Thursday, October 02, 2008

Hen Rech Flin a Chenhadon Casineb

Newydd sylwi ar sylwadau Hen Rech Flin ar y ffrae bach 'dwi wedi ei chael gyda rhai o aelodau Llais Gwynedd yn ddiweddar.

Cyn dweud dim arall, 'dwi'n hoff iawn o ddau flog Alwyn, ac yn fy marn i Hen Rech Flin ydi'r blog gwleidyddol gorau yn yr iaith Gymraeg - mae'n gyson, yn ddeallusol ac yn dreiddgar. Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn cytuno efo Alwyn ar fawr ddim - ag eithrio'r gred greiddiol sydd wrth wraidd fy mlog i a'i un yntau - sef y dylai Cymru fod yn annibynnol fel pob gwlad arall gwerth ei halen.

'Dwi'n derbyn mai siom yn y Blaid sydd wedi gyrru rhai pobl i freichiau Llais Gwynedd - 'does yna neb wedi bod yn fwy beirniadol na fi o'r Blaid ar fater ysgolion.

Yr hyn sydd yn fy mlino ydi bod nifer o bobl sydd yn casau'r Blaid wedi cymryd mantais o gamgymeriadau strategol ar ran arweinyddiaeth y Blaid diweddaryng Ngwynedd i greu plaid sydd yn ei hanfod yn wrth genedlaetholgar.

Hanfod Llais Gwynedd ydi pledio tros fantais i un rhan o Gymru ar draul y gweddill. Gwendid gwleidyddol Cymru yn hanesyddol ydi'r ffaith ein bod yn gymdeithas ranedig. Mae'r rhaniadau hyn wedi bod yn fel ar fysedd ymgyrchwyr gwrth Gymreig yn y ddau refferendwm datganoli yn 79 a 97. Prif dacteg gwleidyddol y gwrth ddatganolwyr oedd chwarae ar hen holltau - y rhai rhwng y De a'r Gogledd, y siaradwyr Cymraeg a'r di Gymraeg, y sawl sydd wedi eu geni yn Lloegr a'r sawl sydd wedi eu geni yng Nghymru ac ati.

Mae Llais Gwynedd yn creu un rhaniad arall - mae'n un diferyn arall o fel ar fysedd y sawl nad ydynt yn credu bod Cymru'n genedl.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Dwi ddim yn siŵr iawn am y pwynt yr wyt yn ceisio ei wneud efo'r sylw "Hanfod Llais Gwynedd ydi pledio tros fantais i un rhan o Gymru ar draul y gweddill.".
Byddwn yn disgwyl i bob Cyngor a chynghorydd ymladd ar ran ei chornel bach hi o'r byd yn erbyn llywodraethau lleol, San Steffan a Chaerdydd, beth bynnag fo'r lliw.

Rwy'n disgwyl i fy nghynghorydd lleol pledio mantais Llansanffraid gan roi naw wfft i draul Llandudno, Llandudoch, Caerwrangon neu Gaerliwelydd.

Be sy'n bod a hynny?

menaiblog said...

Ia a na Alwyn.

Mae blog Gwilym er enghraifft yn ymosod ar y Blaid oherwydd y toriadau yng nghyllideb Gwynedd.

'Rwan, toriadau ariannu o Lundain sydd yn eu tro sy'n gyfrifol am y toriadau hynny - yr unig ffordd o gynyddu gwariant yng Ngwynedd felly ydi newid y fformiwla cyllido mewn modd sy'n fanteisiol i Wynedd.

Mae dadl tros rhai newidiadau, ond mae pen draw i faint o newidiadau y gall y Blaid eu cefnogi - mae'n blaid genedlaethol sy'n ceisio denu cefnogaeth o bob rhan o Gymru - gan gynnwys y rhannau difreintiedig iawn sy'n elwa o'r fformiwla presenol.

Mae plaid ranbarthol sy'n gweiddi 'ni, ni, ni' yn niweidiol i undod cenedlaethol y wlad.