Friday, February 11, 2011

Mubarak ac Obama

Mae'n ddifyr deall i Obama lwyddo i fynegi lled gefnogaeth i ddatblygiadau heddiw yn yr Aifft, er i'w lywodraeth o, a phob llywodraeth Americanaidd blaenorol, wneud (a defnyddio idiom Americanaidd anghynnes) sgwot didli i hyrwyddo democratiaeth o unrhyw fath yn y rhan yma o'r Byd .

Roedd, fodd bynnag braidd yn drist na wnaeth gynnig cymaint a gair o ddiolch cynhoeddus Mubarak am ei waith diflino tros ddeg mlynedd ar hugain, yn amddiffyn a hyrwyddo buddiannau yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol.

Thursday, February 10, 2011

Iawndal Iona Jones


'Dwi'n siwr y bydd darllenwyr Blogmenai yn cofio i gyn brif weithredwr S4C, Iona Jones a'r sianel setlo cyn i'r camau cyfreithiol roedd Iona yn eu cymryd yn erbyn ei chyn gyflogwr gyrraedd tribiwnlys diwydiannol.

Yr hyn nad ydi'r naill ochr na'r llall yn fodlon ei ddatgelu, fodd bynnag, oedd manylion taliad S4C i'w chyn bennaeth. Y stori sydd wedi cyrraedd Blogmenai ydi bod y swm yr iawndal (yn hytrach na'r costau) yn un mawr crwn - gydag un digid yn unig iddo.

Gwir neu beidio, 'dwi'n siwr y cawn gadarnhad y naill ffordd neu'r llall maes o law - mae'n rhaid bod rhywun yn rhywle wedi defnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael goleuni ar y mater.

Wednesday, February 09, 2011

Croeso i flog Ia Dros Gymru Sir Gar

Go brin y bydd y blog newydd efo ni am hir, dod a mynd fel eira mis Mawrth ydi hanes blogiau sydd wedi eu cysylltu ag ymgyrch benodol gan amlaf - ond mae'n edrych yn flog digon difyr a chaboledig. Beth bynnag am hynny, 'dwi wedi dwyn delwedd o'r blog.


.

Tuesday, February 08, 2011

Mwy o ragrith o gyfeiriad True Wales

Un o'r ychydig nodweddion canarnhaol y gellir eu priodoli i True Wales ydi eu bod yn aml yn hynod ddigri - efallai bod hynny'n anfwriadol, serch hynny mae llawer o'r hyn sy'n dod o'u cyfeiriad yn ogleisiol.

Cymerer y stori fach yma er enghraifft. Ymddengys bod Rachel Banner yn flin iawn efo'r Western Mail am feiddio datgan ei fod eisiau i'r Cynulliad gael yr hawl i ddeddfu. Yn wir mae Rachel wedi sylwi'n fwyaf sydyn bod perchnogion y Western Mail, Trinity Mirror, efo lled fonopoli ar newyddiaduraeth brint Gymreig - ac yr un mor sydyn mae'r sefyllfa yn ei phoeni.

Efallai nad yw'r ffaith mai Trinity Mirror ydi'r grwp papurau newydd mwyaf cefnogol i'r blaid mae Rachel yn perthyn iddi - y Blaid Lafur - wedi gwawrio arni eto. Mae prif bapurau'r grwp y Daily Mirror a'r Sunday Mirror yn ymdebygu ar adegau i bapurau swyddogol i'w phlaid, gyda pholisi golygyddol mwy slafaidd bleidiol nag unrhyw bapur arall bron. Bydd llawer yn cofio'r ymgyrch gasineb a gynhalwyd gan y grwp yn erbyn Cymry Cymraeg eu hiaith trwy gyfrwng y Welsh Mirror byrhoedlog ar ddechrau'r ddegawd diwethaf.

'Rwan, mae gan bapurau newydd ym Mhrydain yr hawl i fynegi pa bynnag farn mae eu golygyddion (neu'n hytrach eu perchnogion o bosibl) eisiau iddynt ei fynegi. Os ydi polisi golygyddol unochrog gan y Western Mail tuag at ddatganoli yn poeni Rachel mwy na pholisi golygyddol unochrog gan y Daily Mirror tuag at wleidyddiaeth Prydeinig, yna tyff - rhyddid barn olygyddol papurau newydd ydi un o nodweddion amlycaf cyfundrefnau democrataidd.

Rachel a'i chyfeillion sy'n hoffi creu cymariaethau chwerthinllyn rhwng cyfundrefnau Comiwnyddol a'r Cynulliad - ond mae'n ymddangos bod ganddi hithau broblem bach efo'r syniad o wasg rydd yng Nghymru. 'Dwi'n rhyw feddwl y byddai Mao Zedong a Kim Jong Il efo problem bach debyg efo'r syniad o ryddid barn newyddiadurol yn eu gwledydd hwythau.

Sunday, February 06, 2011

Treuliau aelodau seneddol Cymru

Wele'r manylion treuliau aelodau seneddol diweddaraf:

Aelod Plaid Cyfanswm
Hywel Francis Llaf £18,713.14
Guto Bebb Tori £28,419.96
Mark Tami Llaf £9,353.43
Hywel Williams PC £14,992.41
Nick Smith Llaf £9,334.10
Roger Williams Lib Dem £15,698.09
Madeleine Moon Llaf £8,203.16
Wayne David Llaf £17,824.63
Jenny Willot Lib Dem £10,319.10
Jonathan Evans Tori £14,014.95
Alun Michael Llafur £7,544.86
Kevin Brennan Llafur £14,937.04
Jonathan Edwards PC £12,610.68
Simon Hart Tori £35,256.26
Mark Williams Lib Dem £14,042.58
Susan Jones Llafur £15,256.23
David Jones Tori £11,112.83
Ann Clwyd Llafur £9,784.78
David Hanson Llafur £16,291.95
Elfyn Llwyd PC £8,329.64
Martin Caton Llafur £10,525.36
Chris Evans Llafur £4,724.52
Nia Griffith Llafur £7,784.82
Dai Havard Llafur £16,884.26
David Davies Tori £12,229.74
Glyn Davies Tori £19,083.29
Peter Hain Llafur £11,968.23
Jessica Morden Llafur £8,918.61
Paul Flynn Llafur £4,515. 98
Huw Irranca-Davies Llafur £10,022.12
Owen Smith Llafur £2,781.83
Stephen Crabb Tori £17,587.69
Chris Bryant Llafur £12,558.39
Sian James Llafur £10,002.12
Geraint Davies Llafur £8,107.75
Paul Murphy Llafur £16,467.56
Chris Ruane Llafur £9,828.89
Alun Cairns Llafur £12,718.67
Ian Lucas Llafur £4,229.10
Albert Owen Llafur £4,504.03


Mae Blogmenai yn cydymdeimlo efo Jessica Morden oherwydd i'w chais am £5.50 am groesi Pont Hafren gael ei wrthod, efo Stephen Crabb oherwydd i'w gais am £11.25 am fwyd a diod tra yn y senedd hefyd gael ei wrthod ac i Guto Bebb am beidio a chael £25.58 i dalu am ei bapurau newydd. Gan ei fod yn byw mor agos ataf, mae croeso iddo gael fy mhapurau newydd i ar ol i mi orffen efo nhw.

Data i gyd o western Mail, Chwefror 4 - tud 10.

Friday, February 04, 2011

Dadl refferendwm Wales Today

Mi edrychais ar y ddadl refferendwm gyntaf ar Wales Today neithiwr - Len Gibbs oedd yn cynrychioli'r ochr Na ac Ali Yassine oedd yn siarad dros yr ymgyrch Ia. Roedd yna hefyd ddau driawd o bobl 'gyffredin' - y naill yn y gogledd a'r llall yn y de, gydag un person oedd am bleidleisio Ia, un oedd am ddweud Na ac un arall nad oedd yn rhy siwr ym mhob triawd.

Cawsom yr hyn y byddem wedi ei ddisgwyl o gyfeiriad y bobl Na. Roedd yna ddynas mewn oed o'r de efo'i gwr, oedd yn ol pob tebyg wedi cael stroc, nad oedd yn deall o ble byddai'r pres i'w chadw hi a'i gwr yn dod petai'r Cynulliad yn cael yr hawl i ddeddfu. Roedd wedi argyhoeddi ei hun rhywsut neu'i gilydd bod y Cynulliad wedi cau llawer o ysbytai, ac roedd wedi gwneud ei hun yn flin iawn am hynny. 'Doedd y ddynas Na o'r gogledd ddim eisiau gweld y Cynulliad yn deddfu oherwydd ei bod eisiau level playing field rhwng a de a'r gogledd.

Ac wedyn roedd gan Len pob math o resymau tros wrthwynebu - roedd o'r farn bod y Cynulliad yn fethiant llwyr, roedd yn weddol siwr mai pleidlais am annibyniaeth oedd hi go iawn - beth bynnag sydd ar y papur pleidleisio, ac roedd yna rhyw reswm nad oeddwn yn ei ddeall yn iawn oedd yn ymwneud a Chomiwnyddiaeth a Gogledd Corea.

Yn anffodus mae gennym fis o'r rwdlan, di ddeall, gorffwyll yma i gael ei drosglwyddo i'n hystafelloedd byw fwy neu lai yn ddyddiol.

Thursday, February 03, 2011

Ymgyrch Ia Arfon


Bydd y stodinau stryd canlynol yn cael eu cynnal tros yr wythnosau nesaf:
Dydd Sadwrn 5 Chwefror: Caernarfon, y Maes

Dydd Sadwrn 12 Chwefror: Bangor , wrth y cloc
Dydd Sadwrn 19 Chwefror:
Caernarfon, y Maes
Dydd Sadwrn 26 Chwefror:
Bangor , wrth y cloc a hefyd Caernarfon, y Maes


Bydd pob un yn cychwyn am 10 o'r gloch y bore ac yn gorffen am un yn y prynhawn. Croeso i bawb.

Wednesday, February 02, 2011

Cyfrifiad eleni a'r iaith Gymraeg


Mae'n rhyfedd fel mae ymarferiad syml o hel ystadegau yn troi'n fater gwleidyddol cynhenus mor aml. Mae hyn yn arbennig o wir parthed y cyfrifiad. Yng Ngogledd Iwerddon er enghraifft y cwestiwn am gefndir crefyddol pobl fydd yn destun dadl ffyrnig - yn arbennig ag ystyried y gallai'r cyfrifiad yno yn hawdd ddangos bod y mwyafrif o bobl o gefndir Pabyddol am y tro cyntaf. Mae perthynas agos rhwng daliadau cenedlaetholgar a chefndir Pabyddol yn y fan honno wrth gwrs.

Yma yng Nghymru y cwestiwn ynglyn a'r gallu i siarad Cymraeg ydi'r un sydd o fwyaf o ddiddordeb gwleidyddol. Mae yna rhyw eironi mae'n debyg gen i mai'r bobl ar y pegynnau gwleidyddol (parthed yr iaith o leiaf) sy'n tueddu i ddarogan gwae. O safbwynt y gwrth Gymreigwyr, y lleiaf yn y byd sy'n siarad yr iaith, gorau oll. O'u safbwynt nhw mae nifer isel o siaradwyr yn dibrisio'r iaith ac yn cynnig dadl dda mai gwastraff adnoddau llwyr ydi gwario er mwyn hybu'r Gymraeg.

Ar ochr arall y ddadl mae'r cenedlaetholwyr diwylliannol pybyr yn darogan y gwaethaf fel rhan o ddadl ehangach bod angen mesurau cadarnach i amddiffyn yr iaith, a bod yr hyn a wneir ar hyn o bryd yn gwbl anigonnol.

'Dwi'n tueddu i fod ychydig yn fwy optimistaidd na'r naill garfan na'r llall. Mae'n ffaith i'r ganran sy'n siarad Cymraeg ostwng yn gyson trwy'r ganrif ddiwethaf nes cyrraedd isafswm o 18.5% yn 1991. Cafwyd tro ar fyd erbyn 2001 a chynyddodd y ganran i 20.5% erbyn 2001, ac awgrymodd arolwg iaith digon cynhwysfawr yn 2004 bod 21.7% yn siarad yr iaith erbyn hynny. Ni allaf weld y gogwydd yma'n newid cyfeiriad, ac rwy'n eithaf hyderus y bydd canlyniadau eleni yn dod yn weddol agos i 25%.

Mae yna fwy nag ystadegau moel i'r stori wrth gwrs. Mae llawer o'r cynnydd i'w briodoli i'r sector addysg, ac i gynnydd mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn gymharol wan. Mewn llefydd fel hyn 'dydi siaradwyr Cymraeg ddim yn cael y cyfle i ddefnyddio'r iaith yn aml iawn, ac mae sylwedd i'r cwestiwn, beth yw pwynt cael siaradwyr Cymraeg os nad ydynt yn siarad Cymraeg?

Yn Golwg yr wythnos diwethaf neu'r un cynt roedd yr Athro Harold Carter yn awgrymu na fyddai yna unrhyw gymunedau gyda mwy na 75% yn siarad Cymraeg ynddynt ar ol erbyn cyfrifiad eleni. Mae'n debyg bod arwyddocad i'r ganran yma o ran trosglwyddiad iaith a'i statws yn y gymuned. Mae gen i barch mawr at yr athro, mae'n arbenigwr ar ddaearyddiaeth iaith sydd wedi arloesi yn y maes - ond 'dwi'n anghytuno efo'i ddarogan.

Ar un olwg mae'n hawdd gweld pam ei fod wedi dod i'r casgliad - er i'r nifer a'r ganran o siaradwyr Cymraeg gynyddu yng Nghymru, bu gostyngiad yn yr ardaloedd traddodiadol Gymraeg - yn arbennig felly yn yr ardaloedd gwledig. Yn wir ugain ward yn unig oedd a mwy nag 80% yn siarad Cymraeg ynddynt yn 2001 - y cwbl yn y Gogledd Orllewin, a'r cwbl ond un yn rhai trefol.

Ond mae lle i gredu nad ydi pethau cyn waethed a hynny yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith - yn wir mae data caled sy'n awgrymu hynny. Pan fydd ysgolion yn cael eu harolygu gan ESTYN mae gofyn i'r pennaeth roi adroddiad ar y sefyllfa ieithyddol yn ei ysgol. Bydd yn rhoi adroddiad ar faint o'r plant sy'n defnyddio'r Gymraeg adref, ac ar faint o blant sy'n gallu ei siarad i safon iaith gyntaf. Mae'r tablau isod yn dangos y sefyllfa diweddaraf yn ysgolion uwchradd Gwynedd. Lle ceir lle gwag mae oherwydd nad yw'r ffigwr ar gael (yn hawdd o leiaf) yn yr adroddiad.

Ysgol Disgyblion Cymraeg adref
Safon iaith gyntaf
Ardudwy 380 30% 70%
Botwnnog 517 75% 98%
Brynrefail 724 65% 98%
Dyff Nantlle 507 87% 97%
Dyff Ogwen 437 78% 99%
Eifionydd 537 50%
Friars 1312 8%
Glan y Mor 518 75%
Syr Hugh Owen 890 87% 98.00%
Tryfan 370 46% 96%
Y Berwyn 428 60% 90%
Y Gader 309 33% 69%
Y Moelwyn 416 77% 98%
Tywyn 487 21.50% 63%

Rwan 'dwi'n prysuro i gydnabod bod Gwynedd yn Gymreiciach o lawer na'r un sir arall, a 'dwi'n gwybod nad ydi ysgol yn adlewyrchu dalgylch lleol yn y ffordd yr oedd ers talwm - ceir cryn dipyn o groesi ffiniau gan blant, ac mae rheswm ieithyddol am y croesi ffiniau hwnnw yn aml. 'Dwi'n cydnabod hefyd bod y ffigyrau yn gymysg, gyda'r canrannau sy'n siarad Cymraeg adref yn isel yn ardal ddinesig Bangor ac yn ne gwledig y sir.

Ond ag ystyried bod plant a'u rhieni yn cynrychioli canran uchel o'r boblogaeth ehangach, bod 6 o'r ysgolion uwchradd gyda 75% neu fwy o'u plant o gefndiroedd Cymraeg, a bod pob ysgol yn gwasanaethu pump neu chwech o wardiau, mae'n anodd iawn gweld sut y gellid peidio a chael wardiau efo mwy na 75% o'u trigolion yn siarad Cymraeg.

'Rwan nid dadlau o blaid gor optimistiaeth parthed rhagolygon y Gymraeg ydw i. Mae optimistiaeth di sail yn arwain at ymdeimlad o ddiogelwch di sail. Ond mae pesimistiaeth gormodol hefyd yn niweidiol - mae'n tanseilio statws y Gymraeg, mae'n creu ymdeimlad o anobaith ac mae'n gwneud i siaradwyr Cymraeg deimlo eu bod yn ran o leiafrif gwanach nag ydynt mewn gwirionedd. Mae hyn yn wir am sefyllfa'r Gymraeg tros y wlad i gyd, ac am ei sefyllfa yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith.

Felly - ar drothwy cyfrifiad 2011 (y cyfrifiad olaf mae'n debyg) - un apel fach i garedigion yr iaith. Defnyddiwch y data ieithyddol a gynhyrchir yn wrthrychol i adnabod cryfderau a gwendidau'r iaith tros Gymru. Gall defnyddio ffigyrau i greu darlun rhy ddu wneud mwy o ddrwg nag o les i achos y Gymraeg.

Data ysgolion oll o wefan arolygiadau ESTYN.

Tuesday, February 01, 2011

Etholiad y Weriniaeth


Felly daeth diwedd ar y 30fed Dáil - yr un gwaethaf yn hanes y wladwriaeth ar sawl cyfri. Ar ddydd Gwener, Chwefror 25 y cynhelir yr etholiad cyffredinol. Mi fydd y Dáil Eireann nesaf yn dra gwahanol i'w ragflaenydd o ran ei gyfansoddiad. Bydd y blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth y Weriniaeth, Fianna Fail, yn dychwelyd yn llawer, llawer llai o blaid seneddol nag y bu erioed o'r blaen, ac mae'n dra phosibl na fydd yn arwain llywodraeth arall am genedlaethau.

Yr hyn sy'n ddiddorol i sylwebydd o'r tu allan ydi os bydd yna ail strwythuro pell gyrhaeddol yng ngwleidyddiaeth y Weriniaeth. Yr hollt a agorodd mewn cymdeithas Wyddelig yn sgil y Rhyfel Cartref sydd wedi diffinio'r hollt wleidyddol trwy gydol hanes y wladwriaeth - gyda dwy blaid fawr geidwadol (Fianna Fail a Fine Gael) a phlaid llai ychydig i'r chwith iddynt (Llafur).

Mae peth ansicrwydd ynglyn a chanlyniad yr etholiad. Mae'r chwith Gwyddelig (Sinn Fein a nifer o fan bleidiau eraill) yn debygol o fod yn gryfach nag ydynt wedi bod o'r blaen, ac mae yna arwyddion bod y Blaid Lafur yn symud ychydig i'r chwith hefyd. Byddai sefyllfa lle ceid llywodraeth adain dde, ond gwrthblaid adain chwith yn rhywbeth newydd i'r Weriniaeth - er bod hynny'n gwbl nodweddiadol o wledydd Ewropeaidd eraill wrth gwrs. Mae sawl ffordd y gallai hynny ddigwydd - ond 'does yna ddim sicrwydd o bell ffordd. Serch hynny byddai sefyllfa felly yn debygol o 'normaleiddio' gwleidyddiaeth y Weriniaeth, a'i wneud yn fwy tebyg i wleidyddiaeth gwledydd democrataidd gorllewinol eraill

Monday, January 31, 2011

Ffigyrau'r mis



Diolch - fel arfer - i bawb fu garediced a galw draw yn ystod y mis.

Saturday, January 29, 2011

Pam bod y BBC am ddiffinio natur yr ochr Na ar ein rhan?

Mae'r ffrae bach ynglyn a goblygiadau penderfyniad True Wales i beidio a gwneud cais i'r Comisiwn Etholiadau i fod yn gynrychiolydd swyddogol yr ymgyrch Na yn dinoethi gwirionedd sylfaenol ynglyn a'r BBC yng Nghymru.

Gellir gweld prif elfennau'r ffrae yn y tri linc canlynol, gwefan WalesOnline, blog Saesneg Alwyn ap Huw a blog golygydd gwleidyddol y Bib yng Nghymru, Betsan Powys. Yr hyn a geir mewn gwniadur ydi awgrym gan yr ymgyrch Ia na ddylai'r cyfryngau roi triniaeth arbennig i True Wales ar draul elfennau gwrth ddatganoli eraill, apel gan Alwyn i'w ymgyrch o a'r Lwnis gael statws cyfartal i un True Wales, a Betsan yn ei thro yn rhoi ei throed i lawr a dweud mai'r Bib fydd yn dewis pwy sy'n cael dadlau tros yr achos Na ar eu rhaglenni, a neb arall. Yr awgrym pendant ydi mai True Wales fydd yn cael gwneud hynny.

Wele resymu Betsan:

We'll decide who to interview based - not on whether they've sent an envelope to the Electoral Commission - but after considering things like whether a group, or individual, has a demonstrable track record of campaigning on the issue, have campaigning capacity and whether they represent that side of the debate to the greatest extent. In other words you try to use editorial judgement when you decide who to interview and how often.
Cyn mynd ymlaen mae'n werth nodi pwysigrwydd y Bib i'r ymgyrch - lleiafrif o bobl Cymru sy'n darllen papurau Cymreig neu Gymraeg, bydd penderfyniad True Wales yn golygu na fydd yna ddarllediadau gwleidyddol ac ychydig iawn o raglenni newyddion a materion cyfoes Cymreig sydd ddim yn dod o stabl y Gorfforaeth. Mi fydd dylanwad y Bib ar ganfyddiad pobl o'r refferendwm yn llawer, llawer cryfach na sy'n arferol mewn sefyllfa fel hyn.

Rwan o bob dim yr ydym yn ei wybod am y Bib yng Nghymru yr hyn sy'n ei nodweddu fwy na dim arall ydi ei barchusrwydd a'i natur sefydliadol - a bydd ei ddehongliad o sut y dylid cyflwyno'r ymgyrch Na yn adlewyrchu hynny. Bydd y Bib eisiau cyflwyno'r refferendwm i ni ar ei ffurf a'i ddelwedd ei hun - yn barchus ac yn sefydliadol.

Mae yna pob math o elfennau sy'n wrthwynebus i ddatganoli yng Nghymru - UKIP, nytars gwrth Gymreig fel y rhai sy'n plagio tudalennau sylwadau blog Betsan, elfennau ceidwadol a Seisnig ym mywyd cenedlaethol Cymru, Llafurwyr o Oes y Cerrig ac ati. Fyddan ni ddim yn cael gweld yr amrywiaeth yma gan y Bib - byddant yn saniteiddio'r ochr Na, yn gwneud iddi ymddangos yn fwy rhesymol a llai rhagfarnllyd nag ydyw mewn gwirionedd. Trin True Wales fel petai nhw ydi'r ymgyrch Na swyddogol ydi'r ffordd y byddant yn gwneud hynny.

Ac unwaith eto bydd y Bib yn cyflwyno darlun cyfyng o wleidyddiaeth Cymru ger ein bron - darlun sy'n dweud llawer mwy wrthym am y BBC nag yw am Gymru. Mae diwylliant mewnol y lled fonopoli cyfryngol yma ymhlith y prif resymau pam bod hafn rhwng y Gymru mae'r rhan fwyaf ohonom yn byw ynddi o ddiwrnod i ddiwrnod, a'r fersiwn parchus, diddrwg, didda rydym wedi ein cyflyru i rhyw deimlo y dylem fyw ynddi.

Friday, January 28, 2011

Pam bod Eleanor Burnham yn anghywir ynglyn a chyflwyno trefn bleidleisio AV yng Nghymru

Mae'r galwadau cynyddol am drefn pleidleisio AV yn etholiadau Cynulliad yn achosi peth penbleth i mi.

Mi fydd darllenwyr rheolaidd yn gwybod nad wyf yn hoff o'r drefn sydd gennym ar hyn o bryd - trefn rhestr wedi ei chymysgu a'r dull traddodiadol Brydeinig - First Past the Post (FPTP). Mae'r dull yn llwgr, yn gwobreuo methiant ac yn grymuso pleidiau gwleidyddol ar draul etholwyr. Ond mae iddi un rhinwedd yng nghyd destun Cymru - mae'n dileu'r posibilrwydd o lywodraeth mwyafrifol Llafur parhaol. Dyna fyddai'n digwydd efo FPTP. Mae daearyddiaeth gwleidyddol Cymru yn sicrhau y byddai'n rhaid i Lafur gael llai na tua 30% cyn colli mwyafrif llwyr. Cawsant 24 o'r 40 sedd uniongyrchol gyda 32.2% yn unig o'r bleidlais yn 2007.

Tra na fyddai'r drefn AV yn arwain at batrwm mor anheg, byddai'n fanteisiol iawn i Lafur (mewn cyd destun Cymreig). Byddai llywodraethau Llafur gyda mwyafrif llwyr yn llawer mwy tebygol o dan drefn felly nag ydyw ar hyn o bryd. Mae'n hawdd gweld pam bod hyn yn apelio at Carwyn Jones, ond yn fwy anodd gweld pam bod Ceidwadwyr a Lib Dems eisiau trefn felly.

Rwan, mae'r blog yma wedi awgrymu trefn wahanol yn y gorffennol - trefn STV gydag etholaethau aml aelod. Defnyddir y drefn yma mewn etholiadau yn Ne Iwerddon, mewn etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban, ac ym mhob etholiad ag eithrio rhai San Steffan yng Ngogledd Iwerddon. Ymhellach, mae'r blog yma wedi awgrymu y gellid defnyddio'r siroedd presennol fel etholaethau aml aelod.

Byddai llawer o fanteision i drefn felly - cadw'r berthynas rhwng aelod ag etholaeth, trefn fwy teg a chyfrannol, grymuso etholwyr yn hytrach na gwleidyddion ac etholaethau y gallai pobl uniaethu efo nhw er enghraifft. Mae'n drefn debyg i'r un mae plaid Eleanor Burnham yn ei hargymell. Mae'r tu hwnt i mi pam bod Eleanor yn awgrymu trefn arall a fyddai ond o fantais i Lafur.

ON - cyn i rhywun godi'r peth, 'dwi'n gwybod bod Guto Bebb yn cael ei ddyfynnu yn yr erthygl, ond 'dydi o ddim yn manylu ynglyn a pha drefn y byddai'n ei hoffi.

Thursday, January 27, 2011

Gwrth Gymreigrwydd Paul Matthews a safonau dwbl y cyfryngau prif lif

'Fydda i ddim yn un am gymryd sylwadau gwrth Gymreig yn y cyfryngau gormod o ddifri, er bod llawer yn neidio i ben y caets i dantro pan mae A A Gill neu Clarkson yn dweud rhywbeth neu'i gilydd i dynnu sylw atyn nhw eu hunain.

Serch hynny, mae'r sylwadau gwrth Gymreig gan Paul Matthews, llefarydd ar ran True Wales,yn codi cwestiynau diddorol am agweddau gwaelodol y cyfryngau prif lif tuag at Gymru. Yn ol y wefan Click on Wales dywedodd Matthews hyn wrth Insider Media Limited - I am a Welsh person. We’re not the most innovative or creative, and very often those that are, move out of Wales. Rwan 'dydi'r geiriau ddim mor ymfflamychol a sylwadau Gill, Robinson, Clarkson ac ati, ond mae eu hawgrym yn weddol amlwg - mae'r Cymry yn israddol i'r Saeson, mewn un agwedd hynod bwysig ar fywyd o leiaf.

Mae sylwadau gan unigolion cyhoeddus (neu led gyhoeddus) y gellir eu dehongli fel rhai gwrth Seisnig yn creu storm yn y cyfryngau yn rheolaidd - awgrym sy'n cael ei phriodoli'n anheg i Simon Brooks y dylid meddiannu tai mewnfudwyr yn heddychlon, honiad Gwilym ab Ioan bod rhannau o Gymru yn dumping ground for oddballs and misfits, sylwadau Seimon Glyn y dylid rheoli mewnfudo i ardaloedd Cymraeg eu iaith, ac y dylid mynnu bod mewnfudwyr yn dysgu'r iaith.

Eto, prin bod yna siw na miw wedi dod o gyfeiriad y cyfryngau prif lif ynglyn a sylwadau Paul Matthews. Meddyliwch sut ymateb fyddai yna o gyfeiriad y cyfryngau petai rhywun o'r ymgyrch Ia - Roger Lewis er enghraifft - yn dweud bod Cymru angen mwy o annibyniaeth oddi wrth Lloegr oherwydd nad ydi'r Saeson yn bobl ddyfeisgar na chreadigol. Byddai'r ymgyrch yn cael ei chladdu o dan domen o hysteria a chasineb cyfryngol am wythnosau.

Ydi hi'n bosibl bod y cyfryngau - hyd yn oed y cyfryngau Cymreig - yn rhyw dderbyn bod gwrth Gymreigrwydd yn rhan naturiol o drefn pethau, tra'n gweld unrhyw awgrym o wrth Seisnigrwydd fel pechod o'r radd eithaf?

Uno Mon a Gwynedd - un neu ddau o sylwadau brysiog



Cynlluniau tybiedig Carl Sarjeant i orfodi Cyngor Mon i uno efo Cyngor Gwynedd ydi'r stori wleidyddol fawr yn y Gogledd ar hyn o bryd.

'Rwan, mae'n fwy na phosibl mai ymgais i ddychryn cynghorwyr Mon ydi'r newidiadau munud olaf i'r Mesur Llywodraeth Leol sydd ger bron y Cynulliad ar hyn o bryd - newidiadau fyddai'n caniatau i'r llywodraeth orfodi i gynghorau uno.

Ond mae'n bosibl bod Carl yn bwriadu gorfodi'r newid go iawn. Byddai goblygiadau i hyn. Yn gyntaf mae yna 75 cynghorydd yng Ngwynedd a 40 ym Mon ar hyn o bryd. 'Does yna ddim posibilrwydd o gwbl y byddai gan y cyngor newydd 115 o gynghorwyr - byddwn yn disgwyl nifer nes at hanner hynny. Byddai hyn yn arwain at newid sylweddol ym mhersonel y cyngor newydd. Byddai hefyd yn ei gwneud yn anos o lawer i gynghorwyr annibynnol gael eu hethol.

Problem arall fyddai'r amseriad. 'Does yna ddim llawer o amser cyn yr etholiadau cyngor nesaf - tua 15 mis. Go brin bod hyn yn amser digonol i gymryd y camau sylweddol fyddai eu hangen cyn uno'r ddau gyngor. 'Dydi hi ddim yn debygol y byddai Sargeant am ddisgwyl tan yr etholiadau canlynol - tros i bum mlynedd yn y dyfodol - cyn gweithredu ei newidiadau. Felly mae'n debyg y byddai'r etholiadau yng Ngwynedd (ac efallai Mon, os na fydd y Cynulliad yn anfon comisiwn anetholedig i redeg y sioe) yn cael eu gohirio hyd 2013 neu 2014. Mae cynsail diweddar i hyn - gohirwyd etholiadau lleol Gogledd Iwerddon oedd i fod i'w cynnal yn 2009, hyd eleni oherwydd cynlluniau uno yno.

Dyddiau difyr.

Wednesday, January 26, 2011

Pol ITV / YouGov

Ychydig iawn o newid sydd yna ers y mis diwethaf o ran cefnogaeth y pleidiau:

Etholaethau: Toriaid 21%, Llafur 45%, Lib Dems 7%, Plaid Cymru 21%
Rhanbarthau: Toriaid 20%, Llafur 41%, Lib Dems 8%, Plaid Cymru 21%

Mae symudiad ychydig mwy yn y ffigyrau refferendwm fodd bynnag:


Rhag Ion
Ia 46% 49%
Na 25% 26%


Gweler yma am fanylion llawn.

Ystadegau hunaniaeth genedlaethol plant ysgol

Bu ychydig o ddadlau yma yn ddiweddar ynglyn ag ystadegau iaith a hunaniaeth. I'r sawl sydd a diddordeb, rhyddhawyd ystadegau hunaniaeth plant ysgol (yn ol diffiniad rhieni) fesul etholaeth seneddol a rhanbarth etholiadol heddiw.




Albaneg


Cymreig Seisnig Gwyddelig Prydeinig Arall






Gogledd Cymru 52.1 13.0 0.4 32.1 2.3
Aberconwy 56.2 4.7 0.4 37.0 1.7
Alyn a Glannau Dyfrdwy 25.8 30.8 0.8 40.6 1.9
Arfon 76.7 6.3 0.2 14.0 2.8
De Clwyd 53.2 10.5 0.3 34.2 1.9
Gorllewin Clwyd
46.9 10.0 0.5 40.9 1.7
Delyn 50.1 16.1 0.5 31.4 1.8
Dyffryn Clwyd 48.2 16.1 0.3 33.0 2.4
Wrecsam 55.0 8.4 0.5 31.2 4.9
Ynys Môn 66.6 8.2 0.4 23.7 1.1
Gorllewin a'r Canolbarth 57.3 10.9 0.4 29.1 2.3
Brycheiniog a Maesyfed 48.0 14.9 0.5 34.1 2.5
Dinefwr / Dwyrain Caerfyrddin 62.2 6.5 0.2 30.1 1.0
Grlln Caerfyrddin / De Penfro 62.1 11.3 0.4 23.8 2.4
Ceredigion 63.3 12.1 0.5 20.3 3.7
Dwyfor Meirionnydd 71.7 9.8 0.2 17.4 0.9
Llanelli 64.9 4.3 0.4 27.3 3.0
Trefaldwyn 37.4 22.3 0.5 38.0 1.8
Preseli Penfro 51.5 7.1 0.4 38.8 2.3
Gorllewin De Cymru 68.5 4.2 0.3 24.1 3.0
Aberafon 72.2 4.2 0.3 21.8 1.6
Penybont 65.7 4.7 0.2 27.3 2.2
Gwyr 69.8 4.1 0.3 23.7 2.0
Castell Nedd 74.7 3.8 0.3 20.3 1.0
Ogwr 78.7 3.2 0.2 16.5 1.3
Dwyrain Abertawe 62.9 3.9 0.2 28.7 4.3
Gorllewin Abertawe 53.3 5.7 0.4 30.7 9.8
Canol De Cymru 60.4 2.8 0.3 31.8 4.7
Canol Caerdydd 50.5 2.5 0.4 36.6 10.0
Gogledd Caerdydd 54.7 1.7 0.4 37.0 6.3
De Caerdydd / Penarth 54.6 3.9 0.6 32.4 8.4
Gorllewin Caerdydd 55.0 3.4 0.4 33.4 7.9
Cwm Cynon 74.2 1.9 0.1 22.7 1.0
Pontypridd 67.3 2.4 0.1 28.5 1.6
Rhondda 81.1 2.5 0.1 15.4 0.8
Bro Morgannwg 49.1 3.5 0.4 45.0 1.9
Dwyrain De Cymru 60.4 4.0 0.2 32.8 2.6
Blaenau Gwent 76.5 2.8 0.1 19.4 1.2
Caerffili 70.6 2.5 0.2 25.8 0.8
Islwyn 65.9 2.2 0.1 31.2 0.6
Merthyr Tydfil a Rhymni 78.9 1.8 0.2 16.4 2.7
Mynwy 36.7 9.5 0.5 51.3 2.0
Dwyrain Caerfyrddin 45.1 5.2 0.2 44.6 4.8
Gorllewin Casnewydd 52.1 4.0 0.4 37.2 6.2
Torfaen 61.0 3.7 0.2 33.8 1.3
Cymru 59.5 6.8 0.3 30.3 3.0

'Dwi'n nodi ambell i bwynt sy'n fy nharo fi - yn ddi amau bydd eraill yn gweld rhywbeth arall yn y ffigyrau.
Bulleted List
  • Hunaniaeth Gymreig ar ei wanaf yng Ngogledd Cymru, ac ar ei gryfaf yng Ngorllewin De Cymru.
  • Arfon, Ogwr, Rhondda, Blaenau Gwent a Merthyr ydi'r etholaethau sydd a mwy na tri chwarter plant yn cael eu diffinio o dan y categori Cymreig - pob un yn etholaethau gyda chanran uchel o'u poblogaeth yn ddosbarth gweithiol a threfol.
  • Dim ond Alyn a Glannau Dyfrdwy sydd a mwy o blant Seisnig na Chymreig.
  • Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn, Preseli Penfro, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Mynwy, Gorllewin a Dwyrain Casnewydd gyda mwy na thraean plant yn cael eu diffinio yn Brydeinig. Mae etholaethau mwyaf dosbarth canol Cymru ymysg y rhain.
  • Arfon - lleoliad yr arwisgiad - ydi'r etholaeth efo'r hunaniaeth Brydeinig wannaf.
Ffigyrau i gyd yn ganrannol - data llawn ar gael yma.

Tuesday, January 25, 2011

Delwedd boncyrs ddiweddaraf True Wales

Diolch i Syniadau am dynnu ein sylw at y llun gorffwyll o amhriodol diweddaraf mae True Wales yn ei ddefnyddio fel rhan o'u 'hymgyrch' gwrth ddatganoli.

Cyngor Mon a Chyngor Gwynedd i uno?

Mae Betsan yn awgrymu ar ei blog bod newidiadau posibl i'r Mesur Llywodraeth Leol sy'n gwneud ei ffordd trwy'r Cynulliad ar hyn o bryd, yn awgrymu bod cynlluniau ar y gweill i orfodi Cyngor Mon i uno efo Cyngor Gwynedd.

Mae Cyngor Mon wrth gwrs yn ddihareb oherwydd methiant llwyr rhai o'i gynghorwyr i gydweithredu a chyd dynnu efo'i gilydd ac efo swyddogion. Tra bod Cyngor Gwynedd efo enw llawer gwell yn hyn o beth, mae'r cyngor hwnnw yn llai effeithiol am gyd weithio'n briodol ers ethol nifer o gynghorwyr Llais Gwynedd yn 2008. Gallai ychwanegu rhai o gymeriadau cwbl anhydrin Cyngor Mon i'r pair greu cymysgedd eithaf ffrwydrol mae gen i ofn.

Gwefan newydd Plaid Cymru

Mae'n dda gweld gwefan newydd Plaid Cymru. Fel gwefan Ia Dros Gymru mae'n ymdrech gaboledig sy'n cynnig gwasanaeth drefnus, effeithiol ac atyniadol.

Nid bod y naill wefan na'r llall yn cymharu ag un uniaith Saesneg True Wales wrth gwrs, sy'n edrych fel petai wedi ei chreu gan fyryriwr chweched dosbarth fel rhan o gwrs cychwynol - rhywbryd tua 2004.

Monday, January 24, 2011

Cytuno i amddiffyn swyddi a gwasanaethau

Mae'r cytundeb rhwng y Cynulliad, yr undebau a llywodraeth leol ynglyn a sut i ymdopi efo'r toriadau a ddaeth o gyfeiriad y Toriaid a'r Lib Dems yn ddatblygiad diddorol. Bwriad y cytundeb ydi sefydlu strategaeth Cymru gyfan i leihau'r toriadau mewn swyddi, amddiffyn gwasanaethau a chysoni'r ffyrdd o ymateb i'r bygythiadau.

Mae'r math yma o ddatblygiad yn dangos potensial y Cynulliad i ddod a gwahanol gydrannau o fywyd Cymreig at ei gilydd, er lles pawb. Y ffaith bod gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi polareiddio llai na gwleidyddiaeth Brydeinig sy'n gwneud adeiladu consensws cymaint haws yma. Mi fyddai'n amhosibl cymryd mantais o hynny oni bai bod gan Gymru sefydliad cenedlaethol i ymgorffori ei gwleidyddiaeth cymharol gynhwysol a rhesymol.

Mae'r arfer o sefydlu consensws yn cyferbynnu efo gwleidyddiaeth mwy ffyrnig a rhanedig San Steffan - ac mae'n darparu un ddadl arall pam y dylid cael mwy o ddylanwad tros ein bywyd o Fae Caerdydd a llai o ddinas Llundain.