Saturday, August 29, 2026

Pregethu casineb?

Golwg ar wrth-Semitiaeth, damcaniaethau cynllwyn a chyfrif X y pregethwr lleyg Aled Job





Mae pori drwy linell amser A Way With Words Cymru, cyfrif X yr awdur Aled Job, yn brofiad digon rhyfedd.


Nid cyfrif dienw mohono. Mae Aled Job yn defnyddio’r cyfrif i sôn am ei fywyd, i rannu lluniau teuluol, i hyrwyddo ei lyfrau ac i roi gwybodaeth am ei weithgarwch fel pregethwr lleyg.


Ar un olwg, felly, mae rhywfaint o’r cynnwys yn gwbl gyffredin.


Ond mae hynny’n eistedd ochr yn ochr â rhywbeth gwahanol iawn - rhywbeth llawer llai cyffredin yng Nghymru o leiaf.


Ceir llif cyson o ddamcaniaethau cynllwyn – yn arbennig syniadau sy’n gysylltiedig â byd QAnon a’r “Great Awakening”, ond hefyd ddamcaniaethau eraill am y “Deep State”, globalists, sefydliadau rhyngwladol, banciau, elites cudd a grymoedd tywyll sy’n rheoli digwyddiadau’r byd.


Ceir hefyd ddeunydd y gellir ei ystyried yn rhagfarnllyd tuag at grefyddau ag eithrio anghydffurfiaeth Cymreig, yn fisogynistaidd ac yn hiliol.


Ac mae yna gryn dipyn o atgynhyrchu propoganda Rwsiaidd.


Ac mae llif dyddiol o luniau o arlywydd presenol America a phostiadau di-ddiwedd yn ei eilyn addoli. 


Ac mae yna hefyd wrth-Semitiaeth.


Dyna’r elfen rydw i am ganolbwyntio arni heddiw.


Nid oherwydd mai dyna’r unig beth sy’n peri pryder ar linell amser X Aled Job - mae nifer o bethau - ond oherwydd bod y patrwm yn arbennig o drawiadol ac anymunol. 


Pan osodir nifer o’i bostiadau, ei ailbostiadau a’i ymatebion ochr yn ochr, mae cyfres o syniadau cyfarwydd iawn i’r sawl sy’n gyfarwydd a hanes gwrth semitiaeth yn dod i’r amlwg: y Rothschilds, Iddewon ac arian, “Zionist puppetmasters”, “globalists”, rheolaeth gudd dros lywodraethau, Iddewon yn gyfrifol am ryfeloedd, y “Khazarians”, Satan a Lucifer.


Mae llawer o’r syniadau hyn yn llawer hŷn na’r rhyngrwyd. Yn wir, mae rhai ohonynt yn perthyn i draddodiad gwrth-Semitaidd sy’n ymestyn yn ôl ganrifoedd.


A dyna’r patrwm rydw i am edrych arno yma.


Beth ydi gwrth-Semitiaeth?


Mae gwrth-Semitiaeth yn un o nifer o hen ragfarnau sy’n mynd yn ol ymhell yn hanes Ewrop. Ers canrifoedd, mae Iddewon wedi cael eu beio am bob math o broblemau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol – o ledaenu afiechydon i gychwyn rhyfeloedd, o reoli banciau i reoli llywodraethau a’r cyfryngau.


Defnyddiwyd y mythau hyn dro ar ôl tro i gyfiawnhau gwahaniaethu, erledigaeth a thrais, gan gyrraedd eu penllanw erchyll yn yr Holocost, pan lofruddiwyd tua chwe miliwn o Iddewon gan y Natsïaid a’u cydweithredwyr.


Ond ni ddiflannodd y syniadau a fu’n sail i’r casineb hwnnw gyda diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945.  I’r gwrthwyneb.


Maent yn dal gyda ni. Weithiau maent yn amlwg. Dro arall maent wedi’u hailbecynnu mewn iaith newydd: “globalists”, “puppetmasters”, y “Deep State”, banciau canolog, y Rothschilds, “Khazarians”, neu ryw elit cyfrinachol sy’n rheoli digwyddiadau’r byd o’r tu ôl i’r llenni.


Mae’r International Holocaust Remembrance Alliance (IHRA) yn defnyddio diffiniad gweithredol sy’n disgrifio gwrth-Semitiaeth fel canfyddiad penodol o Iddewon a all gael ei fynegi fel casineb tuag atynt.


Mae’r enghreifftiau sy’n cyd-fynd â’r diffiniad yn cynnwys gwneud honiadau celwyddog neu stereoteipiedig am Iddewon fel grŵp, yn enwedig mythau am gynllwyn Iddewig byd-eang neu Iddewon yn rheoli’r cyfryngau, yr economi, llywodraethau neu sefydliadau eraill.


Mae hynny’n bwysig oherwydd mai dyna’n union y math o syniadau sy’n ymddangos dro ar ôl tro yn y deunydd rydym ar fin edrych arno.


Ond beth am Israel?


Mae angen bod yn gwbl glir am rywbeth arall hefyd.


Dydi beirniadu Israel ddim yn wrth-Semitiaeth.


Mae’n gwbl rhesymol beirniadu Llywodraeth Israel, Benjamin Netanyahu, y rhyfel yn Gaza, gweithredoedd lluoedd arfog Israel, y setliadau yn y Lan Orllewinol, Seioniaeth fel ideoleg wleidyddol, neu ddylanwad lobïau pro-Israel ar wleidyddiaeth America - a thu hwnt. Mae hynny’n rhywbeth dwi’n ei wneud fy hun. 


Ond mae Israel yn wladwriaeth. Mae ganddi lywodraeth. Dylai’r ddau fod yn agored i’r un math o feirniadaeth â gwladwriaethau a llywodraethau eraill - yn union yr un fath.


Ond mae rhywbeth gwahanol iawn yn digwydd pan rydan ni’n symud o:


“Mae Llywodraeth Israel yn gwneud hyn neu’r llall”


i:


“Mae’r Seionyddion yn rheoli pawb.”


Neu o drafod cyfraniadau gwleidyddol i honni bod Israel yn “owns the politicians”.


Neu o feirniadu banc neu fancwr i honni bod y Rothschilds yn rheoli’r byd.


Dyma’r tir lle mae beirniadaeth wleidyddol yn dechrau ymdoddi i rai o’r mythau gwrth-Semitaidd hynaf oll - a rhai o’r mythau mwyaf niweidiol.


Ac mae’r gwahaniaeth hwnnw’n ganolog i’r hyn sy’n dilyn.


Dwi am edrych ar rai o’r delweddau a sylwadau sydd wedi cael eu postio ar y llinell amser ond er mwyn cadw pethau’n fyr detholiad bach o’r hyn sydd ar gael dwi’n ei bostio.  Gallwn  gynnwys llawer, llawer mwy.



Y gors, y Rothschilds a’r “Deep State”



Ar yr olwg gyntaf mae hwn yn gartŵn MAGA eithaf arferol am Trump yn “draenio’r gors”. Mae’r CIA, NSA, FBI, y cyfryngau ac eraill yn cael eu cyflwyno fel rhannau o’r “Deep State”.


Ond wele’r cefndir.


Yno mae’r Rothschilds, gyda thentaclau octopws yn ymestyn drwy’r gors.


Mae’r octopws fel delwedd wedi cael ei ddefnyddio mewn propaganda gwleidyddol o sawl math, felly ‘dydi’r  octopws ynddo’i hun ddim yn  symbol gwrth-Semitaidd. Ond mae ganddo hanes penodol mewn propaganda gwrth-Iddewig: y syniad o rym cudd gyda’i dentaclau yn ymestyn dros lywodraethau, banciau a chenhedloedd.


Pan fo’r enw Rothschild yn cael ei osod ar yr octopws, mae’r ystyr yn syrthio i ffocws a dod yn llawer llai amwys.


Dyma un o’r tropes gwrth-Semitaidd mwyaf cyfarwydd: y teulu bancio Iddewig sy’n gweithredu o’r cysgodion ac yn rheoli hynt a helynt y byd.


Ac mae Aled Job yn rhannu’r llun ynghyd a’r geiriau:


“I just can’t wait… For this realisation to dawn upon the ‘normies’.”


Nid condemnio’r ddelwedd mae o.


Mae’n aros i eraill “ddeall” ei neges.


Zionist Puppetmasters





Does dim angen llawer o ddehongli yma.


Mae Aled Job ei hun yn disgrifio’r dewis rhwng Iran a:


the Zionist Puppetmasters in Israel. Who seem to control everyone.


Mae meistr pypedau yn ddelwedd sydd wedi bod yn rhan amlwg o ddamcaniaethau cynllwyn gwrth-Semitaidd: nid yw’r rhai a etholwyd yn rheoli gwledydd mewn gwirionedd; mae grym cudd y tu ôl iddynt yn tynnu’r tannau.


Unwaith eto, nid beirniadu polisi Israel sydd yma.


Mae’n honiad bod “Zionist Puppetmasters” yn rheoli pawb.


Mae hynny’n ffitio’n agos iawn â’r trop am reolaeth gudd a ddisgrifir yn yr enghreifftiau sy’n cyd-fynd â diffiniad yr IHRA.


Pwy sy’n “berchen” ar America?





Mae’n gwbl briodol trafod dylanwad AIPAC a grwpiau lobïo eraill yn yr Unol Daleithiau. Mae hefyd yn gwbl briodol ymchwilio i faint o arian mae gwleidyddion yn ei dderbyn gan grwpiau buddiant.


Ond nid dyna’r honiad yn y postiad sy’n cael ei rannu yma.


Y cwestiwn yw:


who controls the United States and owns the politicians?”


gyda baneri Israel ac America.


Mae Aled Job wedyn yn ychwanegu:


“We are leaving Israel until last.”


ac yn dweud bod pobl wedi “implicated themselves” ac:


will be dealt with when that moment comes.”


Ni allwn wybod o’r geiriau hynny beth yn union mae “dealt with” yn ei olygu, ac ni ddylem ddyfalu.  Ond gallwn weld y naratif: Israel neu Seionyddion fel y grym sy’n rheoli America ac yn berchen ar ei gwleidyddion.


Y Rothchilds Eto


Yma mae dau arweinydd gwleidyddol yn cael eu galw’n:


Rothschild Zionist Puppets.”





Unwaith eto mae’r un elfennau’n dod at ei gilydd: Rothschilds + Seionyddion + pypedau + rheolaeth gudd.


Mae Aled Job yn ailbostio’r cynnwys.


Ar ei ben ei hun, gall ailbost fod yn amwys: mae pobl weithiau’n ailbostio rhywbeth er mwyn ei feirniadu.  Ond mae’r amwysedd hwnnw’n diflannu’n raddol pan edrychwn ar yr hyn mae Aled Job ei hun yn ei ddweud mewn postiadau eraill.


“Absolutely right”





Dyma un o’r enghreifftiau mwyaf difrifol yn y casgliad. Mae postiad yn honni:


Isolate the fifty richest Jews, and all wars will cease.”


a’i briodoli i Henry Ford.


Mae Ford ei hun yn ffigwr enwog - ac nid mewn ffordd dda - yn hanes gwrth-Semitiaeth Americanaidd. Cyhoeddodd The International Jew a helpodd i ledaenu damcaniaethau cynllwyn am bŵer Iddewig.


Ond y peth pwysicaf yma ydi’r ymateb.


Mae rhywun yn dweud wrth Aled Job:


Anything named or associated with the Rothschild family … must hide something very sinister. Remember the words of Henry Ford.”


A’i ateb yw:


“Absolutely right.”


Does dim rhaid inni ddyfalu yma a oedd yr ail bostiad yn gymeradwyaeth.Mae’r gymeradwyaeth wedi’i hysgrifennu oddi tano.


Iddewon, rhyfeloedd a chynllwyn 




Mewn sgwrs arall mae cyfrif arall yn honni bod “Zionist Jews” yn elit cyfoethog o droseddwyr a rhyfelgarwyr.

Mae Aled Job yn ymateb:


this subterfuge is unravelling fast right now.”


Yna daw honiad llawer mwy eithafol: bod Iddewon Seionaidd/Khazaraidd y tu ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, yr Undeb Sofietaidd a chomiwnyddiaeth.


Mae angen bod yn gwnl glir yma - nid Aled Job sy’n ysgrifennu’r honiadau hynny am y ddau Ryfel Byd.


Ond dydi o ddim eu herio chwaith. Ei ymateb yw:


Wow… That’s one head-spinner! Thanks.” 


Mae hynny’n digwydd yng nghyd-destun sgwrs lle mae Iddewon yn cael eu cyflwyno fel elit cudd sy’n gyfrifol am ryfeloedd a chyfundrefnau gwleidyddol, a lle mae Aled Job ei hun eisoes wedi sôn am y “subterfuge” yn datgymalu.


Y “Khazarians”, y Rothschilds a Lucifer





Os oes unrhyw amheuaeth am y byd syniadol rydyn ynddo erbyn hyn, mae’r postiad yma yn ei ddileu.


Mae’r cynnwys sy’n cael ei rannu yn honni bod y “Khazarians”:


yn “Synagogue of Satan”;

wedi rheoli’r ddaear yn gyfrinachol am fil o flynyddoedd;

yn “Fake Jews”;

wedi creu’r Rothschilds;

yn ein rheoli drwy’r banciau canolog;

ac yn gwneud hynny er mwyn cyflawni ewyllys Lucifer.


Dyma gyfuniad o nifer o’r mythau gwrth-Semitaidd mwyaf eithafol sydd ar gael.


Ac uwchben y post mae Aled Job yn ysgrifennu:


“I like the way this guy thinks!”


Mae’n anodd dychmygu cymeradwyaeth fwy uniongyrchol.


Y “Great Awakening”





Mae postiad arall yn honni:


“Zionists are the WEF.

Zionists ARE the GLOBALISTS.

Zionists own BlackRock.

Zionists are the DEEP STATE.

Zionists own the Usury Central Banks…”


Mae Aled Job yn ei rannu gan ychwanegu:


“Learning about all this… Now in 2024? All part of the ‘Great Awakening’ that had to happen.”


Dyma’r pwynt lle mae nifer o’r llinynnau’n dod at ei gilydd.


Zionists”. “Globalists”. BlackRock. Y “Deep State”. Banciau. Elît cudd.


Nid polisi Israel sydd dan sylw bellach. Mae “Zionists” wedi dod yn esboniad un gair am rwydwaith honedig sy’n rheoli cyllid a gwleidyddiaeth y byd.


Seren Dafydd a Satan





Mae un postiad yn mynd gam ymhellach eto.


Mae Seren Dafydd – symbol sydd heddiw wedi’i gysylltu’n ddwfn ag Iddewiaeth ac hunaniaeth Iddewig – yn cael ei chyflwyno fel symbol sydd mewn gwirionedd yn perthyn i Satan.


Gellir cael trafodaeth hanesyddol ddiddorol am darddiad y symbol a phryd y daeth yn symbol Iddewig cyffredinol.  Ond nid dyna beth mae’r meme hwn yn ei wneud.


Mae’n cymryd symbol amlwg Iddewig ac yn ei gysylltu â Satan.


O’i osod ochr yn ochr â “Synagogue of Satan”, Lucifer, y Rothschilds a’r naratif am reolaeth Iddewig gudd, mae’n rhan o batrwm llawer ehangach o ddemonïo.


Y byd dan Seren Dafydd





Mae’r ddelwedd hon yn gwneud yr un pwynt yn weledol.


Mae ffigwr tywyll, bygythiol yn dal y byd. Yn lle wyneb mae Seren Dafydd yn llosgi.


Unwaith eto, ‘does dim llun o Netanyahu. Does dim  symbol o blaid wleidyddol o Israel. Does dim cyfeiriad at bolisi penodol.


Y symbol Iddewig ei hun sy’n cael ei ddefnyddio i roi wyneb i’r grym tywyll sy’n dal y byd.


O’i weld ar ei ben ei hun, gellid dadlau mai Israel yn hytrach nag Iddewon ydi’r targed. Ond wedi’i osod yng nghyd-destun yr holl ddeunydd arall, mae’r dehongliad hwnnw’n dod yn llawer anoddach i’w gynnal.


Heavenly Jerusalem” yn Wcráin





Mae Aled Job hefyd yn gofyn pam mae cymaint o arian wedi mynd i Wcráin ac yn cynnig esboniad rhyfeddol: prosiect “Heavenly Jerusalem/New Israel” i sefydlu Israel newydd yno.  Mae hon yn enghraifft arall o ddigwyddiad geopoliticaidd cymhleth yn cael ei esbonio drwy gynllwyn Seionaidd cudd.


Gellir trafod yn ddiddiwedd pam mae’r Gorllewin wedi cefnogi Wcráin. Ond does

dim angen dyfeisio cynllun cudd i adeiladu “Israel newydd” er mwyn gwneud hynny.


Mae’r syniad yn perthyn i’r un byd cynllwyniol â’r honiadau eraill: digwyddiadau nad ydynt yn ymddangos yn gysylltiedig ar yr wyneb yn cael eu huno drwy honni bod grym Seionaidd cudd y tu ôl iddynt.


A beth am waed plant?



Mae angen mwy o ofal gyda’r enghraifft hon.  Mae rhywun yn honni bod actorion a chantorion llwyddiannus yn addoli’r Diafol, yn aberthu plant ac yn yfed eu gwaed.


Mae Aled Job yn ymateb:


Yes, I have read that as well Fiona.”


Dydi honiad o’r fath ynddo’i hun ddim o reidrwydd yn wrth-Semitaidd. Mae hefyd yn rhan o draddodiadau modern o Satanic panic a QAnon. Ond mae’n amhosibl peidio â sylwi ar yr adlais hanesyddol.


Am ganrifoedd roedd blood libel yn honni bod Iddewon yn cipio neu’n lladd plant Cristnogol ac yn defnyddio eu gwaed mewn defodau. Arweiniodd y celwydd hwnnw at erledigaeth a marwolaeth Iddewon ledled Ewrop.


Pan fo syniadau am yfed gwaed plant yn byw yn yr un ecosystem â “Synagogue of Satan”, Rothschilds, Iddewon cyfoethog, Lucifer a rheolaeth gudd, mae’r hanes hwnnw’n berthnasol – er fyddwn i ddim yn mynd mor bell a honni bod pob stori fodern am ddefodau Satanaidd yn wrth-Semitaidd.


Nid un meme ydi’r broblem


A dyma, i mi, ydi’r pwynt pwysicaf.


Pe bai gennym un meme am y Rothschilds, gellid dadlau ynghylch ei ystyr.


Pe bai gennym un cyfeiriad at “globalists”, gellid dweud nad yw’r gair hwnnw’n wrth-Semitaidd ynddo’i hun.


Pe bai gennym un feirniadaeth ffyrnig ar Israel, ni fyddai hynny’n dystiolaeth o wrth-Semitiaeth o gwbl.


Pe bai Aled Job wedi ailbostio un darn o gynnwys sarhaus heb sylw, efallai na fyddem hyd yn oed yn gwybod pam.


Ond nid dyna sydd yma.


Mae gennym Rothschilds.


Mae gennym Iddewon cyfoethog yn achosi rhyfeloedd.


Mae gennym “Zionist Puppetmasters” sy’n “control everyone”.


Mae gennym Israel yn perchnogi gwleidyddion America.


Mae gennym “Zionists” fel y WEF, y globalists, BlackRock, y Deep State a’r banciau canolog.


Mae gennym Khazariaid/Fake Jews sydd wedi rheoli’r byd am fil o flynyddoedd.


Mae gennym “Synagogue of Satan” a Lucifer.


Mae gennym Seren Dafydd yn cael ei chysylltu â Satan.


Ac mae gennym eiriau Aled Job ei hun:


“Absolutely right.”


“I like the way this guy thinks!”


“Spot on!”


a’r disgrifiad o’r syniadau hyn fel rhan o’r “Great Awakening”.


Ar ryw bwynt mae esbonio pob un o’r rhain fel cyd-ddigwyddiad yn mynd yn anodd iawn.  A - fel dwi wedi dweud yn flaenorol mae llawer mwy o ddelweddau tebyg i’r uchod y gellid eu dangos.


Pam mae hyn yn bwysig yng Nghymru?


Mae’n hawdd meddwl am wrth-Semitiaeth fel rhywbeth sy’n perthyn i rywle arall – i hanes yr Almaen, i’r dde eithafol yn America neu i gorneli tywyll o’r rhyngrwyd.


Ond mae’r rhyngrwyd wedi chwalu’r ffiniau hynny.


Gall myth a ddechreuodd mewn propaganda gwrth-Iddewig ganrif yn ôl gael ei ailbecynnu fel meme QAnon, croesi’r Iwerydd mewn eiliadau, cael gair fel “Zionist” neu “globalist” wedi’i roi yn lle “Jew”, ac ymddangos ar gyfrif Cymreig y prynhawn hwnnw.


Ac wrth ei ailadrodd ddigon aml, gall yr hyn a fyddai unwaith wedi edrych yn eithafol ddechrau edrych yn normal.


Dyna’r perygl.


Nid bod pob person sy’n rhannu un o’r postiadau hyn o reidrwydd yn deall yr hanes y tu ôl iddo.  Ond mae’r syniadau eu hunain yn hen iawn.


Ac rydym yn gwybod i ble y gall normaleiddio’r syniad bod lleiafrif bach, cyfrinachol, dieflig yn rheoli ein banciau, ein llywodraethau, ein rhyfeloedd a’n cyfryngau arwain.


Edrychwch ar y dystiolaeth


Does dim rhaid i neb gymryd fy ngair i am hyn.


Dyna pam dwi i wedi cynnwys y sgrinluniau.


Mae’n bwysig gweld y geiriau gwreiddiol, gwahaniaethu rhwng yr hyn a ysgrifennwyd gan Aled  Job a’r hyn a ysgrifennwyd gan eraill, ac edrych ar y cyfan yn ei gyd-destun.


Ac mae’n bwysig hefyd peidio â defnyddio cyhuddiadau o wrth-Semitiaeth i geisio cau cegau pobl sy’n beirniadu Israel. Mae gwneud hynny nid yn unig yn annheg â’r beirniaid hynny; mae hefyd yn gwneud y frwydr yn erbyn gwrth-Semitiaeth go iawn yn anos.


Ond mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd.


Ni ddylem ganiatáu i’r gair “Zionist” weithredu fel rhyw fath o docyn rhydd sy’n caniatáu ailadrodd hen straeon am Iddewon, arian, banciau, pypedau, Satan a rheolaeth fyd-eang, ac yna honni mai beirniadaeth ar Lywodraeth Israel yn unig sydd dan sylw.


Un rheswm arall dros bryderu


Mae un agwedd arall ar hyn sy’n peri gofid arbennig.


Mae Aled Job yn bregethwr lleyg, ac mae’n defnyddio’r un cyfrif X i gyfeirio at ei waith pregethu mewn capeli ar foreau Sul ledled Gogledd Orllewin Cymru.


Mae’n bwysig iawn bod yn glir yma.


Dwi ddim yn awgrymu bod Job yn pregethu’r syniadau rydw i wedi’u trafod uchod o’r pulpud.


‘Does dim tystiolaeth o hynny, ac ni fyddai’n briodol awgrymu bod tystiolaeth felly ar gael heb wybod i sicrwydd.


Ond dydi hynny ddim yn gwneud ei rôl fel pregethwr yn amherthnasol.


Mae pregethwr yn cael llwyfan ac, yn aml, ymddiriedaeth cynulleidfa. Ac mae capeli Cymru yn perthyn i draddodiad sydd wedi rhoi pwyslais mawr ar gyfiawnder, urddas dynol a chyfrifoldeb moesol.


Dyna pam ei bod, i mi, yn arbennig o annifyr gweld rhywun sy’n ymgymryd â’r rôl honno yn rhannu neu’n cymeradwyo’n gyhoeddus ddeunydd am “the fifty richest Jews”, “Zionist Puppetmasters”, y “Synagogue of Satan”, y Rothschilds yn rheoli drwy fanciau canolog, a “Fake Jews” yn rheoli’r byd.


Ac mae hynny’n codi cwestiwn arall.


A yw’r capeli sy’n gwahodd Aled Job i’w pulpudau yn ymwybodol o’r math o ddeunydd y mae’n ei rannu a’i gymeradwyo’n rheolaidd ar X?


Efallai eu bod. Efallai nad ydynt.


Ond os nad ydynt, mae’n rhesymol gofyn a ddylent fod.


Wedi’r cwbwl, dydan ni ddim yn sôn am sylw preifat neu rywbeth a ddywedwyd flynyddoedd yn ôl ac sydd wedi dod i’r golwg yn ddiweddarach. Mae’r deunydd dan sylw yn cael ei gyhoeddi’n gyhoeddus ar gyfrif sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Aled Job i hyrwyddo ei lyfrau, trafod ei fywyd a chyfeirio at ei weithgarwch pregethu.


Does yna ddim mur rhwng “Aled Job y pregethwr” ac “A Way With Words Cymru” ar X. Mae Aled Job ei hun yn cyflwyno’r ddau fel rhannau o’r un presenoldeb cyhoeddus.


Felly mae’n gwbl resymol gofyn os ydi’r rhai sy’n ei wahodd i bregethu yn gyfforddus yn rhoi pulpud a statws pregethwr i rywun sydd, ar yr un pryd, yn rhannu neu’n cymeradwyo’r math yma o ddeunydd yn gyhoeddus.


Nid cwestiwn o wahardd beirniadaeth ar Israel mo hwn.


Nid cwestiwn o anghytuno ynghylch gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol mohono chwaith.


Mae’n gwestiwn llawer symlach.


Ydi’r math yma o ddeunydd yn gydnaws â’r safonau y byddem yn rhesymol eu disgwyl gan rywun sy’n sefyll mewn pulpud ar fore Sul ac yn pregethu i gynulleidfa?


Ac os nad ydi’r capeli sy’n ei wahodd yn gwybod am y deunydd hwn, oni ddylent o leiaf gael y cyfle i’w weld a dod i’w casgliadau eu hunain?


Edrych ar y delweddau.


Edrych ar y geiriau.


Ac hefyd mae’n werth edrych ar y patrwm ehangach  - mae yna foroedd o ddeunydd arall ddylai fod yn destun pryder hefyd.

No comments: