Mae Ifan a Royston wedi dweud fwy neu lai yr oll sydd angen ei ddweud am yr erthygl bisar a ymddangosodd yn y Western Mail druan ddoe.
Ymgais ydi'r stori i gysylltu dau beth nad ydynt yn gysylltiedig - perfformiad tim Prydain yn y Gemau Olympaidd ac ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi gan yr Office for National Statistics ynglyn a pherfformiad economaidd a demograffeg ym mhedair gwlad y DU.
O bosibl er mwyn gwneud stori ddiflas am ffigyrau yn fwy diddorol mae'n ymddangos i'r papur gysylltu efo dau wleidydd sydd efo tipyn o hanes o ddweud pethau braidd yn lliwgar a gofyn iddyn nhw beth allai Cymru ei ddysgu o'r Gemau Olympaidd er mwyn gwella'r ffigyrau Efallai eu bod yn disgwyl i'r naill neu'r llall ddweud rhywbeth am bwysigrwydd undod y DU, neu awgrymu y byddai gwneud i bawb tros 65 redeg ychydig o weithiau rownd trac athletau yn lladd digon o'r henoed i wneud i'r demograffeg edrych yn well neu rhywbeth.
Beth bynnag nid dyna ddywedodd y naill na'r llall - dweud rhywbeth rhannol ddealladwy am wleidyddion Llafur eraill wnaeth Wayne David a rwdlan tipyn am foi mor dda ydi Boris Johnson wnaeth Simon Hart. Mae'n debyg bod cwestiwn gwirion yn siwr o esgor ar ateb gwirion.
Ond yr hyn sy'n fwy diddorol o bosibl ydi beth mae'r stori yn ei ddweud am ddiwylliant newyddiadurol y Western Mail. Maen nhw eisiau riportio ar fethiannau Cymreig - sy'n ddigon teg. Maen nhw hefyd eisiau dod i gasgliadau mwy cyffredinol o'r methiannau hynny - sydd eto yn ddigon teg. Ond dydi ceisio priodi'r methiannau Cymreig efo llwyddiant Prydeinig - er bod y ddau beth yn gwbl ddi gyswllt - ddim yn rhywbeth deallus iawn i'w wneud. Yn wir mae'n adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y papur - agweddau sydd wedi eu gwreiddio mewn hunan gasineb.
Efallai y caf wneud pethau'n syml i'r Western Mail. Buddsoddiad anferth gan y wladwriaeth Brydeinig mewn chwaraeon ydi sail llwyddiant TeamGB. Mae diffyg buddsoddiad yn un rheswm am fethiannau economaidd yng Nghymru, ond nid dyna'r prif reswm. Obsesiwn y wladwriaeth Brydeinig efo'r sector ariannol yn Llundain, a diffyg mynediad yng Nghymru at y lefrau economaidd a allai ganiatau i ni fod yn gystadleuol ydi'r rheiny.
Dydi rwdlan am lwyddiannau Prydeinig yn yr un gwynt a disgrifio methiannau yng Nghymru ddim am newid hynny.
Showing posts with label Western Mail. Show all posts

Wednesday, August 15, 2012
Tuesday, August 30, 2011
Ymateb y wasg Gymreig i stori'r Independent on Sunday
'Dwi'n gwybod fy mod yn mentro diflasu pawb, ond mwy am yr ymateb i sylwadau gwrth Gymreig Roger Lewis sydd ar yr arlwy heddiw mae gen i ofn.
Ymateb diweddaraf y wasg (honedig) Gymreig sydd o dan sylw heddiw, sef y ddau gampwaith newyddiadurol o stabl Trinity Mirror, y Daily Post a'r Western Mail. Mae ymateb y papurau yn dinoethi rhai o'u gwendidau nhw eu hunain yn benodol a gwendidau'r cyfryngau Cymreig yn gyffredinol. Mi wnawn ni ddechrau efo'r Post - 'does gen i ddim linc i'r stori mae gen i ofn.
Adrodd ar stori'r Independent on Sunday mae'r papur mewn gwirionedd. 'Does gan y Post ddim diddordeb o gwbl yn Ne Cymru wrth gwrs, a 'dydyn nhw ddim yn gwybod llawer am y lle chwaith. Felly mae'n ddigon naturiol nad ydynt yn dweud gair yn eu hymdriniaeth am sylwadau Lembit Opik, Chris Bryant na Peter Black.
Y peth mawr - y peth mawr, mawr, mawr - i'r Post ydi sylwadau Denbigh born Carol Vorderman. Maent hefyd yn ailadrodd rhai o sylwadau Roger Lewis ac yn cyfeirio'n frysiog at Jonathan Edwards. 'Dydyn nhw ddim yn trafferthu egluro pam bod barn seren deledu sy'n hanner Cymraes, hanner Iseldirwraig sydd wedi ei geni yn Lloegr, nad yw'n siarad Cymraeg a sydd wedi byw y tu allan i'r wlad am fwy na deg mlynedd ar hugain yn fwy arwyddocaol na barn unrhyw un arall. Ond hi, a hi'n unig sy'n cael mynegi barn ar y mater gan North Wales' Best Read Paper.
Mae ymateb y Western Mail yn waeth o lawer. O leiaf mae'r Daily Post yn dangos rhyw arwydd o fod efo agenda a meddylfryd annibynnol eu hunain - maent yn cicio cymaint o Hwntws a phosibl allan o'r stori. Y cwbl mae'r Mail druan yn lwyddo i'w wneud ydi ail bobi stori'r Independent on Sunday ac ychwanegu ambell i bwynt bychan na ymddangosodd yn y papur Seisnig.
'Rwan, dwi'n gwybod bod y Western Mail yn sobor o ddi hyder, 'dwi'n gwybod bod y papur yn dreuenus o anabl i yrru ei agenda ei hun, 'dwi'n gwybod ei fod yn gadael i'r wasg Lundeinig arwain y ffordd ar bron i bob mater. Ond byddai dyn yn meddwl y gallai hyd yn oed y cadach gwlyb o bapur hwn (sydd yn disgrifio ei hun fel papur cenedlaethol Cymru) fentro mymryn a chicio yn erbyn y tresi wrth ddelio a stori sy'n ymwneud yn benodol a Chymru, ac ymddwyn fel petai yn gwybod mymryd mwy na'r Indie ynglyn a'r mater. Ond na - maen nhw'n dilyn lein y papur Seisnig i'r llythyren.
Yn y cyfamser aeth llwyth o amaturiaid ar y blogosffer (Syniadau, Valleys Mam, HRF, Blog Banw ayb) ati i edrych ar y mater o ongl Gymreig, a rhoi gwedd Gymreig iddi - a thrwy hynny ymdrin a'r mewn modd miniocach o lawer o safbwynt newyddiadurol.
Er enghraifft, mae cyfeiriadau wedi eu gwneud ar y blogosffer at ddiffyg Cymreigrwydd rhai o'r cymeriadau a ddyfynwyd gan y Sunday Independent fel ymateb Cymreig, cafwyd gwybodaeth am hanes Chris Bryant o ymateb yn hysteraidd yn y gorffennol i ymysodiadau ar grwpiau eraill (peldroedwyr Eidalaidd a phobl hoyw), Cafwyd awgrymiadau bod y cyfryw wleidydd yn arddel safonau dwbl, neu ei fod yn ymateb i ddigwyddiadau mewn modd oportiwnistaidd ac anghyfrifol er mwyn dangos ei hun ac ennill mantais wleidyddol byr dymor (wel - rwan rydych yn cael yr olaf o'r uchod a dweud y gwir).
Ond nid dyna a geir gan y wasg 'Gymreig' - fersiwn y Sunday Independent wedi ei ail bobi sydd gan y Western Mail i'w gynnig i ni, a fersiwn y Sunday Independent wedi ei garthu o gyfeiriadau at bobl o'r De sydd gan y Daily Post.
Tybed os oes yna unrhyw wlad fodern arall efo gwasg genedlaethol mor dreuenus o daeog, di hyder a di glem?

Subscribe to:
Posts (Atom)