Tuesday, November 29, 2016

Mwy am helynt adleoli pencadlys S4C

Yn ol at y stori S4C mae gen i ofn.  

Mae yna un neu ddau o drydarwyr - @SeimonBrooks ac @Dilys Davies ymhlith eraill wedi bod yn trafod y mater heddiw.  Hefyd mae Simon Thomas AS wedi gofyn cwestiwn i Ken Skates yn y Senedd heddiw. Mae'r stori'n un gweddol gymhleth, ac mae yna sawl elfen iddi hi - a dydi hi ddim yn amlwg bod neb wedi gwneud dim o'i le.  

Serch hynny mae yna broblem - ac mae'n troi o gwmpas y ffaith bod y cynllun i fod yn gost niwtral - ond ein bod yn gwybod i Goleg y Drindod wneud o leiaf ddau gais am grant - y naill gan Ewrop a'r llall gan y Cynulliad - i ariannu'r cynllun.  Mae hyn yn ei dro yn esgor ar ddwy broblem arall.  Yn gyntaf dydi gwneud cais am grant ddim yn golygu y bydd y cais yn cael ei dderbyn o anghenrhaid, felly mae amheuaeth ynglyn ag i ba raddau roedd cynllun Coleg y Drindod wedi ei adeiladu ar seiliau ariannol cadarn yn y lle cyntaf.  Yn ail 'dydi hi ddim yn glir os oedd dealltwriaeth y ddau gorff ymgeisiodd i gael croesawu pencadlys S4C yn dehongli'r term 'cost niwtral' yn yr un ffordd.

Beth bynnag dyma'r cwestiynau sydd angen eu hateb er mwyn darganfod faint o broblem sydd yna mewn gwirionedd.  Os oes rhywun efo cwestiwn arall (call) gadewch o yn y dudalen sylwadau - dwi'n fwy na pharod i'w gyhoeddi.


Cwestiynau i S4C:

1). Ymddengys mai darpariaeth 'cost niwtral' oedd un o brif feini prawf ar gyfer arfarnu'r ceisiadau.  Oedd 'cost niwtral' yn cyfeirio at gost i S4C 'ta'r gost i'r pwrs cyhoeddus?

2). A wnaed yn glir yn y canllawiau a anfonwyd i'r ymgeiswyr beth yn union oedd 'cost niwtral' yn ei olygu?  

3). Oedd S4C yn ymwybodol o'r cychwyn mai trwy wneud cais am grantiau yr oedd Coleg y Drindod yn bwriadu ariannu eu cynllun?

4). Os felly, oedden nhw'n hapus bod trefniadau amgen gan Coleg y Drindod os nad oedd eu ceisiadau am grantiau'n cael eu caniatau?

5). Roedd S4C mewn cyfarfod efo Cyngor Sir Caerfyrddin a Choleg y Drindod ble cyfeirwyd at gais am grant o Ewrop ym mis Ebrill 2015.  Faint cyn hynny oedden nhw'n gwybod bod angen gwneud cais felly.?

Cwestiynau i Ken Skates:

1). Mewn ymateb i gwestiwn yn gynharach heddiw gan Simon Thomas dywedodd Ken Skates hyn - Up to £6m of extra cash has been requested for the Carmarthen building, BBC Wales revealed last week.  At beth mae'r gair 'extra' yn cyfeirio?

Cwestiynau i Goleg y Drindod.

1). Gwnaed cais gan Coleg y Drindod am grant o gyfeiriad Ewrop i ariannu Canolfan Egin y llynedd.  Cais am faint oedd o, ac oedd y cais yn llwyddiannus?

2). A wnaed yn glir yn y cais gwreiddiol i S4C mai trwy wneud ceisiadau am grantiau am bres cyhoeddus y byddai'r cynllun yn cael ei ariannu - o leiaf yn rhannol?  

3). Oedd yna drefniadau amgen mewn lle i ariannu'r cywaith?

4). Os oedd trefniadau felly mewn lle, a wnaed yn glir i'r sawl y gwnaethwyd cais am grant iddynt bod Coleg y Drindod efo trefniadau eu hunain i ariannu'r cywaith os oedd angen gwneud hynny?

5). Sawl cais sydd wedi ei wneud am grantiau, a faint o bres sydd wedi ei godi?

6). Pa ganran o gost y cynllun y rhagwelir fydd yn cael ei ariannu trwy grant?  

1 comment:

Anonymous said...

http://cneifiwr-emlyn.blogspot.co.uk/2016/11/cost-neutral.html