Rwan fel mae'r blog yma wedi dangos sawl gwaith mae llawer o'r hyn sydd yn erthyglau Gwilym Owen yn esiamplau o newyddiaduriaeth wael sydd wedi ei seilio ar wybodaeth ddiffygiol neu anwybodaeth llwyr yr awdur - er bod ambell i beth yn llai rhagfarnllyd, ac felly o safon uwch. Ond nid dyna sydd gen i'r tro yma - yn hytrach yr hyn mae'r holl sefyllfa yn ei ddatgelu am gyflwr y wasg Gymraeg.
Gair bach yn gyntaf am pam bod Golwg yn rhoi rhwydd hynt i Gwilym Owen rwdlan yn rhagfarnllyd ac anwybodus pob pethefnos. Dydan ni ddim yn gwybod i sicrwydd wrth gwrs - ond mae'n ffaith bod Golwg yn ddibynnol ar arian cyhoeddus, bod y Blaid Lafur yn rheoli i lle mae'r rhan fwyaf o arian cyhoeddus yng Nghymru yn mynd a bod y blaid honno yn anoddefgar iawn o'r sawl sy'n ei herio a'i beirniadu, ond yn hoff o'r sawl sy'n ymosod ar ei gelynion. Mae dau a dau yn gwneud rhywbeth tebyg i bedwar gan amlaf.
Ychydig iawn o herio gwleidyddol sydd yna yn y wasg Gymraeg a Chymreig at ei gilydd. Mae'r papurau Saesneg 'Cenedlaethol' efo mwy o ddiddordeb mewn newyddiaduriaeth storiol nag ymhel a gwleidyddiaeth - heb son am herio gweinyddiaethau gwleidyddol. Ychydig iawn o wasg cyfrwng Cymraeg sydd yna bellach ag eithrio Golwg. Gwilym Owen ydi un o'r ychydig bobl sydd yn herio yn wleidyddol - ac mae'r herio hwnnw bron i gyd wedi ei gyfeirio at un blaid, ac un blaid yn unig.
Y Toriaid sydd yn rheoli yn San Steffan, Llafur sydd yn rheoli ym Mae Caerdydd - ond mae cyfran chwerthinllyd o uchel o'r beirniadu a herio gwleidyddol yng Nghymru wedi ei gyfeirio - nid at lywodraeth Cymru, na llywodraeth y DU - ond at blaid sydd yn rhedeg fawr ddim ag eithrio ychydig o gynghorau yng ngorllewin gwleidig Cymru, ac at Gyngor Gwynedd yn benodol.
Mae'n anodd iawn dychmygu bod llawer o wledydd eraill yn y Gorllewin lle mae'r wasg yn rhoi llonydd fwy neu lai i'r gweinyddiaethau llywodraethol, ond sy'n treulio eu hamser yn beirniadu a herio pleidiau lleiafrifol - er bod digon o sefyllfaoedd cyffelyb yn Nwyrain Ewrop wrth gwrs.
No comments:
Post a Comment