Saturday, July 16, 2016

Caerfyrddin heddiw

Tra bod y Blaid Lafur yn treulio eu hamser yn cynllwynio yn erbyn ei gilydd yn sgil Brexit, mae Plaid Cymru yn dod at ei gilydd i fapio'r ffordd ymlaen - ac yn cofio is etholiad hanesyddol a ddigwyddodd hanner can mlynedd i ddydd Iau diwethaf.

Cawsom gyfle i ddathlu'r hanner can mlwyddiant yng Ngwynedd efo is etholiad bach arall wrth gwrs!





Wednesday, July 13, 2016

Os ydych yn byw yn y Felinheli _ _

_ _ cofiowch bleidleisio i Gareth Griffiths yn is etholiad Cyngor Gwynedd 'fory.  

Galwyd yr is etholiad wedi i Sian Gwenllian ymddiswyddo ar ol cael ei hethol i 'r Cynulliad.  


Embaras braidd

Ysgrifennydd gwladol - mae hyn am fod yn embaras braidd.





Mae blwyddyn yn amser hir mewn gwleidyddiaeth


Tuesday, July 12, 2016

Ynglyn a smonach Llafur

Pwt bach ynglyn a smonach Llafur - wedi ei 'sgwennu cyn bod penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid am ymgeisyddiaeth Llafur wedi ei gyhoeddi.

Mae problem Llafur yn y pen draw yn un strwythurol - mae aelodaeth ac arweinydd y blaid i'r Chwith o bleidlais graidd Llafur, tra bod y rhan fwyaf o'r aelodau etholedig i 'r Dde iddi.  Mae'r aelodaeth wedi bod ar y Chwith erioed.  Er bod yr aelodau etholedig wedi bod i'r Dde i'r aelodaeth gyffredin erioed hefyd, gwaddol Blair a'r gred oedd ynghlwm a Blairiaith bod rhaid ymgyraedd ymhell i'r Dde o'r bleidlais graidd ydi'r sefyllfa sydd ohoni.

Canlyniad hyn ydi plaid sy'n cynnwys  adain wirfoddol ac adain etholedig sydd a gwerthoedd sylfaenol wahanol - dwy blaid oddi mewn i un plaid mewn gwirionedd.  Mae'n bosibl i sefyllfa felly ddal yn y byr dymor, ond dydi hi ddim yn debygol o oroesi yn yr hir dymor.  Mae'n debyg y bydd dwy blaid yn ymddangos pan fydd yr anhrefn presenol yn dod i ben.  Does yna ddim llawer o bethau a allai ddigwydd mewn gwirionedd.

Gallai Corbyn gael ei orfodi i beidio ag ail sefyll am arweinyddiaeth ei blaid.  Os digwydd hynny bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn y llysoedd barn yn y pen draw, a bydd nifer fach o aelodau'r Blaid Lafur a barnwyr yn yr Uchel Lys wedi amddifadu trwch aelodaeth y blaid o'u hawl i ddewis arweinydd.  Mae'n anodd gweld y cannoedd o filoedd o aelodau a chefnogwyr a bleidleisiodd i Corbyn y llynedd yn aros mewn plaid sydd ag Angela Eagle neu Owen Smith yn ei harwain mewn amgylchiadau felly.  Mae'n debyg mai plaid newydd asgell Chwith fyddai'r canlyniad.

Os bydd Corbyn yn cael sefyll, mae'n debygol o guro Eagle neu Smith yn weddol hawdd ac ni fydd yn bosibl i'r Aelodau Seneddol sydd wedi ceisio ei ddisodli ddad wneud yr hyn maent wedi ei ddweud, na dad ddweud yr hyn maent wedi ei ddweud.  Mae'n debyg mai plaid newydd canol y ffordd fyddai canlyniad hynny.  Os mai hyn fydd yn digwydd bydd yn ddiddorol gweld beth fydd yn digwydd i'r pleidiau Llafur Cymreig ac Albanaidd - mynd efo Corbyn, mynd efo'r blaid newydd 'ta torri eu cwys eu hunain i rhyw raddau neu'i gilydd?

Y trydydd peth a allai ddigwydd ydi bod Corbyn yn cael sefyll, ond ei fod yn colli.  Dydi hyn ddim yn debygol, ond dyma'r unig ffordd y gallai'r blaid aros at ei gilydd mewn gwirionedd - a hyd yn oed os digwydd hynny, bydd pethau yn anodd iawn yn fewnol am hir iawn.

Mae'n union beth sydd yn digwydd yn bwysig.  Os mai criw Corbyn fydd yn gadael, bydd criw Eagle/ Smith ac ati yn etifeddu brand Llafur - a bydd hynny werth llawer o bleidleisiau - pleidleiswyr sy'n pleidleisio heb feddwl i Lafur.   Os mai criw Eagle / Smith fydd yn gadael, Corbyn fydd yn etifeddu'r brand a'r pleidleisiau.  Ond bydd cyfanswm pleidleisiau'r ddwy blaid newydd yn is na phleidlais yr un blaid bresenol.

Diolch i Dduw mai smonach rhywun arall ydi hon.


Sunday, July 10, 2016

Gwilym Owen - rhif 101

Doeddwn i heb fwriadu gwneud sylw ar erthygl idiotaidd a phlentynaidd Gwilym Owen yn y rhifyn cyfredol o Golwg, ond mae gen i ugain munud bach ar fy nwylo.   Go brin bod yna unrhyw ymateb mor gwbl fyfiol ac egotistaidd i'r hyn ddigwyddodd fis diwethaf nag ymdrech Gwilym.

Yn y bon mae'n rhestru'r Cymry hynny sydd - yn ol ei dystiolaeth ei hun - wedi ei feirniadu fo yn bersonol oherwydd ei safbwynt gwrth Ewropiaidd, yn clochdar bod poblogaeth Cymru wedi cefnogi ei safbwynt o yn hytrach nag un 'gwleidyddion y Cynulliad a'r dosbarth canol sy'n ei swcro'.  Ymddengys ei bod yn anarferol i Gwilym fod ar yr ochr fwyafrifol mewn pleidlais o'r fath - sy'n newyddion diddorol. Mae hefyd yn rhoi ei resymau pam ei fod mor wrth Ewropiaidd - biwrocratiaeth, gwrth ddemocratiaeth a'r ffaith ei fod yn credu y dylai'r arian strwythurol sydd wedi dod i Gymru o Ewrop gael ei roi i'r bybl hwnnw ym Mae Caerdydd sy'n cael ei swcro gan y dosbarth canol.

Wnawn ni ddim trafferthu son mwy am yr ystumio myfiol, ond efallai y dylid ymateb i'r 'rhesymau' mae Gwilym yn eu defnyddio tros wrthwynebu Ewrop - wedi'r cwbl ni lwyddodd yr ymgyrch Aros i wneud fawr o joban arni.

Y ffeithiau am fiwrocratiaeth Ewropiaidd ydi'r rhain.  Mae'r Undeb Ewropiaidd yn cyflogi 33,000 o firocratiaid, gyda 12,000 o'r rheiny wedi eu lleoli ym Mrwsel.  Mae hyn yn swnio'n nifer fawr o bobl - ond dydi o ddim.  Mae 'r Deyrnas Unedig yn cyflogi 80,000 o weision sifil i hel trethi yn unig.  Mae llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn cyflogi 1.8 miliwn o fiwrocratiaid, mae llywodraeth ffederal yr Almaen yn cyflogi 335,000 o fiwrocratiaid.  Mae yna fwy o bobl yn byw yn yr UE nag yn y DU, yr Almaen ac UDA efo'i gilydd.

Mae Gwilym yn honni bod yr holl ddeddfu yn nwylo criw bach o bobl sydd wedi ei henwebu yn hytrach na'u hethol.  Rwan - dydi hyn jyst ddim yn wir.  Mae'r ffordd mae'r Undeb yn cael ei rheoli yn gymhleth, ond dydi o ddim yn anemocrataidd.  

Mae Senedd Ewrop yn cael ei ethol mewn etholiadau sy'n defnyddio dulliau cyfrannol ym mhob gwlad yn Ewrop.  Mae pob aelod wedi ei ethol yn ddemocrataidd.  Mae yna 751 aelod efo 73 o'r rheiny yn dod o'r DU.  Mae'r Senedd yn ethol ei Arlywydd, 14 is Arlywydd a 5 quaestor, a'r rheiny sy'n ffurfio'r corff sy'n llywio'r Senedd.

Mae Arlywydd Cyngor Ewrop yn cael ei ethol gan y 28 llywodraeth sy'n cynrychioli gwledydd yr UE.  Mae pob un o'r rheiny wedi eu hethol yn ddemocrataidd.  Mae gan pob gwlad yn yr UE sedd ar Gyngor Ewrop.  

Mae Arlywydd y Comisiwn Ewropiaidd yn cael ei ethol gan Gyngor Ewrop, ond mae'n rhaid i'r rheiny gymryd i ystyriaeth ganlyniad yr etholiadau Ewrop blaenorol wrth wneud hynny.  Mae'n rhaid i Senedd Ewrop wedyn gytuno i 'r Arlywyddiaeth.  Jean-Claude Juncker ydi'r Arlywydd cyfredol, a'i blaid (EPP) ydi'r blaid fwyaf yn Senedd Ewrop.  Mae'r 27 aelod arall yn cynrychioli pob un o wledydd y DU, ac yn cael eu dewis gan Gyngor Ewrop - mewn cytundeb efo'r Arlywydd.

Cymhleth - ond cwbl ddemocrataidd.  

Bydd llawer o bwerau Ewrop mewn perthynas a Phrydain bellach yn dychwelyd i San Steffan.  Mae yna lywodraeth fwyafrifol yn San Steffan sydd wedi ennill 36.9% o'r bleidlais, ac mae yna Dy'r Arglwyddi sydd a bron i 800 o aelodau - does yna'r un o'r rheiny wedi cael eu hethol gan neb, ac mae yna nifer ohonynt yn eistedd ar y seddi coch am eu bod yn perthyn i eglwys arbennig - hynny ydi am resymau secteraidd.  Ac mae'r wladwriaeth wrth gwrs yn cael ei harwain gan ddynas na chafodd erioed bleidlais gan neb.  

Ac wedyn dyna i ni'r pres Ewropiaidd mae Gwilym yn meddwl sydd ar y ffordd i'w annwyl fybl.  Mae yna gwyno ymysg Toriaid bod Cymru yn cael ei gor ariannu o drysorlys y DU.  Mae gwariant y pen yng Nghymru ymhell tros £1k y pen yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.  Mae'n anodd gweld pam y byddai llywodraeth asgell Dde sydd a thrwch ei chefnogaeth etholiadol yn Lloegr yn teimlo'r angen i gyfeirio mwy o bres i Fae Caerdydd ac ychwanegu at yr anghyfartaledd.  

Mae Gwilym yn cwyno ar gychwyn ei erthygl bod Rhys Mwyn yn ei alw'n wleidyddol anllythrennog.  Os ydi Rhys wedi gwneud y sylw hwnnw, mae'n gwbl gywir.  


Saturday, July 09, 2016

Symud ymlaen

Roedd yn ddiddorol bod y cyfarfod efo Leanne Wood yn y Galeri, Caernarfon yn orlawn - yn llythrennol.  Pwrpas y cyfarfod oedd trafod y map mae'r Blaid yn ei llunio iddi ei hun, ac i Gymru tros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn sgil yr hyn ddigwyddodd yn refferendwm Ewrop.  Mae'n un o gyfres o ddigwyddiadau tebyg mewn gwahanol rannau o Gymru, a byddant yn dod i ben gyda chynhadledd arbennig yng Nghaerfyrddin, ddydd Sadwrn nesaf i drafod y ffordd ymlaen.  

Mae peth gwaith manwl wedi ei wneud ar y map - ac mae llawer mwy eto i'w wneud.  Ond mae'r cyferbyniad rhwng ymateb Plaid Cymru a Llafur yn boenus o glir.  Mae'r naill blaid wedi ymateb yn gyflym gan hawlio'r agenda, tra bod y llall ar lefel Prydeinig wedi troi arni hi ei hun, ac ar lefel Cymreig wedi gwthio ei phen yn dwfn, dwfn i mewn i'r tywod, melyn, meddal cyfforddus.  




Wednesday, July 06, 2016

Tudalen flaen y diwrnod

Y Cymry sydd a chyfrifoldeb am ryfel Irac

Does yna ddim cytundeb ynglyn a faint o Iraciaid fu farw o ganlyniad i ryfer Irac, mae'r amcangyfrifon yn amrywio o 150,000 i dros i filiwn.  Mae'n debyg bod y gwir rif rhywle yn y canol.  Mae'r Dwyrain Canol wedi ei ansefydlogi'n llwyr o ganlyniad i'r rhyfel, ac mae eithafiaeth Mwslemaidd yn rhemp ar hyd y rhanbarth, a thu hwnt.  Mae Irac wedi ei hollti i lawr y canol ar sail secteraidd.  Mae hygrededd y sefydliadau gwleidyddol wedi eu niweidio'n sylweddol.

Bu farw milwyr o'r gwledydd oedd yn ymosod ar Irac hefyd - tua 4,500 o Americaniaid a 318 o wledydd eraill - y rhan fwyaf ohonyn nhw o'r Deyrnas Gyfunol.  Bu farw tua 4,500 o adeiladwyr a 136 o ohebwyr. 

Mae bron i pob canlyniad o'r ymysodiad ar Irac wedi bod yn gwbl negyddol - a doedd yna ddim cyfiawnhad o gwbl am y rhyfel hwnnw.  

Roedd gan Gymru fach ei rhan yn yr idiotrwydd yma, gyda nifer o'i Haelodau Seneddol yn pleidleisio tros y gorffwylldra.  Mae rhai ohonyn nhw'n dal i ddoethinebu heddiw - gyda Kim Howells ond ddoe diwethaf yn tantro yn erbyn y syniad o fwy o ddatganoli i Gymru a Wayne David yn egluro i ni bod arweinyddiaeth Corbyn - a bleidleisiodd yn erbyn y rhyfel wrth gwrs - yn drychineb llwyr.

Beth bynnag - dyma nhw - gydag ymddiheuriadau os 'dwi wedi gadael rhywun allan.

Nick Ainger - Llafur
Chris Bryant - Llafur
Ann Clwyd - Llafur
Wayne David - Llafur
Peter Hain - Llafur
Alan Howarth - Llafur
Kim Howells - Llafur
Huw Irranca Davies - Llafur
Jackie Lawrence - Llafur
Alun Michael - Llafur
Chris Ruane - Llafur
Don Touhig - Llafur
Donald Anderson - Llafur
David Hanson - Llafur
Paul Murphy - Llafur
Mark Tami - Llafur
Gareth Thomas - Llafur

Tudalen flaen y diwrnod

Monday, July 04, 2016

Pol heddiw - You Gov i ITV a Phrifysgol Caerdydd

San Steffan:


Annibyniaeth:


Cynulliad - etholaethau:

Cynulliad - rhestrau.

Seddi Cynulliad:





Pawb yn ymddiswyddo _ _ _

_ _ _ neu yn achos Boris Johnson yn rhoi'r gorau i uchelgais bywyd.












Saturday, July 02, 2016

Pa flwyddyn ydi hi - 1918 'ta 1983?

Roedd y cyfnod 1922-23 yn un anodd yn hanes Iwerddon - a dweud y lleiaf.  Cafwyd rhyfel cartref - a fel pob rhyfel cartref roedd hynod chwerw.  Achosodd y rhyfel hwnnw hollt trwy ganol bron i pob cymuned yn y wlad, ac adlewyrchwyd yr hollt hwnnw yn etholiad cyntaf y wladwriaeth newydd - ac ym mhob etholiad arall yn y Wladwriaeth Rydd, ac yn hwyrach y Weriniaeth, am naw deg o flynyddoedd.  Doedd y drefn bleidiol a ffurfwyd ddim yn addas i anghenion Iwerddon - cafwyd dwy blaid geidwadol yn dominyddu am ddegawdau - ac mae'n debyg i hynny fod yn niweidiol i ddatblygiad y wlad.  Ond parhau wnaeth y gyfundrefn.

Roedd y Rhyfel Cartref - a'r digwyddiadau yn ystod y chwe mlynedd flaenorol wedi achosi trawma cenedlaethol, ac arweiniodd y trawma hwnnw daflu'r holl gyfundrefn wleidyddol i'r awyr, a phan syrthiodd y darnau i 'r llawr, a phan gliriodd y llwch roedd y drefn wleidyddol yn gwbl wahanol i'r hyn ddaeth o'i flaen.  Erbyn i'r drefn honno ddechrau dadfeilio ar ddiwedd y ddegawd diwethaf, doedd yna prin neb yn cofio'r Rhyfel Cartref.

Cafwyd newid etholiadol syfrdanol yn y Deyrnas Unedig ychydig flynyddoedd yn gynharach - yn 1918.  Arweiniodd etholiad y flwyddyn honno at gwymp sylweddol yng nghefnogaeth etholiadol y Rhyddfrydwyr, ac yn ddiweddarach at ei diflaniad fel grym gwleidyddol arwyddocaol yn y DU.  Roedd y blaid wedi dominyddu yn wleidyddol am ddegawdau cyn hynny.  Roedd y rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn y DU yn fwy cymhleth na'r rhesymau am y newid yn Iwerddon - daeth nifer o bethau at ei gilydd i newid y tirwedd gwleidyddol - ond trawsnewidwyd y gyfundrefn etholiadol bryd hynny hefyd.

Yn 1983 roedd pethau yn yr awyr eto yn dilyn argyfyngau ariannol yn y 70au a symudiad i'r Chwith gan Lafur ar yr union adeg pan oedd y DU yn symud i'r Dde.  Holltodd y Blaid Lafur, ac roedd yn edrych am gyfnod fel petai'r tirwedd etholiadol am newid yn llwyr unwaith eto.  Pan syrthiodd y darnau yn ol i'r llawr roedd pethau wedi symud, ond ddim llawer iawn.  

Mae pethau i fyny yn yr awyr eto, a dydan ni ddim yn gwybod sut mae'r darnau am syrthio - mewn lleoedd hollol wahanol fel y gwnaethant yn 1918 'ta mewn lle ychydig yn wahanol fel ddigwyddodd yn 1983.  O edrych ar y straen sydd yna ar y pleidiau etholiadol traddodiadol - straen sy'n gadael yr hen gyfundrefn yn gwegian - mae'n rhaid dweud ei bod hi'n edrych yn llawer mwy tebyg i 1918 na 1983.

Yr hyn nad ydym yn ei wybod ydi pwy sy'n mynd i elwa o'r newid sylfaenol a allai'n hawdd ddigwydd.  Mae sefyllfa felly yn arwain at ryddhau grymoedd gwleidyddol nerthol iawn, ac mae'n anodd iawn eu rheoli.  Ond mae'r sawl sydd efo cynllun, efo agenda, efo cyfeiriad pendant efo gwell cyfle na'r sawl sy'n gadael i'r corwynt eu chwythu i pob cyfeiriad.  Ar hyn o bryd mae'r pleidiau unoliaethol traddodiadol yn ymddangos yn ddi gyfeiriad, ac ar drugaredd y gwyntoedd gwleidyddol.  

Fel y dywedais - dydan ni ddim yn gwybod os mai 1918 'ta 1983 ydi hi eto -  ond mi fydd gennym syniad reit dda o fewn y flwyddyn - ac mi fydd gennym syniad reit dda o pwy ydi'r collwyr, a phwy ydi'r enillwyr hefyd.

Thursday, June 30, 2016

Cyfle rhy dda i'w golli.

Felly mae'r Blaid Doriaidd yn wynebu etholiad mewnol chwerw gyda'r triciau budur, cynllwynio a bradychu arferol.  

Mae'r Blaid Lafur mewn cyflwr o ryfel cartref agored gyda phosibilrwydd gwirioneddol y gallai hollti'n ddwy  blaid fel y gwnaeth yn y gorffennol. 

Mae'r Dib Lems wedi diflanu i'r fath raddau nes bod gan Plaid Cymru fwy o wleidyddion proffesiynol, etholedig yng Nghymru na sydd gan y Dib Lems trwy'r Deyrnas Unedig.

Mae sicrwydd yr ychydig ddegawdau diwethaf wedi ei daflu i'r pedwar gwynt.  Mae'r ychydig flynyddoedd nesaf yn ymddangos yn rhyfeddol ansicr.  Mae'r drefn bleidiol sydd wedi goroesi am bron i ganrif ac ymhell wedi i'r tirwedd cymdeithasegol ac economaidd a roddodd fodolaeth iddi gilio i niwloedd hanes yn gwegian. Ac mae'n hynod debygol y bydd etholiad cyffredinol yn yr hydref - etholiad a gaiff ei chynnal gydag anhrefn a ffraeo mewnol y ddwy blaid fawr unoliaethol yn gefndir iddi.

Ni fu erioed well cyfle i dorri'r gyfundrefn etholiadol sydd gennym ar hyn o bryd - ac mae pleidiau sy'n ymddangos yn unedig, yn drefnus ac yn gytun mewn sefyllfa hynod gryf i wneud hynny.  


Monday, June 27, 2016

Ar fewnfudwyr o Loegr mae'r bai?

Dwi wedi clywed sawl un ers nos Iau yn beio mewnfudwyr o Loegr am ganlyniad refferendwm Ewrop yng Nghymru.  Rwan mae'n wir fy mod i mewn blogiad blaenorol wedi dangos bod peth perthynas rhwng lefelau mewnfudo o Loegr a thueddiad i bleidleisio i Adael yng Ngwynedd.  Ond fel y dywedais yn y blogiad hwnnw - Gwynedd ydi Gwynedd - mae'n gwneud ei pheth ei hun yn etholiadol.  

O edrychach yn ehangach mae yna stori wahanol.  Wrth ochr yr enwau siroedd isod mae dau ganran.  Y ganran o boblogaeth y sir a anwyd yn Lloegr ydi'r cyntaf, y ganran a bleidleisiodd tros adael yr Undeb Ewropiaidd ydi'r ail.  

Ynys Mon - 28.8% / 50.9%
Gwynedd - 27.4% / 41.9%
Conwy - 39.7% / 54%
Dinbych - 36.3% / 54%
Fflint - 44.3% /56.4%
Wrecsam - 23.4% / 59%
Powys - 44.7% / 53.7%
Ceredigion - 37.4% / 45.4%
Penfro -27% / 57.1%
Caerfyrddin 18.9% / 53.7%
Abertawe - 14.1% / 51.5%
Castell Nedd Port Talbot - 9.7% / 56.8%
Pen y Bont - 12.2% / 54.6%
Bro Morgannwg - 18.5% / 49.3%
Caerdydd - 16.9% / 40%
Rhondda Cynon Taf - 8.2% / 53.7%
Merthyr Tydfil - 6.4% / 56.4%
Caerffili - 8.4% /  57.6%
Blaenau Gwent - 7.1% / 62%
Torfaen - 11.3% / 59.8%
Mynwy - 33.5% / 49.6%
Casnewydd - 12.7% / 56%

Mae yna bump sir lle ganwyd llai na 10% yn Lloegr.  Pleidleisiodd 52.5% yng Nghymru tros adael y DU.  Mae'r ganran a bleidleisiodd i Adael yn uwch na'r cyfartaledd hwnnw ym mhob un o'r siroedd hynny - yn sylweddol felly mewn pedwar ohonynt.

Mae nhw i gyd ag eithrio RCT gyda chanran uwch eisiau Gadael na Dinbych, Fflint a Chonwy - tair sir sydd a mwy na thraean eu poblogaeth wedi eu geni yn Lloegr.  Mae nhw i gyd - gan gynnwys RCT - efo canran uwch na Cheredigion, Mynwy a Phowys.  Mae mwy na thraean o bobl y siroedd hynny wedi eu geni yn Lloegr hefyd.  

Mae pedair o'r bum sir a bleidleisiodd i Aros efo canran llawer uwch o bobl sydd wedi eu geni yn Lloegr yn byw ynddynt na chymedr Cymru.  Caerdydd ydi'r eithriad.  

Mae trosglwyddo bai yn un o'r nodweddion cenedlaethol Cymreig lleiaf dymunol.  Dydi trosglwyddo bai  am ganlyniad Cymru ar Saeson o ddim cymorth i neb.  Ni fel Cymry bleidleisiodd tros adael ddydd Iau. Os ydym i symud ymlaen o'r smonach yma mae'n bwysig ein bod yn deall a derbyn hynny.