Thursday, July 20, 2017

Beleek a Brexit

Dwi'n digwydd bod yn teithio Iwerddon ar hyn o bryd, ac o ganlyniad mae blogio'n ysgafn iawn.  Serch hynny, hyd yn oed pan ar wyliau mae rhywbeth perthnasol i wleidyddiaeth Cymru'n codi.  

Yr hyn gododd y tro hwn oedd aros yn nhref fechan Beleek ger Lough Erne sydd wedi ei lleoli ar y ffin rhwng Swydd Fermanagh sydd yng Ngogledd Iwerddon  a Swydd Donegal sydd yn y Weriniaeth.  Yr bont tros yr Afon Erne ydi'r ffin.   Mae pob dim sydd i'r gorllewin i'r bont felly yn y Weriniaeth a phob dim sydd i'r gorllewin iddi yng Ngogledd Iwerddon.  Mae mwyafrif llethol y trigolion yn Babyddion ac felly yn genedlaetholwyr, er bod eglwys Brotestanaidd fechan yn y pentref - fel sydd yn y rhan fwyaf o drefi bach Fermanagh a Donegal.  

Mae tua tri chwarter y pentref wedi ei leoli yng Ngogledd Iwerddon tra bod y gweddill yn y Weriniaeth.  Mae'r ddwy eglwys, yr ysgol a'r rhan fwyaf o'r siopau a'r tafarnau yng Ngogledd Iwerddon, mae'r garej, y siop gwerthu olew, nwy a mawn a rhai o'r siopau a thafarnau eraill yn y Weriniaeth.  Petai'r bont yn troi'n ffin galed byddai'n ei gwneud yn anodd symud o un rhan i'r dref i'r llall i ymgymryd a busnes pob dydd - ymweld a theulu a ffrindiau, siopa, rhoi petrol yn y car, mynd am beint neu fynd i addoli. 

Roedd yna ffin o fath yn y gorffennol cymharol agos wrth gwrs. Roedd gan y fyddin wersyll wrth y bont a bu tipyn o dywallt gwaed o gwmpas a thu fewn i'r gwersyll yn dilyn ymysodiadau gan yr IRA o'r Weriniaeth.  Ond pwrpas y rhwystr hwnnw oedd atal symud arfau ac actifyddion Gweriniaethol o un wladwriaeth i'r llall. Roedd y rhan fwyaf o bobl y rhan fwyaf o'r amser yn cael croesi'n eithaf di dramgwydd - er bod yna adegau - yn dilyn ymysodiad er enghraifft - pan roedd croesi'n anodd i bawb.  

Y gwahaniaeth efo ffin galed ydi y gallai'n hawdd arwain at angen i reoli symudiadau pawb a phob dim.  Dyna allai methiant i ddod i gytundeb masnach rydd ynghyd ag atal symudiad rhydd pobl ei olygu i drigolion trefi fel Beleek.  Kesh ydi'r gymunded cymharol fawr agosaf i Beleek yng Ngogledd Iwerddon - mae hi tua ugain milltir i'r de ddwyrain - ac a barnu oddi wrth y mor o faneri'r Undeb sydd yno mae'n gymuned wahanol iawn i Beleek. 

Ac mae yna gymunedau eraill yn yr un sefyllfa wrth gwrs  - mae cymunedau yn aml yn tyfu o gwmpas pontydd, ac mae afonydd yn aml yn ffiniau rhyngwladol.  Mae Pettigo i'r gogledd o Beleek ac mae wedi ei rannu'n ddau gan yr Afon Ternon - sydd hefyd yn ffin rhyngwladol, ac wedyn mae Lifford i'r gogledd eto ar y ffin rhwng Donegal a Tyrone. 

Mae hyn oll yn ymddangos yn bell iawn o Gymru  ac yn broblem i rhywun arall - ac mae hynny'n wir i raddau.  Ond mae'r ffin wedi bod yn ardal hynod o ymfflamychol ers gwahanu'r wlad - ac yn wir cyn hynny.  Does yna ddim tystiolaeth well o hynny na'r cofebau i gofio pobl sydd wedi colli eu bywydau ar hyd y degawdau yn ymladd ar hyd y ffin.  



Mae ffin galed am ddad sefydlogi cymunedau fel Beleek, Lifford, Aughnocloy a Belcoo - ac mae dadsefydlogi un rhan o Ogledd Iwerddon yn hanesyddol wedi arwain at ddadsefydlogi ehangach yn eithaf cyflym - ac mae i hynny oblygiadau i bawb sy'n byw ar yr ynysoedd yma.

4 comments:

Anonymous said...

Erthygl ddiddorol dros ben. Un neu ddau o gwestiynau.

1. Pwy mae trigolion pentref Béal Leice yn gefnogi yn y gemau GAA?

Fear Manach neu Dhún na nGall ? Neu a ydynt yn rhanedig ?

2. Beth sy'n digwydd er enghraifft pan fydd yna ddigwyddiad yn y pentref, e.e. raffl, sioe, gem GAA, carnifal neu gyngherdd.

Ydy nhw yn hel yr arian mewn euros neu mewn sterling ?

A beth am y siop neu'r dafarn ?

Cai Larsen said...

Mae Erne Gaels yn rhan o strwythur Fermanagh.

Mae'r ddau fath o bres yn cael ei dderbyn gan fusnesau ar hyd y ffin. Mae'r gyfradd cyfnewid yn cael ei hysbysebu ar ffenestri tafarnau a siopau.

Anonymous said...

R'oedd y ffin yn feddal iawn cyn annibyniaeth Iwerddon..anweledol felly. Un o ddibenion sofranaiaeth yw creu a chynnal ffiniau. D'oes dim gwlad i'w chael mewn iawn ystyr y gair hebbdyn nhw. Meddyliwch am gymhlethtodau cyffelyb mewn darpar Gymru rydd ar y gororau...

Anonymous said...

thank for good post and great....

หนังออนไลน์