O - bu bron i mi anghofio son bod cefnogaeth y Blaid yn treblu o gymharu ag etholiad 2010.
Thursday, November 27, 2014
Y broblem efo'r Lib Dems
O - bu bron i mi anghofio son bod cefnogaeth y Blaid yn treblu o gymharu ag etholiad 2010.
Saturday, November 22, 2014
Rali SNP yn yr Hydro heddiw
Plaid pobl fawr, ddinesig
Thursday, November 20, 2014
Etholiad syml yn y bon
Beth bynnag, mae'n ddiddorol - os nad anisgwyl - bod David Cameron eisiau cadw fformiwla Barnett am byth bythoedd am wn i. Mi fydd y sawl sy'n dilyn y pethau yma yn gwybod bod y fformiwla yn tan gyllido Cymru o £1.2bn o gymharu a'r Alban, a hynny er bod yr Alban yn llawer cyfoethocach na Chymru. Mi fyddant hefyd yn ymwybodol i'r fformiwla gael ei dyfeisio yn 1978 fel dull dros dro o ariannu gwledydd llai y DU. Felly os caiff Cameron ei ail ethol ym mis Mai y flwyddyn nesaf gallwn ddisgwyl mwy a mwy o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.
Sunday, November 16, 2014
Hanes Glyn Davies yn ymddangos ar dudalen flaen y Sunday Times
Rhagrith Toriaidd o Rochester
Friday, November 14, 2014
Awgrym arall o senedd grog
Tuesday, November 11, 2014
Bargeinio i gael y gorau i Gymru
Monday, November 10, 2014
Y Bib a'r stori Pontio
Cafodd Alun Pugh ei benodi'n weinidog diwylliant yn 2003 - unarddeg mlynedd yn ol, ac arhosodd yn weinidog nes iddo golli ei sedd yn 2007. Rwan dydi hi ddim yn briodol i farnu Alun Pugh am wneud sylwadau ynglyn a'r mater - mae o'n wleidydd sydd yn ymgeisio am sedd ac mae gwleidyddion mewn sefyllfa felly yn mynd i gael eu temptio i wneud sylwadau am faterion lleol sy'n dod a chyhoeddusrwydd yn eu sgil. Fodd bynnag mae'r ffaith ei fod yn ymgeisydd seneddol yn fwy perthnasol i'r stori ar hyn o bryd na'i fod yn gyn weinidog - ac mae'n anodd gweld pam nad aeth y Bib ati i ddweud hynny wrthym.
Chawsom ni ddim gwybod dim am gyfnod diddorol Alun fel gweinidog celfyddydau chwaith. Roedd yn gyfnod digon bywiog. Ei weithred mwyaf enwog oedd gwrthod ail benodi Geraint Talfan Davies i'w swydd fel cadeirydd Cyngor y Celfyddydau. Roedd hyn yn rhan o ymgais ehangach i ddiwygio'r ffordd roedd y celfyddydau yng Nghymru yn cael eu hariannu mewn modd a fyddai wedi canoli llawer o rym tros y celfyddydau yn y Cynulliad. Arweiniodd hyn yn ei dro at feirniadaeth sylweddol gan sefydliadau celfyddydol, y gwrthbleidiau a'r cyhoedd. Ni welodd yr argymhelliad olau dydd oherwydd maint y gwrthwynebiad iddynt.
Fel y dywedais, roedd y cyfnod yn un lliwgar.
Sunday, November 09, 2014
Pam nad ydi trydar yn hwyr yn y nos pob amser yn syniad da
Wednesday, November 05, 2014
Plaid Saesneg Cymru
I weld y ddelwedd yn gliriach gweler yma
Monday, November 03, 2014
Mwy o newyddion drwg i Lafur
Saturday, November 01, 2014
Sut i beidio ag ymddwyn ar Hawl i Holi
Mewnfudwyr - mynd ar ol y gelynion anghywir
Thursday, October 30, 2014
Y gwersi o ddatblygiadau diweddaraf yn yr Alban
Wednesday, October 29, 2014
Monday, October 27, 2014
Gwersi i'w cymryd o ddigwyddiadau diweddar yn yr Alban
Mae'r hyn a ddywedwyd gan Andy Kerr - cyn weinidog cyllid yr Alban - wrth rhaglen Radio Scotland Crossfire ddoe yn dangos yn glir ffyrnigrwydd y rhyfel cartref sy'n difa'r Blaid Lafur yn yr Alban ar hyn o bryd. Ond mae yna hefyd wers i Gymru:
If I was a dinosaur I’d be quite offended to be compared to some of these [Scottish Labour] MPs. Dinosaurs left the planet and there was some hope for life afterwards. These people are not going to leave any hope for life in the Scottish Labour Party. [Their] line is to gloss this over and elect someone quickly. But if you don’t sort out the problem of who runs the party in Scotland, we’re not going to get anywhere. My campaign [for the Scottish Labour leadership] was very forceful on the powers of the leader of the Scottish Labour Party – not unsurprisingly, when you put that kind of pitch to MPs, you don’t get elected, and that’s what happened to me. I believe the SNP finance minister got a better deal out of the Labour government than I did. Scottish Labour created the Scottish Parliament and since then has tried to strangle it.
















