Bod diwilliant mewnol Llais Gwynedd yn disfunctional (beth bynnag ydi'r term Cymraeg am hynny), ac mai'r rheswm am hynny ydi ffaith ei fod yn diffinio ei hun fel bod yn wrth rhywbeth arall (hy Plaid Cymru). Dyna pam bod sylwadau enllibus yn nodwedd mor gyffredin o naratif gwleidyddol Llais Gwynedd - mae'n adlewyrchu'r diwylliant mewnol.

'Dwi wedi dileu dwy neges a adawyd ar y blog gan gyfranwyr anhysbys oedd yn gwneud honiadau personol am Gwilym.

'Dydi'r blog yma ddim yn defnyddio system i hidlo cyfraniadau nac yn atal sylwadau rhag cael eu cyhoeddi nes i mi eu gweld.

Friday, September 26, 2008

Llais Gwynedd, - pam yr holl gelwydd?



Dyfrig Siencyn

Wedi bod yn brysur am ychydig ddyddiau - ond mi wnawn ni ail gychwyn gyda blog Gwilym Euros Roberts - un o gynghorwyr Llais Gwynedd o bellafion Blaenau Ffestiniog.

Ymddengys i Gwilym ymddangos (os mai dyna mae rhywun yn ei wneud ar raglen radio) gyda Dyfrig Siencyn (Plaid Cymru Dolgellau) ar Manylu ddydd Llun, ac fe aeth hi'n dipyn o ffrae. Gofynwyd cwestiwn gan Gwilym (Euros nid Owen)i Dyfrig oedd yn awgrymu ei fod wedi pleidleisio ar fater cynllunio am resymau amhriodol. Gofynodd Gwilym Owen i Gwilym Euros dynnu'r cwestiwn yn ol - gwrthododd hwnnw wneud hynny. 'Does yna ddim rhithyn o wirionedd y tu ol i'r ensyniad oedd y tu cefn cwestiwn

Yn ei flog dadl Gwilym Euros ydi nad oes unrhyw beth enllibus wedi ei ddweud, oherwydd i'r sylw gael ei wneud ar ffurf cwestiwn.

Mae'n bwynt diddorol - a byddai achos llys ar y pwnc hefyd yn ddiddorol. Y cwestiwn y byddai'n rhaid i'r llys ei ystyried ydi os oedd y cwestiwn wedi ei ofyn er mwyn pardduo neu roi enw drwg i Dyfrig. Byddai pam mor debygol ydi'r honiad / cwestiwn o fod yn wir hefyd yn ystyriaeth wrth gwrs.

I wthio pethau i eithafion efallai ei bod werth gofyn beth fyddai'n digwydd pe byddwn i yn mynd o gwmpas y lle yn gofyn cwestiynau megis:

Ydi o'n wir bod Gwilym Euros yn mynd o gwmpas Blaenau wedi ei wisgo fel dynas wedi iddi dywyllu?

Oes gwirionedd yn yr honiad mai sniffian seddi beics ydi hoff hobi Gwilym?

Ydi o'n wir bod Gwilym wedi prynu fan hufen ia er mwyn ei pharcio y tu allan i ysgolion lleol er mwyn gwerthu hash i blant?


'Dwi'n prysuro i ychwanegu yn y fan hyn nad oes y mymryn lleiaf o reswm i ofyn yr un o'r tri chwestiwn uchod - nac yn wir i ofyn cwestiwn o unrhyw fath ynglyn a buchedd Gwilym. Hyd y gwn i mae ei safonau personol gyda'r mwyaf di lychwyn yng Nghymru os nad y Bydysawd.

Pe byddwn yn ddigon gwirion i ofyn yr uchod heb egluro eu bod yn nonsens llwyr gallai Gwilym fynd a fi i'r llys - a byddai'r llys yn dod i benderfyniad yn ddiymdroi nad ymgais gonest i ofyn cwestiynau ydynt, ond ymdrech i bardduo.

'Dydi cwestiwn Gwilym Euros ar Manylu ddim mor glir wrth gwrs. Pe byddai'r mater byth yn dod i'r llys, byddai bargyfreithwr Gwilym yn ceisio dadlau mai ymgais onest i ddarganfod gwybodaeth oedd y cwestiwn a byddai un Dyfrig yn honni mai ymdrech i bardduo ydoedd.

Fyddwn ni byth yn darganfod beth fyddai wedi digwydd wrth gwrs - gem pobl mwy goludog na Dyfrig a Gwilym ydi'r gem enllib mae gen i ofn - er 'dwi'n teimlo y bydd y mater yn cael ei godi mewn fforwm arall maes o law.

Beth bynnag, mae'r stori yn taflu goleuni digon diddorol ar natur Llais Gwynedd. Mae'n grwp gwleidyddol digon anarferol ar sawl golwg. Er enghraifft mae dweud celwydd personol yn eithaf anarferol ymysg pleidiau cyffredin - ond enllib maleisus a phersonol oedd unig naratif gwleidyddol nifer o'u hymgeiswyr (ond nid Gwilym wrth gwrs). Mae'n apelio at pob math o elfennau gwahanol - o genedlaetholwyr rhonc i wrth Gymreigwyr lloerig.

Y rheswm am hyn ydi mai plaid gwrth Plaid Cymru ydi Llais Gwynedd yn annad dim arall. Mae rhai o'i chefnogwyr yn casau'r Blaid am eu bod yn casau Cymru, ac mae rhai o'i chefnogwyr a'i harweinwyr yn bobl chwerw sy'n credu iddynt gael cam gan gwahanol aelodau o'r Blaid yn y gorffennol - cam yn y man gwaith, methu cael eu dewis i fod yn ymgeiswyr ac ati.


A dyna pam bod drewdod celwydd personol ac enllib yn dew o gwmpas Llais Gwynedd. Mae'n rhan o'r natur ddynol bod pobl yn dweud celwydd personol neu o leiaf yn credu ac yn gwasgaru pob stori dan haul am bobl maent yn eu casau.

Mae grwpiau gwleidyddol wedi eu seilio ar emosiynau digon sylfaenol - pleidiau sosialaidd ar yr ymdeimlad o bwysigrwydd tegwch, rhai rhyddfrydig ar ryddid personol, rhai cenedlaetholgar ar wladgarwch. Mae hyn yn ei dro yn esgor ar ddiwylliant mewnol neilltuol i bleidiau.

Casineb ydi'r emosiwn sylfaenol sy'n cynnal Llais Gwynedd - ac mae ei diwylliant mewnol ac felly ei naratif gwleidyddol yn cael eu gyrru gan hynny.

Friday, September 19, 2008

Is etholiadau ddydd Mercher a dydd Iau

Cyngor Penfro - ymddangosiadol erchyll i'r Rhyddfrydwyr a'r Toriaid o ran hynny - ond ffactorau lleol sydd ar waith yn ol pob tebyg.

Annibynnol - 496 (55.7;+17.4)
Rhydd Dem - 177 (19.9;-41.8),
Annibynnol - 160 (18.0;-20.3),
Tori 57 - (6.4;+6.4)

Wedyn roedd dwy etholiad ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth - y Rhyddfrydwyr yn cadw eu sedd yn Rheidiol:

Dem. Rhydd.; 243,
PC;167

A'r Blaid yn ennill sedd ym Mhenparcau oddi wrth Annibynnol:

Plaid Cymru 141
Llafur 117
Dem Rhydd 46

Mae'r ddau ganlyniad yn rhai cryf i'r Blaid ac mae'r data etholiadol sy'n dod o Geredigion yn parhau i awgrymu'n gryf y bydd y Blaid yn cipio'r sedd yn 2010. Y Blaid sydd bellach yn rheoli Cyngor Tref Aberystwyth.

Canlyniad y bleidlais gyntaf yn is etholiad Baillieston yn sgil ymddiswyddiad John Mason wedi ei fuddigoliaeth yn Nwyrain Glasgow.

SNP 2318 - 44.6% (+ 11.4%)
Llaf 2167 - 41.7% (- 4.3%)
Ceid 259 - 5.0% (- 1.5%)
Rhydd 159 - 3.1% (- 0.7%)
Eraill 293 - 5.6% (- 4.9%)

Y bleidlais derfynol oedd:

SNP 2511 - 52.1%
Lab 2313 - 47.9%

Mae'n berfformiad cryf iawn arall i'r SNP - ac mae'n dechrau edrych y bydd Llafur yn colli eu gafael ar Gyngor Glasgow yn 2012.

Yn y cyfamser yn is etholiad Cyngor Fermanagh yn Enniskilin cafwyd hwn:

SF 1815 (28,8% + 0.3%)
SDLP 739 (11,7% -6.5%)
DUP 1925 (30,5% +2.4%)
UUP 1436 (22,8% + 2.3%)
All 231 (3,7%)
Annibynnol - Gweriniaethol 158 (2,5%)

Yr ochr Unoliaethol sy'n dod allan o hyn orau. Ymddengys i 53.5% o Unoliaethwyr bleidleiso yn erbyn 37.2% o Genedlaetholwyr. Gwael iawn i'r SDLP - ond mae pob is etholiad yn wael iawn iddyn nhw.

Wednesday, September 17, 2008

O diar Nick

Yn ol pol Ipsos Mori tros Brydain sydd i'w ryddhau yfory mae'r Toriaid ar 52%, Llafur ar 24% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 12%.

Mae hyn yn cyfieithu i 493 sedd i'r Toriaid, 121 i Lafur ac 8 i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

O safbwynt y Rhyddfrydwyr byddai Nick Clegg, Matthew Taylor, Vince Cable ac Alan Beith yn colli eu seddi yn ogystal a mwyafrif llethol eu haelodau.

Sunday, September 14, 2008

Sut i fynd ar ol pleidlais y Rhyddfrydwyr Democratiaidd yng Nghymru

'Dwi'n teimlo ychydig yn drist yn cynhyrchu dau gyfraniad mewn ychydig ddyddiau ar y Democratiaid Rhyddfrydol - ond dyna fo - 'dwi'n gwneud pethau rhyfedd weithiau.

Mae dau o aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Lloegr, Mark Littlewood a David Preston wedi cael coblyn o hwyl efo Exel ac wedi cynhyrchu adroddiad hynod gynhwysfawr ar fygythiad y Toriaid i'w plaid nhw yn yr etholiad cyffredinol nesaf - The Cameron Effect, The electoral threat to the Liberal Democrats and how to combat it.

I dorri stori hir iawn yn fyr iawn maent yn credu bod llawer iawn o'u Haelodau Seneddol yn Lloegr - dau o pob tri efallai - mewn perygl o golli eu seddau os ydi'r llanw Toriaidd yn codi i'r graddau mae'r polau piniwn yn awgrymu ar hyn o bryd.

Y broblem i'r Rhyddfrydwyr ydi'r ffaith mai'r Toriaid sy'n ail iddynt yn y rhan fwyaf o'u seddi yn Lloegr.

Yn y cyd destun yma y dylid edrych ar ddatganiad Nick Clegg bod ei blaid bellach eisiau torri trethi. Chwi gofiwch i'r blaid yma fynd i'r etholiad diwethaf yn addo codi trethi er mwyn gwella'r gyfundrefn addysg - a chael cryn lwyddiant - yn arbennig mewn etholaethau dinesig.

Bwriad Clegg ydi ad leoli ei blaid i'r Dde o'r Blaid Geidwadol o ran polisi trethiant er mwyn apelio at yr etholwyr yn yr etholaethau cymharol gefnog gan amlaf lle mae ei blaid yn cael ei bygwth gan y Toriaid. Mae'n gwybod na fydd hyn yn ei niweidio yn y lleiafrif o seddi lle mai Llafur sy'n ail - mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn ddiogel yn y seddi hynny oherwydd y chwalfa Llafur a'r ffaith nad oes gan gyn bleidleiswyr Llafur unman i fynd ag eithrio'r Rhyddfrydwyr Democrataidd.

'Dwi'n digwydd credu bod y polisi hwn yn gamgymeriad hyd yn oed yn Lloegr. Yn yr hinsawdd gwleidyddol sydd ohoni mae gwasanaethau cyhoeddus yn bwysicach i bobl na thoriadau mewn trethi.

Ond ta waeth am hynny - yr hyn sydd o ddiddordeb i mi ydi goblygiadau posibl hyn yng Nghymru. Mae Cymru'n gwahanol i Loegr yn wleidyddol.

Byddai dilyn polisi o'r fath yn arwain at doriadau sylweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - ac mewn cynnydd sylweddol mewn lefelau diweithdra ymysg gweithwyr y sector cyhoeddus.

Mae Cymru'n dlotach na Lloegr, ac o ganlyniad mae'r polisi hyd yn oed yn llai atyniadol yma nag yw yn Lloegr hyd yn oed. Mae mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru - felly byddai bygythiad i'r sector cyhoeddus yn bygwth mwy o bobl.

Felly gallai portreadu'r blaid fel un sydd o blaid toriadau mewn gwasanaethau a swyddi cyhoeddus fod yn niweidiol iawn i'r Rhyddfrydwyr yma - mae gan pobl nad ydynt yn hoff o Lafur na'r Toriaid ddewis arall yng Nghymru - Plaid Cymru.

Gallai hyn fod yn bwysig mewn sedd ymylol - Ceredigion. Ond gallai fod o fantais mwy pell gyrhaeddol o lawer. Yn ystod y flwyddyn neu ddwy diwethaf mae Plaid Cymru wedi bwyta i mewn i'r bleidlais Lafur yn rhai o'r Cymoedd, ac mewn trefi ar hyd a lled Cymru. Methodd wneud hynny yn y Gymru ddinesig (mae Gorllewin Caerdydd yn eithriad). Y Rhyddfrydwyr sydd wedi dennu'r hen bleidlais Llafur yma.

Gallai canfyddiad bod y Rhyddfrydwyr yn wrthwynebus i wariant cyhoeddus fod yn handwyol iddynt yma. Gallai hefyd roi allwedd i Blaid Cymru i bleidleisiau nad ydynt wedi bod ar gael iddi hyd yn hyn.

Dylai'r Blaid wneud pob dim o fewn ei gallu i bortreadu'r Rhyddfrydwyr fel plaid sy'n elyniaethus i'r sector gyhoeddus.

Saturday, September 13, 2008

Arweinyddiaeth y Blaid Lafur

Hyd yn hyn mae'r Aelodau Seneddol Llafur canlynol wedi ysgrifennu yn gofyn i ffurflenni enwebu gael eu dosbarthu:

Mike Hall
Fiona Mactaggart
Shona McIsaac
Siobhain Mcdonagh
Joan Ryan
George Howarth
Graham Stringer
Gordon Prentice
Janet Anderson
Jim Dowd
Kate Hoey
Frank Field

'Dydi hyn ddim digon i wneud gwahaniaeth ynddo'i hun - ond os bydd y rhestr yn parhau i dyfu tros y dyddiau nesaf, yna mae perygl i Brown y byddwn yn cyrraedd tipping point a bydd llawer o Aelodau Seneddol yn dangos eu hochr.

Mae yna lawer o ASau yn poeni yn ddirfawr am eu seddau - ac yn gwybod yn iawn bod eu siawns o'u cadw yn is gyda Brown wrth y llyw.

Dyna pam ei bod yn ddigon posibl mai cychwyn caseg eira ydi hyn.

Thursday, September 11, 2008

Problem Kirsty a'r Democratiaid Rhyddfrydol



Kirsty Williams fydd yn ennill etholiad mewnol y Democratiaid Rhyddfrydol i ddewis arweinydd i'r blaid yn y Cynulliad. 'Dwi fy hun ddim yn ei hystyried yn wleidydd arbennig o dda, nac yn un dda iawn am gyfathrebu - ond mae'n berson gonest a dymunol, ac yn wyneb atyniadol, modern i'r blaid Gymreig.

Newydd ddod ar draws y cyfraniad hwn gan Vaughan Roderick.

Fel arfer gyda Vaughan, mae'n erthygl dreiddgar. Yr hyn mae'n ei ddadlau ydi ei bod yn anodd iawn i blaid Ryddfrydol fod a hunaniaeth unigryw mewn gwlad lle mae'r rhan fwyaf o bobl - a gwleidyddion yn ryddfrydig. Mae'n bwynt da iawn.

Mae hon yn broblem lled barhaol i'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth gwrs. Hoffwn ychwanegu pwynt arall fodd bynnag - mae ganddyn nhw broblem benodol wrth edrych ymlaen i'r etholiad cyffredinol nesaf - a'r etholiad Cynulliad.

Planhigyn rhyfedd ydi'r un Rhyddfrydol - mae'n tyfu pan mae planhigion eraill yn gwywo, ac mae'n gwywo pan mae'r lleill yn tyfu. Er bod ganddynt bleidlais greiddiol eu hunain, mae cydadran cymharol fawr o'u pleidleiswyr yn bobl sydd wedi pechu efo pleidiau eraill pan mae'r rheiny yn amhoblogaidd - y piwis, y blin, y siomedig a'r hunan dosturiol.

'Rwan, os ydi tystiolaeth yr ychydig etholiadau diwethaf i'w gredu, mae dau blanhigyn gwleidyddol yng Nghymru yn tyfu, ac mae un arall yn gwywo, ac yn gwywo'n gyflym iawn ar hynny. Mae Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol yn gwneud yn dda, tra bod y Blaid Lafur - wel - ddim yn gwneud yn dda.

Y broblem i'r Democratiaid Rhyddfrydol ydi'r ffaith bod tair o'u pedair sedd yn y Canolbarth gwledig - etholaethau lle mae naill ai'r Toriaid neu Blaid Cymru yn gryf. Gallant yn hawdd golli Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn a Cheredigion.

Byddant yn disgwyl elwa o chwalfa'r Blaid Lafur yn y dinasoedd - Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd - ond mae'n dra phosibl na fyddant yn gwneud yn ddigon da i ennill seddi o'r newydd.

Felly, y perygl i Kirsty Williams - ydi y bydd ei dwy etholiad cyntaf fel arweinydd yn drychinebus. Byddant yn gwneud yn wael yn etholiadau Ewrop 2009 - byddant pob amser yn tan berfformio mewn etholiadau Ewrop, a gallant yn hawdd golli tair o'u pedair sedd yn etholiad cyffredinol yn 2010.

Y tebygrwydd ydi y bydd Kirsty a'i phlaid yn mynd i etholiadau'r Cynulliad yn 2011 gyda record o fethiant y tu ol iddynt, ac yn ymddangos yn ymylol oherwydd y frwydr rhwng pleidiau'r llywodraeth - Plaid Cymru a Llafur, a'r blaid sy'n rheoli yn San Steffan.

Hwyrach na fydd Kirsty yn arwain am fwy na thair neu bedair blynedd.

Saturday, September 06, 2008


Ymddengys bod y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegrwedi dewis arweinydd newydd - Caroline Lucas, aelod yn senedd Ewrop yn Ne Ddwyrain Lloegr. Dirprwy Ms Lucas fydd Adrian Ramsey

Llongyfarchiadau ac ati. Beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl am bolisiau'r Blaid Werdd, mae'r ddau yn ymddangos i fod yn unigolion llawer mwy dymunol a dynol na'r criw o siniciaid celwyddog sy'n arwain y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Mae'n ddigon posibl y bydd Ms Lucas a Mr Ramsey yn cael eu dwylo ar fwy o rym maes o law.

Ms Lucas fydd yn sefyll tros y blaid yn Brighton Pavilion. Cafodd y blaid 22% yno yn 2005 - llai na'r Toriaid a Llafur - ond 34.5% yn unig a gafodd yr enillwyr - Llafur. Mae yna bleidlais Lib Dem sylweddol i'w gwasgu ac mae'r bleidlais Llafur yn siwr o chwalu. Mi fyddwn i'n betio ar fuddigoliaeth gyntaf i'r Blaid Werdd mewn etholiad San Steffan yn y rhan hynod ryddfrydig yma o Loegr.

Mae Adrian Ramsey yn arweinydd ei blaid ar Gyngor Norwich, ac maent yn ail blaid yno. Mae posibilrwydd gwirioneddol y byddant yn rheoli'r cyngor wedi 2010.

Yn draddodiadol mae'r Blaid Werdd wedi gweithredu polisi o gael dau arweinydd - am resymau sy'n llai nag amlwg i mi. Dyma'r tro cyntaf iddynt ethol un arweinydd yn unig. Yn wleidyddol mae hyn yn beth doeth - ac mae'r blaid wedi symud ymlaen.

Pam felly na all y Blaid Werdd symud ymlaen i'r byd newydd gwleidyddol sydd wedi esblygu yn sgil ennill datganoli yng nghyd destun Cymru? Mae'r Blaid Werdd Albanaidd yn annibynnol. Nid felly'r un Gymreig - i'r graddau ei bod yn bodoli fel endid ar wahan i'r un ehangach o gwbl.

Mae gan y blaid arweinydd yng Nghymru, ond mi fetiaf nad oes prin neb sy'n darllen y blog yma'n gwybod unrhyw beth amdano, - Martin Shrewsbury Rowlands yw ei enw, ac mae ganddo flog o fath. Mae gan y Blaid Werdd Gymreig hefyd wefan o fath

Yng Nghymru mae ei chefnogaeth wanaf trwy'r DU - mae hi'n gwbl ymylol yma. Mae ganddyn nhw aelod hyd yn oed yn senedd Gogledd Iwerddon. 'Dydyn nhw prin yn trafferthu sefyll am seddi cyngor sir y tu allan i Gaerdydd ac Abertawe - yn sicr does ganddyn nhw neb yn sefyll yn y Gymru Gymraeg na'r maes glo.

Hoffwn gynnig rheswm pam bod y blaid wedi methu addasu i realiti'r tirwedd gwleidyddol newydd yng Nghymru - mae'n apelio at yr elfennau mwyaf Seisnig ym mywyd Cymru - ac o'r gydadran yma o'r gymdeithas Gymreig y daw eu haelodau. Dyna pam bod y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn fwy Cymreig na nhw. Dydi hi ddim yn hawdd i bobl o'r cefndir hwn feddwl mewn termau Cymreig.

Monday, September 01, 2008

Beichiogrwydd Bristol Palin a hanes Thomas Eagleton

Ymddengys bod Bristol Palin, merch Sarah Palin, partner John McCain ar y tocyn etholiadol ym mis Tachwedd yn disgwyl plentyn. Dwy ar bymtheg oed ydi Bristol ac mae yn yr ysgol. Bydd yn priodi tad y plentyn.

Petai hyn yn digwydd yng Nghymru, neu yn unrhyw wlad arall yn Ewrop o ran hynny, yna ni fyddai'n cael unrhyw effaith y naill ffordd na'r llall ar ragolygon etholiadol y rhiant.

Mae pethau ychydig yn gwahanolyn America - ac yn arbennig os ydi'r ymgeisydd yn Weriniaethol. Dewiswyd Sarah Palin i redeg gyda John McCain oherwydd bod y ceidwadwyr diwylliannol yn amheus iawn o McCain - yn rhannol oherwydd bod hwnnw wedi bod ag enw drwg iawn am odinebu yn gyson a chyda merched oedd yn gweithio iddo pan oedd yn uchel swyddog yn y llynges. Roedd hyn yn dilyn damwain drist ei wraig gyntaf - ac roedd cyn iddo brodi efo'i wraig bresennol - Cindy Lou Hensley - dynas hynod o gyfoethog. Mae'r gydadran sylweddol o Wereniaethwyr sy'n gweld gwerthoedd teuluol fel mater etholiadol pwysig yn hoff iawn o Ms Palin.

Mae'n bosibl y bydd y datblygiad yma'n effeithio ar ei delwedd, er y byddai dyn yn gobeithio (hyd yn oed un sydd ddim yn hoff o'r GOP) y byddai pobl yn dangos cydymdeimlad tuag ati. Ond nid yw hynny'n sicr eto o bell ffordd - mae anoddefgarwch yn un o nodweddion ceidwadiaeth Americanaidd.

Os yw ei delwedd ymysg y bobl hyn yn cael ei niweidio, gallai gael ei thynnu oddi ar y tocyn - wedi'r cwbl roedd yn ddewis anisgwyl yn y lle cyntaf.

Hyd y gwn i unwaith mae hyn wedi digwydd o'r blaen. Tynwyd Thomas Eagleton oddi ar docyn George MgGovern ym 1972 wedi iddi ddod yn amlwg iddo fod yn yr ysbyty dair gwaith rhwng 1960 a 1966 oherwydd problemau seicolegol.

Aeth McGovern ymlaen i golli'r etholiad i Richard Nixon o 61%-37% - y gweir waethaf ag eithrio un yn hanes etholiadau arlywyddol yn America.