Reit - gair neu ddau am ddigwyddiadau ddoe yn siambr Cyngor Gwynedd.
Pwt o gefndir yn gyntaf - gan nad wyf wedi son ar y blog mae'n debyg na fydd llawer o ddarllenwyr Blogmenai yn ymwybodol i mi gael fy ethol ar Gyngor Gwynedd fel cynghorydd Plaid Cymru ym mis Mai yn un o wardiau Caernarfon. A dweud y gwir 'doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy ethol, ond digwyddodd yr hyn ddigwyddodd.
Rwan go brin bod unrhyw un yn fwy o greadur llwythol bleidiol na fi fy hun - os oes yna unrhyw rai wedi eu geni i Blaid Cymru, mae'n debyg fy mod i'n un o'r rheiny - ac ar ben hynny dwi'n gredwr cryf mewn disgyblaeth bleidiol. Serch hynny - er cryn loes i mi - cefais fy hun yn pleidleisio yn erbyn penderfyniad fy grwp ddoe, ynghyd a lleiafrif, ond lleiafrif sylweddol o'r grwp hwnnw.
Dwi hefyd yn boenus o ymwybodol nad oes botwm o ots gan rai - rhai - o'r sawl oedd yn pleidleisio efo ni am yr iaith, nag yn wir unrhyw un o werthoedd y Blaid. Mae yna nifer fach - pedwar neu bump - o gwn Pavlov ar ochr y gwrthbleidiau o'r siambr sydd yn gwrthwynebu unrhyw beth mae'r Blaid yn ei gynnig neu'i wneud ac roeddwn i'n hynod anghyfforddus i fod yn yr un corlan rhai o'r rhain. Wnes i erioed feddwl y byddwn yn cael fy hun yn y sefyllfa yma a dwi'n mawr obeithio na fydd yn digwydd eto.
Roedd yr anghydfod ynglyn a pharatoi Cynllun Datblygu Lleol - dogfen (neu ddogfennau a bod yn fanwl gywir) sydd rhaid i pob cyngor ei pharatoi i bwrpas gosod fframwaith i wneud penderfyniadau ynglyn a chynllunio. Mae'r hen gynllun wedi dod i ben, ac mae yna angen statudol am un newydd. Wedi paratoi'r cynllun mae'n rhaid mynd ati i'w anfon i arolygydd a bydd yntau'n dod i gasgliadau ynglyn a'i briodoldeb a'i gyfreithlondeb. Bydd wedyn yn cael ei anfon yn ol i'r cyngor i'w fabwysiadu - neu i beidio gwneud hynny. Dyma ble'r oeddem ddoe.
Cyn mynd ati i egluro sut a pham hoffwn ddadgysylltu fy hun oddi wrth yr ieithwedd sydd wedi ei ddefnyddio am rai o fy nghyd gynghorwyr a bleidleisiodd o blaid y cynllun. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw - a'r cwbl o fy ochr i o'r siambr - yn ymrwymedig i werthoedd creiddiol y Blaid, ac mae hynny'n cynnwys ymrwymiad i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. Mae pethau wedi polareiddio mewn ffordd na ddylid bod wedi digwydd, ac mae yna bethau wedi eu dweud - gan bobl nad ydynt yn aelodau o'r grwp - am y sawl bleidleisiodd o blaid y cynllun - na ddylid bod wedi eu dweud
Rydan ni hefyd yn gytun nad ydi'r cynllun yn berffaith, ac mai'r rheswm am hynny ydi natur y Ddeddf Cynllunio - ac mae'r bai am hynny yn syrthio ar ysgwyddau'r weinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd. 'Dwi'n credu bod hyd yn oed yr unig gynghorydd Llafur sydd ar Gyngor Gwynedd yn derbyn hynny.
Mae'n debyg gen i ein bod hefyd yn gytun bod yna risg i'r iaith Gymraeg oherwydd gor ddatblygu o dderbyn y cynllun neu o'i wrthod. Mae yna wahaniaeth serch hynny yn ein dehongliad o pa gwrs fyddai'n creu'r risg mwyaf. Mae'r sawl a bleidleisiodd o blaid y cynllun yn credu bod risg sylweddol o fod heb gynllun cyfredol, tra bod y sawl a bleidleisiodd yn ei erbyn yn credu bod gormod yn cael ei wneud o'r risg hwnnw, a bod y cynllun yn rhagdybio lefel o fewnfudo fyddai ynddo'i hun yn niweidiol i'r iaith.
O'm rhan fy hun roeddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig oherwydd nad oeddwn yn credu bod y broses a arweiniodd ato wedi gwneud digon i gwrdd a dau o amcanion creiddiol y Blaid - hyrwyddo cydraddoldeb cymdeithasol (trwy gynllunio ar gyfer mwy o dai fforddadwy) ac amddiffyn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig. Roedd rhagdybiaeth o beth fyddai'r arolygydd cynllunio yn ei dderbyn ynghlwm a'r broses o baratoi'r cynllun - ac ysgrifenwyd y cynllun gyda'r rhagdybiaeth yma mewn golwg.
O'm safbwynt fy hun - cyn bod y cynllun yn cyffwrdd a rhai o amcanion creiddiol y Blaid - byddai wedi bod yn fwy priodol i geisio gwthio'r ffiniau cyn belled a phosibl i wireddu'r amcanion hynny. Gellid bod wedi gwneud hyn trwy gynnig nifer uwch o dai fforddiadwy, a herio'r arolygydd i'w wrthod os oedd am wneud hynny, a chynnig nifer is o dai ar gyfer mewnfudiad tebygol ac eto herio'r arolygydd i wrthod. Petai'n gwrthod byddem yn dawel ein cydwybod ein bod wedi gwneud yr hyn allwn i hyrwyddo rhai o amcanion gwaelodol y Blaid. Petai'n derbyn byddem wedi llwyddo i hyrwyddo'r amcanion hynny.
Ond er gwell neu er gwaeth mae'r hyn a wnaed wedi ei wneud. Oni bai bod yna rhywbeth anisgwyl iawn yn digwydd yn Llangefni ddydd Llun dyma fydd y fframwaith cynllunio y byddwn yn ddarostynedig iddo yn y dyfodol. 'Does yna fawr o bwrpas edrych yn ol - bydd rhaid i ni symud ymlaen efo'n gilydd fel grwp - a hynny er lles y sir a'i phobl ac er lles y Blaid.
'Does yna ddim pwrpas dal dig chwaith. Bydd rhaid i ni i gyd gymryd y gyfrifoldeb o sicrhau bod y cynllun yn gweithio'n briodol, a chywiro pethau os nad ydynt. Bydd rhaid i ni hefyd fynd i'r afael a'r problemau a'r cyfleoedd fydd yn wynebu'r sir tros y pum mlynedd nesaf - tros y Blaid, tros Wynedd a thros Gymru.
Mae'n bryd i symud ymlaen - efo'n gilydd ac yn gytun.
8 comments:
Be'n union fyddai gwrthod y cynllun wedi'i olygu yn ymarferol?
Ein bod yn gweithio o gynllun sydd wedi dyddio.
Swnio'n ddifrifol!
Chwarae teg iti am fod digon dewr i wrthod y cynllun gwallgpf hwn.
O ran diddordeb faint o grwp PC ddaru fotio yn erbyn?
Un pwynt arall- soniwyd am y farchnad dai leol oedd i'w gyflwyno mewn rhai mannau yn Llyn. Sut y diffinir "cysylltiadau lleol" i'r diben hwn?
Dwi ddim yn gwybod i socrwydd - dwi'n siwr y bydd hynny'n cael ei wneud yn hysbys yn y cyfryngau'n fuan iawn.
Dwi ddim yn siwr o'r diffiniad - byddwn wedi disgwyl mai byw'n lleol neu wedi magu'n lleol fyddai fo.
Siomedig iawn !
(1) A wnaethoch drafod y mater yma fel grwp o flaen llaw ?
(2) A oedd aelodau PC y cyngor wedi cael gwybod am farn y tri aelod seneddol o flaen llaw ?
(3) A roddwyd awgrym o unrhyw farn gan yr arweiniad cenedlaethol ar y mater ?
Ymddiheuriadau ond mae trafodaethau grwp yn breifat - fedra i ddim gwneud sylwadau ynglyn a hynny.
Post a Comment