Mae pethau'n edrych yn agos ar gyfer y refferendwm Ewrop - ac mae hynny'n rhannol oherwydd nad ydi'r gefnogaeth i'r ochr Aros ddim yn edrych mor soled ymysg y grwpiau y byddai rhywun yn disgwyl y byddai'n pleidleisio iddynt.
Yn bersonol dwi ddim yn credu'r darogan gwae economaidd gan yr ochr Aros(na'r ochr Gadael). Mae'n ddigon posibl y bydd anhrefn yn y marchnadoedd stoc ac arian tros dro os bydd y DU yn gadael yr Undeb - ond mae marchnadoedd a busnesau yn addasu'n sydyn i 'r sefyllfaoedd sy'n eu hwynebu. Yr hyn sydd yn fy mhoeni fi mwy ydi'r math o wladwriaeth y bydd y DU ar ol cyfnod maith o lywodraethu Adain Dde. Gallai'n hawdd esblygu i fod yn wladwriaeth o fath tra gwahanol i'r hyn ydyw ar hyn o bryd.
Bydd y Dde oddi mewn i'r Blaid Geidwadol yn ennill goruwchafiaeth. Bydd rhaid i Cameron ymddiswyddo, ac os na wnaiff hynny bydd yn cael ei wthio. Bydd aelodaeth y Blaid Geidwadol yn dewis arweinydd sy'n erbyn Ewrop - a bydd hwnnw / honno ar asgell Dde ei blaid. Mae yna resymau pam y bydd y Blaid Geidwadol yn anodd i'w symud o lywodraeth am flynyddoedd lawer.
Dydi'r anhrefn oddi mewn i'r Blaid Lafur ddim yn debygol o leihau hyd yn oed os nad Corbyn fydd yn eu harwain i'r etholiad nesaf. Mae'n amlwg bod aelodaeth cyffredin y blaid Lafur a'u haelodau etholedig mewn dau le gwahanol - cwbl wahanol - ar hyn o bryd. Tra bod y sefyllfa yna'n parhau mae am fod yn hynod anodd i Lafur wneud argraff mewn etholiad cyffredinol.
Yn ychwanegol at hynny, bydd y ffiniau etholiadol wedi newid yn sylweddol erbyn 2020, newidiadau fydd yn dileu'r fantais strwythurol sydd gan Llafur yn y gyfundrefn etholiadol sydd ohoni. Bydd yn llawer, llawer anos i lywodraeth sy'n cael ei harwain gan Lafur ddod i rym eto yn y dyfodol canolig.
Byddai'r newid ffiniau, a'r gwrthdaro mewnol gan Lafur ac - o bosibl ymadawiad yr Alban a'r DU - wedi digwydd beth bynnag wrth gwrs. Mae'n ddigon posibl y byddai blynyddoedd maith o lywodraethau Adain Dde o'n blaenau beth bynnag. Mae'n ddigon posibl y byddai'n rhaid i'r Blaid Lafur symud i'r Dde ac i gyfeiriad y tir canol newydd beth bynnag.
Ond yr hyn fyddai'n gwahanol petai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropiaidd ydi y byddai llywodraeth felly yn cael rhwydd hynt i wneud yr hyn fyddai eisiau ei wneud. Fyddai yna ddim deddfwriaeth Ewropiaidd i atal i'r llywodraeth gymryd pa bynnag lwybr y byddai am ei gymryd. Petai eisiau cyfyngu ar hawliau gweithwyr - a'i alw'n ddeddfwriaeth busnes gyfeillgar - gallai wneud hynny. Petai eisiau cryfhau gallu'r wladwriaeth i gyfyngu ar hawliau sifil - gallai wneud hynny hefyd. Petai eisiau cael gwared o ddeddfau amddiffyn data gallai wneud hynny. Gallai hefyd gael gwared o ddeddfwriaeth cyflogaeth cyfartal, deddfwriaeth i atal discrimineiddio ar sail crefydd, hil, rhyw, oed ac ati, deddfwriaeth sicrhau hawliau sylfaenol i bobl sy'n dioddef yn sgil tor cyfraith,
Gallai'r DU mewn ugain mlynedd fod yn rhywbeth tra gwahanol i'r hyn ydyw heddiw.


































