Sunday, September 14, 2008

Sut i fynd ar ol pleidlais y Rhyddfrydwyr Democratiaidd yng Nghymru

'Dwi'n teimlo ychydig yn drist yn cynhyrchu dau gyfraniad mewn ychydig ddyddiau ar y Democratiaid Rhyddfrydol - ond dyna fo - 'dwi'n gwneud pethau rhyfedd weithiau.

Mae dau o aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Lloegr, Mark Littlewood a David Preston wedi cael coblyn o hwyl efo Exel ac wedi cynhyrchu adroddiad hynod gynhwysfawr ar fygythiad y Toriaid i'w plaid nhw yn yr etholiad cyffredinol nesaf - The Cameron Effect, The electoral threat to the Liberal Democrats and how to combat it.

I dorri stori hir iawn yn fyr iawn maent yn credu bod llawer iawn o'u Haelodau Seneddol yn Lloegr - dau o pob tri efallai - mewn perygl o golli eu seddau os ydi'r llanw Toriaidd yn codi i'r graddau mae'r polau piniwn yn awgrymu ar hyn o bryd.

Y broblem i'r Rhyddfrydwyr ydi'r ffaith mai'r Toriaid sy'n ail iddynt yn y rhan fwyaf o'u seddi yn Lloegr.

Yn y cyd destun yma y dylid edrych ar ddatganiad Nick Clegg bod ei blaid bellach eisiau torri trethi. Chwi gofiwch i'r blaid yma fynd i'r etholiad diwethaf yn addo codi trethi er mwyn gwella'r gyfundrefn addysg - a chael cryn lwyddiant - yn arbennig mewn etholaethau dinesig.

Bwriad Clegg ydi ad leoli ei blaid i'r Dde o'r Blaid Geidwadol o ran polisi trethiant er mwyn apelio at yr etholwyr yn yr etholaethau cymharol gefnog gan amlaf lle mae ei blaid yn cael ei bygwth gan y Toriaid. Mae'n gwybod na fydd hyn yn ei niweidio yn y lleiafrif o seddi lle mai Llafur sy'n ail - mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn ddiogel yn y seddi hynny oherwydd y chwalfa Llafur a'r ffaith nad oes gan gyn bleidleiswyr Llafur unman i fynd ag eithrio'r Rhyddfrydwyr Democrataidd.

'Dwi'n digwydd credu bod y polisi hwn yn gamgymeriad hyd yn oed yn Lloegr. Yn yr hinsawdd gwleidyddol sydd ohoni mae gwasanaethau cyhoeddus yn bwysicach i bobl na thoriadau mewn trethi.

Ond ta waeth am hynny - yr hyn sydd o ddiddordeb i mi ydi goblygiadau posibl hyn yng Nghymru. Mae Cymru'n gwahanol i Loegr yn wleidyddol.

Byddai dilyn polisi o'r fath yn arwain at doriadau sylweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - ac mewn cynnydd sylweddol mewn lefelau diweithdra ymysg gweithwyr y sector cyhoeddus.

Mae Cymru'n dlotach na Lloegr, ac o ganlyniad mae'r polisi hyd yn oed yn llai atyniadol yma nag yw yn Lloegr hyd yn oed. Mae mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru - felly byddai bygythiad i'r sector cyhoeddus yn bygwth mwy o bobl.

Felly gallai portreadu'r blaid fel un sydd o blaid toriadau mewn gwasanaethau a swyddi cyhoeddus fod yn niweidiol iawn i'r Rhyddfrydwyr yma - mae gan pobl nad ydynt yn hoff o Lafur na'r Toriaid ddewis arall yng Nghymru - Plaid Cymru.

Gallai hyn fod yn bwysig mewn sedd ymylol - Ceredigion. Ond gallai fod o fantais mwy pell gyrhaeddol o lawer. Yn ystod y flwyddyn neu ddwy diwethaf mae Plaid Cymru wedi bwyta i mewn i'r bleidlais Lafur yn rhai o'r Cymoedd, ac mewn trefi ar hyd a lled Cymru. Methodd wneud hynny yn y Gymru ddinesig (mae Gorllewin Caerdydd yn eithriad). Y Rhyddfrydwyr sydd wedi dennu'r hen bleidlais Llafur yma.

Gallai canfyddiad bod y Rhyddfrydwyr yn wrthwynebus i wariant cyhoeddus fod yn handwyol iddynt yma. Gallai hefyd roi allwedd i Blaid Cymru i bleidleisiau nad ydynt wedi bod ar gael iddi hyd yn hyn.

Dylai'r Blaid wneud pob dim o fewn ei gallu i bortreadu'r Rhyddfrydwyr fel plaid sy'n elyniaethus i'r sector gyhoeddus.

2 comments:

Anonymous said...

bydd cael eu gweld fel ryw Ceidwadwyr sans Tory yn help i'r LibDems yng Ngheredigion. Pleidlais asgell dde/ceidwadol yw craidd eu pleidlais.

Cymry Cymraeg sydd am resymau hanesyddol a diwylliannol ddim yn pleidleisio Tori a Saeson ddwad sy'n hoffi Nick Clegg/Charles Kennedy ac ddim am roi fod i'r Welshies.

Mae symudiad Clegg yn cryfhau'r Lib Dems yn Ceredigion ddim ei niweidio o'm mhrofiad i.

menaiblog said...

'Dwi ddim yn meddwl.

Mae'r bleidlais Doriaidd wedi ei gwasgu cymaint ag y gall gael eu gwasgu gan y Lib Dems yng Ngheredigion - bydd cynnydd ym mhleidlais y Toriaid, a bydd y Lib Dems yn dioddef.

Hefyd mae incwm cyfartalog yn isel iawn yng Ngheredigion - felly nid yw trethi isel mor atyniadol ag yw yn Surrey.