Mae'r canfyddiad yma yn ddealladwy - ond mae'n anwybyddu un o'r elfennau lled unigryw i wleidyddiaeth y rhan fach yma o'r Byd. Mae yna rhyw ran bach o feddylfryd y Canol Oesoedd wedi goroesi yng Ngogledd Iwerddon yn yr ystyr bod yna elfen 'totemic' cryf i'r ffordd mae pobl yn gweld eu gwleidyddiaeth - hynny yw bydd un peth gweddol gyfyng a phenodol yn aml yn cynrychioli cysyniad neu egwyddor ehangach o lawer. Dyna sydd ar waith yma - symbol ydi'r iaith - a thrwy estyniad y Ddeddf Iaith.
Efallai mai'r lle i ddechrau yma ydi efo'r ddelwedd o Martin McGuiness yn sefyll yn sigledig ar ei draed yn Stormont i ymddiswyddo fel ail weinidog Gogledd Iwerddon, a Michelle O'Neil yn codi ar ei thraed hithau i ddweud nad oedd Sinn Fein (SF) yn bwriadu enwebu unrhyw un yn ei le. Daeth hynny a'r Weinyddiaeth a'r Cynulliad ei hun i lawr - mae consensws wrth galon y ffordd mae'r sefydliad yn gweithredu, ac roedd y consensws wedi chwalu. Gwnaeth y gwleidyddion eu ffyrdd i'w hetholaethau i ymladd etholiadad - a chafodd ei hymladd mewn ffordd mwy chwerw ac ymysodol na'r un etholiad ers chwarter canrif.
Y fersiwn 'swyddogol' ydi mai'r rheswm pam y digwyddodd hyn oedd oherwydd i SF golli ffydd yn y DUP yn sgil y sgandal Cash for Ash. Ond yn ol llawer nid dyna oedd y gwelltyn olaf - penderfyniad gan ddyn o'r enw Paul Givan oedd hwnnw. Roedd Givan yn weinidog cymunedau DUP, ac roedd ganddo ddiddordeb obsesiynol a hynod elyniaethus tuag at y sector (hynod fach) addysg Gwyddelig yn ei bortffolio. Penderfynodd y byddai'n syniad gwych arbed pres trwy ddiddymu grant bach o £100,000 i helpu plant tlawd i fynd i'r Gaeltacht yn yr haf i loywi eu Gwyddeleg. Yn fuan wedi'r penderfyniad hwnnw gyrrodd Gerry Adam i o'i gartref yn Dundalk i Derry i weld Martin McGuinness - oedd erbyn hynny yn amlwg yn marw. Gyrwyd hwnnw i Belfast y diwrnod canlynol i ddymchwel Stormont.
I ddeall beth ddigwyddodd mae angen deall dau beth. Yn gyntaf roedd SF wedi bod yn gogr droi yn etholiadol ers deuddeg mlynedd. Daeth yn blaid bwysig yn etholiadol yn sgil yr ymprydiau newyn yn 1981, ond ni lwyddodd i oresgyn y blaid genedlaetholgar gyfansoddiadol yr SDLP y tu allan i Belfast a rhai o'r cymunedau gorllewinol gwledig tan Gytundeb Dydd Gwener y Groglith. Tyfodd yn sydyn am sbel wedyn a goddiweddyd yr SDLP gyda throad y mileniwm. Y disgwyl oedd y byddai'r blaid yn parhau i dyfu gan fod y boblogaeth Babyddol / genedlaetholgar yn tyfu.
Ond ni ddigwyddodd hynny - wnaeth y bleidlais genedlaetholgar yn ei chyfanrwydd ddim tyfu llawer rhwng dechrau'r ganrif a 2016. Mae'r rheswm am hynny yn hawdd i'w arenwi - roedd yna lawer o bobl yn fodlon pleidleisio i SF pan roeddynt yn wrth sefydliadol ac yn herio'r sefydliad unoliaethol - ond roeddynt yn llai tebygol o lawer i bleidleisio i blaid oedd yn cael ei hystyried yn rhan o'r sefydliad. Roedd y tueddiad yma'n cael ei gryfhau gan ganfyddiad cynyddol nad oedd y wladwriaeth yn parchu'r traddodiad cenedlaetholgar yn unol a gofynion Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.
A daw hyn a ni at y Ddeddf Iaith. Yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon mae'r iaith Wyddeleg yn dotem sy'n sefyll tros y diwylliant Gwyddelig ehangach. Byddai Deddf Iaith yn ymgyrfforiad cyfreithiol o barch y wladwriaeth at y traddodiad diwylliannol Gwyddelig yn ei gyfanrwydd, ac mae diffyg Deddf - i lawer o genedlaetholwyr - yn adlewyrchiad o ddiffyg parch y wladwriaeth at eu diwylliant ehangach.
A daw hyn yn ei dro a ni yn ol at etholiadau Stormont eleni. Cynyddodd SF ei phleidlais yn sylweddol iawn trwy ymladd yr etholiad mwyaf ffyrnig, cwynfanllyd a negyddol iddynt ei hymladd ers y dyddiau pan roeddynt yn canfasio i gyfeiliant hofrenyddion a chydag arogl nwy CS yn cael ei gario yn yr awel o'u cwmpas. Roeddynt wedi uno llawer o'r tir canol a gweriniaethwyr di gyfaddawd o gwmpas y cysyniad o orfodi'r wladwriaeth i fynegi parch at eu diwylliant yn ffurfiol trwy ddeddfu.
Ond byddai derbyn Acht na Gaelige yn anathema llwyr i'r DUP - byddai'n troi eu gwladwriaeth fach yn rhywbeth nad ydynt am iddi fod. Mae'r ddwy ochr wedi cyrraedd unwaith eto at wraidd y broblem - ac mae am fod yn anodd iawn symud o'r fan honno.
1 comment:
Diolch yn fawr am yr esboniad gwych hwn.
Post a Comment