Sunday, September 28, 2008

Pwt o eglurhad

Mi fyddaf yn derbyn cwynion ynglyn a chynnwys y blog hwn o bryd i'w gilydd - ac mi gefais un heno - gan Gwilym Euros. Roedd Gwilym yn ffeindiach na rhai o'r cwynwyr sydd wedi cysylltu yn y gorffennol, ond ymddengys nad yw'n hoff o oslef y cyfraniad diweddaraf.

Nid bwriad y blog yma, fel llawer o rai eraill, ydi plesio - ond dwi ddim yn bod yn ffeithiol anheg chwaith.

Dau bwynt a wneir:

(1) Nad ydi gwneud honiad ar ffurf cwestiwn ynddo'i hun yn sicrhau nad ydyw'n enllib.

(2) Bod diwilliant mewnol Llais Gwynedd yn disfunctional (beth bynnag ydi'r term Cymraeg am hynny), ac mai'r rheswm am hynny ydi ffaith ei fod yn diffinio ei hun fel bod yn wrth rhywbeth arall (hy Plaid Cymru). Dyna pam bod sylwadau enllibus yn nodwedd mor gyffredin o naratif gwleidyddol Llais Gwynedd - mae'n adlewyrchu'r diwylliant mewnol.

'Dwi wedi dileu dwy neges a adawyd ar y blog gan gyfranwyr anhysbys oedd yn gwneud honiadau personol am Gwilym.

'Dydi'r blog yma ddim yn defnyddio system i hidlo cyfraniadau nac yn atal sylwadau rhag cael eu cyhoeddi nes i mi eu gweld.

1 comment:

Anonymous said...

Hoffwn i ymddiheuro am roi'r negeseuon yn dy focs sylwadau.

Nid am eu bod nhw'n anwiredd ond am fod angen gwneud y fath beth er mwyn dangos i Gwilym Euros a'i debyg bod rhaid iddo fod yn barod i dderbyn yn ogystal a rhoid os am chwarae'n fudr.